Fe ddylem fod wedi gwrando ar JP

 

Fe ddylem fod wedi gwrando ar JP (Lewis Valentine)

(Meddyliau Gŵyl Ddewi)

 Beth sy’n gyffredin rhwng Martin Luther King, Dorothy Day, Daniel Berrigan, a J. P. Davies? Eu bod yn heddychwyr fyddai un ateb. Ie, ond beth oedd sylfaen eu heddychiaeth? Yr ateb yw mai pobl o ysbrydolrwydd dwfn oeddynt i gyd ac mai o’r ysbrydolrwydd hwnnw y tarddodd eu gweledigaeth o Gristnogaeth fel cerdded y ffordd ddi-drais wrth ddilyn Iesu o Nasareth. Y lleiaf adnabyddus o’r rhai a enwyd (hyd yn oed i Gymry erbyn hyn) yw J. P.Davies. Prin, os o gwbwl, fu’r cyfeiriad ato wrth gofio hanner canmlwyddiant ei farwolaeth yn 2020. Fe ddywedodd Lewis Valentine, ei ffrind, y dylai, fel myfyriwr, fod wedi bod mor fentrus â J. P. Davies. Fe fydd y rhai sydd yn ei gofio yn meddwl amdano fel heddychwr, ond mewn gwirionedd yr oedd ymysg criw bychan yng Nghymru a arddelodd ddiwinyddiaeth radical, gynhwysol, a aeth ar goll yn ddiweddarach o fewn ein heglwysi.

Gweinidog gyda’r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghapel Curig, Llanberis a Phorthmadog oedd J. P. Davies (1893–1970). Fe fu ym Mhorthmadog o 1935 hyd 1962, cyn ymddeol i Lanrug. Er mai un o Glawddnewydd, Dyffryn Clwyd, ydoedd, Arfon a Llŷn ac Eifionydd oedd ei filltir sgwâr. Ond doedd dim yn gysgodol, yn ddiogel na phlwyfol am ei fywyd. Os yw, ar bapur, yn ymddangos yn fywyd digon parchus, yr oedd profiadau bywyd JP (fel yr oedd pawb yn ei adnabod) yn adlewyrchu ing a thrallod, angerdd ac argyhoeddiad heddychwr a fu fyw drwy ddau Ryfel Byd, a’r ddau ryfel yn cael cefnogaeth arweinwyr gwleidyddol a chrefyddol Cymru.

Yn eiddil yn Llundain

Yr oedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn y Rhyfel Mawr. Mae ei frawd, Samuel Davies (oedd hefyd yn weinidog ac wedi bod am rai blynyddoedd yn genhadwr yn India), yn cofio ‘Joe’, ei frawd mawr, yn cael ei anfon yn un ar hugain oed i weithio i’r YMCA yn Blanford, Llundain, a’r mudiad hwnnw yng nghyfnod y rhyfel yn rhoi ystafell i filwyr oedd yn cael seibiant cyn mynd yn ôl i ryfela (Gw. I gofio J.P. Gwasg Tŷ ar y Graig, 1971). Criw digon brith a garw, a dweud y lleiaf. Mae Sam yn cofio’r tosturi a’r edmygedd oedd ganddo tuag at Joe pan ddeuai adref o dro i dro, yn edrych yn welw a gwael ac yn sôn am ei brofiad. Soniai am ei ymdrech i gynnal dosbarth Beiblaidd i griw o filwyr yn yr YMCA: yr hogyn bach eiddil o Gymru yn ceisio cyflwyno’i safbwynt Cristnogol ar y ffordd ddi-drais i ddynion cryf, dewr a digyfaddawd oedd wedi eu hennill yn llwyr gan bropaganda’r rhyfel. Yn nes ymlaen, fe gafodd ddod i weini ar ffermydd yn Nyffryn Clwyd, ac yno yn cael cysur ei deulu a’i gymdogaeth eto.

