E-fwletin 15 Tachwedd 2020

Amrywiaeth

‘Amrywiaeth’ – ‘diversity’  – yw un o eiriau mawr y funud; cydnabyddiaeth nad yr un yw pob copa walltog, ond galwad hefyd i barchu gwahaniaethau. I ran helaeth o bobl y byd, ond nid i bawb, un Duw sydd ond y mae gwahaniaethau dybryd yn y modd yr anrhydeddir y Duw hwnnw, gwahaniaethau a fu’n achos gwrthdaro a brwydro hyd  at waed ddoe a heddiw. Daw hyn i’r amlwg yn y gwrthdaro gwaedlyd ar brydiau rhwng crefydd Islam a’r grefydd Gristnogol, gwrthdaro sy’n groes i rai o egwyddorion sylfaenol y ddwy grefydd fel ei gilydd. Un Duw ond dwy olwg ar hynny. Ac y mae gwahaniaethau o ran dull o addoli a chyfundrefnu wedi bod yn gymaint o sail i hunaniaeth ag yw iaith nes bod crefydd a gwleidyddiaeth wedi cydblethu’n anochel.  

Mae dylanwad gwahaniaethau o fewn y grefydd Gristnogol ei hun yn drwm ar ein hunaniaeth ninnau fel Cymry, o oes y saint hyd heddiw. Y mae crefydd wedi pennu pwy yw ein harwyr a pha ddarlun o’r gorffennol yr ydym yn ei dderbyn a’i drosglwyddo. Mae’r holl lannau sy’n enwau ar ein trefi a’n pentrefi yn cyhoeddi mai Cristnogion yw – neu a fu’r – Cymry, ac enwau fel Bethesda, Saron, Nasareth a Biwla’n dangos goruchafiaeth Cristnogaeth efengylaidd, ymneilltuol, anghydffurfiol o fewn ein tirlun ffisegol a meddyliol. I raddau helaeth mae ein syniad amdanom ni ein hunain o hyd – ein hunaniaeth yn yr unfed ganrif ar hugain – yn seiliedig ar yr hyn fu’n ymneilltuol dderbyniol, y farn, neu’n hytrach y rhagfarn, mai Cymry’r capel, Cymry ‘Buchedd A’, yw’r ‘gwir Gymry’ a naw wfft i bawb arall.

Canlyniad hyn yw mai dewisol yw ein syniad o hanes. Daeth hyn i’r amlwg i mi yn ddiweddar wrth fynd trwy bapurau fy nhad a gweld cyfeiriad at un o arwresau mamgu, sef Morfudd Eryri. Arwres iddi hi, efallai, ond rhaid i mi gyfaddef na chlywais i erioed amdani. Dyma arwres a anghofiwyd i bob pwrpas. Mynd ati wedyn i chwilota, a chael ei bod yn wraig hynod o ddiddorol. Saesnes o’r enw Anna Fison (1839-1920) oedd hi o dras ond, yn ôl ei geiriau ei hun, yn ‘Gymraes o galon’. Ymddiddorai mewn ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg, priododd â Chymro, Walter Thomas, a dod gydag ef i Fethesda pan wnaed ef yn ficer Eglwys Santes Ann. Yno daeth yn gwbl rugl yn y Gymraeg, gan ymddiddori yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn rhan o’r mudiad i’w diwygio ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.   Ar ben hynny, yr oedd ganddi diddordeb arbennig mewn addysgu chwarelwyr ac addysgu yn y Gymraeg pan oedd y defnydd o’r iaith Saesneg yn dod fwyfwy i’r amlwg ym myd addysg Cymru. Bu ei mab, wedyn, Evan Lorimer Thomas (1872-1953), yn Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan o 1903-1915, ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yno ymhlith myfyrwyr. Dyma deulu arwrol, heb os, o safbwynt hybu’r Gymraeg.

Pam, felly, nad yw enwau’r rhain yn amlwg yn ein cof? Ai am mai eglwyswyr oeddynt ac felly y tu allan i’r teulu ymmneilltuol; ac ar ben hynny o eglwys Santes Ann yn ardal Bethesda a gysylltwyd â’r rhai a dorrodd y Streic Fawr yn y Penrhyn? Dyma rywbeth sy’n groes i’r darlun arferol o Seisnigrwydd yr Anglicaniaid. Ai dyma pam yr ysgubwyd hwy o’r syniad ‘swyddogol’, ymneilltuol o’n hunaniaeth fel Cymry? Ie, gall enwadaeth fod  yn beth tra pheryglus hyd yn oed yn y cyd-destun Cymreig. Gadewch i ninnau, felly, unioni hynny trwy fod yn fwy cynhwysol, ac achlesu ‘amrywiaeth’ yn ein plith ein hunain.