Golygyddol

GOLYGYDDOL 

Y Dirywiad, eto fyth

Fe ddywedodd Geraint Tudur, ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, ar y radio yn ddiweddar ei bod hi’n ‘unfed awr ar ddeg ar Ymneilltuaeth’. Jogn Gwilym Jones, y cyn-gadeiryddDyna pam mai Eisiau Tyfu – Ofni Newid oedd thema cynhadledd flynyddol C21 yn y Morlan yn Aberystwyth ar 24 Medi. 

Nid rhywbeth cyfyngedig i Gymru yw’r dirywiad; mae i’w weld ar draws gorllewin Ewrop, ac mae dyddiau goruchafiaeth ‘Byd Cred’ wedi hen ddarfod.

andrew-brown-gan-linda-nylind

Andrew Brown (Llun: Linda Nylind)

 “That was the Church that was” yw teitl llyfr newydd gan Andrew Brown, colofnydd crefyddol y Guardian, cyfrol sy’n dra llawdrwm ar Eglwys Loegr. Dwn i ddim faint o ymneilltuwyr fyddai’n ymddiddori mewn cyfrol am Eglwys Loegr, ond mae llawer sydd ynddi’n berthnasol i gyfundrefnau ymneilltuaeth ac i sefyllfa reit wahanol yr Eglwys yng Nghymru. Methiant i addasu yw’r broblem, medd Brown, methiant i wynebu’r bwlch cynyddol rhwng meddylfryd y gymdeithas o’n cwmpas a meddylfryd y ceidwadol yn ein cyfundrefn. ‘Mind the gap’ yw’r ymadrodd sy’n seinio yn y cof. Mae yn y gyfrol hefyd ddisgrifiad o’r ffordd y mae cyfalaf Americanaidd yn cefnogi mudiadau ceidwadol, crefyddol er mwyn cynnal yr adain dde wleidyddol. Mae’n cyfeirio’n benodol at Sandy Millar, gynt o Holy Trinity Brompton, lle y datblygwyd y cwrs Alffa.

spong

John Shelby Spong

Mae’r dirywiad yn pwyso ar galonnau pobl C21 fel ar Geraint Tudur. Ond byddai dadansoddiad Geraint Tudur ac arweinwyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru o’r rhesymau am y dirywiad a’r llwybr y dylai Cristnogion Cymraeg ei ddilyn yn bur wahanol i ddealltwriaeth pobl C21. Buasai llawer o bobl C21 yn cynhesu at gyfrol yr Esgob Jack Spong yn ei lyfr diweddaraf bywiog a chadarnhaol, Literalism: a Gentile Heresy. Mae hi’n dristwch ac yn siom na fydd Jack Spong yn siarad yng Nghymru, ac yntau wedi ei daro’n wael yn ddiweddar. (Ac mae’n dda clywed ei fod ar wellhad.) Does dim rhaid derbyn holl syniadau Spong ac yr oedd rhai ohonom wedi bwriadu mynd i gael mwy nag un ddarlith ganddo mewn ysgol dri diwrnod ym Mhenarlâg. Mae’n dweud yn ddiflewyn-ar-dafod fod llythrenoldeb (sy’n llawer iawn gwaeth yn America nag yw yn Ewrop) yn ddeallusol ac ysbrydol beryglus, yn gwneud cam â’r efengyl ac yn ei gwneud yn anos cyhoeddi hanfod y newyddion da a gyhoeddodd Iesu. Mae’r gyfrol yn seiliedig ar waith Michael Douglas Goulder ar Efengyl Mathew, ac mae Spong yn talu teyrnged iddo gan dangos yn eglur sut y mae efengyl Mathew wedi ei gogoneddus lunio i gyfateb i wirioneddau mawr y flwyddyn litwrgaidd Iddewig. Does dim angen bod â doethuriaeth mewn diwinyddiaeth i wybod mai Mathew yw’r ‘mwyaf Iddewig’ o’r Efengylau a bod Mathew yn dehongli Iesu fel Moses newydd. Prin ei bod yn ddychryn i neb ystyried bod yr hyn a elwir yn Bregeth ar y Mynydd yn gasgliad o ddywediadau Iesu sy’n cyfateb i ddysgeidiaeth Moses. Ond ymddengys bod cydnabod peth mor syml â hynny yn anodd i lythrenolwyr yn America. Iddyn nhw, rhaid i’r cyd-destun a roddir i’r ddysgeidiaeth fod yn ddigwyddiad hanesyddol. Mae’r gyfrol yn rhodd odidog i unrhyw un sy’n pregethu neu’n dysgu’r ffydd, ac yn agoriad llygad i rai sy ddim wedi astudio’r ysgrythur yn systematig. Eglur, darllenadwy, llawn argyhoeddiad am graidd yr efengyl a’i gallu i drawsnewid bywydau. Nid yn unig mae efengyl Mathew wedi ei llunio i gyfateb i flwyddyn litwrgaidd yr Iddewon wrth fynd o ŵyl i ŵyl, ond dadleuir er enghraifft fod y Bregeth ar y Mynydd wedi ei llunio ar strwythur Salm 119, y salm fawr a ddefnyddid mewn gwylnos o 24 awr ar ŵyl Shavuot, gwyl dathlu’r Torah, y Gyfraith.

