E-fwletin 17 Mai, 2020

Gofid y Covid

Pan oeddwn yn f’arddegau roeddwn yn ceisio gweithio allan os oedd nefoedd ac uffern yn bodoli a beth oedd hynny yn ei olygu i’m bywyd. Treuliais dipyn o amser yn pendroni, holi a cheisio gweithio hyn allan.  Am ryw reswm roedd yn bwysig ar y pryd, ond un diwrnod penderfynais nad oeddwn byth am wybod yr ateb, ac felly mai afraid oedd meddwl mwy am y peth.  Roedd dau reswm am y penderfyniad.  Roeddwn o’r farn na fuasai tad/mam gariadus byth yn dedfrydu eu plentyn i uffern ddiddiwedd, ac os felly, sut gallwn addoli Duw fyddai yn gallu cosbi am dragwyddoldeb?  Ac os na fedrwn gredu mewn uffern, ni allwn mewn cydwybod, gredu mewn nefoedd chwaith!  Roeddwn hefyd wedi dod i’r casgliad fod byw bywyd yn y byd yma, ar sail gwobr neu gosb yn y byd i ddod hefyd yn gwrth-ddweud fy syniad am Dduwdod, a hefyd am gymydog.

Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael fy nhemtio i obeithio fod yna nefoedd i’r rhai garaf, ac i’r saint rwyf wedi eu hadnabod dros y blynyddoedd.  Yn yr un ffordd rydw i wedi gresynu nad oes cosb i’r rhai sydd yn creu melltith a phoen i bobl o’u cwmpas ac i gymdeithas gyfan. Pobl dda a phobl ddrwg fel y dywedodd y Rhodd Mam ers llawer dydd.  Ac mae’r teimladau  greddfol yma wedi dod i’r wyneb unwaith eto yn nyddiau Covid-19! 

Anfonodd fy chwaer ddarn o farddoniaeth ataf o’r enw ‘We’ve all been exposed,’ gan Sarah Bourns.  Mae’n rymus.  Cawsom ein dinoethi GAN y feirws meddai.  Mae’r firws wedi arddangos ein gwendidau a’n cysgodion.  Mae wedi amlygu yr hyn sydd fel arfer dan wyneb ein henaid, y pethau cudd dan ein masgiau anweledig.  Mae’r firws wedi amlygu ein dibyniaeth, fel unigolion a chymdeithas, ar gysur, ar ein hangen i reoli, ar  ein casglu afreolus, a’n hamddiffyn diflino ohonom ein hunain.  Mae Corona yn dinoethi’r duwiau rydym yn eu haddoli: ein hiechyd, ein brys diddiwedd, ein hangen am ddiogelwch……  Mae Corona yn cwestiynu popeth: Beth yw’r eglwys heb adeilad? Beth yw fy ngwerth heb incwm? Sut ydyn ni’n cynllunio heb sicrwydd? Sut ydyn ni’n caru er gwaethaf y risg?

Heddiw, pan dwi yn y category ‘hen’, yn ogystal â phan oeddwn yn fy arddegau, mae’r cwestiynau mawr i gyd yn gymhleth ac yn gallu dirymu rhywun.  Nid yw’r atebion yn gliriach i mi nag y buont.  Eto mae credu mewn Duwdod yn golygu cael fframwaith o gwmpas ystyr a gofynion Cariad.  Mae’n fy helpu i ddeall pwysigrwydd dinoethi’r duwiau enwir yn y farddoniaeth, a cheisio ymateb yn gadarnhaol i adeiladu cymdeithas well.  Nid rhoi atebion, nid ymateb ar sail gwobr a chosb, ond ymateb er parhad bywyd ei hunan.  Cwestiynau mawr pwysig ac atebion syml (efallai!) wedi’r cwbl – ond am her aruthrol!

Gyda’n dymuniadau gorau gan obeithio eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn ddiolchgar, fel ninnau, am bawb sydd yn ymdrechu i’n rhyddhau o ofnau a chaethiwed Gofid 19