Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythurau

GWNEUD SYNNWYR O’R YSGRYTHURAU

Eleni Dr Jeffrey John, Deon St Alban, oedd y darlithydd yng Nghynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21 ar 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Canton, Caerdydd

Dechreuodd drwy ddyfynnu’r Colect Anglicanaidd ar gyfer Sul y Beibl:

Gwynfydedig Arglwydd, a beraist i’r holl Ysgrythurau Glân gael eu hysgrifennu i’n haddysgu ni, dyro i ni yn y fath fodd eu gwrando, eu darllen, eu chwilio, ac ymborthi arnynt, fel, trwy ddyfalbarhad, a chymorth dy Air Sanctaidd, y cofleidiwn ac y daliwn ein gafael yn wastadol yng ngobaith bendigedig y bywyd tragwyddol, a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

Bob dydd Sul, yn yr eglwys Anglicanaidd, o leiaf – dwi i ddim yn siwr a ydy’r un peth yn digwydd yn yr eglwysi rhydd – bob dydd Sul, rydyn ni’n eistedd yn yr eglwys ac yn gwrando ar rywun yn darllen darnau bach o’r ysgrythur sy wedi cael eu dethol ymlaen llaw gan y llithiadur. Ac fel rheol mae hynny’n iawn, achos fel rheol mae’r llithiadur yn dewis darlleniadau sy’n weddol uniongyrchol ac yn weddol amlwg eu hystyr. Ond bob hyn a hyn gellwch chi gael sioc.

Er enghraifft, ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd mewn cynulleidfa – nid fy nghynulleidfa i – pan ddarllenwyd darn o Lyfr Numeri, Pennod 15. Fel byddwch chi’n cofio, dwi’n siŵr, mae Pennod 15 yn Llyfr Numeri yn adrodd hanes rhyw hogyn o blith plant Israel a aeth allan o’r gwersyll un noson i gasglu brigau er mwyn gwneud tân i’w gadw’n dwym. Ond yn anffodus roedd y dyn druan wedi anghofio mai dydd Saboth ydoedd, ac felly fe gafodd ei arestio gan y gwarchodwyr am dorri’r Saboth.

‘And so’, aeth y darllenydd yn ei flaen, ‘and so the guards dragged the man before Moses and Aaron, who said, “This man is a sabbath-breaker; he must put to death. Let him be stoned by all the community outside the camp”. So they dragged the man outside and they stoned him with stones as Moses and Aaron commanded, until he was dead … This is the word of the Lord.’ A dyma ni i gyd yn ateb, ‘Thanks be to God!’

Yr hyn barodd yr anesmwythyd mwyaf i mi oedd na sylwodd neb ar yr eironi! Ac yn waeth byth, pan gyfeiriodd y pregethwr at y stori yn ei bregeth, wnaeth e ddim ond cymryd y stori’n arwynebol. Wnaeth e ddim cwestiynu o gwbl ym mha synnwyr y gallwn ni ddweud mai ‘Gair Duw’ ydy stori mor anwar, neu beth yn y byd mae hi’n ei ddweud wrthym am natur Duw.

Roeddem ni, beth amser yn ôl yn y Gadeirlan yn St Albans, yn dweud y Foreol Weddi, a Salm 109 wedi ei gosod ar gyfer y dydd. Wel, os ydych chi byth yn flin fel cacwn gyda rhywun, rwy’n argymell Salm 109. Un o’r salmau melltithio yw hi. Ac felly fe wnaethon ni i gyd sefyll ac adrodd, mwy neu lai, hyn:

O God, how I hate this man, your enemy and mine!
Let him be found guilty when he is judged!
Let his days be few, and let even his prayer for help be counted as sin!
Let his children be fatherless, let his wife be made a widow,
And don’t let anyone take pity on them either.
And now I come to think of it, curse his children’s children,
And don’t forget the sins of his parents as well.  
Glory be to the Father …

Roedd yn amhosib i ni orffen y salm am ein bod ni’n chwerthin cymaint! Ond y peth sy’n fy mhryderu i yw – beth am yr holl eglwysi lle maen nhw’n meddwl mai pechod fyddai chwerthin amdani?

