Yn sŵn y cloi clystyrog mae rhyw betruster eto yn yr awyr wrth feddwl ailagor addoldai. Mi gofiwn yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol agos. O fis Mawrth ymlaen – am ryw hyd beth bynnag – roedd y Sul wedi mynd mor ddistaw fel y byddai Cymdeithas Sul yr Arglwydd wedi rhoi’r byd amdano, er fod y pla wedi golygu cau pob addoldy, nes y dechreuodd yr eglwysi agor. Wnaeth y Parch Ddr D Ben Rees, lladmerydd mawr y gymdeithas honno, erioed ddychmygu y byddai wedi gweld y Sul, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn ymylu ar yr hyn y breuddwydiai ef a’r gweddill ffyddlon amdano am un diwrnod bob wythnos.
Daeth tro ar fyd ers y Suliau distaw rheiny. Dechreuodd llawer fynd yn ddi-hid a phowld ac yn fodlon mynd i siop, tafarn a thŷ bwyta heb yr un gofid yn y byd. Pob man, meddai cyfaill, ond i le o addoliad. Petai bar yno fyddai neb yn poeni am fynd i mewn!
Ymuno â’r powld di-hid a wnaeth fy ngwraig a minnau y Sul diwethaf. Roeddem wedi trefnu i gael cinio mewn tŷ bwyta yn un o drefi castellog y gogledd. Wrth barcio’r car sylweddolodd y ddau ohonom nad oedd gennym geiniog i dalu am y parcio. Ydan ni am fentro torri’r rheolau? Na, aethom at y bocs talu a gweld fod modd ffonio i dalu. Dyma gynnig gwneud ond roedd y cyfarwyddiadau’n faith a phoenus a diffoddwyd y ffôn.
Yr eiliad nesaf roedd gŵr bonheddig a’i law allan yn cynnig pisyn dwybunt a phisyn punt ar ei chledr – gŵr cwbl ddieithr a’i deulu gerllaw newydd dalu am barcio. Yn y dull Cymreig dyma wrthod ond roedd yn daer a chymrodd fy ngwraig y pisyn dwybunt. Mi ofynnais i o ble oedd yn dod a Rhuthun oedd yr ateb. Gawn ni gymryd ei rif ffôn i drefnu talu’n ôl iddo? Gwrthododd yn lân a cherdded oddi wrthym a ninnau’n diolch yn llaes am ei haelioni a’i gymwynasgarwch.
Wrth gerdded am y tŷ bwyta roedd y ddau ohonom yn dal i ryfeddu fod yna rai o hyd yn hael eu cymwynas, yn fodlon cynorthwyo deuddyn mewn picl heb ddisgwyl dim yn ei le. Oedd, roedd yn ddydd Sul: a oedd hynny’n cyfrif yn yr oes ôl-Gristnogol hon lle nad oes ond 38 y cant o Gristnogion y gwledydd hyn yn arddel ffydd? Neu a yw byw dan warchae’r pla am hanner blwyddyn wedi rhoi ystyr a deimensiwn newydd i fywyd? Ar ei symlaf, fod cynorthwyo rhywun mewn trafferth – er mor ddibwys oedd yr anghaffael hwnnw yn ein hachos ni – yn cynnig y boddhad mewnol nad oedd y bywyd gwallgof cyn-govid yn ei wneud?
Mae digon o enghreifftiau yn y misoedd diwethaf lle mae llawer iawn wedi mynd yr ail filltir i helpu’r gwan a’r anghenus heb ddisgwyl tâl amdano. O argyfwng y daw daioni, a hynny heb i’r addoldai fod ar agor!
Bendith arnoch a phob cenhedlaeth o fewn eich teulu.