Yn weledydd yn y coleg

Doedd pethau ddim yn hawdd o bell ffordd ar ôl iddo fynd i’r brifysgol ym Mangor ar ol y rhyfel chwaith. Y gwir yw fod y gŵr ifanc a aeth i’r coleg wedi ei danio a’i ysbrydoli fwyfwy gan weledigaeth eang o Deyrnas Dduw. Roedd hynny’n golygu nid yn unig cymod, cyfiawnder a chariad rhwng cenhedloedd, ond hefyd gwerth bywyd pob unigolyn a’r angen i warchod y bywyd drwy werthoedd personol a theuluol – roedd dirwest yn ganolog yn yr argyhoeddiad hwnnw – yn ogystal â gwarchod y genedl Gymreig a Chymraeg. A choleg Seisnig iawn oedd ym Mangor, a llawer o’r myfyrwyr naill ai’n Seisnig neu’n wrth-Gymreig hyd yn oed.

Yn y coleg y daeth JP a Lewis Valentine yn gyfeillion.

Bu’r dystiolaeth heddychol yn anodd iawn yn y coleg, o gofio bod cynifer o gyn-filwyr yno. Cyn-filwr, wrth gwrs, oedd Lewis Valentine, ond fe ddyfnhaodd JP safbwynt heddychol Lewis Valentine a oedd yn gwreiddio Valentine yn nyddiau’r coleg. Roedd y gwahaniaeth corfforol rhyngddynt yn fawr: JP yn un bychan, bywiog, eiddil, ac yr oedd angen iddo edrych i fyny ar Valentine, oedd yn ŵr tal a chryf . Ond daeth eu cyfeillgarwch i olygu bod y naill yn edrych ar y llall ag edmygedd a diolch am gael cydgerdded y ffordd ddi-drais.

Yr oedd angen dewrder i drefnu ymgyrch genhadol ymysg y myfyrwyr yn Nhachwedd 1920 a gwahodd neb llai na’r Athro David Williams a George M. Ll. Davies i arwain. Bu gwrthwynebiad gan awdurdodau’r coleg ac yn fwy fyth gan y cyn-filwyr. Teitl un o sgyrsiau George M. Ll. Davies oedd ‘Arwyddion yr Amserau’ a’i bwyslais oedd fod yr angen i gerddded y ffordd ddi-drais yn fwy nag erioed ar ôl y rhyfel. Er y gallai JP fod yn fyr ei amynedd ac nad oedd yn barod i ddioddef ffyliaid nac ysbryd llugoer, ddifater ar gwestiwn heddwch, yr oedd hefyd yn ŵr gonest, unplyg ac yn llawn cariad a chydymdeimlad at gyd-ddyn. ‘I’w gyd-ddyn anwylyn oedd,’ meddai John Roberts amdano. ‘Meddyg eneidiau’ ydoedd fel gweinidog a bu’r weinidogaeth iacháu yn bwysig iddo fel gweinidog hefyd. Dyna pam y cyfeiriwyd ato fel ‘gŵr y Deyrnas lydan a chyfan’. Pan ddaeth Valentine yn Llywydd y Myfyrwyr yn nes ymlaen, yr oedd yn dibynnu llawer ar gefnogaeth a gofal bugeiliol JP ohono wrth wynebu problemau myfyrwyr o pob math.

Mudiad Seisnig, Anglicanaidd iawn oedd mudiad yr SCM (Students Christian Movement), ond hwn oedd yr unig fudiad Cristnogol i dynnu myfyrwyr at ei gilydd gyda chyfarfod gweddi Saesneg bob amser cinio. Cynigiodd JP eu bod yn cael eu cynnal yn Gymraeg, ac er mai unwaith yr wythnos y cytunwyd ar y pryd, fe ddyfalbarahaodd JP nes cael un Cymraeg bob dydd ac un Saesneg ar ddydd Iau! Yr oedd yr SCM yn cynnal gwasanaeth Saesneg blynyddol yn y gadeirlan ym Mangor hefyd, ond fe ymgyrchodd JP i gael gwasanaeth Cymraeg – ac fe lwyddodd.

