Golygyddol
Erbyn i’r geiriau hyn ymddangos ar eich sgriniau, gyfeillion C21, efallai y byddwn i gyd wedi dechrau treulio’r profiad o weld rhywbeth gwerthfawr, ond amherffaith ddigon, yn cael ei luchio ymaith fel pe na bai gwerth nac amcan wedi bod iddo o gwbl. A does dim llawer o bwynt rhestru ymhellach y celwydd, y methiant, y camarwain, y diffyg cymedroldeb sydd wedi bod ar y ddwy ochr. Mae’r rheini wedi peri i nodweddion peryclaf y Saeson a mwyaf di-ddeall y Cymry bleidleisio yn erbyn parhau i ymdrechu mewn sefydliad a ddaeth i fodolaeth i geisio dwyn i ben hanes canrifoedd o ryfela rhwng cenhedloedd bach a mawr.
Wrth fod yn rhan o’r Gymuned Ewropeaidd dymunem gredu bod yno genhedloedd bychain eraill â’r un agenda â ni, sef parhau i fod ‘Yma o Hyd’ gan ymroi i fyw ein ffydd a’i mynegi yn null ein diwylliant ein hunain. Diniwed, efallai.
Mae’r corff oedd yn medru hybu mân ddiwylliannau, er yn cydnabod eu bod yn broblem i’w cymdogion, bellach yn gwegian. Yr oedd cynorthwyo’r mân genhedloedd yn help i wrthweithio’r casineb sy’n ffynnu ar ddrwg-deimlad canrifoedd. Mae rhywbeth enbyd iawn mewn cofio gwallgofrwydd brwydr y Somme yn sgil y fath dwpdra di-egwyddor.
Gall fod effaith y bleidlais yn tanseilio corff sy’n gwegian. Ac fe ddylem gofio, wrth gerdded yn ddigon dihidio heibio i’r aml brosiectau adeiladu ac amddiffynfeydd glan môr a godwyd gyda help Ewrop, na fydd rhai newydd yn debyg o gael eu codi, ac y bydd help o Lundain dipyn yn anos ei sicrhau. (Ac fe ddylem gydnabod bod methiant Ewrop i reoli arian yn gytbwys a manwl wedi bod yn rhan o’r ddadl dros dynnu allan.)
Y cwestiwn i ni yma yn C21 yw ceisio meddwl beth yw’n galwedigaeth ni fel Cristnogion yn un o genhedloedd bychain Ewrop. Dyma felly ddarn hynod o’r gyfrol Ffynonellau Hanes yr Eglwys 1. Y Cyfnod Cynnar, a olygwyd gan Dr R. Tudur Jones. Daw’r darn hwn o’r ‘Epistol at Diognetus’ a ysgrifennwyd tua’r flwyddyn 150 (tt. 37–8). Dogfen yw sy’n disgrifio beth yw’r ffydd Gristnogol a sut y mae Cristnogion yn ystyried eu dinasyddiaeth pan oedden nhw’n lleiafrif braidd yn od mewn ymerodraeth filwrol. Mae gennym rywbeth i’w ddysgu o gyfnod pan oedd y ffydd yn dal i gael ei ffurfio ac yn dal yn destun drwgdybiaeth ac erledigaeth gan Iddewon, a’u hystyrient yn fradwyr, a chan Rufeiniaid, a’u drwgdybient am fod yn annheyrngar i’r wladwriaeth. Dyma fe, yng nghyfieithiad Dr Tudur. Mae’n asgwrn i gnoi arno:
Nid yw Cristnogion yn wahanol i weddill dynion o ran eu lleoliad, eu hiaith na’u harferion. Ni thrigant mewn dinasoedd ar wahân, ac nid oes ganddynt dafodiaith wahanol ac nid yw eu buchedd yn anghyffredin … Er trigo ohonynt mewn dinasoedd Groegaidd neu ddinasoedd eraill, fel y bwrir coelbren bob un, ac er iddynt ddilyn yr arferion lleol ynglŷn â bwyd, dillad a phethau eraill bywyd beunyddiol, rhyfedd ac annisgwyl, a chyfaddef y gwir, yw cyfansoddiad eu dinasyddiaeth hwy. Trigant yn eu mamwlad, ond fel pererinion. Cyfranogant ym mhobpeth fel dinasyddion; a dioddefant bopeth fel estroniaid. Mamwlad yw pob tir estron iddynt, a phob tir estron yn famwlad. Priodant fel dynion eraill ac ymddygant ar blant; ond nid ydynt yn difa eu hepil. Rhannant eu byrddau, ond nid eu gwelyau. Cânt eu hunain yn y cnawd, ond nid ydynt yn byw yn ôl y cnawd. Maent yn byw ar y ddaear ond mae eu dinasyddiaeth yn y nefoedd. Ufuddhânt i’r deddfau ordeiniedig, ond yn eu bucheddau eu hunain rhagorant ar y deddfau. Carant bawb, ac fe’u herlidir gan bawb. Maent yn adnabyddus, ac eto fe’u condemnir. Fe’u lleddir, ac fe’u bywheir. Cardotwyr ydynt, ond cyfoethogant lawer. Maent angen bopeth ond y maent uwchben eu digon. Dioddefant eu dianrhydeddu ond ym mhob dianrhydedd fe’u gogoneddir. Fe’u henllibir, ac eto fe’u cyfiawnheir. Fe’u difenwir, ond bendithiant; fe’u sarheir, a dangosant barch. Pan wnânt dda, fe’u cosbir fel drwg weithredwyr, ac wrth gael eu cosbi, llawenhânt fel petaent trwy hynny’n cael eu bywiocáu …. Mewn gair, yr hyn yw’r enaid mewn corff, dyna yw Cristionogion yn y byd … Mae’r enaid yn trigo yn y corff, ac eto nid yw o’r corff. Felly mae Cristionogion yn trigo yn y byd, ond nid ydynt o’r byd.
Stwff i gnoi cil arno wrth feddwl am orchymyn Iesu: ‘Na fernwch, fel na’ch barner’.

