Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

Sioned Webb ac Arfon Gwilym

Mae doniau cerddorol, ei gwaith fel cerddor, offerynwraig, fel hyfforddwraig ac fel cyn-Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias wedi gwneud Sioned Webb yn enw cyfarwydd a phoblogaidd yng Nghymru ers blynyddoedd erbyn hyn. Pan gysylltais â hi i drefnu’r sgwrs hon, yr oedd, fel tiwtor addysgol, yn ymarfer gydag Only Boys Aloud ym Mro Morgannwg. Ddechrau Mai yr oedd hi ac Arfon Gwilyn, ei gŵr, yn lansio Canu Haf (detholiad o garolau haf), a olygwyd ar y cyd ganddynt a chan Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Canu crefyddol a seciwlar yw carolau haf, wrth gwrs. Mae’r Sioned glasurol wrth ei bodd yn hyrwyddo a chanu gwerin hefyd. Yr oedd ar fin cychwyn ar daith yn Llydaw gydag Arfon ac wedi ei gwahodd, gyda’r gantores Siân James, i berfformio yn Uzbekistan ddiwedd Awst.

Wrth eich cyflwyno, Sioned – ac mae llawer mwy i’w ddweud am eich cyfraniad – mae’n siŵr ei fod yn wir dweud mai ‘cerddoriaeth yw eich bywyd’. Petaech yn dadlau fod cerddoriaeth yn rhagori ar unrhyw ffurf arall o gelfyddyd, sut fyddech yn amddiffyn honiad o’r fath?

Oherwydd bod cerddoriaeth yn ffynhonnell bywoliaeth i mi ac yn gyfrifol am dalu’r biliau, hawdd iawn yw mynd yn ddifater, yn or-bragmataidd, ac yn imiwn i brydferthwch a gogoniant y gelfyddyd. Mae ymarfer am oriau neu ddadansoddi darn o gerddoriaeth yn gallu glastwreiddio’r wefr ddisgwyliedig. Roedd adolygu’r opera Y Tŵr yn ddiweddar yn golygu na allwn ymlacio a gwrando’n gyfforddus fel lleygwraig ar y cynhyrchiad. Yn aml, mae darn o farddoniaeth neu ddarlun yn medru rhoi mwy o ysgytwad a phleser imi. Ond pan gaf i’r wefr honno sydd yn deillio o ddarn o gerddoriaeth, a hynny’n parhau i ddigwydd o bryd i’w gilydd ac yn gwbl annisgwyl, honno yw’r daranfollt sy’n fy ysgwyd i’m seiliau, sy’n profi mai cerddoriaeth, wedi’r cyfan, yw’r gelfyddyd sy’n treiddio’n ddyfnach na’r lleill.

Ar wahân i gerddoriaeth, pa ddylanwadau eraill fu ar eich bywyd? O gofio fod eich tad yn Weinidog (Y Parchedig Huw Jones, sydd bellach yn 97 oed) a’ch bod wedi eich magu yn y Bala, mae’n siŵr ei bod yn fagwrfa ddiwylliannol, gymdeithasol a chrefyddol, ac uniaith Gymraeg, wrth gwrs.

Roedd magwraeth y Bala yn gwbwl greiddiol i’r person wyf i heddiw. Dim ond plant y mans all uniaethu gyda’r arferion od a boncyrs sydd ynghlwm â thyfu i fyny yn y fath sefyllfa. Pwy ond plant y mans all ddyfeisio gêm fel ‘chwarae croeshoelio’ ar ddydd Gwener y Groglith oherwydd ein bod wedi’n siarsio i beidio â chrwydro a chadw twrw? Doedd y Parchedig ddim yn bles ein bod wedi tyllu’i lawnt nac wedi trio clymu’r gath i ddau ddarn o bren. Mae’n debyg fy mod wedi amsugno’r egwyddorion oedd yn perthyn i fy nhad – tegwch a chyfiawnder cymdeithasol, gwrthwynebu’r bwli ac ymgreinio i oresgynwyr, cariad at wlad, iaith a’r diwylliant Cymreig yn ei holl agweddau. Darllenais gyfrolau William Barclay pan oedd ffrindiau yn darllen Agatha Christie. Ar y llaw arall, roedd y ffug-barchusrwydd, yr ymdrech barhaus i drio byw fel y ‘dosbarth canol’ ar gyflog pitw yn fwrn, yn rhwystredigaeth ac yn ddiflastod llwyr ar adegau. Roedd gwylio fy ffrindiau’n mynd ar wyliau gyda’r ysgol i sgio yn embaras am nad oedden ni’n medru fforddio hynny. Ac mae’n gas gen i gymanfaoedd canu hyd y dydd heddiw. Un gytunais i i’w harwain erioed – a honno’n ddigon pell yn y Wladfa. Roedd y ffaith fod fy nhad yn ffigwr cyhoeddus ar wahân i’r pulpud hefyd yn ychwanegu at y cawl ar brydiau. Roedd ’na ffigurau cenedlaethol, yn ogystal ag ambell i drempyn crwydrol, yn dod drwy’r drysau, a’r naill a’r llall yn cael yr un croeso, ar orchymyn fy nhad. Ond gyda thyfu i fyny mewn lle fel y Bala, nid fy nhad fu’r unig ddylanwad o bell ffordd.

