Dathlu Bara’r Bywyd a Chwpan y Fendith

Cymorth i Addoli ac Arbrofi

Dathlu Bara’r Bywyd a Chwpan y Fendith

Ceir amryw enwau a delweddau yn yr ysgrythurau Hebreig a Christnogol i ddisgrifio ‘Duw’. Daethom ynghyd heddiw i addoli a dathlu’r ‘rhuddin yng ngwreiddyn Bod’, chwedl Waldo, hwnnw sydd y tu hwnt i’r holl enwau a delweddau; y peth hwnnw sydd wastad yn anhraethol fwy nag y gallwn ei feddwl na’i fynegi na’i brofi, ond mai’r un ‘Duw’ sy’n bresennol o’n cwmpas ac ynom. Gadewch i ni fod yn ymwybodol ohono wrth ddod ynghyd fel hyn a chofio ein bod ni ar Dir Sanctaidd.

Cyfnod o ddistawrwydd i bob un ohonom fyfyrio a chanolbwyntio o fewn yr hyn a alwn ni yn ‘Dduw’

communioncupGadewch i ni yn awr, yn ddiffuant a didramgwydd agosáu at y Dirgeledd sydd y tu hwnt i amser a gyflwynwyd i Gristnogion yn Iesu o Nasareth, ein porth ni i’r dwyfol. Ym mhresenoldeb y Sanctaidd gadewch i ni ymlonyddu a bod yn gwbl dangnefeddus ynom ein hunain a chyda’r hanfod hwnnw a alwn ni’n ‘Dduw’. (Distawrwydd)

Ac felly, mewn diolchgarwch, gadewch i ni roi ein hunain unwaith eto i’r ffyrdd newydd o fyw a ddangoswyd i ni yn Iesu. Bydded i’r Doethineb dwyfol ein dysgu o’r newydd bod cariad hunanaberthol yn cyfarfod â’r hyn sy’n Sanctaidd; bod rhoi ein hunain mewn gwasanaeth i’n teuluoedd, ein cyfeillion a’n cymdogion yn brofiad o gael ein trawsnewid i fod yn debycach i Iesu. Amen.

Bydd cyfle am gyfnodau pellach o ddistawrwydd ar ôl pob deisyfiad.

chaliceYn awr, ymgasglwn o gwmpas y bwrdd coffa hwn a dathlu presenoldeb Creawdwr cyson popeth sydd y tu mewn a thu hwnt i bob un ohonom. (Distawrwydd)

Rydym yma ym mhresenoldeb Ysbryd Sanctaidd y Derbyn a’r Deall sy’n galw ac yn llawenhau ym mhob un ohonom fel rydyn ni. (Distawrwydd)

Yn yr un Ysbryd Sanctaidd o Dderbyn cariadus a Maddeuant diamod, rhannwn dangnefedd Duw a’n tangnefedd ninnau, gyda’n gilydd.

Tangnefedd yr Arglwydd a fo bob amser gyda chi

A hefyd gyda thi.

 (Rhannwn arwydd o’r tangnefedd hwnnw)

Y Weddi Fawr

Gadewch i ni dderbyn gyda’n gilydd wahoddiad yr Ysbryd sy’n trigo ynom i ddod at y bwrdd hwn i gofio a dathlu gyda’n gilydd â chalonnau diolchgar. Wedi ein huno yn Ysbryd Tangnefedd a Chymod, dathlwn bresenoldeb yr un Ysbryd Glân ag a lwyr feddiannodd Iesu.

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar nad ‘dim ond dynol’ ydyn ni, ond ein bod wedi’n gwneud yn ogoneddus ar ddelw’r Sanctaidd! Rydyn ni’n greadigaethau rhyfeddol o’r Un sy bob amser yn ‘fwy na Duw’ ac yn ein hannog i fod yn fwyfwy sanctaidd yn ein bywydau.

Llawenhawn am ein bod yn rhan o’r Cread sydd wedi ei lanw, fel y llenwir teml, â phresenoldeb yr Ysbryd Glân.

Boed i ni floeddio â bonllefau sanctaidd: ‘Rydyn ni’n ogoneddus ddynol, wedi ein llanw â’r Ysbryd Glân er mwyn i ni fyw fel y bu Iesu fyw! Gadewch i ni ledu ein breichiau; gadewch i ni wenu’n llydan; gadewch i ni neidio cyn uched ag y medrwn; gadewch i’n bonllefau fod yn floedd uchel o fawl y gallwn ei gynnig am ein bod wedi ein llanw â’r un Ysbryd Glân ag a oedd yn Iesu.

