Rhown ei le teilwng i’r emyn mewn oedfa, ond …

Dr Neville Evans yn mynegi barn

“Rhown ei le teilwng i’r emyn mewn oedfa, ond …”

Ym mis Ionawr eleni, yn unol â hen arfer, anfonodd y Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, lythyr Blwyddyn Newydd at eglwysi’r Undeb. Ymhlith ei gyfarchion estynnodd her, sef i bob eglwys arloesi trwy wneud un peth newydd a gwahanol. Yn ôl Mr Rees, hyn sy raid neu farw.

Mewn ymateb, anfonais lythyr a gyhoeddwyd yn Y Tyst. Byrdwn fy sylwadau oedd y dylem, wrth arloesi, ganu llai ar emynau a darllen mwy arnynt; gall hyn olygu canu llai o emynau. Y gwir yw doeddwn i ddim ar y pryd, nac yn awr chwaith, yn credu y byddai’r mwyafrif o gynulleidfaoedd Cymru (o bob enwad) yn rhoi ystyriaeth i fy awgrym heb sôn am ei weithredu. Am ryw reswm cythreulig aethom yn eilunaddolwyr wrth orsedd y dôn – rhaid gwneud sŵn, ar draul darllen a meddwl yn ddwys am neges y geiriau.

Ystyriwch beth yw emyn. Onid unigolyn yn rhannu meddyliau ar lawer agwedd ar ein ffydd? Onid hynny hefyd yw pregeth? Pam, felly, yn ôl hen arfer, roi hanner awr i’r bregeth a dau neu dri munud i’r emyn? O ble daeth y patrwm caethiwus o gael pedwar emyn mewn oedfa? Ystyriwch petai’r emynwyr yn bresennol yn y cnawd yr oedfa. Y fath anghwrteisi ar eich rhan petaech yn diolch am y cyfraniad tri munud.

Pam pedwar emyn? Ai am reswm ‘seciwlar’ (nid crefyddol, bid siŵr) o gael rhaniadau hwylus, emyn i gael pawb i setlo, emyn i ddilyn darlleniad i nodi bwlch rhwng y darlleniad a’r weddi, emyn i adfer y ‘naws’ myfyrgar wedi ymyrraeth bydol y cyhoeddiadau a’r casgliad a pharatoi at y bregeth, emyn i orffen yn daclus.

Mae pawb sy’n arwain oedfaon yn gyfarwydd â’r cyfarchiad, ‘Mae amlinelliad o drefn gennym, ond mae pob croeso i chi amrywio fel y mynnoch’. Faint sy’n manteisio ar y cynnig? Bron dim, yn fy mhrofiad i. Pwy felly sy’n gyfrifol am y diffyg ystwythder wrth wynebu her Dyfrig Rees? Gweinidogion a phregethwyr gwadd (fel fi) neu ein cynulleidfaoedd, er iddynt ystumio parodrwydd i fod yn hyblyg.

Ond nac ofner; anfonwyd pandemig i’n gwaredu. Wrth fynd yn ôl i’n capeli rhaid talu sylw i gynghorion gwirfoddol (canllawiau) a gorfodol. Yn eu plith y mae gwaharddiad ar ganu emynau gan gynulleidfa!

Dylwn i fod yn falch ond nid felly, oherwydd nid galw am waharddiad llwyr ar ganu emynau wnes i, ond apelio am well ystyriaeth i le emyn mewn addoliad.

Yn ddiweddar, wrth drwsio papurau, des ar draws ysgrif yn Y Tyst (26 Medi 2019) gan y Parchedig John Lewis Jones (y diweddar erbyn hyn) yn mynegi fy apêl yn llawer mwy effeithiol na fi. Ymhlith sawl rheswm da dros ganu yn yr oedfa (gan nodi sawl cyfeiriad yn y Beibl), y mae Mr Jones yn dyfynnu Cynghorion John Wesley (y pregethwr mawr, sylwch, nid ei frawd Charles sy’n dal yn enwog am ei emynau). Dyma bum cyngor gan John:

  1. Canwch bob amser, hyd yn oed os oes gennych groes i’w chario.
  2. Canwch yn gryf ac nid fel petaech yn hanner cysgu. Peidiwch ag ofni eich llais eich hun.
  3. Er hynny canwch … yn ostyngedig. Peidiwch â bloeddio … uwchlaw pawb arall.
  4. Cadwch yr amseriad cywir. Peidiwch â bod o flaen y lleill nac ar eu hôl.
  5. Canwch yn ysbrydol, gyda golwg ar Dduw ym mhob brawddeg … Glynwch yn gadarn wrth ystyr yr hyn a ganwch.

Fedra i ddim dweud yn well. Dyna fy nadl dros arloesi trwy ddarllen emyn yn gyntaf ac yna ei ganu.