Soniwch am un neu ddau …

Bu nifer yn ddylanwadol. Roedd fy nhad bedydd, Islwyn Ffowc Elis, yn un o’r rhai oedd bob amser yn gwneud i mi feddwl y tu hwnt i fy milltir sgwar yn ysbrydol. Roedd gen i athrawon cerdd gwirioneddol ysbrydoledig: Catherine Evans, fy athrawes biano, a Bethan Smallwood, fy athrawes gerdd yn Ysgol y Berwyn. A fedra i ddim anghofio chwaith ddylanwadau’r ddau brifathro ges i: Meirion Jones yn yr ysgol gynradd ac Iwan Bryn Williams yn yr ysgol uwchradd – y naill yn dysgu englyn newydd inni bob wythnos a’r llall yn dangos fod modd cyfuno gwyddoniaeth, crefydd a barddoniaeth. Yn wleidyddol, fe gawsom gwmni, fel Aelwyd yr Urdd, Eifion Glyn a Delwyn Siôn. Efallai mai’r profiad mwya ysgytwol gefais i oedd pasiantau Capel Tegid, wedi’u seilio ar Basiant y Dioddefaint yn Oberammergau. A’r mwyaf dylanwadol efallai oedd fy ffrind mawr, Dafydd Owen, oedd yn gaplan ieuenctid yng Ngholeg y Bala.

Fel llawer iawn o’ch cenhedlaeth, a fu gwrthryfela neu siom, yn arbennig â’r dylanwad crefyddol?

Roedd gwrthryfela yn rhan o dyfu yn y mans, fel llawer o’m cyfoedion – blant i weinidogion – oherwydd mai dyna’r plant a berthyn i’r gweinidogion yr oedd fy nhad yn ymwneud â nhw. Roedd rhoi ‘sioc i rai o’r saint’ yn bleser digamsyniol ond hefyd yn aml yn brifo fy rhieni, ac roedd y ddau beth yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol: ‘Po tynna fo’r llinyn, cynta y tyrr.’ Mi ddylen ni fod wedi siarad fel teulu am y peth. Ond doedd teuluoedd fel f’un i ddim yn siarad yn aml am deimladau cuddiedig a chymhleth, ac mae fy nhad yn berson preifat ddychrynllyd. Pendilio felly: ysu am dorri’n rhydd oherwydd rhwystredigaeth ac edifarhau ar y llaw arall am wneud hynny a dwyn anfri arnaf fi fy hun a’r rhai oedd yn annwyl imi. Roeddwn i’n fyfyriwr mewn coleg cyn i mi sylweddoli’n llawn nad oedd pob epil i weinidog yn ymddwyn fel hyn.

A oedd y ‘gwrthryfel’ yn fwy teuluol (er eich bod yn canmol a gwerthfawrogi eich magwrfa) yn hytrach na gwrthryfela yn erbyn y gyfundrefn grefyddol neu hyd yn oed y ffydd Gristnogol?

Roedd hi’n wrthryfel adref ar brydiau wrth reswm. Diolch am amynedd fy rhieni, a diolch am fy mam oedd yn arddangos caredigrwydd a thŷ agored i bwy bynnag ddeuai drwy’r drysau. Roedd hi hefyd yn gwneud yn siŵr fy mod yn trio edrych ar ôl pethau pwysig bywyd ac yn rhoi joch go dda o ddireidi a chwaeth a normalrwydd i rôl gwraig gweinidog. Dwi’n ei chofio yn rhoi pry copyn plastig yng nghwpan de ambell weinidog ddeuai draw – y rhai fyddai’n gallu ymgodymu hefo’r ffasiwn hiwmor, wrth reswm.

 Er y llwyddiant fel cerddor, a fu cyfnod(au) anodd? Os bu, mae’n amlwg eich bod wedi dod trwy gyfnod felly heb amharu ar eich gyrfa. Beth oedd yn eich cynnal?

Mae nifer o bobol sy’n perfformio’n gyhoeddus yn gwisgo mwgwd. Er mod i’n aml yn farw o nerfusrwydd y tu mewn, mae’r persona cyhoeddus yn parhau i fod yr un. Delio â’r peth yn hytrach na’i drechu sydd raid yn aml. A does neb yn licio trafod y peth. Dwi wedi gorfod darllen llyfrau hunan-gymorth a thrafod gyda ffrindiau da neu gwnselydd yn aml. Mae iselder yn medru arddangos ei hun mewn sawl ffordd. Pan oedd pethau’n drech na fi yn fy ugeiniau, roedd ffrind arbennig iawn i mi yn rhoi joban i mi ar Ynys Iona. Roedd Dafydd Owen, gweithiwr ieuenctid yng Ngholeg y Bala, yn gaplan ar Ynys Iona yn yr Alban. Cefais fy nghyflwyno i biano’r abaty ac yno yr oeddwn fel pianydd am y tymor. Yn eironig, felly, yn y tawelwch a’r caredigrwydd hwnnw, bu cerddoriaeth yn chwarae’i rhan i ddod â fi yn ôl at fy nghoed.

