Golygyddol – René Girard, Cawr o Esboniwr

Cawr o Esboniwr – René Girard

Imitation and Scapegoats.

Mae Rene Girard (1923–2015) yn fyd-enwog am ei ddamcaniaeth am ymddygiad y ddynoliaeth. Nid yw’n awdur hawdd ei ddarllen. Ond am fod ei syniadau mor bellgyrhaeddol, mae nifer o gyhoeddiadau o gwmpas i helpu’r newyddian.

Ceir cyflwyniad eglur a dealladwy iawn mewn cyhoeddiad newydd gan Grove Books. Ysgrifennodd Simon J. Taylor bamffledyn – Imitation and Scapegoats: Pastoral Insights from the Work of René Girard – sy’n hynod o ddifyr a defnyddiol. O’i ddarllen â meddylfryd a phrofiad y Cymry, mae’n goleuo’n perthynas â’r byd mawr Seisnig ac ar werth a pherygl y traddodiad cystadlu eisteddfodol.

Gwnaed Girard yn aelod o’r Académie française yn 2015; roedd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Stanford.

Hanner can mlynedd yn ôl dechreuodd ddysgu llenyddiaeth Ffrangeg – am fod angen gwaith arno. Doedd e ddim hyd yn oed wedi darllen rhai o’r llyfrau yr oedd i fod i’w dysgu! Yna, wrth iddo ddarllen Stendhal a Proust a chadw ar y blaen i’w fyfyrwyr o un wers dechreuodd sylwi ar batrwm syml a phwerus. Dynwared yw’r hyn sy’n gyrru ymddygiad dynol. Mae stori dda’n dibynnu ar wrthdaro rhwng cymeriadau, ond wrth ddarllen fel petai’n groes graen i ragdybiaethau a ffasiwn gyfoes, dechreuodd sylweddoli nad gwahaniaethau sy’n gwneud i bobl anghytuno, ond y tebygrwydd rhyngddynt. Maen nhw eisiau’r un peth. Maen nhw’n ymladd am eu bod yn chwennych yr un pethau (bwyd, rhyw, cyfoeth, parch) ac am eu bod yn dymuno i bobl fod yn eiddigeddus ohonyn nhw. Mae gan bobl ryddid i ddewis, ond gyda’r rhyddid daw ansicrwydd a pherygl, ac mae pobl yn chwennych yr hyn y mae eraill hefyd yn ei chwennych. Dyna beth yw ystyr ymadrodd Girard ‘chwennych (mimesis) dynwaredol’. Dyna sy’n gyrru’r byd hysbysebu, a chynnydd economaidd a byd addysg hefyd. Ac am fod pobl yn dueddol o chwennych yr un pethau, mae hyn yn arwain yn syth at eiddigedd a chystadleuaeth, sy’n arwain at dyndra cymdeithasol a themâu’r nofelwyr mawr i gyd.

René Girard

Yn dilyn llwyddiant ei feirniadaeth lenyddol daeth awydd arno i ddeall sut roedd ei ddamcaniaeth yn egluro gorffennol y ddynoliaeth, ac aeth ati i astudio anthropoleg a mythau o bedwar ban y byd. Fe’i trawyd gan y pethau oedd yn gyffredin iddyn nhw – un myth ar ôl y llall yn sôn am drais y dorf. Dim ond un dyn all fod yn frenin, yr unigolyn y mae pawb yn cenfigennu wrtho. Ond mae pawb yn gallu ymuno i erlid un person (victim). Bydd cymunedau yn dod o hyd i undeb drwy ddinistrio un bwch dihangol. Damcaniaethodd Girard mai erlid y bwch dihangol sydd wrth wraidd y ddefod o aberthu, sail yr hen grefyddau. Yna trodd at y berthynas rhwng y defodau a’r gweithredoedd treisiol hynny, rhwng defodau aberthol a’r gweithredoedd sydd wrth wraidd llawer iawn o grefyddau’r gorllewin – gan gynnwys crefydd seciwlar yr Aroleuo: y Beibl Hebraeg a’r efengylau Cristnogol. Dehonglodd Girard y Beibl fel datguddiad graddol o anghyfiawnder trais dynol. Mae’r uchafbwynt, croeshoeliad Iesu, yn rhywbeth na welwyd ei debyg o’r blaen, nid am ei fod yn talu dyled ddynol i Dduw, ond am ei fod yn datguddio’r gwirionedd am aberth o bob math; mae’r un a erlidir gan y dorf bob amser yn ddiniwed a thrais torf yn anghyfiawn.

Ar y cyrion yr oedd Girard ym mhob maes, ond mae e wedi newid ffordd pobl o feddwl ynglŷn â llên, anthropoleg a chrefydd. Ond does dim rhaid bod yn academydd i ddeall y ddamcaniaeth. Mae dynward yn beth cyson a di-dor, erlid bwch dihangol yn demtasiwn parhaus a thrais yn beth drwg. Mae’r safbwyntiau hyn wedi datgloi ystyr mewn llawer o nofelau cyfoes, hen fytholeg, traddodiadau crefyddol a’n hymddygiad ni yn ein byw beunyddiol.

Heddiw mae cymuned fyd-eang o ysgolheigion yn adeiladu ar waith Girard er mwyn deall ein byd yn well. Mae Imitatio yn sefydliad anfasnachol sy’n cynorthwyo cynnydd ym maes datblygu a dehongli’n feirniadol ddamcaniaeth fimetig Girard. Gallwch fynd i wefan Imitatio i ddarllen ei waith ef ei hun, ac astudio gwaith academwyr amdano: http://www.imitatio.org/. Gallwch dderbyn cylchlythyr a dysgu am newyddion a digwyddiadau a thrafodaethau o São Paulo i Baris, o Tokyo i San Francisco.

Golygydd