Roeddwn i mewn eglwys ar un achlysur pan wrthryfelodd cydwybod rhywun. Pan oeddwn ni’n ficer yn Eltham, yn ne Llundain, roedd gennym ni yn y gynulleidfa foneddiges urddasol iawn o’r enw Elsie. Roedd Elsie’n arfer darllen yr Epistol yn ystod yr Offeren, ac un bore Sul roedd rhaid iddi hi ddarllen rhywbeth gan Sant Paul ynglŷn ag israddoldeb gwragedd, a bod yn rhaid i wragedd ufuddhau i’w gwŷr ac yn y blaen. Wel, darllenodd Elsie’r testun hwn, deadpan, yn ei llais cryf ac urddasol, ac wedyn edrychodd i fyny ar y gynulleidfa a dweud, ‘I shall NOT say “This is the Word of the Lord”, for it plainly is not. This is simply St Paul being SILLY.’

Wel, rydw i’n cydymdeimlo ag Elsie, achos mae’n gwestiwn perthnasol iawn a ddylem ni ddweud ‘This is the word of the Lord’ ar ôl pob darn o’r ysgrythur; achos weithiau, megis ar ôl Numeri, Pennod 15, neu Salm 109, mae’n amlwg nad yw hynny ddim yn gwneud synnwyr. Os oes cydwybod Gristnogol gennym, rydyn ni’n gwybod yn berffaith dda na ddylem ni labyddio torwyr y Saboth, na gweddïo ar Dduw i ddinistrio ein gelynion. Y broblem yw, pan ddywedir ‘This is the Word of the Lord’ ar ôl pob darlleniad, fod hynny’n rhoi’r argraff fod pob darn o’r Beibl, allan o’i gyd-destun, i’w weld fel neges lythrennol ac uniongyrchol i ni gan Dduw nawr. Ac mae’n amlwg fod hynny’n anghywir, ac efallai’n beryglus. Mae’r ysgrythur yn cludo gair Duw, mae hi’n gyfrwng i glywed gair Duw, ond mae hynny’n wahanol i ddweud mai Gair Duw yw hi ym mhob rhan a darn.

Yn yr ystyr fwyaf sylfaenol does dim ond un Gair Duw, sef Iesu Grist, y Logos, y Gair bywiol a thragwyddol; ac mae Ef yn dod atom ni trwy eiriau’r ysgrythur, wrth gwrs ei fod e, ond mae’n dod hefyd drwy weddi a’r eglwys a’r sacramentau, a’n cydwybod, a’n rheswm, a’n profiad, a thrwy bobl eraill.

Dyna paham rydw i’n anhapus i ddweud ‘Dyma air yr Arglwydd’ ar ôl pob darlleniad o’r Beibl. Efallai y byddai’n gywirach dweud mai’r holl Feibl, yn ei gyfanrwydd, yw gair Duw; achos yna o leiaf rydych chi’n derbyn bod yn rhaid dehongli pob darn drwy ei gymharu â’r gweddill. Ond i wneud hynny, wrth gwrs, rydych chi’n dal angen eich rheswm a’ch gwybodaeth a’ch profiad personol i weithio mas beth yw safbwynt y cyfanrwydd.

Y broblem mewn gwirionedd yw fod pawb, bron, yn anwybodus iawn o’r Beibl, hyd yn oed y rhai sy’n mynd i’r eglwys. Dwi ddim yn gwybod am y capeli, ond prin iawn yw’r Anglicaniaid sy’n darllen neu’n astudio’r Beibl y tu allan i wasanaethau. Ac oherwydd nad ydyn nhw’n clywed dim ond darnau bach mewn gwasanaethau, dydyn nhw byth yn cael persbectif ar y cyfanrwydd, nac yn gweld pa mor hanfodol yw’r cyd-destun er mwyn deall y testun.

Ar y lefel fwyaf sylfaenol, mae llawer o Gristnogion heb sylweddoli nad un llyfr yw’r Beibl, ond 84 o lyfrau, gan gynnwys yr apocryffa, llyfrau a ysgrifennwyd ac a adolygwyd am fil o flynyddoedd mewn amrywiaeth eang o ddiwylliannau gwahanol. Yn fy marn i, mae’r Beibl yn debyg i kaleidoscope, sy’n trosglwyddo golau Duw, ond golau sy wedi ei hidlo a’i blygu a’i liwio gan gymaint o awduron a golygyddion gwahanol yn y proses. Ac mae rhai rhannau o ddarlun y kaleidoscope yn ddisglair ac yn wych, ond mae eraill yn dywyll iawn, a rhai’n farbaraidd rhonc.

