Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?

Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?

Enw llyfr dylanwadol Naomi Klein am newid hinsawdd yw This Changes Everything. Ei dadl yw mai pethau ymylol yw llawer o’r materion sy’n ein blino – lefelau trethi, y gwasanaethau iechyd a gofal, arfau neu ynni niwclear – a byddai’r un peth yn wir am faterion sydd wedi codi ers sgrifennu’r llyfr, megis Prymadael (Brexit) neu gamweddau Donald Trump. Os ydym am achub y blaned, meddai, rhaid inni newid ein ffordd o fyw yn sylfaenol. Mae is-deitl y llyfr yn awgrymu’r llwybr sydd ganddi mewn golwg – Capitalism vs the Climate.

Ni allaf lai nag argymell y llyfr. Mae’n ddadansoddiad cignoeth o sut fyd all wynebu ein plant a’n hwyrion os na weithredwn ni ar frys i atal newid hinsawdd. Gwn am nifer o fewn yr eglwysi sydd wedi ei ddarllen ac wedi dweud fod y llyfr wedi newid popeth – eu blaenoriaethau personol o ran gwario, teithio, gwyliau, pregethu ac ymgyrchu. Mae cread Duw ei hun yn cael ei beryglu bob dydd yr ydym yn parhau ar hyd ein llwybr presennol.

Y broblem wedyn yw sut i newid. Rydw i’n teimlo’n anesmwyth wrth weld arweinyddion y byd yn hedfan mewn awyrennau (sy’n newid yr hinsawdd) a modurgad o geir (sy’n newid yr hinsawdd) i ganolfan gynadledda i fwyta cig (sy’n newid yr hinsawdd) a thrafod y mater. Mae’r pwysau arnynt i gynnal y drefn fel ag y mae hyd yn oed wrth drafod sut i newid yn aruthrol. Yn wir, mae dadansoddiad Naomi Klein yn rhag-weld dyrchafu’r math o wleidyddiaeth mae Donald Trump yn ei nodweddu – mae e’n rhan o frwydro dros gyfalafiaeth yn erbyn lladmeryddion yr hinsawdd. Mae Klein wedi sgrifennu’n huawdl am hyn yn ei llyfr No is not Enough: Resisting the Shock Politics and Winning the World we Need.

Hawdd pwyntio bys at bobl bwerus neu at wledydd eraill. Ond beth am Gymru fach? Wrth i mi sgrifennu’r erthygl hon, rwy hefyd yn tynnu at ei gilydd ymateb eglwysi Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Brexit a’n Tir: Cymorth i Ffermwyr Cymru ar ôl Brexit. Mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn wedi bod yn gwrando yn arbennig ar lais ffermwyr a thrigolion cefn gwlad, trwy gyfarfod agored yn Llanbedr Pont Steffan, trwy’r Ymgynghorwyr Cefn Gwlad a gyflogir gan rai enwadau, trwy bapurau briffio a dderbyniwyd gennym, a thrwy gyfarfodydd enwadol. Gwyddom fod cryfder traddodiadol yr enwadau Cymraeg yn enwedig yn gorwedd yng nghefn gwlad Cymru.

Y llais ddaw drwy hyn oll yn gryfaf yw’r llais sy’n pryderu am ddyfodol hynny sydd ar ôl o gymdeithas draddodiadol cefn gwlad, ac yn credu mai magu da byw a defaid sy’n gefn i’r gymdeithas honno. Yn ystod ymgyrch y refferendwm addawyd gan ladermyddion gadael yr Undeb Ewropeaidd na fyddai dimai goch yn cael ei cholli gan ffermwyr trwy adael, ac yn wir y gallai amaeth Cymru fod ar ei ennill. Nid pob ffermwr gredodd yr addewid hwnnw ar y pryd, ond mae llawer ohonynt yn pwyso arno nawr.

