Golygyddol
Oes unrhyw un yn newynu am wybod barn olygyddol Agora ar sut i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar y 9ed o’r mis? Nac oes, siŵr iawn! Ac felly, taw piau hi ar y pwnc – ac efallai y bydd yr erthygl hon yn dal yn werth ei darllen ar ôl yr etholiad. Dyma addo peidio ag ychwanegu at y rhagfarn, y sŵn, y celwydd, y camarwain, a’r casineb. Yn yr hen uniongrededd yr oedd gobaith yn rhinwedd ddiwinyddol – rhinwedd, nid teimlad.
Mae ceisio deall sut y mae hynny’n bosibl wrth i batrymau rhinweddau ‘rhyddfrydol’ ddymchwel o’n cwmpas yn siŵr o fod yn ddyletswydd arnom i gyd. Ac o’r fan honno y mae gweddill yr erthygl hon yn deillio. (Bydd hefyd yn bwnc y bydd James Alison yn talu sylw iddo yn ystod ei ymweliad â Christnogaeth21 yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, ar 1 Tachwedd.)

Jean Vanier
Faint o ddarllenwyr Agora, tybed, sy’n gwybod am Jean Vanier a’i waith yn y mudiad L’Arche? Yn fyr, Canadiad Ffrengig ydyw, bellach yn ei nawdegau, oedd â’i fryd, pan oedd yn llanc, ar ‘ddod ymlaen yn y byd’. Enillodd ddoethuriaeth am draethawd academaidd ar waith Aristotlys, a daeth yn swyddog llwyddiannus yn Llu Awyr Canada. Ond yn ddwfn ynddo’i hun yr oedd y Cristion hwn (perthynai i Eglwys Rufain) yn enaid clwyfedig, unig, yn dyheu am sicrwydd ei fod yn wrthrych cariad. Daeth ar draws offeiriad oedd yn byw heb fwlch rhwng ei argyhoeddiadau a’i weithredoedd; dechreuodd ddysgu am enbydrwydd y ffordd yr oedd pobl anabl, yn gorfforol a meddyliol, yn cael eu trin gan gymdeithas a chan drefn feddygol sy’n anelu’n bennaf at wella pobl. Does dim gwella i amryw anableddau. Arswydodd Vanier pan ddarganfu fod cloi pobl o’r golwg i’w rhwystro rhag peri anghysur i bobl ‘normal’ yn drefn gyffredin. Daeth i adnabod dau tra methedig, a dechreuodd ofalu amdanyn nhw a byw gyda nhw mewn tŷ bychan y lwyddodd i’w brynu. Yn y man, daeth eraill yn wirfoddolwyr ac ychwanegwyd hefyd fwy o bobl glwyfedig. Yn eu plith, wrth iddo dderbyn a charu ei bobl, dechreuodd y Jean Vanier clwyfedig dderbyn y cariad yr oedd arno newyn a syched amdano. (Bu i Henri Nouwen, y llenor ar faterion ysbrydol o’r Iseldiroedd, dderbyn iachâd a thrawsnewid tebyg wrth ofalu am lanc diymadferth yn L’Arche yng Nghanada.)
Dros y blynyddoedd fe dyfodd yr ‘arch’ gyntaf fechan honno yn fudiad byd-eang. O Baris i Vancouver, o Lerpwl i’r India, o Aberhonddu i Awstralia, fe dyfodd y mudiad gan ddenu gwŷr a gwragedd i rannu eu bywydau â’r rhai oedd yn amlwg anghenus, bregus a chlwyfadwy.
Rhoddir croeso i bobl o bob ffydd ac argyhoeddiad; mae’r mudiad yn sugno’i nerth o werth cariad ac ymroddiad a’r argyhoeddiad Cristnogol dwfn yng ngwerth pob unigolyn. Pan fydd Cristnogion trefnus eu hargyhoeddiadau yn holi beth y mae pobl yn ei gredu a beth am yr eglwys, dywed Vanier nad ydi’r eglwys o bwys – mae hi wedi brifo gormod o bobl wrth eu cau allan. Beth sydd yn bwysig yw tyfu mewn trugaredd a thosturi.
