Nid mater o gredu yw ffydd. Mater o ymddiried yw, mater o garu, mater o fyw.
Nid mater o gredu; mater o ymddiried yw ffydd.
Ffydd yw rhoi un droed o flaen y llall ac ymddiried y bydd daear odani.
Nid mater o gredu yw ffydd, ond mater o garu.
Ffydd yw syllu i’r tywyllwch ac ymddiried bod cariad yn bod a mentro bod yn ddigon dewr i ymagor i’r cariad hwnnw, ac yna ymddiried digon i roi cariad ’nôl.
Nid mater o gredu yw ffydd, ond mater o fyw: byw gan wybod bod tywyllwch yn ein disgwyl i gyd; byw gan ymddiried y bydd cariad yn gydymaith i ni drwy’r tywyllwch.
Nid mater o gredu yw ffydd. Ffydd yw meddu digon o ddewrder i gofleidio’r bore gan ymddiried y gallwn roi un droed o flaen y llall ac y bydd y ddaear yno odanom.
Ffydd yw ymddiried mai cariad yw sail ein bodolaeth.
Ffydd yw caru, byw ac wynebu’r tywyllwch ac ymddiried na fydd y tywyllwch yn ein trechu.