Dim ond Arwydd Jona

Dim ond Arwydd Jona
gan Enid Morgan

A threfnodd yr Arglwydd i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson. (Jona 1:17)

Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy’n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona (Mathew 16:4) (Hefyd, Mathew 12:39–41 a Luc 11:29–32)

Glywsoch chi erioed bregeth ar stori Jona? (Gyrrwch air os gwnaethoch chi!) Mae Iesu’n sôn am ‘arwydd Jona’ ond ni chlywais i erioed bregeth ar y darnau hynny chwaith. Stori liwgar ac od iawn, stori fer sy’n ffitio’n dwt i ddwy dudalen yn y Beibl Cymraeg Newydd; mae hi’n stori y mwynheir dweud ei hanner cyntaf wrth blant. Mae cysylltiad amlwg rhwng tri diwrnod ym mol y pysgodyn a thri diwrnod Iesu yn y bedd. Buaswn yn falch iawn o wybod a oes trafodaeth o’r stori yn Gymraeg. Sut mae ei dehongli hi?

Thomas Merton (1915 – 1968)

Yr oedd y bardd-ddiwinydd Thomas Merton yn ei lyfr The Sign of Jonas (1953) yn trysori’r geiriau. Yr arwydd a addawodd Iesu i’r genhedlaeth nad oedd yn ei ddeall, meddai, oedd ‘arwydd Jonas y proffwyd, sef yr arwydd o’i Atgyfodiad ei hun’. Myn fod yr arwydd yn berthnasol i bob un Cristion sy’n byw yng ngrym yr Atgyfodiad: ‘Fel Jona ei hun rwy’n cael fy hun yn teithio tua fy nhynged ym mol y gwrthddywediad hwn.’Na ’dyw Merton ddim yn hawdd ei ddeall chwaith! Felly, dyma ymdrech i edrych o’r newydd ar y stori oherwydd y mae hi’n stori bwysig iawn, nid dim ond chwedl hwylus i blant, ac mae angen ei dehongli i oedolion er byrred yw.

Mae hi’n stori sy’n allweddol bwysig i’r Iddewon am mai dyma’r darlleniad o’r ysgrythur sydd wedi ei benodi i’w ddarllen yn y synagog ar ddiwrnod Yom Kippur, Dydd y Cymod, uchafbwynt y flwyddyn litwrgaidd Iddewig. Dyma pryd y mae Duw yn datguddio’i natur ei hun. Mae hynny’n awgrymu y dylem ei hystyried yn ofalus, a chofio bod yr Iddewon yn rhai gwych am weld digrifwch hyd yn oed mewn dameg enbyd ei hystyr.

Mae cliw bach yn yr enw Jona fab Amittai sy’n golygu, ‘fy ngwirionedd i’. Dyma ŵr sy’n meddwl ei fod yn gwybod yn iawn beth yw’r gwir ac yn gorfod dysgu beth yw gwirionedd Duw. Mae’n casáu Ninefe, byd y cenhedloedd a’u bryntni a’u drygioni. Ond pan yw’n meddwl bod Duw yn ei yrru i lefaru yn erbyn Ninefe, mae’n ffoi. Dichon bod hynny’n arwydd ei fod yn ofni syrthio i afael y Duw byw, yn golygu cymhwyso’i wirionedd tybiedig ei hun. Gwelwn yn aml fod pobl sy’n argyhoeddedig mai nhw sy’n iawn yn cadw caead ar haenau o gywilydd, o ofn a chasineb. Mae systemau cyfiawnder caeedig yn mynnu hynny. Mae fel petai’n meddwl bod cyfiawnder Jona a chyfiawnder Duw yn un. I lawr yn ei berfeddion mae’n ofni y bydd Duw yn ei newid e. Felly, pan yw Jona yn ei heglu hi i gyfeiriad arall, mae’n ffoi nid yn unig rhag Duw, ond rhagddo ef ei hun.

sistine_jonah

Dehongliad Michaelangelo o stori Jona yng nghapel y Sistine.

Yn y llong mae’r storm o ddicter ac ofn sy ynddo fe ei hunan yn troi’n storm go iawn er ei fod ef ei hun, ynghwsg yng ngwaelod y llong, yn anymwybodol o beth sy’n digwydd. Mae’r llongwyr yn cymryd y camau priodol, ond yn ofer, ac yn ei ddeffro gan dybio fel paganiaid trefnus fod rhyw Dduw wedi digio wrth ddrwgweithredwr. Ac mae’n amlwg mai dyn dieithr sy’n debygol o fod yn euog. Ac fel Hebrëwr, fel gŵr cyfiawn, mae Jona’n mynd ati i frolio’i Dduw – er ei fod yn ffoi rhagddo!

