Darlith Morlan-Pantyfedwen
‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain.

Loretta Minghella
Rodd hi’n ddarlith gynhwysfawr, yn gweu ynghyd ystadegau, egwyddorion a straeon dwys, personol mewn ffordd hynod effeithiol. Yn y cefndir yr oedd yr argyfwng ffoaduriaid enbyd yn Ewrop ar hyn o bryd a’r cwestiynau’n hofran uwch ein pennau: ‘Pam nad ydi tlodi wedi ei ddileu? Pam y mae 1% o boblogaeth y byd yn meddu ar 40% o gyfoeth y byd?’ Darfu’r gobaith y byddai twf economaidd yn golygu bod y cyfoeth yn diferu ar y tlodion.
O ran egwyddor, y mae’r sylfaen Gristnogol ein bod i gyd wedi ein gwneud ar ddelw Duw ac nad yw un person yn bwysicach nag un arall, bod perthynas deg rhwng pobl a chymunedau yn allweddol, nad ydi Duw yn derbyn wyneb.
O ran ystadegau: bod 20,000 o eglwysi yn ymuno mewn gweithgaredd codi arian yn wythnos Cymorth Cristnogol; a bod 300 miliwn o bobl yn yr India’n unig yn byw ar lai nag $1.9 y dydd (y ffon fesur bresennol sy’n dynodi tlodi affwysol). Mae trefn caste yn gyfystyr â thlodi, a dalits yn India yn cael eu gorfodi i wneud y gwaith butraf; gwragedd yw 80% o’r rhai sy’n glanhau tai bach y cyfoethog (yr enw ar y gwaith yw SKA), a chael y nesaf peth i ddim tâl ond llwyth o waradwydd am wneud. Dywedodd fod Cymorth Cristnogol yn cyd-weithio â bron 200 o fudiadau gwirfoddol i ddwyn pwysau ar lywodraethau gan ddangos cynifer o bobl sy’n eu cefnogi; a bod newid y gorthrwm ar wragedd ledled byd yn allweddol i sicrhau tegwch a chydraddoldeb.
Soniodd am ŵr yn un o favellas Sao Paolo yn dangos y môr o fwd a ddymchwelodd y tŷ yr oedd ef ei hun wedi ei godi ac yn wylo ar ei hysgwydd; am y ferch oedd wedi colli popeth dro ar ôl tro mewn llifogydd yn Bangladesh; Ivan, y gŵr ifanc ar ffin Macedonia yn cyfaddef bod ganddo arian parod, ond ddim heddwch, a dim gobaith. Mae gan Gristnogaeth, felly, fodel i’w ddynwared yn Iesu, a dreuliodd cymaint o’i amser gyda phobl yr ymylon.
Bu gwelliannau dros y 70 o flynyddoedd ers sefydlu Cymorth Cristnogol – gwella meddygaeth, gwell darpariaeth dŵr glân, darparu addysg, disgwyl byw yn hwy, ond y mae’n hawdd iawn i waith da gael ei ddinistrio.
Dal ati i weithio dros heddwch a gobaith fydd yn sicrhau bod Cristnogaeth yn dal i fod yn Newyddion Da i’r tlawd.