E-fwletin 5 Ebrill, 2020

Beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi (Galatiaid 6.7b, BCN)

Wrth sôn am helynt unigolyn, fe all yr adnod hon gael ei chamddefnyddio’n greulon. Dyna pam, mae’n debyg, fod Beibl.net yn newid y trosiad yn llwyr.

Ond ar y Sul y Blodau di-flodau hwn, mae ynddi wirionedd am ein cymdeithas a’n byd.

  • Gwnaethom hau amaeth sydd yn gosod anifeiliaid mewn cewyll er mwyn i ni gael bwyd blasus a rhad. Rydym yn medi lledaenu feirws o’r naill anifail i’r llall ac yna i ni. (A pheidied neb â phwyntio bys hunangyfiawn at Tseina – cofiwch BSE a CJD yma yng Nghymru).
  • Buom yn hau’r hawl i deithio i ble bynnag y dymunwn, pryd bynnag y dymunwn, mor rhad ag sy’n bosibl. Rydym yn medi lledaeniad byd-eang afiechyd a fyddai yn y gorffennol wedi aros yn lleol, a mewnlifiad o bobl i’w hail gartrefi yng Nghymru gan eu bod yn credu fod ganddynt hawl i fod yma a lledaenu’r feirws.
  • Rydym wedi hau awydd am ddewis o fwyd o bob rhan o’r byd drwy’r flwyddyn. Rydym yn medi sefyllfa lle na allwn fwydo ein hunain – unigolion yn methu â choginio a phrinder rhai sy’n fodlon gweithio ar y tir. Bu’r Times fore Sadwrn yn nodi nad yn unig gor-brynu sy’n golygu fod prinder blawd, ond cau porthladdoedd, gan ein bod yn mewnforio’r rhan fwyaf ohono. Ac mae’n gwleidyddion yn grediniol na fyddem yn derbyn dogni bwyd.
  • Rydym wedi hau cyfreithloni lladd babanod anghyfleus yn y groth, a chaniatáu erthylu baban anabl hyd at yr eiliadau can ei eni. Rydym yn medi llythyron gan feddygfa yng Nghymru yn gofyn i oedolion anabl a sâl ‘wirfoddoli’ i beidio â chael eu trin, a chyfarwyddyd gan y BMA ynghylch pwy sydd â’r hawl i fyw.

A beth sydd gan Iesu i’w ddweud wrth iddo agosáu at y ddinas ddi-dyrfa heddiw?

O! Jerwsalem, Jerwsalem! [Caerdydd, Caernarfon, Cwmsgwt…] Y ddinas sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r negeswyr mae Duw’n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb! Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml – mae’n wag! (Mathew 23.37-38, Beibl.net)

Ac mae’n esgyn ar gefn ei asyn ac yn marchogaeth i’r ddinas i wynebu ein tynged.

Mae Cristnogaeth 21 yn rhoi cyfle i ni herio a chwestiynu credoau traddodiadol y ffydd. Ond y Sul Palmwydd hwn ni fu erioed gymaint o angen i ni glywed am dorri gwawr Sul y Pasg a chanfod, er gwaethaf popeth, fod y bedd yn wag.

Cofiwn felly mai Tomos ‘yr amheuwr’ oedd y disgybl ddywedodd wrth y lleill ym Methania, dwy filltir y tu allan i’r ddinas, Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e! (Ioan 11.15, Beibl.net).

Felly, gadewch i ninnau fentro (yn rhithiol, wrth gwrs) i’r ddinas heddiw. A gweddïwn am a ddaw pan fydd y wawr yn torri ymhen yr wythnos.

Cofiwch am y recordiad arbennig o ddarlleniadau i’n tywys o Sul y Blodau drwy’r Wythnos Fawr at Sul y Pasg. Medrwch wrando ar y cyfan ar un tro neu rwygo pob adran ar MP3 i wrando arnyn nhw ar unrhyw ddyfais, unrhyw bryd. ‘Yr Wythnos Fawr mewn Hanner Awr’ ac rydym yn diolch i Karen Owen amdano. Ewch i’r Adran Newyddion neu ddilyn y linc YMA