Llwyd yw lliw gobaith
Trist oedd clywed am farwolaeth Irina Ratushinskaya, 63 oed, yn Mocso, ar Orffennaf 5ed. Yn 28ain oed cafodd ei dedfrydu i saith mlynedd mewn gwersyll llafur yn Moldofia a phum mlynedd o alltudiaeth fewnol. Bu’n ddifrifol wael ac nid yw hynny’n syndod o gofio amgylchiadau a chreulondeb corfforol a meddyliol y gyfundrefn Sofietaidd yn y cyfnod hwnnw. Yn wir, roedd hi a nifer o ferched eraill wedi eu caethiwo mewn ‘carchar o fewn carchar’ ac yn cael eu hystyried yn ‘ fygythiad gwleidyddol i’r gyfundrefn’. Mae wedi cofnodi ei phrofiadau yn y gyfrol Grey is the colour of hope, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1988. Mae’n disgrifio profiad bardd ifanc a welodd obaith yn ei chyd-garcharorion, yn y pethau syml bob dydd, yn y weithred o greu ac o droi pethau cyffredin yn gelfyddyd, yn ei chred fod Duw yn gweu o fywyd y distadlaf batrwm o harddwch ac o gariad … ac o obaith. O’r caethiwed erchyll hwnnw hefyd daeth dros 200 o gerddi â ysgrifennodd yn gyntaf ar ddarnau o sebon, cyn eu cadw ar ei chof, ac yna ar unrhyw ddarnau o bapur gan gynnwys pacedi sigaréts. Arwydd gobaith oedd y peth cyntaf a welodd yn oerfel dychrynllyd y carchar:
Dywedaf wrthyt
am yr harddwch cyntaf mewn caethiwed –
ffenestr dan drwch o farrug,
glas disglair mewn ffram gyfyng –
enfys rhew!
Yn ddiweddarach cyhoeddodd nofel (cyfieithiad Saesneg, The Odessans) yn 1996 a dwy gyfrol o farddoniaeth ‘Na, does arna i ddim ofn’ ac ‘Yn y dechreuad’.
Yn wreiddiol o Odessa yn yr Ukraine, graddiodd Irina mewn Ffiseg ond penderfynodd fynd yn athrawes gynradd. O fewn cyfundrefn addysg oedd yn hyrwyddo anffyddiaeth, gwelodd Irina yn fuan fod yn rhaid meithrin plant i ymdeimlo â’r ysbrydol mewn bywyd. Cafodd ei hadnabod fel bardd Cristnogol a phan drefnodd hi a’i phriod, Igor, brotest yn gofyn am i’r gwyddonydd Sakharov a oedd wedi ei alltudio gael dod yn ôl i Rwsia, cafodd Irina ei chyhuddo o fod yn ‘wleidyddol beryglus’. Dyna pryd y cafodd ei charcharu. Ond gweithred wleidyddol oedd ei rhyddhau, ar ôl pedair blynddoedd o’i dedfryd, oherwydd digwyddodd hynny pan oedd Korbachev, fel rhan o’i bolisi perestroika, o fewn oriau yn unig i gyfarfod Ronald Reagan yn Reykjavik. Yn nes ymlaen treuliodd Irina gyfnod fel bardd preswyl mewn prifysgol yn Illinois. Erbyn hyn yr oedd yn adnabyddus drwy’r byd oherwydd yr ymgyrchu a fu i’w rhyddhau. Dan nawdd PEN fe fu hefyd am gyfnod yn Llundain.
Yn Aberystwyth
Rhan o’n paratoadau i sefydlu Canolfan Morlan oedd ei gwahodd i Aberystwyth ac fe gawsom y fraint o’i chwmni a’i chlywed yn siarad ac yn darllen rhai o’i cherddi nos Sul, 15 Tachwedd 1998. Er nad oedd ymysg y Cristnogion oedd yn cael eu herlid am nad oeddynt yn barod i dderbyn gwaharddiad ar bregethu, efengylu a dysgu – Bedyddwyr, Pentecostaliaid, Efengylwyr – tawelach, ond yr un mor gadarn a disglair, oedd ffydd Irina yn etifeddiaeth gyfoethog Eglwys Uniongred Rwsia. Yn wir, mae’n dathlu amrywiaeth a lliw’r ffydd Gristnogol yn Llwyd yw lliw gobaith. Yr oedd yn gwbwl gartrefol yn addoli yng Nghapel y Morfa.
Fel eraill, yr oedd yn gweld amrywiaeth ac ehangder Cristnogaeth yn gwbwl allweddol i’w lle a’i chyfraniad yn y byd.
I’w chroesawu i Gymru ac i Gapel y Morfa, cyfieithodd Mona Morris rai o gerddi Irina i’r Gymraeg a darllenwyd rhai ohonynt wedi iddi hi ddarllen y cerddi yn ei hiaith ei hun. Cawsom ein hysbrydoli gan ei hysbrydolrwydd dwfn a’i ffydd siriol, gan ei dynoliaeth a’i chydymdeimlad ac yn arbennig, efallai, o gofio iddi gael y fath driniaeth, am ei haddfwynder, ei goddefgarwch a’r weledigaeth o gymod oedd yn cydio’i chariad at ei gwlad gyda phob cenedl.
Wedi ei gwaeledd yng ngharchar dywedwyd wrthi na fyddai’n cael plant. Ond braf a bendith yw cael dweud iddi hi ac Igor gael efeilliaid, Sergei ac Oleg, sydd heddiw’n 24ain oed. Bu farw yng nghwmni ei theulu a’i hoffeiriad yn cadw gwylnos wrth erchwyn y gwely.
Mewn neges atom, ar drothwy’r mileniwm, meddai, ‘Diolch i Dduw, yr ydym fel teulu yn ôl yn byw ar gyrion Mosco … yr wyf yn gobeithio y caf ymweld â chi eto … mae’r byd bellach mor fach ac mor gyflym a’r e-bost fydd yn cario fy neges. 2000 o fendithion i chi – a mwy yn enw ein Gwaredwr. Irina.’
Pryderi Llwyd Jones