Agor llygaid

Agor llygaid

Ac wele, ar fore llwyd o hydref, daeth angylion ataf drwy gyfrwng Zoom. Troesant eu hwynebau ataf ac roeddent yn hardd, mor hardd â phren eboni. Roedd urddas yn eu gwedd a gwawr o gariad yn eu llygaid.

Ac meddai un o’r angylion wrthyf, “Mae’n fis hanes pobl dduon. Mae’r Penllywydd eisiau i ti ymddiheuro am gamweddau’r gorffennol yn eu herbyn”.

Dychrynais o glywed neges yr angylion. Cuddiais fy llygaid rhagddynt a meddais wrthynt, “Ymddiheuro?! Beth sydd gan hynny i wneud â mi? Rydw i’n byw yma yng Nghymru wen, Cymru lonydd, yn ddyn gwyn o’r dosbarth canol ac yn freintiedig fy myd. Beth sydd gan hanes pobl dduon i’w wneud â mi?”

“Llawer”, meddai’r angel, “llawer iawn”.

“Ond”, meddwn innau ar ei thraws, “yma yng ngorllewin ein gwlad, ymhell bell o’r ddinas aml ei hil ac aml ei diwylliant, does fawr neb ohonom yn ddu ein crwyn – heblaw am Abdul a’i deulu yn y bwyty lawr yr hewl. Ni, y siaradwyr Cymraeg, yw’r lleiafrif ethnig sydd dan orthrwm yma. Beth sydd gan hyn oll i’w wneud â mi?”

“Taw! Ac agor dy lygaid”, meddai’r angel. Ac yn sydyn fe atgoffodd yr angylion fi o fyrdd o bethau:

  • Fy mod i’n hoff o de a choffi a’m bod yn cymryd siwgr i’w melysu.
  • Bod cotwm yn gyfforddus i’w wisgo.
  • Bod yna gangen o’n teulu yn Sir Fôn sy’n cefnogi Everton am bod ein cyndadau wedi cael gwaith yn nociau Lerpwl.
  • Bod teulu’r wraig wedi ymfudo o Swydd Gaerhirfryn i gwm glofaol yn y De ar ôl i’r ffatrïoedd cotwm yno gau.
  • Bod fy hen-fodryb gapelgar, heddwch i’w llwch, yn casglu elusen cenhadaeth yn flynyddol ‘at y blacs’.
  • Fy mod i wedi canu mewn capel am ‘gannu Ethiop du yn wyn’.
  • Bod yna gasgliad o fathodynnau yn yr atig – amryfal gymeriadau croen-ddu Robertson’s jam.
  • Fy mod i wedi gwneud jôc rhywdro am Gymru du-Gymraeg.
  • Fy mod i wedi bod yn araf iawn yn herio hiliaeth ffwrdd-â-hi ambell ‘gymeriad’ o gymydog.
  • Fy mod i’n dueddol o wfftio rapwyr.
  • Bod gen i berthynas yn America sy’n llawer rhy barod i ladd ar dlodion du ei neighbourhoods
  • Nad ydw i erioed wedi cydweithio â pherson croenddu.
  • Nad ydw i’n adnabod unrhyw berson du sy’n ymwneud â chapel, cyfundeb nac enwad.
  • Bod y syniad wedi croesi fy meddwl pa ddiwrnod, am eiliad, bod bywydau pawb yn bwysig.
  • Fy mod yn ddyn gwyn o’r dosbarth canol ac yn freintiedig fy myd.

Ac meddai’r angylion drachefn, yn un côr, “Ar ôl i ti agor dy lygaid, mae’r Penllywydd eisiau i ti agor dy galon hefyd”.

Diflannodd yr angylion a chafwyd goleuni mawr.

Cofiwch ein bod yn dal i wahodd cyfraniadau ariannol tuag at yr Apêl i hyrwyddo gwaith Cristnogaeth 21. Hyd yn hyn, rydym wedi codi’n agos at £2,000 ond mae angen rhagor i gynnal y wefan a sicrhau parhad y llwyfan i drafodaeth agored a blaengar ar Gristnogaeth gyfoes. Mae’r manylion ar sut i gyfrannu ar gael ar y wefan. Diolch yn fawr.