Cyfnod o lawenhau oedd degawdau olaf yr ugeinfed ganrif i Gatholigion Cymraeg gan fod dau o’r tri esgob Cymreig, sef Esgob Daniel Mullins ac Esgob Edwin Regan, yn siaradwyr Cymraeg ac yn bobl oedd yn deall Cymru ac anghenion yr Eglwys yn ein gwlad. Esgob Daniel Mullins oedd llais yr Eglwys Gatholig i’r Cymry Cymraeg ac yn llais Cymru i’r Catholigion nes iddo fe ymddeol. Wedi iddo ymddeol, ei gyd-weithiwr yng ngogledd Cymru, Esgob Edwin Regan, oedd llais Cymru o fewn sefydliad yr Eglwys yn fyd-eang tan ei ymddeoliad yntau chwe blynedd yn ôl.


Yn ddiweddar, llwyddodd offeiriad o India – Tad Joshy (sef Rev. Fr. Joshy Thomas Cheruparambil Joseph) i ddysgu Cymraeg yn ei blwyf yn Nolgellau a daeth i ddathlu’r Offeren yn Gymraeg yn Aberystwyth yn 2012 … yn fuan cyn iddo gael ei alw’n ôl i India. Dyna golled i ni yng Nghymru pan aeth e! 


Wrth gwrs, daw cwestiynau hefyd yn sgil rhythm dyddiol y gaplaniaeth, â’r rhain yn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr. Gyda rhai o ymlyniad efengylaidd mae’r rhain yn codi o ddarlleniad digon ceidwadol o’r Beibl a syniadau confensiynol o ran athrawiaeth a moeseg. Rwy’n ysgrifennu’r pwt bach ’ma ar ddydd Iau’r Dyrchafael, a thybiaf y byddai canran go uchel o fyfyrwyr o’r math hwn yn hapus iawn i dderbyn y naratif am esgyniad Iesu a gawn gan Luc yn ei efengyl ac yn Llyfr yr Actau mewn dull digon llythrennol. Byddai eraill – yn eu plith rai myfyrwyr sy’n addoli gyda ni o Sul i Sul – am herio’r ddealltwriaeth o ddyrchafiad corfforol i ryw nefoedd uwchben y cymylau a dechrau archwilio’r iaith am ‘ddirgelwch’ a gawn yn Paul.
Agor meddyliau a chalonnau yw gwaith prifysgol – ac mae’n rhaid cofio hyn ar adeg pan fo pwysau ariannol o ran ffioedd a chostau byw yn pwyso ar ein myfyrwyr a phrinder cyllido cyhoeddus yn bygwth troi ein sefydliadau yn beiriannau addysgu un-dimensiwn sy’n gorfod gwarantu budd economaidd i’r wlad a chynyddu cyflogadwyedd. I rai, mae’r dimensiwn cyfoethog ychwanegol hwn – sydd weithiau’n cael ei anwybyddu neu ei anghofio – yn dod yn rhan amlwg o’u cyfnod yn y brifysgol ac o ganlyniad bydd llwybr eu bywyd yn newid. Clywais yn ddiweddar gan gyn-fyfyrwraig sydd, gyda’i gŵr, wedi sefydlu ysgol yng nghanol un o slymiau gwaethaf Nariobi ac yn helpu menywod lleol i ddechrau busnes. Cefais hefyd alwad gan wraig ifanc a fu’n weithgar iawn yn y gaplaniaeth yn ystod ei chyfnod yn y Drindod ac ymhlith ei chyfraniadau a arweiniodd ymgyrch yn rhoi sylw i ing pobl newynog yn y gwledydd tlotaf yn ogystal â hybu gwaith i ddadlennu’r sefyllfa enbyd o ran caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Roedd wedi cysylltu gyda chais am weddi wrth iddi ddefnyddio’i doniau fel actores, a gallu cerddorol ei gŵr, i gefnogi undebau Cristnogol yn nwyrain Ewrop trwy gyflwyno’r efengyl drwy’r celfyddydau.