Yr oedd brwdfrydedd JP dros ddefnydd o’r Gymraeg yn allweddol hefyd wrth sefydlu’r Facwyfa, y gymdeithas i wrthweithio dylanwad yr Old English Club. Hyrwyddo gweithgarwch Cymraeg o fewn ac oddi allan i’r coleg oedd nod y Facwyfa. Pan ddaeth sôn fod Cymru Coch (cylchgrawn O. M.Edwards) ar fin dod i ben, fe anfonodd JP at Syr Ifan ab Owen Edwards, oedd yn Rhydychen ar y pryd, yn cynnig y byddai’r Facwyfa yn barod i gyhoeddi’r Cymru Coch. ‘Yr oedd JP ar dân tros yr iaith, yn fwy na neb arall ohonom,’ meddai Valentine (Yr oedd JP, gyda llaw, yn blentyn 12 oed, wedi gwneud cais i fod yn Olygydd Trysorfa’r Plant!). Yn anffodus, ni ddaeth ateb gan Syr Ifan, ac aeth y Cymru Coch i’r gwellt. A fyddai wedi parhau yn nwylo JP a myfyrwyr Bangor ac am ba hyd sydd fater arall, ond o leiaf roedd yr awydd a’r parodrwydd i weithio ac i sefyll yn y bwlch yn ennyn edmygedd Lewis Valentine.

O edrych yn ôl, meddai Valentine ei hun, fe ddylem fod wedi mentro mwy, fel yr oedd JP am i ni fentro. Ef oedd yn ysbrydoli’r genhedlaeth arbennig hon o ddarpar weinidogion a heddychwyr cadarn. Pan glywodd JP fod Abaty Maenan ar werth, awgrymodd y dylai criw ohonynt godi’r arian i’w brynu a mynd i fyw yno yn gymuned hunangynhaliol, gan weithio ar y tir. Byddai’n fan i ddatblygu crefftau a chyhoeddi llyfrau, ac i fynd o gwmpas y wlad yn efengylu a hyrwyddo neges heddwch – a gwneud hynny yn annibynnol o bob enwad. Fe fyddai Abaty Maenan yn lle i encilio a myfyrio, a datblygu i fod yn Urdd Heddwch Gymraeg gan feithrin yr ysbrydolrwydd sylfaenol i’r ffordd ddi-drais. Mewn geiriau eraill, yr oedd meddwl a dyhead JP ymhlith meddyliau a dyheadau tebyg oedd yn cyniwair mewn gwledydd eraill yn Ewrop mewn ymateb i gyflafan y Rhyfel Mawr.

Yr oedd JP yn gwbwl o ddifrif ac mae’n werth nodi ei fod, yn diweddarach, wedi mynd i’r Alban i drafod gyda George Macleod ei weledigaeth ef ar gyfer cymuned Iona. Nid ‘breuddwyd myfyriwr’ ydoedd gweld yr eglwys yn ‘gymuned heddwch’ yn meithrin ysbrydolrwydd newydd yng Nghymru a thrwy’r byd. Er nad oedd Macleod ei hun yn heddychwr, ei ysbrydolrwydd yntau oedd yn ei gynnal. Yr oedd am weld tlodion a gweithwyr Glasgow, nad oedd yr eglwys yn ymddangos yn berthnasol iddynt, yn meithrin yr ysbrydolrwydd hwnnw wrth gydweithio a chydaddoli yng nghanol bywyd eu cymuned. Meithrin ysbrydolrwydd y ffordd ddi-drais fu cyfraniad mawr Cymuned Iona i’r eglwys wedi’r Ail Ryfel Byd. Yr oedd JP yn cofleidio yr un weledigaeth. Dyna pam y dywedodd Lewis Valentine y dylent fod wedi gwrando arno ac mai JP ef oedd y gweledydd.