Yn fwy na dim, mae’n rhaid i bobl weld yn llawer cliriach nag y maent fod syniadau sylfaenol yn y Beibl yn newid o lyfr i lyfr, ac yn aml iawn o adnod i adnod o fewn llyfrau. O awdur i awdur ac o olygydd i olygydd, rydyn ni’n symud rhwng undduwiaeth ac amldduwiaeth, unwreiciaeth ac amlwreiciaeth, rhwng y Duw anthropomorffaidd a gerddodd yng ngardd Eden, a’r Duw Diderfyn sy’n llenwi nef a daear; rhwng aberthu anifeiliaid a gwrthod aberthu anifeiliaid, rhwng moesoldeb y llwyth a moesoldeb yr unigolyn, rhwng anghrediniaeth mewn bywyd ar ôl marw a chredu ynddo.

Mae’r gwahaniaethau sylfaenol hyn yn fwy amlwg wrth gwrs yn yr Hen Destament nag yn y Testament Newydd, achos bod yr Hen Destament yn ymestyn dros lawer mwy o amser; ond mae cryn dipyn o anghytundeb sylfaenol yn y Testament Newydd hefyd, fel y cawn weld.

O ganlyniad mae’n amhosib darllen y Beibl a bod yn siŵr o wneud y synnwyr iawn ohono, heb fod yn barod i wneud tipyn o waith ymlaen llaw, er mwyn darganfod y cefndir y mae pob llyfr a phob awdur yn dod ohono. Mae’n rhaid gofyn cwestiynau. O ble mae’r awdur yn dod, o ran hanes, lleoliad, cymdeithas, traddodiad crefyddol? Beth yw’r berthynas rhwng yr awduron a’r testunau gwahanol? Pwy sy wedi adolygu pwy, a phaham? Beth yw amcan diwinyddol neu boliticaidd yr awdur hwn? Pwy oedd yn ei dalu fe? Beth yw’r genre y mae e’n ysgrifennu o’i fewn, a’r traddodiad llenyddol sy wedi dylanwadu arno?

Mae diwinyddion yn hoffi rhoi enwau crand ar y cwestiynau hyn: ‘form criticism, redaction criticism, genre criticism’ ac yn y blaen. Ond, yn y pen draw, maen nhw i gyd yn gwestiynau hollol syml, ac yn gwestiynau mae’n rhaid eu gofyn er mwyn gweld y testun o fewn y cyd-destun a thynnu’r ystyr allan.

Y peth sy’n fy mhoeni i, yn enwedig ar ôl gweithio am flynyddoedd fel deon coleg yn Rhydychen, yw’r ffaith fod cynifer o Gristnogion deallus, ac yn enwedig myfyrwyr, yn gwrthod cwestiynu’r Beibl o gwbl. Ym mhob Undeb Cristnogol dwi wedi dod ar ei draws mewn prifysgolion, os ydych chi’n mentro gofyn cwestiynau fel hyn, neu’n sôn am bwysigrwydd astudiaeth academaidd o’r Beibl, byddwch chi’n cael eich labelu fel ‘unsound, unbiblical, dangerous liberal’, ac os ydych chi’n parhau i wneud hynny, byddwch chi allan drwy’r drws mewn amrantiad.

Ond y gwir yw, os nad ydych chi’n gofyn y cwestiynau hyn, fyddwch chi byth yn mynd i’r afael â’r Beibl o gwbl. Os mai dim ond cymryd y testun yn arwynebol, heb wybodaeth bellach, wnewch chi, y perygl yw y byddwch chi’n camddeall neu’n colli ystyr gywir y testun yn llwyr.

7 Canllaw wrth ddarllen yr Ysgrythur

Yng ngweddill y ddarlith, meddai Dr Jeffrey: “Rwy’n gobeithio tanlinellu sut y mae gwir astudio’r Beibl, yn hytrach na’r hyn sy’n honni bod yn ‘astudiaeth feiblaidd’, yn ei gyfoethogi’n aruthrol ac nid yn ei danseilio, ac yn ei wneud yn llawer mwy perthnasol i’n bywyd bob dydd.”