Mae ethos y cartrefi hyn yn cynnig lle diogel sy’n galluogi pawb i dderbyn eu bod mewn rhyw ffordd yn anghenus, yn fregus ac yn glwyfadwy. Gallant dderbyn, fel Jean Vanier ei hun, fod arnyn nhw syched am gael eu derbyn a’u caru, ac nad yw eu gwerth fel unigolion yn dibynnu ar eu doniau, na’u clyfrwch, na’u hurddas na’u hysgolheictod. Doedd e ddim chwaith yn dibynnu ar yr ‘aberth’ y tybiai rhai, ar y dechrau, oedd yn rhan o’u presenoldeb yn L’Arche. Mae unedau L’Arche wedi tyfu o wreiddyn duwioldeb Catholig dwys ac wedi ffynnu wrth i eraill weld model o gynnwys ac anwylo’r rhai sydd’n wirioneddol yn bobl yr ymylon. Ond nid yw’n bosibl i’r mudiad dderbyn pawb, wrth gwrs. Nid dyma’r ffordd i ddatrys problem. Y pwyslais yw gwneud yr hyn a ellir, a bodloni ar bod yn arwydd o deyrnas nefoedd, yn lefain yn y toes, yn halen y ddaear.
Rwyf wedi edmygu’r dystiolaeth lachar hon i werthoedd teyrnas Dduw ers blynyddoedd lawer. Yna’n ddiweddar deuthum ar draws cyfrol fechan dan y teitl, Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness.*

Stanley Hauerwas
Yn y gyfrol ceir pedair darlith – dwy gan Jean Vanier a dwy gan Stanley Hauerwas, moesegydd o America. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng symlder dwys y naill ac egni deallusol a moesol y llall.
Mae Hauerwas yn llwyr ymwybodol nad yw doniau deallusol yn rhan o dystiolaeth L’Arche, ond bod ei gyfraniad yn rhoi cefnogaeth werthfawr mewn byd sy’n gyson yn methu rhoi gwerth ar y gwan eu meddwl a’u cyrff. Gŵyr yn iawn am y bwlch hwnnw rhwng gair a gweithred, rhwng buchedd a bwriad, rhwng angen a gobaith.
A ninnau mewn cyfnod o wrthdaro gwleidyddol, mae’r gyfrol hon yn tystio i’r angen am diriondeb tuag at ein gilydd. Dywed Hauerwas, mewn geiriau plaen: ‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’
Ym myd gwleidyddiaeth a’r gwyddorau cymdeithasol ychydig o le a roddir i gyfaddef bod ein bywydau yn rhodd a dderbyniwn oddi wrth ein gilydd.

Vanier yn cyfarfod â’r Pab yn 2014
Dro ar ôl tro mae Vanier yn dychwelyd at ei angen ei hun, a’r profiad o rannu sbri, a doniolwch a dynoldeb cyffredin; mewn pryd blêr o fwyd mae’n gallu mwynhau ei hun a chwerthin a chlywed bonllefau digon aflafar fel mynegiant o ddynoldeb cyffredin. Pwysleisia’r ffordd y mae’r anabl (a’r ymddangosiadol abl) yn ymollwng mewn cwmni eitha diurddas i fwynhau doniolwch ei gilydd. Trwy eu hymddygiad a’u hymarweddiad y mynegir y teimlad: ‘Rwyt ti’n berson arbennig iawn, ac rwy’n hapus iawn i dreulio amser gyda ti.’ Calon L’Arche yw dweud wrth bobl: ‘Rwy’n falch dy fod ti’n bod a’th fod ti yma.’
Mae’r gyfrol yn llawn brawddegau bachog sy’n werth eu cofio – eu rhoi ar sticeri a phosteri i atgoffa’n gilydd o bethau sy’n hawdd eu mygu mewn byd o gystadlu a mynnu ein ffordd a bod yn sicr mai ni sy’n iawn, a bod ein prysurdeb yn brawf o’n pwysigrwydd:
Nid gwneud pethau anghyffredin ac arwrol yw cariad, ond gwneud pethau cyffredin gyda thynerwch.
Dathlu yw dweud ein bod yn hapus gyda’n gilydd.