Dau weinidog Penyberth

Yn 1935 derbyniodd JP alwad i gapel Tabernacl, Porthmadog, lle bu’n weinidog am saith mlynedd ar hugain. Y flwyddyn ganlynol digwyddodd gweithred fawr Penyberth, ac ar sail ei genedlaetholdeb i warchod Cymreictod y fro a’i safiad fel heddychwr i atal y militareiddio cynyddol ar fywyd ac ar y byd yn y cyfnod hwnnw, yr oedd JP yn erbyn yr Ysgol Fomio. Yr oedd hwn yn safiad dewr i weinidog oedd newydd ddechrau mewn eglwys newydd. Aeth i’r llys yng Nghaernarfon i gefnogi Valentine, DJ a Saunders. Aeth i Lundain hefyd, ac yr oedd yn un o’r rhai fu’n siarad mewn caffi cyfagos cyn yr achos llys. Ar ôl yr achos yng Nghaernarfon, cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth o £100 yr un, a JP dalodd fechnïaeth DJ oherwydd bod rhywun arall wedi talu mechnïaeth Valentine. Yng Nghaernarfon hefyd y cafodd ei wthio mewn sgarmes gan y rhai a wrthwynebai weinidogion oedd yn cefnogi troseddwyr. Ac yno, yn y sgarmes honno y maluriwyd y sbectol yr oedd JP yn dibynnu’n llwyr arni. ‘Dim ond sbectol,’ meddai.

Yn holl hanes llosgi’r Ysgol Fomio, a’i arwyddocad yn ein hanes fel cenedl, go brin fod lle i sbectol JP. Ond y mae’r sbectol yn yr hanes, oherwydd mae cyfraniad JP yn rhan bwysig o’r hanes hwnnw. Ac nid dim ond ei sbectol: roedd rhai o’i aelodau ym Mhorthmadog yn tystio bod yna focs matsys arbennig iawn yn cael ei arddangos gyda balchder mewn lle amlwg yn y cartref, a’i fod yn brawf o ran J. P.Davies yn yr orchest.

Mae llawer mwy i’w adrodd amdano: sefydlu Heddychwyr Cymru i gynorthwyo gwrthwynebwyr cydwybodol yr Ail Ryfel Byd i wynebu’r tribiwnlysoedd; cynnal y dystiolaeth heddwch yn Llŷn ac Eifionydd yn ystod ac ar ôl y rhyfel – yn arbennig drwy Gymdeithas y Cymod – a chael llawer o feirniadu am wneud hynny. Roedd yng nghanol y gweithgarwch mawr a darddodd drwy Gymdeithas Heddwch yr Annibynwyr, Cymdeithas Heddwch Cymru a chylchgrawn Y Deyrnas. Mae cyfrolau Dewi Eirug Davies yn tystio i’w gyfraniad a’i weithgarwch.

 Ond, yn wythnos Gŵyl Ddewi 2021, tybed a allwn ddweud bod cenhedlaeth JP nid yn unig yn heddychwyr y bu eu cyfraniad – er mai criw bychan oeddynt mewn gwirionedd – yn fawr i’r eglwys a’r genedl, ond hefyd yn ddiwinyddion na fu eu tebyg wedyn? Yr oedd ei ysbrydolrwydd, ei weddi, a’i fugeilio ar fywyd cyfan y praidd dan ei ofal, gan gynnwys yn arbennig y bobl ifanc a aeth i’r rhyfel, yn ogystal â’r aelwydydd a’r gymuned yn eu galar. Cyflwynodd i’w bobl Iesu’r ffordd ddi-drais. Ac fe’i cyflwynodd gyda symlrwydd ffordd radical o fyw wrth ddilyn yr Un oedd â’i draed ar y ddaear, a’i gariad a’i dosturi at ddynoliaeth fregus yn ddatguddiad o gariad Duw ei hun.

Wrth ddathlu gŵyl ein nawddsant canwn ‘Dros Gymru’n gwlad’ a chofiwn am Lewis Valentine. Ond hanner can mlynedd wedi ei farwolaeth cofiwn am J. P. Davies, un o genhedlaeth arbennig sydd wedi gadael gwagle mawr ar eu hôl. Dyna pam y mae cymaint o bwyslais bellach ar Gristnogaeth sydd â’i phwyslais yn arbennig ar brofiad yr unigolyn yn hytrach na Theyrnas Dduw ac arglwyddiaeth Crist ar fywyd ac ar fyd.

Pryderi Llwyd Jones
(Addasiad o sgwrs ar Utgorn Cymru, Canolfan Uwchgwyrfai)