Wrth gwrs rydyn ni’n methu cyrraedd at yr alwad sanctaidd arnom ac ynom i gyd, ond gyda Iesu’n batrwm inni a’r Ysbryd Glân yn ein hannog a’n ‘diddanu’, does yna ddim diwedd ar beth fedrwn dyfu i fod fel dynoliaeth lawn o’r Ysbryd Glân. Fe ddywedodd Iesu ei hun y gallem wneud y cwbl a wnaeth ef, a hyd yn oed mwy!

Gadewch i ni gofio cyfnodau o’r gorffennol a diolch am gyfeillgarwch a chynhaliaeth yr Ysbryd Dwyfol ynom ac mewn eraill wrth i ni deithio yn ein pererindod o ffydd, gan ein hannog i dyfu i’r lle’r ydyn ni heddiw.

Nac ofnwn am y dyfodol, ond yn hytrach gadewch i ni fod yn ymwybodol o bresenoldeb yr Ysbryd sy’n trigo ynom ac yn ein gwahodd i fod yn gysurus am beth sydd i ddod wrth i ni gamu’n llawen i’r  dyfodol anhysbys.

communion-glassesAc felly, wrth i ni rannu’r bara a’r gwin gyda’n gilydd, rydym yn symbol o’n hundod yn Iesu, yr un Arbennig. Yn y funud sanctaidd hon, rydyn ni’n ail-fyw digwyddiadau’r noson cyn i Iesu farw, ac wrth eistedd gyda’i gyfeillion wrth y bwrdd, cymerodd fara, rhoi diolch, ei fendithio a’i dorri. Yn rhannodd Iesu’r bara gyda nhw.

Wrth rannu’r bara hwn a’r gwin hwn gyda’n gilydd, cofiwn am Iesu, am yr hyn ydoedd, beth ydyw a beth fydd e yn oes oesoedd, ein Porth i ymwybyddiaeth o’r Presenoldeb Dwyfol.

Nawr, fe wnawn beth wnaeth Iesu: torri Bara’r Bywyd drosom ein gilydd yn symbol o’i gorff briwedig Ef.

(Torrer y bara a’i gynnig i gymydog: ‘Bara’r Bywyd’)

Nawr, fe wnawn beth wnaeth Iesu: cymryd cwpan o win a’i rannu gyda’n gilydd yn symbol o fendith ei fywyd wedi ei roi yn rhydd.

(Coder y cwpan a’i gynnig i gymydog: ‘Cwpan y Fendith’)

Dywedwn gyda’n gilydd:

Ysbryd sydd yn trigo ynom, yr ydym wedi rhannu bara a gwin, symbolau aberth, gwasanaeth ac undod. Calonoga ni yn ein gwaith gyda’n gilydd fel y tyfwn mewn cariad, a gwasanaethu’n gilydd yn y gyfeillach hon. Amen.

 Gweddi’r Arglwydd (seiliedig ar fersiwn gan Sam Alexander)

Y pethau hynny sy’n dda, yn iawn ac yn wir;
Rwy’n eu cydnabod â chariad ac anrhydedd;
Mae’r pethau hyn wedi dod,
Mae’r pethau hyn wedi cael eu gwneud,
Mae’r ddaear hon yn Nefoedd fyw.
Derbyniais gyflawnder, rwy’n gyfoethog a rhydd, yn hael a maddeugar,
Fy meddyliau’n iach a dyrchafol
Fel fy ngweithredoedd a’r byd o’m cwmpas;
Dyna lle y ceir hapusrwydd
A gallu a gogoniant
Yn oes oesoedd Amen

Bendithiwn ein gilydd:

Bendithied yr Arglwydd di a’th gadw; llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat a bod yn rasol wrthyt; edryched yr Arglwydd yn garedig arnat a rhoi i ti dangnefedd. Amen.

Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu’r Arglwydd

Yn enw Crist, Amen.

 

(Lluniwyd y gwasanaeth hwn yn wreiddiol gan John Churchill ar gyfer cynhadledd PCN yn 2016. Mae strwythur y gwasanaeth yn bur draddodiadol ond mae’r ieithwedd yn ddyledus i John Spong a Marcus Borg. Rydyn ni’n ddyledus i PCN am ganiatâd i’w addasu i’n hamcanion ni. Fe’i cynigir yma yn Agora fel adnodd y gellir benthyca rhannau ohono yn ogystal â’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd. Mae croeso i gapeli ac eglwysi, grwpiau fyddai’n hoffi arbrofi â ffurfiau newydd. Fe fyddem yn falch o wybod sut y mae’n gweithio! Mae defnyddio ffurf newydd braidd fel gwisgo esgidiau newydd – mae’n cymryd tipyn o arfer i fod yn gysurus. Croesawn ymatebion a hanesion am yr arbrofion – byddai trafodaeth ar eu rhinweddau a’u gwendidau’n fuddiol iawn.)