Newyddion mis Chwefror

Newyddion mis Chwefror

Dyro dy fendith…

bishop-wayne-t-jackson-preaching

Y Parchedig Wayne T. Jackson,

Ar drothwy sefydlu Donald Trump yn Arlywydd America ar Ionawr 20fed rhoddwyd teyrnged iddo gan y Parchedig Wayne T. Jackson, arweinydd y Great Faith Ministries yn Detroit, (sydd hefyd yn galw ei hun yn Esgob), ac yn un o’r rhai a  gyfrannodd i’r seremoni sefydlu, drwy offrymu’r fendith.  Meddai, “Mae Donald Trump yn enghraifft o rywun sydd wedi cael ei fendithio yn helaeth  gan Dduw. Edrychwch ar ei gartrefi, ei fusnesau, ei wraig a’i jet. Nid ydych yn derbyn pethau felly oni bai eich bod wedi ennill ffafr Duw.”

 Gŵyl Ystwyll ddadleuol

gavin-ashenden

Gavin Ashenden

Mae Gavin Ashenden,  sydd yn Brif Gaplan a darlithydd ym Mhrifysgol Sussex wedi ymddiswyddo fel un o Gaplaniaid y Frenhines er mwyn cael dadlau yr achos a beirniadu Eglwys Gadeiriol St Mary, Glasgow, am ganiatáu i Fwslim ddarllen rhan o’r Koran mewn Arabeg yn ystod y gwasanaeth Gŵyl Ystwyll. Mae’r geiriau a ddarllenwyd yn dweud nad oedd Iesu yn Fab Duw, ond ei fod yn broffwyd. Roedd y gwasanaeth wedi ei drefnu i ddathlu Gŵyl Ystwyll, a dyfodiad y goleuni i’r holl genhedloedd. Mae’r eglwys eisoes yn gwneud llawer iawn  i godi pontydd rhwng Cristnogion a Mwslemiaid yn Glasgow. Barn Gavin Ashenden yw fod hon yn bont oedd yn mynd yn rhy bell.  Yr oedd y cyfan, meddai, wedi cael ei wneud ‘yn y ffordd anghywir, yn y lle anghywir ac yn y cysylltiadau anghywir’. Nid oes hawl gan gaplaniaid y Frenhines fod yn rhan o unrhyw ddadl grefyddol na gwleidyddol.  Go brin, efallai, y bydd y Frenhines yn gweld colli un o’r 33 o’i chaplaniaid. Y mae’r eglwys yn Glasgow, ar y llaw arall, yn dweud fod y gwasanaeth yn rhan o raglen hyfforddi barhaol  yr eglwys  a bod trafodaeth wedi ei threfnu ar ôl yr oedfa,  fel ar ôl pob gwasanaeth aml ffydd.

Cymylau duon iawn.

Jerusalem-IsraelYn nyddiau cyntaf ei Arlywyddiaeth, mae’n amhosibl rhagweld canlyniadau rhai o’r cynlluniau y mae’r Arlywydd Donald Trump yn bwriadu eu gwireddu. Un o’r mesurau hynny yw symud Llysgenhadaeth America yn Israel o Tel Aviv i Jerwsalem.

Oherwydd fod Jerwsalem yn ddinas rhanedig. a chytundeb yn bodoli i geisio cynnal yr ‘heddwch’ bregus,  mae amryw’n gweld bwriad Trump fel un heriol a bygythiol. Cyn hyn, y gobaith oedd y deuai Jerwsalem, ryw ddydd, yn brifddinas i’r Israeliaid yng ngorllewin y ddinas a’r Palestiniaid yn y dwyrain. Yn ei eiriau ei hun, mae’r Arlywydd “am gydnabod Jerwsalem yn brifddinas gyfan gwladwriaeth Israel.”  Y Perygl yw y bydd hyn yn peryglu unrhyw obaith o  ‘Un wlad, Dwy wladwriaeth’.

Yn ogystal â hynny, mae Trump hefyd wedi cefnogi penderfyniad Israel i adeiladau rhagor o gartrefi eto fyth i Israeliaid drwy feddiannu mwy a mwy o dir y Palestiniaid yn nwyrain y ddinas, yn ogystal â chodi 2,500 o gartrefi newydd ar y Llain Orllewinol. Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r byd – gan gadarnhau thema’r Wythnos Weddi am Undod Cristnogol  eleni – am i’r eglwysi weddïo a gweithredu am y cymod sy’n cyfannu, nid rhannu, ac yn arbennig, galw am weddi ‘dros Jerwsalem’ (Salm 122).