Ystyrier yn gyntaf y lleoedd a’r enwau – mae aneglurder yn y fan hon. Mae cyfeiriad at ddwy dref: Gadara sydd bum milltir o’r môr, a Gerasa sy’n 30 milltir o’r môr; a does dim dibyn yn y naill na’r llall. (Does dim dibyn chwaith ger Nasareth, lle y dywedir i gynulleidfa’r synagog geisio bwrw Iesu oddi arno!) Mae hyn yn boendod os mynnir mai stori hanesyddol am ddigwyddiad penodol yw hi. Mae llai o ots os darllenir y testun fel naratif symbolaidd. Mae’r dibyn yn symbol i atgoffa’r Iddewon o’r fan lle y bwrid bwch dihangol oddi arno yn rhan o ddefod aberthol, a thorf yn taflu cerrig ato. Honnwyd hefyd fod y llythrennau gsr Hebraeg yn awgrymu’r weithred o fwrw allan, fel pan labyddir y bwch dihangol.
Mae perthynas y gwallgofddyn a’i gymdeithas yn un od iawn. Mae’r gymdeithas yn ei ofni fel un llawn trais, ac felly mae wedi cael ei roi mewn cadwyni. Mae’n cael pyliau o ddychwelyd i’r ddinas ac angen cadwyni newydd. Ond fedrwn ni ddim credu na ellid gwneud cadwyni o haearn na ellid eu rhwygo gan ddyn, pa mor gryf bynnag yr oedd! Oedden nhw’n fwriadol yn gosod cadwyni y gellid eu torri, dim ond i’w arafu am gyfnod? Mae’r driniaeth a roddir i wallgofion, hyd yn oed yn ein cyfnod ni, yn fater o’u cadw draw rhag tarfu ar y gweddill ohonom.
Beth felly am y moch? Fel y mae’r gwallgofddyn yn cael ei fwrw allan o’i gymdeithas, felly mae’r drygioni a’i llethodd ef yn cael ei fwrw ar y moch, a’r rheini’n rhuthro ‘dros y dibyn’. (Buasai cynulleidfa o Iddewon yn rhoi bonllef o gymeradwyaeth!) Ddylai Iddewon ddim fod yn magu moch yn y lle cyntaf. Cymdeithas afradlon, fel y mab, oedd hi, yn gwneud bywoliaeth ar sail safonau diwylliannol ei gormeswyr masnachol a milwrol. Roedd dinasyddion Gadara, wrth fwrw allan y gwallgofddyn, yn trosglwyddo iddo ef eu heuogrwydd moesol hwy eu hunain. Dyna paham y mae’n bwysig ei fod, ar ôl cael gwared ar y moch symbolaidd, yn cael gorchymyn gan Iesu i ddal i fyw gyda’i erlidwyr. Bydd ef yn symbol parhaus eu bod hwy, fel yntau, wedi cael cyfle i dderbyn iachâd. Efallai fod arnyn nhw fwy o ofn y dyn ‘wedi ei wisgo ac yn ei lawn bwyll’ na phan oedd yn rhwygo’i gadwyni.

Dywed Dr Bowen fod rhyfeloedd seiber lle mae cyfundrefnau’n ymosod ar ddata yn ein cyfrifiaduron yn cael llawer iawn mwy o sylw na’r sy’n digwydd yn y gofod oherwydd ein bod i gyd yn defnyddio cyfrifiaduron, heb sylwi faint maen nhw’n dibynnu ar systemau cyfathrebu sy’n seiliedig ar loerennau yn y gofod. O 1990 ymlaen yr oedd Rwsia, NATO a gwledydd eraill megis Tsieina, India, a Siapan yn defnyddio llawer ar dechnoleg lluniau ar gyfer cyfathrebu, mordwyo (navigation) a synhwyro.

holi a ydych wedi rhoi lan ar fynd i gapel. Os ydych wedi rhoi lan, maen nhw’n eich deall chi!
Erbyn hyn mae Rollins wedi creu cwrs o’r enw ‘The Omega Course’, lle mae nifer cyfyngedig o bobl yn gallu cofrestru ar gyfer defosiwn ar-lein. Pan fyddwch yn gwneud hynny, cewch restr ddarllen, gyda’r gobaith y byddwch yn darllen rhywfaint cyn y sesiynau dydd Sul. Trwy Fehefin a Gorffennaf bydd e wedyn yn cynnal darlith a thrafodaeth wythnosol ar-lein i’r rheiny sydd wedi cofrestru.
Trwy gofrestru, mae’r aelodau wedi dod i adnabod ei gilydd ychydig yn yr wythnosau cyn y cwrs, ac mae’n amlwg o’r tudalennau Facebook (sy’n gaeedig i aelodau’r cwrs yn unig) fod amrywiaeth arbennig o unigolion yn mynd i gamu trwy’r Omega Course gyda Rollins. Os bydd yn llwyddiant, mae’n debyg y bydd Rollins yn rhoi cyfleoedd eraill i bobl ymuno â grŵp astudio a thrafod rhithiol. Edrychwch allan amdano.