Mae union ddyraniad taliadau ffermio’r Undeb Ewropeaidd wedi amrywio dros y blynyddoedd, ac nid dyma’r lle i geisio esbonio’r holl newidiadau. Bydd darllenwyr hŷn fel finnau yn cofio’r “mynydd menyn” a’r “llyn gwin” a grëwyd gan orgynhyrchu oherwydd y ffordd y pennwyd y taliadau. Cyflwynwyd cwotâu llaeth i gyfyngu ar gynhyrchu yn y maes hwnnw, a’u dileu drachefn yn 2005.

Cafodd y drefn effaith fawr ar dirwedd Cymru.[1] Does dim byd ‘naturiol’ am nifer presennol y defaid yng Nghymru. Dyblodd o fewn ychydig yn yr 1970au ar ôl i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, o dan ddylanwad taliadau’r Polisi Amaeth Cyffredin. Roedd amaeth Cymru yn y gorffennol yn llawer mwy cytbwys rhwng anifeiliaid a chnydau. Mae Carwyn Graves newydd gyhoeddi llyfr hynod ddiddorol, Afalau Cymru, yn dangos sut y bu tyfu ffrwythau yn rhan bwysig o gynnyrch bwyd Cymru ymhell i’r ugeinfed ganrif. (Gyda llaw, mae’n dipyn o ddirgelwch i mi pam mae cynifer o ymgyrchwyr amgylcheddol mor bleidiol i’r Undeb Ewropeaidd, a pholisïau’r Undeb hwnnw wedi bod yn gyfrifol am gymaint o ddifrod. Diddorol nodi i’r Farwnes Jenny Jones, unig aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Arglwyddi, weld pethau braidd yn wahanol).

Erbyn hyn, mae amaeth yn cyfrannu tua 13% o allyriadau tŷ gwydr Cymru, y rhan helaethaf oherwydd ffermio anifeiliaid. Mae nwy’r gors (methane) a gynhyrchir yn naturiol gan yr anifeiliaid tuag 20 gwaith yn fwy grymus o ran cynhesu’r blaned na charbon deucosid. Os yw newid hinsawdd yn newid popeth, yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, dyma ein cyfle i newid hyn.

Awgrym Llywodraeth Cymru (a Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran Lloegr) yw talu ffermwyr yn y dyfodol nid fesul anifail na hectar, ond i wneud pethau sydd er budd y cyhoedd, gan gynnwys trechu cynhesu byd-eang, megis gwarchod ac ehangu ‘pydewau carbon’ sy’n amsugno carbon o’r amgylchyd, tyfu cynydau ynni, plannu coed, creu trydan adnewyddol (gan ddefnyddio’r afonydd a nentydd yn ogystal â’r gwynt ar eu tir), a hefyd gynlluniau gwrth-lifogydd, a helpu bywyd gwyllt i addasu i bwysau newid hinsawdd.

Mae aelodau cefn gwlad ein heglwysi at ei gilydd yn cefnogi rhywfaint o symud i’r cyfeiriad hwnnw – ond yn gofidio na fydd “rheoli tir” yn cyflogi hanner cymaint o bobl ag amaethu da byw, a’u bod heb y sgiliau angenrheidiol i ymdopi â’r newid. Rhaid cofio hefyd fod deiliaid y diwydiant amaeth eisoes yn heneiddio – 60 yw cyfartaledd oedran perchennog ffarm yng Nghymru erbyn hyn – a gwyddom nad yw’r rhai ohonom sy’n hŷn yn ei chael hi mor rhwydd i wneud newidiadau mawr â’r rhai iau. Mae hi’n anodd dychmygu cefn gwlad heb ŵyn a gwartheg duon Cymreig, a heb y mart yn fan cyfarfod i’r ffermwyr a’r cyflenwyr. Onid tranc terfynol ein ffordd o fyw fyddai hynny?

