Trefnu Cymunedol Cymru – dathlu chwarter canrif

Ddechrau’r mis cynhaliwyd cyfarfod arbennig iawn – efo dros 150 o bobl ar Zoom i ddathlu chwarter canrif o waith TCC (Trefnu Cymunedol Cymru). Er mai yn siroedd Wrecsam, Fflint a Dinbych y mae’r gwaith yn digwydd yn bennaf, mae ei effeithiau wedi’u gweld ledled Cymru (e.e. Cymru Masnach Deg, a’r ymgyrch ddiweddar Dysgu nid Llwgu sydd wedi sicrhau ymrwymiad gan Senedd Cymru i gynyddu’r lwfans prydau ysgol am ddim er mwyn galluogi plant i brynu brecwast a chinio yn yr ysgol bob dydd). Yn y cyfarfod dathlu, yng nghwmni Mark Drakeford, dyma glywed ychydig o hanes sefydlu TCC gan Nia Higginbotham, y sylfaenydd:

Rydyn ni yma o hyd! Llongyfarchiadau i bawb fu ynglŷn â TCC.

Fedra i’m credu bod 25 mlynedd ers sefydlu TCC pryd y daeth 17 o grwpiau at ei gilydd i ffurfio’r mudiad trefnu cymunedol cyntaf yng Nghymru. Rydyn ni’n dathlu mai ni yw’r mudiad trefnu cymunedol hynaf sy’n parhau i weithio yn y Deyrnas Unedig! Rydyn ni’n sefyll mewn traddodiad cryf o drefnu er sicrhau cyfiawnder yng Nghymru – a dathlwn hynny gyda balchder.

Bum mlynedd ar hugain mlynedd yn ôl roedd pobl yn synnu pan oeddwn yn eu ffonio’n ddirybudd i ofyn am gyfarfod a sgwrs – i ddysgu am eu profiad a chlywed eu stori. Roeddwn eisiau gwybod a oedd gennym weledigaeth ddigon tebyg ar gyfer ein cymunedau i roi sail i ni gydweithio. Dyna beth wnaeth fy nenu at y gwaith o drefnu yn y lle cyntaf. Siarad â’n gilydd sydd wrth wraidd trefnu cymunedol.

Yn ein lansiad fe ddywedsom ein bod eisiau fframwaith newydd ar gyfer busnes cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â gymaint o rym ac awdurdod dros ein cymunedau yn atebol i’r cymunedau hynny, yn bobl etholedig a busnesau. Rhaid oedd i ninnau greu grŵp pwerus oedd yn deillio o lawr gwlad. Dywedwyd y byddem yn adeiladu mudiad o rym perthynol – syniad oedd yn anghyffyrddus i sawl un bryd hynny ac sy’n parhau felly! Ers hynny rydym wedi canfod bod gweithio efo’n gilydd yn rhoi llais i gymunedau di-rym, Mae’n ffordd effeithiol o weithio ac yn rymus. Gwyddom erbyn hyn pa mor beryglus yw hi i gymunedau deimlo’n ddi-rym.

Adeiladwyd grym drwy dynnu grwpiau at ei gilydd, oherwydd roeddem am i’n harweinwyr fod wedi eu gwreiddio yn y gymuned. Rydym yn penderfynu ar y cyd pa faterion fydd yn cael sylw TCC – felly, mae dy fater di’n dod yn fater i minnau hefyd. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein gilydd.

Adeiladwyd grym drwy ymchwilio i’r materion a sicrhau ein bod yn dweud y gwir; ar gyfnodau allweddol, fe wrthodwyd defnyddio tactegau brawychu a fyddai o bosibl wedi arwain at fuddugoliaethau sydyn. Yn anffodus, mae hyn yn rhywbeth sydd ar goll yn ein byd heddiw. Roeddem eisiau – ac rydym yn dal eisiau – adeiladu grym ar sail gwerthoedd, gwirionedd, bod yn gynhwysol, cydraddoldeb, a pharch tuag at bawb.

Gweithio allan sut i gyd-fyw mewn heddwch fel cymuned ydi gwleidyddiaeth yn y bon. Deialog o ddifrif er mwyn ein galluogi i weithredu efo’n gilydd dros gyfiawnder. Mae canfod bod gennym werthoedd cryf yn hanfodol yn y byd toredig sy’n ein hwynebu heddiw, ac ochr yn ochr â hynny rhaid bod yn barod i gyfaddawdu efo rhai sydd o bosibl â safbwyntiau gwahanol i ni. Cyfaddawdu cyfiawn, fel petai.

Roedd y cyfle i dynnu grwpiau gwahanol nad oeddynt fel arfer yn cydweithio at ei gilydd yn gyffrous. Canfod bod ein gwerthoedd a’n consýrn dros y byd y bydd ein plant yn ei etifeddu yn rhagori ar fuddion cyfyng personol. Canfod ein bod yn rhannu budd cyffredin dros ein cymunedau, hyd yn oed os oeddem yn anghytuno ar ambell beth. Roedd hyn yn rhoi grym i ni ar y cyd – cryfder mewn gwahaniaeth a chydweithio.

I mi, prif bwrpas TCC ydi galluogi unrhyw un/pawb i fod yn arweinydd cymunedol. Mae hyfforddiant ffurfiol TCC yn rhyfeddol, ond mae’r prif hyfforddiant yn digwydd yn y gweithredu. Pobl leol yn canfod ac yn defnyddio’u grym i gael llais ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Pobl yn hogi eu lleisiau!

Dros y blynyddoedd mae arweinwyr TCC wedi gweithio ar faterion bach a mawr. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi herio a chydweithio efo cynghorwyr, ASau San Steffan a Chaerdydd, penaethiaid heddlu, undebau, Asiantaeth yr Amgylchedd, perchnogion ffatri a phobl y byd ariannol. Yn y gweithredu rydym wedi helpu ein gilydd i fod yn arweinwyr effeithiol yn y gofod cyhoeddus, gan sicrhau bod pobl yn eu gweld eu hunain fel arweinwyr.

Heddiw, mae arnom angen arweinwyr cymunedol i rannu eu stori ac i gydweithio dros newid. Mae’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau’n anferth. Fisoedd i mewn i bandemig byd-eang, mae hiliaeth systemaidd yn treiddio drwy ein cymdeithas; rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd, tlodi ac anghydraddoldeb cynyddol a llawer iawn mwy. Mae angen gwleidyddiaeth gynhwysol, cymuned groesawgar, arweinyddiaeth eirwir, dinasyddion effro a gweithgar. Mae angen i ni ddatblygu arweinwyr brwd a gwybodus i weithio ar draws y gwahaniaethau, arweinwyr sydd â gwerthoedd clir ac sy’n dal awdurdodau – a’i gilydd – yn atebol. Rydyn ni angen TCC!

Nia Higginbotham