  1. Mae llawer o destunau Beiblaidd wedi cael eu golygu a’u hailolygu dan wahanol amgylchiadau yng ngoleuni syniadau newydd. Dydyn nhw ddim yn gwneud synnwyr oni bai ein bod ni’n deall hynny.

    Dyna pam mae Salm 51 fel petai’n gwrth-ddweud ei hunan ar bwnc aberthu anifeiliaid. Nid llyfr gan un person yw ‘Llyfr y Proffwyd Eseia’, ond cynnyrch dau neu dri o unigolion oedd yn rhan o ‘ysgol Eseia’ yn cymhwyso syniadau i wahanol amgylchiadau.

    Y mae yn Efengyl Ioan arwyddion ei bod naill ai heb ei gorffen, neu fod pwyllgor wrthi’n ei golygu.

  2. Anaml y bydd y Beibl yn ‘datrys problemau’ nac yn rhoi atebion awdurdodol megis ‘ar blât’. Yr hyn a gawn yn amlach yw clywed dadl yn mynd ymlaen rhwng gwahanol safbwyntiau neu draddodiadau, er enghraifft, mae Efengyl Mathew yn newid Efengyl Marc i fod yn fwy “Iddewig”. Noder bod y prif raniad yn y Testament Newydd yn troi ar y pwnc pa mor Iddewig yw Cristnogaeth. Gwelir hyn yn y ddadl rhwng Paul a Phedr yn Antioch. Weithiau mae dau safbwynt yn y Testament Newydd ar foesau: mae Marc a Mathew yn wahanol i’w gilydd ar bwnc ysgaru ac ailbriodi.
  3. Cafodd ambell lyfr ei ysgrifennu’n benodol i anghytuno â llyfr arall. Ysgrifennwyd llyfrau Ruth a Jona gan ‘ryddfrydwyr’ oedd am herio’r pwyslais ‘cenedl-ganolog’ a ddaeth i’r amlwg gydag Esra a Nehemeia.
  4. Cafodd rhai llyfrau eu hysgrifennu’n ddienw er mwyn hawlio awdurdod rhyw unigolion crefyddol o blaid syniadau newydd. Er enghraifft, lluniwyd yr epistolau bugeiliol Timotheus 1 a 2 a Titus i ‘lanhau’ neu wneud Paul yn fwy ‘Catholig’ er mwyn dadlau yn erbyn dylanwad y Gnosticiaid ac er mwyn ei wneud yn debycach i awdurdod prif ffrwd yr eglwys.
  5. Y mae gwybod y cyd-destun bob amser yn allweddol i ddeall stori neu destun. Er enghraifft, nid yw prif werth ‘y gwyrthiau iacháu’ yn deillio o’r elfen ‘oruwchnaturiol’, ond am eu bod yn dangos fod Iesu am ‘gynnwys’ y bobl hynny oedd yn cael eu cau allan gan y deddfau purdeb – y wraig oedd yn colli gwaed a gwas y canwriad.
  6. Mae i lawer o’r straeon sawl haen o ystyr – hanesyddol, diwinyddol a symbolaidd, er enghraifft, y dyn dall ym Methsaida a drama Marc am ‘weld’ yn ysbrydol’; iacháu’r mudan â’r gair ‘Ephphatha’; ‘gwyrth’ y goeden ffigys ddiffrwyth a’r cysylltiad â Jeremeia 8:13.
  7. Rhaid wrth ofal a gwybodaeth drylwyr wrth ystyried rhai mathau o lên feiblaidd sy’n defnyddio systemau symbolaidd sydd bron yn annealladwy i ddarllenwyr heddiw, er enghraifft system rhifau’r llyfrau apocalyptig sydd ag enwau technegol, sef gematria ac isosephia. Gwelir hyn yn llyfrau Daniel a’r Datguddiad ac yn straeon bwydo’r 4,000 a’r 5,000 yn Marc a Mathew. Hefyd yn y drafodaeth yn y cwch: 153 o bysgod yn Efengyl Ioan; 6 llestr dŵr yng Nghana a 666 – sef rhif y bwystfil. Mae mentro i’r meysydd hyn heb wybod am ystyr symbolaidd rhifau yn beryglus iawn. Cymerwch ofal felly!