Ffydd yn Iesu yw ymddiried ein bod yn wrthrych cariad.
O’r gofal tirion y mae pobl yn ei ddangos i’w gilydd bob dydd y crëir cymdeithas.
Mae rheidrwydd arnom i ddangos bod mwy gennym nag eraill – mwy o rym, mwy o gyfoeth, mwy o ddaioni …
Doedd y dyn cyfoethog ddim eisiau cysylltiad â Lasarus oherwydd petai’n cysylltu ag ef, byddai’n rhaid iddo newid.
Rhaid wrth systemau amddiffyn rhag bod pobl yn gweld pwy ydyn ni.
Y pethau bychain sy’n herio ein hiraeth am fod yn bwysig a dylanwadol. Ond yn L’Arche ceir enghraifft lachar, gyfoes o wneud y pethau bychain. Pan yw Vanier yn mynegi ei safbwynt yn fwy haniaethol, mae’n tanlinellu’r peryglon sy’n llechu yn ein rhagdybiaethau a’n hargyhoeddiadau ni, Gristnogion Cymraeg:
Mae gennym ein hunaniaeth ddiwylliannol, ein hunaniaeth grefyddol – neu ein hunaniaeth anghrefyddol. Pan adawn i’n hunaniaeth genedlaethol neu ethnig ein rheoli, syrthiwn yn fuan i gystadlu/ymryson. I osgoi ymryson all dyfu’n gasineb, rhaid darganfod rhywbeth mwy sylfaenol. Dyna mae Iesu am ei roi i ni – hunaniaeth wedi ei seilio ar eirwiredd.

Y diweddar Jo Cox A.S.
Yr wythnos ar ôl yr etholiad (ar 15–16 Mehefin), bydd pobl ar draws gwledydd Prydain yn nodi blwyddyn gron ers erchylltra llofruddio’r Aelod Seneddol Jo Cox. (Os gwelwch chi rywrai’n gwisgo rhuban bach o gingham coch a gwyn, maen nhw’n tynnu sylw at weithgareddau ‘Dod at ein Gilydd’, sef ffordd y teulu ac ymddiriedolaeth Jo Cox o feithrin gweithgarwch creadigol a chadarnhaol wrth ei chofio. Nid cyfle i fwydo dicter ydyw. Bydd pobl o bob lliw gwleidyddol, o gefndiroedd diwylliannol ac ieithoedd amrywiol, yn dod ynghyd i gynhesu at ein gilydd. Mae meithrin ein dynoldeb cyffredin yn beth teilwng o oblygiadau’r ymgnawdoliad. Bydd Iesu ar yr ymylon yn gwenu. Vanier eto:
Daeth y gair yn gnawd er mwyn dwyn pobl ynghyd, i ddymchwel muriau ofn a chasineb sy’n gwahanu pobl. Dyna weledigaeth yr ymgnawdoliad – dwyn pobl ynghyd.
***************************************************************************
* Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness, Stanley Hauerwas & Jean Vanier, 2008 (ISBN 978-0-8308-3452-5), £9.99



Mae’r pynciau, y drafodaeth a’r cwestiynau sydd yn cael eu cyflwyno ar wefan ddwyieithog CYTÛN yn gyfoethog ac yn werthfawr iawn, ac yr ydym yn ddyledus i Gethin Rhys am ei waith. 







Gan sylweddoli hyn, mae’r eglwysi, trwy Cytûn, wedi bod yn cymryd rhan weithgar yn y broses gyfredol o ailwampio blaenoriaethau’r BBC. Ar ein hawgrym ni, fe ychwanegwyd y gair ‘gwasanaethu’ at ‘ddibenion cyhoeddus’ y BBC – sy’n greiddiol i’w gwaith – i sôn am ‘adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl ranbarthau a gwledydd y DU’. Mae’r BBC yn swyddogol nawr yn gorfod gwasanaethu Cymru.