A’i cerddoriaeth mewn eglwys yn arbennig? Beth am awyrgylch yr addoli yn Iona, a gweledigaeth y gymuned?

Roedd bod ar Iona yn falm i’r enaid. Roedd myfyrdod aesthetig a thawel yn adnewyddu’r ysbryd. Dois i adnabod Cristnogion o bedwar ban byd a phrofi cariad rhwng cenhedloedd a dulliau addoli amrywiol. Nid pulpud a phregeth oedd yr unig ffordd i grisialu’r ffydd bob tro. Dydw i erioed wedi bod ar encil Gristnogol i fyfyrio achos fod gen i ormod o ofn colli rheolaeth. Dwi’n rhy ymwybodol o rym a phŵer yr ysbrydol a’i effaith arna i, a does gen i ddim amser ar hyn o bryd i fynd drwy drawma mawr.

Dwi’n sylwi eich bod yn cyfrannu yn weddol aml i gyfrif Facebook Cristnogaeth 21. Beth sydd yn eich denu, neu, wrth gwrs, beth sydd yn codi eich gwrychyn ynglŷn â Christnogaeth 21 ?

Mae Cristnogaeth 21 yn delio gyda’r union bynciau yr ydw i fy hun yn medru uniaethu hefo nhw. ‘Dwi’n hoffi’ch Duw chi, ond nid eich Cristnogaeth,’ meddai Gandhi. Ond mae diffyg goddefgarwch o’r naill begwn diwinyddol a’r llall weithiau yn fy mhoeni – ac mae goddefgarwch yn rhywbeth dwi wedi gorfod ei goleddu yn fy mywyd fy hun. Yng nghyfri ar-lein Cristnogaeth 21, mae’n iawn bod yn amheuwr ar brydiau, mae’n iawn herio ffwndamentaliaeth adain dde, mae’n iawn cefnogi Diwinyddiaeth Rhyddhad, mae’n ddyletswydd ar Gristion i herio’r rhai sy’n difrïo ffrindiau hoyw. Ac, wrth gwrs, mae angen joch go hegar o hiwmor. Mae’n iawn i gracio jôc. Un o hoff straeon fy nhad oedd honno am un o’i aelodau gerddodd yn ôl troed Mary Jones i nôl ei Beibl i’r Bala. Roedd y Fari gyfoes wedi ymlâdd ac yn gorwedd yn fflat yn festri Capel Tegid. ‘Wel, dyna chi wedi cwblhau taith Mary Jones,’ meddI Dad. ‘Ie, yr hen bitch,’ meddai hithau.

 Mae rhai holiaduron selébs mewn cylchgronau yn cynnig dewis y dyddiau hyn. Dyma un i chi, Sioned, gan fod llawer o sôn am WW eleni: Pantycelyn ta Carolau Haf? A pham?

Mi ddylwn i ddweud ‘Canu Haf’ wrth gwrs, ond yn rhyfedd iawn fe ddigwyddodd rhywbeth wrth i mi wrth osod cerdd dant yr wythnos hon. Defnyddiais eiriau WW fel mesur templad i fardd oedd am gadw cyfansoddi’i geiriau hyd y funud olaf fel eu bod mor ffres â phosib. Defnyddiais emynau 516 a 517 yn Caneuon Ffydd. Wrth eu canu ar alaw newydd, cefais wedd newydd, ffres ar y geiriau a than deimlad dwfn. Mae’r dwyfol a’r tragwyddol yn dod yn bersonol gan WW: ‘Dwed i mi, ai fi oedd honno?’ Moeswersi, os o gwbwl, sydd mewn carolau haf. Mae llawer o hwyl seciwlar ynddynt hefyd, rhai’n sôn am gymheiriaid yn mynd i ‘hela cnau’ pan fo’r gwanwyn yn gryf. A does dim o’i le yn hynny. Ond mae’r ysbrydol bob amser i mi yn cael y llaw uchaf ar foeswersi a WW mor berthnasol ag erioed.

Llawer iawn o ddiolch am eich amser, Sioned, a chithau wrthi’n paratoi i gyfrannu i ŵyl Lorient a Gŵyl Uzbekistan. A diolch am sgwrs ddifyr a gonest. Rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i gyfrannu i’n bywyd fel cenedl am flynyddoedd eto – ac yn parhau i gyfrannu i Cristnogaeth 21 hefyd, wrth gwrs!