Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf fod pobl yn marw o newyn gan nad oes bwyd i’w fwyta. Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf fod pobl yn marw o ddiffyg gobaith gan eu bod nhw’n methu gweld dihangfa. Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf fod pobl yn marw o ofn, wedi boddi mewn tawelwch, tawelwch marwolaeth. Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf fod pobl yn marw o dristwch gan eu bod wedi hel trysorau lawer ac wedi colli eu heneidiau. Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf fod pobl yn marw o ddewrder gan eu bod wedi beiddio llefaru, yn gweiddi yn erbyn gormes. Iesu Grist, Mab Duw, a alwyd yn Dywysog Tangnefedd a (trwy gamgymeriad yr awdurdodau Rhufeinig) Brenin yr Iddewon. Dienyddwyd ef yn ôl arferiad lluoedd y meddiant a bu farw ar groes. Nid oedd ganddo fyddin. Nid oedd ganddo adnoddau. Nid oedd ganddo gysylltiadau â’r pwysigion. Ni throdd gerrig yn fara. Ni sefydlodd y Deyrnas. Nid oedd ganddo rym. Mae fy nghalon yn crynu, Oni allasai droi y cerrig hynny yn fara? Oni allasai neidio o furiau’r deml? Oni allasai ei gyhoeddi ei hun – llywodraethwr y ddaear a sefydlu’r deyrnas? Pam y miliynau o ocheneidiau chwerw? Pam yr holl ddagrau o ddicter? Pam y chwalwyd yr holl obeithion a breuddwydion? Pam yr anobaith noeth yn llygaid bachgen bach – fy machgen i – wrth iddo geisio dianc oddi wrth y drylliau. Rydym yn dal i aros am y wyrth. Mae’r diafol yn parhau i’n temtio. Pe na bai Crist wedi atgyfodi, Pe na bai gennym yr addewid, Pe na allasem gael y dewrder i fentro, Petasai’n rhaid i ni fod yn ofnus, Pe na bai nerth yr Arglwydd Yn bresennol yn ein gwendidau ni, Rydym yn dal i aros am y wyrth, Petasai ... Reinhild Traitler cyf. Rwth Tomos Cyhoeddwyd yn Didreisedd Cristnogol, pecyn gwaith, gan Gymdeithas y Cymod yng Nghymru (addasiad Cymraeg gan Rwth Tomos, Alun Tudur a Nia Rhosier)