Mae i’r rhain eu lle, ond hefyd eu peryglon; gwyddom oll erbyn hyn mai anodd yw gwahaniaethu rhwng newyddion go iawn a newyddion ffug yn y byd rhithiol hwn (er fy mod yn argymell yn ddiffuant y cyfrifon yr wyf wedi cyfeirio atynt fan hyn). Yn bwysicach, efallai, prin fydd y darllenwyr arnynt nad ydynt eisoes yn deall cryn dipyn am wleidyddiaeth Cymru – nid yw pobl yn dilyn cyfrifon am bynciau nad ydynt eisoes yn ymddiddori ynddynt.
Rydym yn fwy dibynnol ar amaethyddiaeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, ac mae ein ffermwyr ni yn fwy dibynnol ar daliadau Ewropeaidd na ffermwyr unrhyw ranbarth arall. Mae llawer iawn o’n hisadeiledd cludiant ac addysg wedi ei ariannu yn rhannol o Ewrop. Mae’r iaith Gymraeg yn iaith ‘gyd-swyddogol’ yn yr Undeb Ewropeaidd – statws a gollir yn 2019. A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?
Yn fy astudiaethau ohono nid wyf yn gwahaniaethu llawer rhwng meddwl Williams a’i ddychymyg, am fod y bardd ar ei orau yn meddwl drwy’i ddychymyg. O ran hynny, dychmygus yw’r rhan fwyaf o ddaliadau diwinyddiaeth: cawsant eu creu gan rywun rywdro, eu datblygu a’u diwygio ar hyd y canrifoedd ac ar hyd a lled y cyfandiroedd …
Yn syml, ni ellir llwyr ddirnad llawer o lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern, o Forgan Llwyd hyd at Gwyn Thomas, heb adnabyddiaeth ddeallus nid yn unig o lyfrau’r Beibl, eithr hefyd o’i neges drosgynnol. Nid dweud yr wyf fod yn rhaid i ddarllenwyr y dydd heddiw gredu’r hyn sydd ynddo, ond dylent adnabod yr hanes sydd ynddo a’i ddrychfeddwl, am fod cymaint o’n llenyddiaeth yn ddyledus iddo.
Cofiant i bregethwr angerddol anghyffredin, ac i ddyn yr oeddwn i’n meddwl y byd ohono, yw Tyred i’n Gwaredu yn y lle cyntaf. Ond am ei fod yn rhychwantu’r cyfnod pan ddirywiodd Anghydffurfiaeth yn enbyd, ac yn enbyd o gyflym, rhwng tua 1925 a 1980, cyfnod y profais i’r chwarter canrif olaf ohono, y mae hefyd i ryw raddau yn alarnad i’r ffenomen honno. Dim ond ‘i ryw raddau‘, achos portreadu dyn yn ei gyd-destun yr wyf yn y llyfr, nid trafod y cyd-destun fel y cyfryw. Byddai trafod cwymp y capeli yn gofyn trafodaeth ddiwinyddol, athronyddol a chymdeithasol.
Fel y mae’n digwydd, y mae Gomer ar fin cyhoeddi cyfrol fechan a ysgrifennais am fy machgendod, cyfrol fechan o’r enw Bachgendod Isaac, lle disgrifiaf lawer o’r dylanwadau hynny. Yr oedd y capel yn bwysig iawn imi’n grwt, ei ddiwylliant fel ei ddefosiwn, ac ofnaf imi yn fy nglaslencyndod gymysgu’r ddeubeth, neu’n hytrach ofnaf imi fethu gwahaniaethu rhwng y Gair a geiriau, rhwng Cred a Rhethreg, gan ddechrau pregethu’n gywilyddus o ifanc heb fod gennyf gynhysgaeth o bethau ysbrydol na meddyliol i’w cynnig i neb. Dechrau barddoni mewn cyfnod anodd imi’n dair- a phedair ar ddeg, pan gollais fy ffrind gorau, oedd llawer o’r drwg, a mynd i feddwl fod yr Awen a Duw yn efeilliaid o ryw fath.



Ond quick fix fyddai hynny, wrth gwrs, gan wneud iawn am y rhesymau anghywir, sef i leddfu’i deimladau anghyfforddus ef ei hun. Dyna pam bod Cam 8 (y paratoi) a Cham 9 (y gweithredu) mor bell i lawr y rhestr – oherwydd, erbyn hyn, mae ein rhesymau dros ‘wneud iawn’ wedi newid yn gyfan gwbl.
