Teyrnged i John Heywood Thomas

Rhidian Griffiths sy’n pwyso a mesur y gyfrol Dirfodaeth, Cristnogaeth a’r Bywyd Da: ysgrifau John Heywood Thomas a olygwyd gan E. Gwynn Matthews a D. Densil Morgan (Astudiaethau Athronyddol; 5) (Y Lolfa, 2016). ISBN 978-1-78461-268-9. £6.99

Cyfrol Deyrnged i John Heywood Thomas

Adolygiad Rhidian Griffiths

Gan iddo dreulio ei yrfa academaidd y tu allan i Gymru, efallai nad yw enw’r Athro John Heywood Thomas mor adnabyddus i leygwyr ag y dylai fod. Eto i gyd, dyma Gymro Cymraeg sy’n haeddu ei gyfrif yn un o ddiwinyddion athronyddol praffaf ei gyfnod, a phriodol iawn yw casglu ynghyd rai o’i ysgrifau athronyddol a diwinyddol yn deyrnged iddo ym mlwyddyn ei ben blwydd yn 90 oed.

heywood-thomas-john1-e1440687272579

John Heywood Thomas

Yn frodor o Lwynhendy, fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanelli, Coleg y Brifysgol Aberystwyth, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin, Prifysgol Caergrawnt, a’r Union Theological Seminary yn Efrog Newydd, lle bu’n astudio wrth draed yr enwog Paul Tillich a Reinhold Niebuhr. Bu’n dysgu ym Mhrifysgolion Durham, Manceinion a Nottingham, a chyhoeddodd nifer o lyfrau pwysig a dylanwadol, gan gynnwys astudiaethau arloesol ar Søren Kierkegaard, yr athronydd o Ddenmarc. Er i’w yrfa fynd ag ef i brifysgolion yn Lloegr, cadwodd ei gariad at Gymru a’r Gymraeg, gan gyhoeddi yn ei famiaith pan gâi gyfle, ac wedi ymddeol, dychwelodd i Gymru i fyw, ar Ynys Môn i ddechrau a bellach ym Mro Morgannwg.

Ceir cyflwyniad byr gan Densil Morgan sy’n amlinellu gyrfa a chyfraniad John Heywood Thomas, a chwech o ysgrifau a luniwyd yn wreiddiol yn Gymraeg. Mae rhai ohonynt wedi ymddangos o’r blaen, yn Efrydiau Athronyddol, Diwinyddiaeth a’r Traethodydd, a’r lleill heb weld golau dydd tan nawr. Ac mae’r teitl yn adlewyrchu ystod y themâu a geir o fewn y gyfrol, lle y trafodir syniadau dirfodol am fywyd yn ogystal â’r meddwl Cristnogol.

dirfodaethFel lleygwr nad yw’n athronydd nac yn ddiwinydd, rhaid dweud imi gael blas ar yr ysgrifau hyn. Er bod eu harddull yn academaidd, nid ydynt yn rhy hir nac yn rhy drwm, ac mae’r iaith a’r ymresymu yn glir ac yn gadarn. Yn yr ysgrif gyntaf, ‘Sut mae byw y bywyd da? Yr ateb dirfodol’, er enghraifft, ceir ymdriniaeth loyw â syniadaeth Heidegger a Sartre sy’n pwysleisio gwerth y cwestiwn ‘Sut mae byw y bywyd da?’, pa ateb bynnag a roddwn iddo. Agorir yr ysgrif ar ‘Syniadau dirfodol am farwolaeth’, ysgrif heb ei chyhoeddi o’r blaen sy’n trafod ac yn ymwrthod â syniadau Heidegger ar y pwnc, gyda brawddeg ogleisiol sy’n tynnu sylw’r darllenydd yn syth: ‘Er nad gwlad o grefyddwyr yw Cymru bellach, yn rhyfedd iawn ymddengys fod y mwyafrif yn credu mewn anfarwoldeb o hyd’ (t. 28). Ac wrth ddadlau bod ‘rhamantu marwolaeth yn dibrisio bywyd’ (t. 40) mae’r awdur yn galw sylw at berthnasedd y gred Gristnogol yn atgyfodiad y person. Dyma drafodaeth sy’n amserol iawn yn wyneb y ddadl gyfoes am gymorth i farw. Ceir hefyd ysgrif werthfawr ar agwedd ar athroniaeth Kierkegaard, sef ‘Kierkegaard ar grefydd fewnol’, sy’n dangos fel y mae Kierkegaard yn personoli ffydd o ran yr unigolyn ond hefyd yn pwysleisio perthynas yr unigolyn â gwrthrych ffydd, a’r cysylltiad agos rhwng y ddau: ‘Ni ŵyr neb sut i ddefnyddio’r gair “Duw” ond y sawl a gymer naid ffydd … dewis o ewyllys rydd yw ffydd, rhywbeth na ellir, yn rhinwedd y sefyllfa, ei gadarnhau yn hollol a thrwy brawf rhesymegol’ (t. 59–60). 

cyflwyniad1Amheuthun hefyd yw’r drafodaeth a geir yn yr ysgrif ‘Yr ymchwil am ddiwinyddiaeth fyd-eang’, sydd eto heb ei chyhoeddi o’r blaen, ac yn trafod syniadaeth Wilfred Cantwell Smith yn ei gyfrol Towards a World Theology. Dadl Heywood Thomas yw fod athrawiaeth y Drindod yn ganolog i ‘[d]dealltwriaeth drwyadl Gristnogol a Christ-ganolog o ddiwinyddiaeth y crefyddau’ (t. 81), a bod y term ‘datguddiad’ yn golygu llawer mwy na chrefydd. Diwedda’r drafodaeth hon trwy ddyfynnu barn Tillich mai ‘rhywbeth sy’n ymestyn y tu hwnt i grefydd yw’r ymchwil am ffydd fyd-eang’ (t. 83), geiriau sobreiddiol a pherthnasol iawn mewn byd sydd fel petai’n symud fwyfwy at ddiffiniadau caethiwus ac anoddefgar o safbwyntiau crefyddol. A’r un mor gyfoethog yw’r dadansoddiad a geir yn yr ysgrifau eraill: ‘Myth a symbol mewn crefydd’ a ‘Perthynas hanes crefydd ag athroniaeth crefydd’. Atodir rhestr ddefnyddiol o ysgrifau a phenodau Cymraeg John Heywood Thomas a ymddangosodd mewn cylchgronau rhwng 1954 a 2015.

Y mae’r gyfrol hon, sy’n adlewyrchu trigain mlynedd o astudio, dadansoddi ac ysgrifennu gan yr awdur, yn ychwanegiad teilwng i’r gyfres Astudiaethau Athronyddol. Mae’n deyrnged haeddiannol i’r gwrthrych, ac yn haeddu ei darllen a’i thrafod yn eang.

Diolch am Gymro Cymraeg sydd wedi gwneud cyfraniad mor arbennig yn ei faes.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.