Ond mae newid hinsawdd yn newid popeth, ac fe fydd yn gorfodi newid ar amaeth Cymru. Roedd ffermwyr llaeth yn cael problemau eleni yn ystod y cyfnod poeth a sych rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf. Mae’r gwyddonwyr wedi bod yn dweud ers tipyn fod hafau poeth iawn yn debygol o ddigwydd bob yn ail flwyddyn erbyn 2040. Tyfu glaswellt i fwydo anifeiliaid yw cryfder presennol ffermio Cymru, ond fe ddaw hynny’n anos. Yn ogystal â phroblemau newydd, mae hynny’n golygu cyfleoedd newydd. Gyda chynhesu yn yr hinsawdd fe all ffermio yng Nghymru fod yn ddiwydiant hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol – ac yn sicr gellid ystyried adfer y tyfu a fu ar ffrwythau, llysiau a grawn yn y gorffennol a’i ehangu ymhellach. Fe allai ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd, ond mathau mwy amrywiol. Oni allai hynny olygu nid dinistrio diwylliant cefn gwlad ond adfer rhannau o’r diwylliant hwnnw a gollwyd yn yr ugeinfed ganrif? Meddylier am y mathau o afalau y mae Carwyn Graves wedi eu darganfod, ag enwau cynhenid Gymraeg, a aeth ar ddifancoll ond sydd erbyn hyn yn cael eu hadfer ym Mherllan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne ac ym Mherllan Afal Cymru yn Aberystwyth.

Ac fe all y daw pwysau am newid o gyfeiriad gwahanol hefyd. Cyhoeddodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Amaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, iddo benodi’r Arglwydd Bew i ystyried sut i ddosrannu arian ar gyfer amaeth rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Nid oes sôn yng nghyhoeddiad Gove am sicrhau “pob dimai goch” i Gymru yn y dyfodol.

Fe fydd ymateb Cytûn i Brexit a’n Tir, wrth gwrs, yn adlewyrchu yn gytbwys bryderon ein haelodau am yr hinsawdd ac am gefn gwlad. Rhyw eistedd ar y ffens fyddwn ni ar rai o’r pethau hyn, gan na allaf hawlio o gwbl fod eglwysi Cymru eto’n credu fod newid hinsawdd yn golygu newid popeth. Ond mae ein heglwysi yn dechrau ar y gwaith. Mae enwadau CWM (Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang) yng Nghymru (Presbyteriaid, Annibynwyr, URC a’r Gynghrair Gynulleidfaol) wedi bod ynglŷn â chynllun i geisio pensaernïaeth newydd i economi a threfn ariannol y byd, i gwrdd â her yr hinsawdd yn ogystal â her tlodi byd-eang. Mae’r Annibynwyr yn paratoi pecyn amgylcheddol Cymraeg ar gyfer eu heglwysi – a fydd yn ddefnyddiol i eglwysi eraill hefyd, gobeithio. Mae nifer o enwadau yn bachu ar y syniad o Dymor y Cread, yn cwmpasu wythnosau’r cyrddau diolchgarwch ym Medi a Hydref, i ledu’r diolch am fwyd yn unig i’r cread cyfan a’n cyfrifoldeb amdano. Cyflwynwyd y syniad ar Yr Oedfa ar Radio Cymru hefyd.

I ddatrys problemau’r byd, rhaid dechrau wrth ein traed. Ond wrth ein traed mae ein tir, ein hetifeddiaeth a’n calonnau. Mae’n anodd. Ond os yw newid hinsawdd yn newid popeth, yna rhaid wrth yr hyn mae Naomi Klein yn ei alw’n Beautiful Solutions. Clywsom am rai o’r rheiny yn ein cyfarfod cyhoeddus, yn enwedig gan Grŵp Paramaethu Llanbedr Pont Steffan. Nid yw newid yn hawdd i ffermwyr Cymru nac i ni sy’n mwynhau bwyta cig, teithio mewn awyrennau a byw yn fras. Ond os yw newid hinsawdd yn newid popeth, rhaid iddo ein newid ninnau hefyd. Onid dyna calon y ffydd Gristnogol erioed?

Gethin Rhys yw Swyddog Polisi Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a ysgrifennwyd ar 27 Hydref 2018.

[1] Rwy’n ddiolchgar iawn i Huw Brodie am gyfrannu nifer o syniadau at y rhan o’r erthygl sy’n dilyn. Fy nghyfrifoldeb i yw’r defnydd a wnes o’i gyfraniad.