Ar groesffordd

Ar groesffordd…..

Mae peryg ein bod ni wedi cyrraedd croesffordd go dyngedfennol.

Roedd hi’n hawdd tra roedd y gorchmynion wedi eu naddu mewn carreg. Peidiwch a gadael y tŷoni bai ei bod hi’n gwbl angenrheidiol. Gallwch weld y meddyg. Gallwch brynu bwyd, ayb, ayb. Du a gwyn. Hawdd.

Ond o dipyn i beth rydym yn gorfod meddwl drosom ein hunain. Pa mor bell? Pa mor agos? Bybl? Sawl bybl? Masg? Plant i’r ysgol? Mynd i’r capel? Ac mae pob un ohonom yn gallu dod i gasgliadau cwbl ddilys a rhesymegol – a gwahanol i’n gilydd. 

Er bod yna ddameg yn fana nid dyna’r sgwarnog y byddwn ni’n rhedeg ar ei hôl hi y tro hwn.

Fe’n gorfodwyd ni i gefnu ar ganrifoedd o draddodiad dros nos a dechrau creu traddodiadau newydd. Beth bynnag ddywed neb fyddwn ni ddim yn dychwelyd i’r hen normal dros nos, ac os ydyn ni’n onest, rydym yn gwybod na fyddwn ni byth yn gwneud hynny.

Fydd rhai eglwysi oedd eisoes yn ei chael hi’n anodd ddim yn ailagor.

Efallai y bydd rhagor yn ei chael hi’n anodd wrth i rai unigolion oedd yn cerdded yn eu cwsg i’r oedfa ar fore Sul sylweddoli fod llawn cystal ganddyn nhw aros yn eu gwlâu.

Er y bydd peth incwm i’r enwadau o werthu eiddo, fydd y farchnad eiddo’n gwegian a bydd yr incwm o’r gynulleidfa wythnosol yn gostwng yn sylweddol.

Yn ymarferol mae’r pregethwyr sy’n teithio’r wlad yn ffyddlon yn hŷn ac yn fregus a hwy yw’r rhai olaf fydd yn rhydd i fentro o gynulleidfa i gynulleidfa.

Hyd yn oed i eglwysi mwy hyfyw bydd cwestiynau mawr am gynaladwyedd adeiladau a gweinidogaeth.

Ond i raddau mae rhain yn gwestiynau sy’n troi ar echel y normal a fu.

Mae’r normal newydd yn cynnig cyfleoedd a heriau gwahanol.

I’r rhai fydd yn gallu fe fydd hi’n braf iawn bod yn ôl yn y capel. Ond fe fydd rhai sy’n agos ond yn gaeth fydd wedi cael ymuno â chynulleidfa am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Bydd eraill wedi ymuno o bellteroedd mawr. Fe fyddai dewis diffodd y camera ac addoli rhwng pedair wal yn unig yn cau yr holl bobl yma allan.

Ond mae yna gwestiynau cyffredinol yn ogystal. Mae’r dewis digidol yn rhoi dewis i gynulleidfa gael gwasanaeth sydd at eu dant bob Sul heb ddibynnu ar pwy sydd ar gael i lenwi’r pulpud. Ac efallai y dylai fod yn flaenoriaeth i’r hyn fydd ar ôl o’r weinyddiaeth enwadol i ganiatáu hynny ddigwydd.

Gallech wrando ar rhywun gwahanol bob Sul neu’r un un. Gallai pawb eistedd yn eu capeli eu hunain yn gwrando’r un bregeth. Dychmygwch petai’r pregethwr hwnnw’n codi’n y tir. Am ddiwygiad dychrynllyd fyddai’r diwygiad digidol!

Felly mae’r Pla ym myd yr enwadau, fel ym myd busnes a llywodraeth, yn mynd i olygu diwedd ar lawer o drefniadau yr oedd pawb yn gwybod oedd y tu hwnt i’w sell-by-dateond nad oedden ni am eu newid am nad oedden ni eisiau newid. Gorfodwyd newid ac fe weithiodd.

Yn un o gynadleddau C21 soniodd Bethan Wyn Jones am docio’r goeden. Mae’r goeden wedi ei thocio a’r pren marw wedi ei daflu o’r neilltu. Peidiwn a meddwl bod modd defnyddio’r pren hwnnw i ailadeiladu. Bydd yn pydru mewn dim. Cawn weld yn fuan pa mor iach yw’r boncyff a’r gwreiddiau. Gobeithio bydd y tyfiant newydd yn frwd ac anhrefnus. Peidiwn â sathru arno.