Yn y sefyllfa mae’n amlwg bod Jona yn mynd i gael ei feio ac mae’n paratoi’n briodol o urddasol ar gyfer ei ferthyrdod – yn ei euogrwydd y mae’n gofyn amdani. Ym mol y pysgodyn mae Jona’n gweddïo’n daer weddi o brotest nodweddiadol o’r salmau, gweddi’r un dioddefus sy’n cael ei erlyn ar fai:

Caeodd y dyfroedd amdanaf, a’r dyfnder o’m cwmpas;
Clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau’r mynyddoedd;
Euthum i lawr i’r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth,
Eto dygais fy mywyd i fyny o’r pwll,
O Arglwydd fy Nuw.

Mae’n weddi ar gyfer argyfwng enaid, tebyg i Salm 130: ‘O’r dyfnderau y gwaeddais arnat, O Arglwydd’. Mae arwydd Jona yn disgrifio’r profiad o suddo dan brofiadau bywyd, o salwch iselder enbyd, o argyfwng colled, o dorri i lawr dan bwysau gwaith neu ddioddefaint neu salwch i’r profiad o ddymuno difodiant, ofni difodiant a chrefu am ymwared hefyd. Mae Jona am farw ond mae am gael ei waredu hefyd.

Ac wrth ymbil am waredigaeth a chael byw, mae’r tri diwrnod a’r tair noson yn dod i ben a dyma fe ar y traeth, yn fyw, o chwydfa’r pysgodyn.

Dyma pryd mae Duw’n llefaru eto gan ddweud yn eglur ei fod i gyhoeddi neges y bydd Duw yn ei rhoi iddo. Ond mae Jona ar ormod o frys o lawer. Ei neges, ei wirionedd ei hun sy’n dal yn ei galon. Dinistrio Ninefe yw ei neges fygythiol.

Nawr dyma ddoniolwch y dros ben llestri! Mae pawb yn gwrando arno ac yn edifarhau, a hynny’n drylwyr iawn: y brenin gyntaf, a’i bobl a’r anifeiliaid. Mae pawb, gan gynnwys y gwartheg, yn gwisgo sachlïain! Sgersli bilîf! Buasai’r Iddewon yn siŵr o weld doniolwch y peth. Oedd pobl Israel yn arfer edifarhau wrth glywed neges y proffwydi? Ddim yn aml, siŵr iawn. Ond yma mae’r proffwyd bach anufudd sy ddim hyn yn oed yn gwrando i wybod beth yw gwir neges Duw ei hun i Ninefe, yn bwrw mlaen â’r neges draddodiadol. Bygwth? Edifarhau? Goeliet ti byth! (Fat chance!) Ac eto, dywedir yn y ffordd draddodiadol fod Duw ei hun yn ‘edifarhau am y drwg y bwriadodd ei wneud iddynt, ac nis gwnaeth’.

A dyma Jona’n pwdu am ei fod yn edrych mor dwp, a’r stori’n ddameg am y planhigyn yn tyfu drosto ac yn cael ei ddifetha, ac yntau’n flin. Mae Jona’n tosturio wrth y planhigyn ond nid wrth holl bobl Ninefe.

Mae’n reit eglur, on’d yw, fod Duw o’r dechrau yn hoffi, yn caru, yn trugarhau wrth bobl Ninefe. (Mae ’na stori gyfatebol draddodiadol Iddewig yn dweud bod Miriam wedi dawnsio o lawenydd pan foddwyd yr Eifftiaid yn y Môr Coch. Ond fe ddaeth y dawnsio i ben pan ddywedodd Duw wrthi: ‘Paid ti â llawenhau yn ninistr neb o ’mhlant i.) Mae yn yr Hen Destament â’i storïau erchyll a’i brotestiadau gwaedlyd hefyd haen drwchus sydd yn mynnu mai trugaredd yw Duw. Ac mae clymu neges y Testament Newydd â Llyfr Jona yn atgyfnerthu’n dealltwriaeth o Iesu’r Iddew, a’i ddehongliadau yntau o’r Hen Destament yn tyfu allan o’r dadleuon cyson sy’n codi’n naturiol rhwng athrawon y gyfraith, rhyngddo ef a’r Sadwceaid a’r Phariseaid.

Arwydd Jona, yn wir.