E-fwletin 7 Hydref 2018

Myfi, Tydi, Hyhi

Yn ddiweddar bu penawdau’r newyddion o America yn llawn o sôn am Bill Cosby, Brett Kavanaugh a Harvey Weinstein. O ganlyniad mae’r hashnod #MeToo yn parhau’n bresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol. Beth bynnag fo manylion yr achosion unigol hyn (rhaid aros am broses gyfreithiol cyn dod i farn, wrth reswm) mae’n amlwg o’r sylwebu sydd ar yr achosion bod yr ymdeimlad o hawl a theilyngdod a berthyn i gynifer o wrywod gwyn America yn nodwedd gyffredin o’r diwylliant yno.

Nôl yng Nghymru fach mae ein pleidiau gwleidyddol eto’n ffafrio dynion gwyn mewn siwtiau tywyll ar draul eu menywod. Ac mae un ohonyn nhw’n wynebu cyhuddiad o gyhoeddi fideo rhywiaethol, hyd yn oed. Bydd rhaid aros i weld a fydd aelodau’r Blaid Lafur yn cicio yn erbyn y tresi yn hyn o beth. Oes, serch degawdau o ymgyrchu am hawliau cyfartal i fenywod, mae gan y batriarchaeth afael cadarn iawn ar ddiwylliant y Gorllewin – fel nifer o ddiwylliannau eraill.

Un o’r llyfrau dw i’n edrych ymlaen at ei ddarllen dros fisoedd yr hydref yw cyfrol Arfon Jones, ‘Y Beibl ar… Ferched’ (Cyhoeddiadau’r Gair: 2018). Dïau fod Cristnogaeth wedi chwarae rhan allweddol wrth osod seiliau cadarn i’r anghydraddoldeb mae menywod wedi ei wynebu dros y canrifoedd – o ran trefn eglwysig, diwinyddiaeth, terminoleg ac arferion cymdeithasol. Tybed a yw hi’n hen bryd i ni fynd i’r afael a’r rôl orthrymus honno – a hynny o ddifri?

Un cyfrwng sy’n cynnal y batriarchiaeth yn ein cylchoedd crefyddol yw ein terminoleg, wrth gwrs, yn enwedig y geiriau ry’n ni’n eu defnyddio i gyfeirio at Dduw a’r teitlau a roddwn i Iesu. Mae’n ddisgwyliedig eu bod nhw’n eiriau gwrywaidd yn hanesyddol, gan fod hynny’n adlewyrchu gwerthoedd anghydradd y canrifoedd, ynghyd â’r gwahaniaethu a fu ar rolau cymdeithasol gwrywod a menywod. Maen nhw hefyd i raddau helaeth yn adlewyrchu trefn wleidyddol wrywaidd y cyfnodau Beiblaidd – cyfnodau o imperialaeth ar draws y Cilgant Ffrwythlon, cyfnod y Frenhiniaeth Iddewig a chyfnod Ymerodraeth Rhufain. Brenin, Tywysog, Arglwydd, gorsedd, llys a theyrnas – dyna’r ffurfiau cyffredin ry’n parhau i’w defnyddio yn ein gweddïau, ein salmau, ein hemynau a’n pregethau.

Gwir fod Hebraeg yr Hen Destament yn cynnig rhai amrywiadau niwtral i ni. O ddarllen y geiriau Hebraeg gwreiddiol a ddefnyddir i ddisgrifio Duw maen nhw’n cyfeirio’n aml at natur drosgynnol Duw – at Dduw Hollalluog, at Dduw Hollbresennol, at Dduw Tragwyddol; neu at briodoleddau Duw – Duw Heddwch a Thangnefedd, Duw Cyfiawnder, Duw’r Creawdwr, Duw’r Cynhaliwr ac ati. Maen nhw weithiau’n eiriau lluosog hefyd!

Efallai y byddai i ni arddel mwy ar y ffurfiau hynny yn un ateb ond tybed nad oes angen i ni ddechrau bathu a defnyddio termau newydd eraill hefyd – termau sy’n adlewyrchu’n realiti cyfoes, termau sy’n ystyrlon i bobl heddiw? Mae ‘Penllywydd’ Elfed yn le da i ddechrau efallai. (Arlywydd ddim cystal efallai erbyn hyn!) Arweinydd? Tywysydd? Cynhyrchydd? Oes gennych chi awgrymiadau eraill?

Ond beth am glywed llai am frenhinoedd a thywysogion a theyrnasoedd? Does dim fawr o gydraddoldeb yn y cyfeiriad hwnnw.