Williams

Pantycelyn

Ynghanol y sylwadau gan rai fod Cymru yn fwy parod i gydnabod Blwyddyn Roald Dahl neu Blwyddyn Dylan Thomas na Williams Pantycelyn (a anwyd ddechrau Chwefror 1713), neilltuodd Radio Cymru ran helaeth o Sul, Ionawr 29ain, i gofio Pantycelyn. Bu nifer o raglenni megis Bwrw Golwg, Oedfa’r Bore (dan arweiniad Rhidian Griffiths), Ar daith i Bantycelyn gyda Vaughan Roderick (un o ddisgynyddion teulu Pantycelyn), Hawl i Foli (cwis emynau o Langennech gyda phedwar o arbenigwyr, a Huw Edwards yn cadeirio), Caniadaeth y Cysegr (Wyn James yn cyflwyno, ac addewid o dair rhaglen arall), Rhaglen Dei Thomas (Densil Morgan yn cael ei holi am yr argraffiad newydd o gyfrol Saunders Lewis ar Williams), yn ogystal â Dan yr Wyneb ar y nos Lun  –  i gyd yn ymwneud â Phantycelyn. Yn anorfod, fe fydd DCDC wrthi hefyd. Wrth werthfawrogi Sul o raglenni o safon uchel, y gwir yw (chwedl sylwebyddion y cyfryngau) y gallai’r cyfan fod yn gwbwl amherthnasol i gapeli Anghydffurfiol Cymraeg heddiw. Fe fydd cydnabyddiaeth wrth fynd heibio, mae’n siŵr, mewn eglwysi Saesneg eu hiaith. Pennawd Golwg i adolygiad  Geraint Jenkins o’r gyfrol ‘Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Gol. Derec Llwyd Morgan 1991) a gyhoeddwyd i gofio marwolaeth William Williams, oedd ‘I’r Pant y rhed y dŵr ‘. Mae’r adolygiad yn awgrymu fod hanes y Diwygiad a Methodistiaeth wedi troi yn obsesiwn erbyn hyn. Roedd hynny chwarter canrif yn ôl.

Prosiect Pabell Abraham

Liberal Synagogue

Gydag argyfwng ffoaduriaid Ewrop wedi diflannu o benawdau newyddion y byd gorllewinol ers wythnosau erbyn hyn, daeth newyddion am Synagog Rhyddfrydol yn Streatham, Lambeth, yn gwario £50,000 i droi rhan o’i heiddo yn gartref i ffoaduriaid o Syria. “Yr ydym ni, Iddewon, wedi cael lloches yn y gorffennol…yr ydym am gydnabod hynny i genhedlaeth newydd o ffoaduriaid,” meddai llefarydd ar ran y Synagog. Pabell heb ochrau, agored i ddieithriaid, oedd pabell Abraham – yr enw mae’r Synagog wedi ei roi ar y prosiect – ac yn datgan fod lletygarwch yn allweddol i’r bywyd crefyddol. Ugain teulu o ffoaduriaid yw’r nod i Lambeth, ond dim ond chwe theulu sydd wedi cyrraedd hyd yma. Hyd at Rhagfyr 2016, cyfanswm o 294 o ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru, ac yn benodol i Dorfaen, Ceredigion, Port Talbot, Caerffili, Wrecsam a Chaerdydd. Mae Prydain ymhell ar ôl i gyrraedd y nod o 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020.

Datganiad  hanesyddol blwyddyn Luther

luther-3

Cerfluniau Luther yn nhref Wittenberg

Ar ddechrau’r flwyddyn i gofio’r Diwygiad Protestannaidd, mae’r EKD (Eglwys Efengylaidd yr Almaen, sef y brif Eglwys Brotestannaidd yno) wedi dileu yn swyddogol ei chenhadaeth i’r Iddewon. Er nad yw’r eglwysi wedi cenhadu ymhlith yr Iddewon ers yr Holocost, nid yw dileu y genhadaeth hon wedi bod yn hawdd. Er i’r EKD yn ei chynhadledd flynyddol ar Dachwedd 9fed 2016 ddatgan ‘nad yw Cristnogion wedi eu galw i ddangos i Israel y llwybr at Dduw a’i iachawdwriaeth’, y mae lleisiau cryf yn credu fod y cam hwn yn ymwrthod â chomisiwn Crist ‘i wneud disgyblion o’r holl genhedloedd’. Gan na wnaeth Duw erioed ddileu ei gyfamod â’r Iddewon, meddai’r EKD,  nid oes angen iddynt dderbyn y cyfamod newydd yng Nghrist. Mae’n ddatganiad angenrheidiol, yn ôl yr eglwys, wrth gofio gwaith Martin Luther ac ar yr un pryd gydnabod  ei agwedd wrth-Iddewig eithafol a di-gyfaddawd. Mae 23miliwn o aelodau yn yr EKD ond mae mwyafrif efengylwyr yr Almaen (dros filiwn) erbyn hyn yn aelodau yn eglwysi Cyngrair Efengyliadd yr Almaen.

Diolch a chanmol

330px-barry_morgan

Barry Morgan

Dyna a wnaeth Barry Morgan yn y gwasanaeth i nodi ei ymddeoliad (fel Esgob am 17 mlynedd ac fel Archesgob am 14 mlynedd) yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar Sul Ionawr 29ain  Roedd yno gynulleidfa o dros 500 i ddiolch a chydnabod ei arweiniad.  (‘Standing ovation’ yn ôl y Western Mail.)  Soniodd Deon Llandaf am ei ‘welediagaeth, ei garisma, ei ddewrder, ei ddoethineb ac, yn fwy na dim, am ei ddynoliaeth.’ Diolchodd a chanmolodd Barry Morgan yr eglwys ac meddai: “Heb yr eglwysi, fe fyddai llai o lawer o Fanciau Bwyd, llai o lawer o gymorth i’r digartref, y tlawd a’r ceiswyr lloches. Ond,” meddai, “Eglwys Dduw ydym oherwydd ein bod yn perthyn iddo Ef. Yr ydym yn bod o’i herwydd Ef, a’n gwaith cyntaf yw ei addoli Ef a chreu perthynas ag Ef, neu, yn fwy cywir, ymateb i’w gariad Ef tuag atom ni.”

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.