Yng Ngham 8 y dasg gyntaf yw gwneud rhestr gyflawn o’r holl bobl hyn, gan nodi’n fanwl pa niwed a wnaed i bob un. (Os awn yn ôl at yr hyn a wnaethom yng Ngham 4, fe welwn fod y rhan fwyaf o’r enwau eisoes wedi’u cofnodi; dyna ffynhonnell ein deunydd crai ar gyfer Cam 8.)
Er mwyn ymarfer yr egwyddor o ddewrder yng Ngham 8, mae’n rhaid i ni roi ein hunain yng ngofal Duw. Fedrwn ni ddim cyfyngu ein rhestr i’r rhai hynny y tybiwn fydd yn ymateb yn gadarnhaol i’n hedifeirwch. Rhaid i ni ymddiried y bydd y Pŵer mwy na ni ein hunain yn ein harfogi gyda’r gwroldeb, y gwyleidd-dra, y cryfder mewnol, neu beth bynnag arall fydd ei angen arnom i dalu’r iawn yn llawn. Hyd yn oed os bydd raid i ni wynebu rhywun yr ydym yn ofnus o’r modd y byddant yn ymateb, neu fod angen i ni dderbyn canlyniadau trosedd yr ydym yn gyfrifol amdani – gyda help y Pŵer hwn, gallwn wynebu’r cyfan.
Cyn inni wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â’r Camau blaenorol, yn union fel y gŵr hwnnw sy’n dioddef yn barhaus o’r ddannodd, doeddem ni ddim yn gallu meddwl am neb na dim arall ond am leddfu ein poen ein hunain. Yn waeth fyth, yn llawn hunandosturi, beiem eraill am y boen honno a dal dig yn eu herbyn, weithiau am flynyddoedd. Erbyn hyn, sut bynnag, yn ogystal â’n gweld ein hunain fel bodau dynol cyffredin, dechreuwn weld mai dim ond trio gwneud y gorau y gallant gyda’u dynoldeb y mae pobl eraill hefyd. Gwyddom ein bod yn dioddef weithiau o amheuon ac ansicrwydd ohonom ein hunain, ond felly mae eraill hefyd. Gwyddom fod tuedd ynom i agor ein cegau cyn meddwl, ond felly mae eraill hefyd. Sylweddolwn eu bod yn difaru gwneud hynny lawn cymaint â ni. Gwyddom hefyd ein bod yn dueddol o gamddehongli sefyllfaoedd a gorymateb neu danymateb iddynt. O ganlyniad, pan welwn bobl eraill yn gwneud yr un math o gamgymeriadau, rydym yn deall pam, a theimlwn gydymdeimlad tuag atynt yn hytrach nag anniddigrwydd. Mae ein calonnau yn llenwi wrth i ni sylweddoli ein bod yn rhannu’r un breuddwydion, yr un ofnau, yr un angerdd, a’r un gwendidau â phawb arall.
Yna, mae sefyllfaoedd pan wyddom yn iawn am y niwed a wnaethom ond ein bod yn ansicr ynglŷn â phwy yn union a niweidiwyd. Er enghraifft, fe dwyllon ni yn ystod arholiad yn yr ysgol. Holwn ein hunain, “Pwy gafodd ei niweidio?” – ai’r athro; ein cyd-ddisgyblion; ni ein hunain; y disgyblion a ddaeth ar ein holau ac a orfodwyd i dalu’r pris o ddiffyg ymddiriedaeth yr athro ynddynt oherwydd ein hanonestrwydd ni? Yr ateb, wrth gwrs, yw bod pob un wedi’i niweidio, er yn anuniongyrchol. Dylid eu cynnwys i gyd, felly, yn ein rhestr yng Ngham 8.
Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwn achosi poen emosiynol dwys i eraill: anwybyddu, diystyru, cymryd mantais, bychanu, ac enwi ychydig yn unig. Efallai i ni ein gosod ein hunain yn well na phobl eraill, yn foesol ac yn ddeallusol; neu efallai i ni wrthod cynigion gan eraill i’n helpu a’n cefnogi.
