E-fwletin Mawrth 31ain, 2014

Er bod ymron i bythefnos wedi mynd heibio ers i George Osborne gyhoeddi ei gyllideb, mae’r datganiad a wnaed gan Oxfam ynglŷn â’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn dal i fod yn destun trafod mewn sawl lle. Yn wir, mae cyhoeddiad gwreiddiol Oxfam yn dyddio’n ôl i ganol Ionawr, ar drothwy cynhadledd economaidd y Fforwm Rhyngwladol yn Davos, yn Y Swistir. Mewn adroddiad ar gyfer y cyfarfodydd hynny y paratowyd adroddiad cyntaf Oxfam, oedd yn dweud bod yr 85 o bobl gyfoethocaf yn y byd yn berchen ar yr un faint o gyfoeth â’r 3.5 biliwn tlotaf – sef hanner poblogaeth y ddaear. Fe seiliwyd y dystiolaeth ar y tabl o gyfoethogion a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn Americanaidd, Forbes, ar gyfer y flwyddyn 2013. Ond o fewn ychydig wythnosau, roedd rhestr 2014 wedi ei chyhoeddi gan Forbes, a gwelwyd bod y ffigwr wedi newid, a’r sefyllfa wedi gwaethygu. Erbyn dechrau Mawrth eleni, roedd cyfoeth cyn lleied â 67 o’r bobl gyfoethocaf yn cyfateb i’r 3 biliwn tlotaf.

Oddi ar hynny, mae’r ffigurau wedi cael eu cyhoeddi ledled y byd mewn gwahanol ffurfiau, ar radio a theledu, mewn papurau newydd ac ar liaws o wefannau cymdeithasol.

Yma yng ngwledydd Prydain, roedd y dystiolaeth yn dangos bod y pum teulu sydd ar frig y rhestr – gyda’i gilydd – yn gyfoethocach na’r 12.6 miliwn sydd ar y gwaelod. Ond yr hyn sy’n peri pryder yw bod y bwlch yn lledu,  gyda’r cyfoethog yn casglu rhagor o eiddo bob blwyddyn tra bod amgylchiadau’r tlodion yn gwaethygu.

Mae’n werth cofio am sylwadau’r colofnydd Caitlin Moran a soniodd mewn erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn y Sunday Times am ymgyrch y llywodraeth i gwtogi’r budd-daliadau sy’n cael eu talu i’r rhai anghenus mewn cymdeithas. Roedd hi am bwysleisio ei bod hi ei hun yn dod o deulu a fagwyd ar fudd-daliadau, ac mae’n gresynu fod cymdeithas erbyn heddiw yn ei weld yn beth mor ffasiynol i dargedu’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘benefit fraud’. Ac meddai hi, “The irony is, of course, that the working-class benefit fraud costs £1.2 billion a year, while tax evasion – inevitably a middle-class crime – costs £14 billion annually.”

 

Mewn byd delfrydol, byddai democratiaeth yn gofalu bod y cyfoethog yn cael eu trethu’n deg i helpu’r tlawd. Nid y ffaith bod yna gyfoethogion yn bodoli sy’n poeni dyn, ond yr awgrym bod llywodraeth Prydain, fel sawl gwlad arall, yn fwriadol yn dandwn y lleiafrif cyfoethog ac yn eu swcro ar draul y mwyafrif tlawd. Mae’r eironi’n drymlwythog pan gofiwn mai dim ond deunaw mis sydd ers inni fod yn gwrando ar addewid gwag y Canghellor ein bod i gyd yn rhan o’r hirlwm darbodus.  

 

Mae’n galonogol gweld problem tlodi’n cael blaenoriaeth gan y Pab Ffransis, ac yntau’n amlwg wedi bod dan ddylanwad yr Archesgob Hélder Câmara (1909 – 1999), ymysg eraill. Fe gysergodd Câmara ei fywyd i wasanaethu Crist ymhlith tlodion Brasil, ac roedd y Fam Teresa hithau yn cydnabod ei bod yn edmygu ei weledigaeth. Ac wrth gwrs, Câmara sydd biau’r dyfyniad ysgytwol hwnnw: “Os rhoddaf fwyd i’r tlodion, caf fy ngalw’n sant. Os gofynnaf pam eu bod yn dlawd, caf fy ngalw’n Gomiwnydd.”