E-fwletin Ebrill 17eg, 2016

E-fwletin Ebrill 17eg, 2016:

Mae’n gyfnod etholiadau ac yn Y Tyst yr wythnos hon mae Dewi Myrddin Hughes yn ei Farn Annibynnol yn sôn am bwysigrwydd cymryd rhan yn y bleidlais: “Daeth yn bryd eto”, meddai, “i bwyso a mesur pwy sy’n debygol o adeiladu cymdeithas decach a charedicach.” Yn yr un rhifyn o’r Tyst mae Hywel Wyn Richards, Cadeirydd Adran Dinasyddiaeth Undeb yr Annibynwyr, yn cyflwyno nifer o ffynonellau gwybodaeth sy’n bwrpasol ar gyfer etholiad y Cynulliad – gan gynnwys adnoddau hynod ddefnyddiol CYTÛN. Sonia hefyd am chwe nod ‘Citizen CymruWales’ ar gyfer tymor nesaf y Senedd yn y Bae; rhain hefyd yn ymwneud â chyfiawnder ac urddas cymdeithasol.

Dros yr wythnosau diwethaf ‘rwyf hefyd wedi bod yn darllen dau lyfr a ddanfonwyd i mi gan gyd-weithiwr a chyfaill ym Mhrifysgol Kentucky, yn yr Unol Daleithau, sy’n arddel y Ffydd Gristnogol ond, rhaid cyfaddef, sydd yn ei dehongli rhywfaint yn wahanol i mi! “How Would Jesus Vote?” gan Charles McGregor (2012) yw’r cyntaf, “How Should Christians Vote?” gan Tony Evans (2012) yw’r ail. Er gwaethaf bod braidd yn anghyfforddus gyda rhai (a dweud y gwir, nifer go lew yn achos un!) o ddadleuon y ddau awdur, maent yn codi un cwestiwn hynod ddiddorol, a chwestiwn, fel mae’n digwydd, sy’n hynod berthnasol i’m sefyllfa gyfredol yn etholiad y Cynulliad 2016:

Beth ddylai Cristion ei wneud pan fydd yr ymgeisydd y mae’n reddfol yn cytuno gyda’i safbwyntiau, ac yn wir bolisïau ei blaid, ar dlodi, rhyfel, iechyd a gofal cymdeithasol, a nifer o bethau eraill, yn datgan yn gwbl agored mai anffyddiwr ydyw ac nad yw’n credu dylai crefydd (boed Gristion, Fwslim neu Sîc) chwarae unrhyw ran mewn cymdeithas iach seciwlar. Ar y llaw arall, mae’r ymgeisydd y byddwn fel Cymro gwlatgar, anghydffurfiol yn arswydo rhag pleidleisio drosto, oherwydd rhai o’i ddaliadau ar yr union faterion y rhestrir uchod, yn datgan yn eglur a chroyw mai’r hyn sydd ei angen ar ein cymdeithas yw ail ddarganfod y gwerthoedd Cristnogol; yn ôl ei daflen ymgyrchu dyma berson sy’n hynod weithgar yn ei eglwys (ac fel mae’n digwydd, ‘rwy’n gwybod ei fod!).

Ble felly dylwn roi fy nghroes?  Un person yn gwadu’n gyhoeddus bodolaeth Duw’r Creawdwr a’i fab, ein Harglwydd Iesu, ond yn dadlau achos Cristnogaeth (yn fy nhyb i, o leiaf), a’r llall yn credu mai dilyn Crist yw’r ffordd ond yn dehongli neges y Crist hwn mewn ffyrdd na fedra i gytuno â hwy. Dilemma? Neu fi sydd wedi colli’r plot?

Gyda llaw – os buoch yn gwrando ar ‘Bwrw Golwg’ fore heddiw fe glywsoch gerdd newydd Arwel Rocet, fel bardd preswyl Radio Cymru am y mis, mewn ymateb i Encil Nant Gwrtheyrn. Mae ar gael ar wefan Bwrw Golwg yma:

www.bbc.co.uk/programmes/p03r9prw