Beth sy’n ein cyffroi ni? Mynnu bod y Bregeth ar y Mynydd wedi ei thraddodi ar un achlysur ar fynydd, neu bod yr eglwys fore, drwy grebwyll a chelfyddyd Mathew a’i gymdeithas ffydd, yn gweu cyfoeth o ddysgeidiaeth Iesu sy’n dwyn y gyfraith i’w chyflawniad cyflawn. Mae dehongliadau llythrennol yn godro ystyr o’r testun yn hytrach na chloddio am gyfoeth. Mae’n wastraff amser amddiffyn pethau dibwys.

Bôn-docio

Pan soniodd Bethan Wyn Jones am fynd ar ôl y delwedd o fôn-docio, fe apeliodd yn syth at y rhwystredigaeth sydd yng nghalonnau cymaint ohonom wrth orfod gofalu am adeiladau a rhaglenni enwadol. Dyna braf fyddai cael dechrau eto, mynd ’nôl i’r gwraidd! A dyna a wnaeth hi drwy restru gorchmynion Iesu fel hanfod unrhyw ail ddarganfod byw yn ôl amcanion y Deyrnas. Roedd awgrym Judith Morris o’r her o anghofio’r hiraeth am ddylanwad a dysgu sut i fyw fel lleiafrif yn ein cymdeithas gyfoes yn taro’r un tant.

Aeth Owain Llŷr Evans â ni drwy gyfres o straeon clasurol i’n rhybuddio rhag peryglon crefydda a defnyddio’r ffydd i docio pobl i siâp dderbyniol, eu colbio, eu rhwygo, eu cicio allan ac ymladd gyda nhw.

siaradwyr-y-gynhadledd

Bethan Wyn Jones, Owain Llŷr Evans a Judith Morris

Bydd y cyfoeth sylwadau a’r ymatebion gan y tri grŵp yn destun ystyriaeth gan Bwyllgor C21 yn y flwyddyn nesaf. Byddwn yn ystyried y cwbl yn nhermau beth allwn ni ei gyfrannu i fywyd Cristnogion Cymraeg eu hiaith yng Nghymru heddiw; sut y gallwn ganolbwyntio ar ufuddhau i orchmynion Iesu, sut i fod gyda’n gilydd mewn ffordd sy’n deilwng o’r Deyrnas y cyhoeddodd Iesu ei bod yn dod, ynom a rhyngom.

Dr Barry Morgan

220px-barry_morganBu araith olaf y Dr Barry Morgan i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn gryf a phwrpasol, gan bwysleisio’r un angen i astudio ac ymgodymu â’r testunau yn y Beibl. Bu pob diwygiad a thwf yn yr Eglwys â’i wraidd mewn ysbrydoliaeth o’r ysgrythurau – weithiau’n ddoeth, weithiau’n gam ac weithiau’n ddwl.

Mae cyfrol Wil Aaron, Poeri i Lygad yr Eliffant, sef hanes y Cymry a droes at Formoniaeth ac a aeth ar anturiaeth o obaith am fywyd helaethach i’r Amerig yn ddifyr, yn ddoniol ac yn ddwys. eliffantMae’n dangos mor ddwl yw dewis patrymau Beiblaidd fel pe baent i gyd yn berthnasol i ni. Ac nid yw’r Cristnogion ‘uniongred’ yn dod allan o’r stori’n hyfryd iawn chwaith – mae iaith y feirniadaeth arnynt yn gas, yn frwnt a thra ymosodol.

Yr Eliffant oedd delwedd y Mormoniaid am berygl ac ofn a dychryn. Rhaid oedd poeri yn ei lygad i’w orchfygu. Does yna ddim rheswm pam na allwn fenthyca’r ddelwedd i’n sefyllfa ninnau wrth wynebu ofn difodiant y ffydd yn y Gymru Gymraeg. A does dim pwynt mewn beio pobl eraill, ond byw ein galwedigaeth mewn gwyleidd-dra a chariad. Poerwn ninnau hefyd i lygad yr Eliffant!