Ond mae cyrraedd y pwynt o fod yn barod i ‘wneud iawn’ yn gallu bod yn broblem i rai – yn enwedig os ydym yn dal dig dwfn neu, yn waeth, yn casáu’r person arall, fel roeddwn i, er enghraifft, yn casáu fy nghyn-brifathro. Awn ni ddim ar ôl y rhesymau; digon yw dweud na fyddai fy adferiad yn rhoi dim boddhad i mi os na fedrwn faddau iddo mewn rhyw ffordd. Ffon ddeublyg yw casineb – mae’n lladd pob ysbrydolrwydd ac yn sicrhau, yr un pryd, ein bod yn rhoi’r pŵer i benderfynu sut yr ydym yn teimlo a sut yr ydym yn meddwl, yn nwylo person arall, a’r person arall hwnnw, o bosib, yn un y byddwn yn ei gasáu.
Ond o dipyn i beth fe wellodd pethau ac, ymhen mis, roedd fy nheimladau tuag ato wedi newid yn gyfan gwbl. Gwelwn ein perthynas mewn goleuni gwahanol, yn un o gamddeall ac yn un o gamddehongli bwriadau ein gilydd. Maddeuais iddo ac yntau i minnau. Dim ond wedi hynny y gallwn i wneud iawn i’r prifathro – fel y byddwn yn gweithredu yng Ngham 9. Er ei fod wedi marw erbyn hynny, mi sgwennais lythyr ato yn ymddiheuro am fy ymddygiad tra oeddwn i yn yr ysgol, ac am fy agwedd tuag ato. Gwnes seremoni fer o losgi’r llythyr yn yr ardd gefn; gweddïais weddi fer – ac roedd y cyfan drosodd a phob malais tuag ato wedi’i ddileu. Rwy’n ei garu heddiw.
Os gweithredwn ar ein pen ein hunain, mae peryg inni gamddehongli sefyllfa. Mae angen i ni weld y sefyllfa yn gliriach ac o safbwynt rhywun arall profiadol. Rydym angen gweledigaeth a chefnogaeth a gobaith rhywun profiadol. Mae’n rhyfeddol sut y gall sgwrs syml gyda rhywun profiadol agor y drws i’r nerth tawel hwnnw sy’n trigo’r tu mewn i bob un ohonom. Pan dynnwn ymaith bob ymyrraeth allanol a datgelu’r craidd solat hwnnw o dangnefedd, gwyleidd-dra, a maddeuant o’n mewn, rydym yn barod ar gyfer Cam 9.



Cyfrol academaidd yn dadlau’n fanwl nad carfan hanesyddol bendant yn perthyn i gyfnod penodol oedd y gnosticiaid, ond tuedd ysbrydol sy’n dod i’r golwg ym mhob cenhedlaeth. Mae gnosticiaeth gyfoes yn amlwg yn America mewn celloedd o gredinwyr sy’n argyhoeddedig or-bendant am eu cadwedigaeth eu hunain ac yn ‘gwybod’ mewn ffordd sy’n eu dyrchafu’n uwch na’u cyfoedion
Dim sentimentaliaeth ond syndod at y newid sydd wedi dod i ardaloedd fel Cwmaman a’r Garnant ers y 30au a’r 40au. Mae’n ddisgrifiad o ffordd o fyw sydd sy’n peri i rywun sylweddoli ei odrwydd, ei gryfder, ei gulni, ei lwyddiant a’i ddiflanedigrwydd. Apologia a drych.
Cofiant disglair i artist a werthfawrogodd yr etifeddiaeth Gymraeg yn daer. Mae’n llawn straeon dwys a doniol ac yn anogaeth gref i fynd i’r afael â swmp o waith llenyddol. Os yw’r enw a’r gwaith yn ddieithr, mwynhewch y bywgraffiad, ac yna mentro ar In Parentheses, y gerdd odidocaf a ddaeth allan o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r cerddi byrion yn The Sleeping Lord yn fan da i ddechrau, a’r gerdd ‘A, a, a, Domine Deus’ yn ochenaid lafar o hiraeth fydd yn apelio at bobl Cristnogaeth21 – ‘it is easy to miss Him at the turn of a civilization’.


