E-fwletin 15 Hydref 2017

Dyddiadur Dydd Sadwrn, 14 Hydref, 2017

Ro’n i wedi bwriadu mynd i’r Llyfrgell Gen heddi. Na. Ma’ hynny’n gelwydd. Mi o’dd y’n nhiwtor am i fi fynd – i’r gynhadledd William Williams, Pantycelyn. Doedd hi fyth yn fwriad gen’ i i fynd, a gweud y gwir. Wel, falle – se’n i wedi digwydd dihuno’n gynnar – cyn ganol dydd, hynny yw. Wrth gwrs, wnes i ddim. Ac eto, wedi codi a mentro mas i godi sudd oren a lla’th, mi wnes i oedi ar waelod rhiw Penglais. Mi o’dd hi fel pe bai ambell i fys o fewn un esgid ise troi tua’r gogledd. Ond troi tua’r de – tua’r dre – wnes i. Wi’n cofio gymaint â hynny. Yn blaen. Wedyn ma pethe’n mynd yn niwlog. Wel, yn dywyll a gweud y gwir. Ddim am y tro cynta’ ’leni. Yn llythrennol ac yn ffigurol. A – fel y rhan fwya’ ohono ni (yn cynnwys y William Williams hwnnw, nôl fy nhiwtor) – ma’ arna’i ofan t’wllwch.

Y peth nesa wi’n cofio yw’r boi ma’n estyn mwged o de i fi. Te coch, ffrwythlon, da. (Mi o’dd y bachan yn nabod ei de, ’sdim dowt.) Wedi llyncu pennad neu ddau dyma fi’n sylweddoli mod i yng  nghwmni criw o yfwyr erill. Rhai bach yn hŷn; rhai bach yn iau. Bobol ifenc, fwy neu lai. Bron bob un ohonynt. Yn fechgyn ac yn ferched.

A wedyn dyma’r boi – o’dd e bach yn hŷn na ni, ond dim gymint a hynny – dyma fe’n agor sgwrs. A dyma’r peth od: o’dd hi’n sgwrs agored – sgwrs gyda ni gyd. Ac eto – ar unwaith – dyma fi’n teimlo’i fod e’n siarad â fi. Yn uniongyrchol. Gofyn cwestiyne o’dd e. Ambiti ble o’n ni’n teimlo o’n ni. Ddim yn llythrennol ond…wel, chi’n gw’bod, y’n lle yn y byd. ’Y nghyflwr. Cyflwr y’m mherthynas â phobol. Bobol agos. Bobol o’n cwmpas. A phawb arall. Cymdeithas. Bobol ar yr un siwrne â ni, os o’n i’n dod mla’n â nhw neu bido.

Pan ddechreuodd yr atebion ddod, o’dd bobol yn defnyddio ymadroddion a geiriau go wahanol: eu bod nhw’n sownd mewn trash; yn cael eu baglu gan rywbeth neu rywun drwy’r amser; gael trafferth sefyll. Pan dda’th y’n nhro i, y gair dda’th o’m mhen i o’dd ‘anialwch’. Gair – o’r synau o’m cwmpas –  o’dd yn crynhoi teimladau pawb, fwy neu lai.

A’th e mla’n wedyn i ofyn siwt o’n ni’n meddwl bo’ ni wedi cyrraedd y fath le? Doedd yr atebion ddim yn hir cyn dod. Un neu ddau ohonyn nhw ar lun stori drist. Trist iawn. Pobol anlwcus. Bywydau anffodus. Dioddefwyr annhegwch. Bobol mor wahanol i fi, nes i sylweddoli, wrth i’r sgwrs – y cwestiynu a chyd-wrando yma – fynd yn ei flaen. O’dd ’da fi neb i feio, o’dd e. Ond fi fy hunan. Neu – yn y geiriau a ddefnyddiodd y bachan cyn i ni gael paned arall – ‘gael y’n nala mewn rhwyd o’m gwneuthuriad y’n hunan’.

Wrth i’r tegyl ferwi, da’th y peth ’na ni’n clywed mewn priodasau rowndabowt i’r meddwl – y peth ambiti ffydd, gobaith ac ati. A’r mwyaf o’r rhai hyn yw…

Glaniodd paned ffresh yn y’n llaw gan dorri ar draws lif y cof. Ond, y peth od yw mai’r gair bach coll hwn oedd canolbwynt y sgwrs o fan hyn ymlaen. Y’n hangen – yn wir, y’n syched – amdano.  A’i natur. A dyfnder y ffynnon. Y ffynhonnell. A holl bwysigrwydd y dŵr hwn i’n gallu ni i fyw yng ngwir ystyr sbectaciwlar-ddwys y gair.

A’r peth odaf oll oedd, wrth i’r sgwrs yma – drwy ymholi boi’r te – gyd-ymdyfu rhyngom, mi ddechreuais i deimlo’n ffyddiog, o’r diwedd, fod yna rywle i fynd. Rhywbeth i anelu ato. Mas o’r anialwch. Nid i baradwys (oedd y bachan yn y’n rhybuddio ni’n erbyn twyllo’n hunan fel’na) ond ffordd fydde’n ffordd ymlaen ar waetha’r holl rwystrau fydde’n sicr o fod yn y’n herbyn.

Wrth i ni ysgwyd llaw wrth i’r sesiwn gwpla, cyflwynodd darn bach o bapur i bob yr un ohonom ac arno’r geiriau:  ‘Adolygu’r sgwrs – Caneuon Ffydd, 730’.