Emynydd Mwyaf Cymru?
Yn ddiweddar rwyf wedi cael fy hun yn sefyll yn gynyddol fud wrth ganu emynau yn y cwrdd. Mae’r geiriau yn aml i’w gweld mor estron a’r ddiwinyddiaeth mor ganoloesol. Mae’r emynau sy’n cyrraedd fy nghanol llonydd distaw neu fy nghalon gythryblus yn gymharol brin. Wrth gymryd oedfa rwy’n ei chael hi’n anodd setlo ar bedwar neu bum emyn sy’n cynnig gwerth i’r oedfa. Yn y diwedd, rwy’n rhy aml yn troi nôl at ‘Bantyfedwen’ ac i ffwrdd â ni.
Bydd rhywrai yn dweud “Nid Pantyfedwen yw’r emyn. Honno yw’r dôn!”. Beth yw’r gwahaniaeth? Mae’r ‘Haleliwia’ yn yr emyn hwnnw wir yn cyffwrdd ac yn llonni. Mae’r her sydd ynddi i weld yr harddwch a’r bywiocau yn chwa o awyr iach yng nghanol diet hesb o emynau o’r oes o’r blaen. O’r oes hon, mae rhai emynau eraill yn llwyddo i wneud eu jobyn yn iawn – mae “Y Brenin Tlawd”, “Teulu’r Byd” a “Meddwl am Fyd heb flodyn i’w harddu” yn dri.
Wedi bod mewn oedfa Hillsong, rwy’n gallu cadarnhau nad cyfoesedd yr emynau hyn sy’n cyffwrdd fy enaid. Ystyr y geiriau sy’n taro deuddeg, ynghyd â thiwn sy’n gweddu i’r geiriau hynny. Yn yr oedfa Hillsong y bues iddi, fel gyda llawer o’r stwff sydd ar sianelu fel TBN a’r God Channel, y cyfan a welais oedd manipwleiddio cerddorol a geiriau syrffedus. Gwnaeth yr oedfa ddim o gwbl i’m galluogi i fyfyrio ar y tragwyddol na’r presennol.
Tan yr wythnos ddiwethaf roeddwn wedi meddwl bod angen cyfuniad o eiriau dychmygus a thiwn arbennig i greu emyn gwerth chweil. Fodd bynnag, erbyn heddiw rwy’n dechrau ail-feddwl holl bwynt y cyfuniad o eiriau a thôn a elwir yn ‘emyn’.
Yn ystod y mis nesaf bydd cyfres o gyngherddau i ddathlu pen-blwydd y cerddor Cymreig, Karl Jenkins, yn 75 oed. Mae’r mab i organydd capel o Benclawdd yn cael ei ystyried fel un o gerddorion mawr y byd, gyda’i weithiau yn cael eu perfformio yn amlach na gweithiau unrhyw gerddor byw arall. Brynhawn Sul diwethaf perfformiwyd ei Symphonic Adiemus a’r Armed Man (ei Offeren Heddwch) yng Nghaerdydd.
Wedi golygfeydd o’r lladd a’r llanast rhyfel yn ei offeren heddwch ceir y Last Post ac wedyn mae’r côr yn canu: Agnus Dei, qui tollis peccata mundi. Misere nobis. (Oen Duw sy’n cymryd pechodau’r byd, trugarha wrthym…). Wedyn fe ddaw’r darn arbennig hwnnw wrth i’r soddgrwth gyfeilio ar y Benedictus yn yr Armed Man.
Prynhawn Sul diwethaf fe ddaeth rhyw ysfa addolgar drosof wrth wrando ar y rhain. Roedd geiriau’r offeren Lladin yn llifo. Y cyfan sydd yno yw Benedictus, Benedictus qui venit in nomine domini. Hosanna in excelsis. (Bendigedig yw ef sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd, Hosanna yn y goruchaf!). Mae’r Agnus Dei a’r Benedictus yn weddïau mor fawr ag unrhyw rhai a welwyd ar gân a diolch i Karl Jenkins amdanyn nhw. Maen nhw’n defnyddio geirfa’r eglwys hanesyddol a byd-eang i’w gosod yn gelfydd ar gyfer cerddorfa a chôr.
Fodd bynnag, y sioc a gefais wrth fod yn y gyngerdd gyda Karl Jenkins oedd sylweddoli fod y Symphonic Adiemus yn gwasgu’r un botymau o addoliad yn fy mherfeddion ag oedd yr Agnus Dei a’r Benedictus.
Geiriau’r Adiemus yw’r rhain.
“Ariadiamus la -te ariadiamus da Ari a natus la-te adua
A-ra-va-re-tu-e-va-te A-ra-va-re-tu-e-va-te A-ra-va-re-tu-e-va-te-la-te-a
Ariadiamus la-te ariadiamus da Ari a natus la-te adua
A-ra-va-re-tu-e-va-te A-ra-va-re-tu-e-va-te
A-ra-va-re-tu-e-va-te-la-te-a
A-na-ma-na-coo-le-ra-we A-na-ma-na-coo-le-ra
A-na-ma-na-coo-le-ra-we-a-ka-la A-na-ma-na-coo-le-ra-we-a-ka-la
Ah-ya-doo-way-ye A-na-ma-na-coo-le-ra-we-a-ka-la
Ah-ya-doo-way-ye A-ya-doo-a-ye A-ya-doo-a-y”
Does dim cyfieithiad. Nid Lladin ydyn nhw ond mumbo jumbo a ddyfeisiwyd gan y cyfansoddwr.
Gwnaed y sylw fod Karl Jenkins yn ysgrifennu cerddoriaeth ysbrydol ar gyfer oes seciwlar. Y cwestiwn sydd wedi troi yn fy mhen yn ystod yr wythnos ddiwethaf yw – a oes llai o werth ysbrydol i A-na-ma-na-coo-le-ra-we-a-ka-la nag i beth o’r mumbo jumbo y buon ni’n ei ganu, mewn rhai achosion, ers tair canrif yn ein capeli a’n heglwysi?
Cliciwch ar y dolenni i weld os oes rhai o’r rhain yn gyfrwng addoliad i chi. Dim un? Neu’r tri darn?
Agnus Dei – Karl Jenkins
https://www.youtube.com/watch?v=vgvqkL4qlow
Benedictus – Karl Jenkins
https://www.youtube.com/watch?v=_kTffgdNhNw
Adiemus – Karl Jenkins
https://www.youtube.com/watch?v=_6IfYPB6JUE&list=PLH_4yc98Qxx5qn2wiZ1fT4q3XOE_0ZWAX&index=3
(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan http://cristnogaeth21.cymru/newyddion/)