Plwyfoldeb

Plwyfoldeb, y filltir sgwâr a merch y ficer

gan

Gethin Rhys

Gethin Rhys

It’s the economy, stupid!’ meddai Bill Clinton wrth esbonio beth oedd yn cymell pobl i bleidleisio. Ac er na fu hynny’n wir am bob pleidleisiwr, roedd yn esbonio canlyniadau etholiadau’r Gorllewin am ddwy genhedlaeth.

O gyfnod ‘You’ve never had it so good’ (Harold Macmillan) a ‘The white heat of the technological revolution’ (Harold Wilson), roedd apelio at hunan-fudd economaidd etholwyr yn ddigon i gario’r dydd.

Ar adegau eraill, fe fu anghymwysedd economaidd y llywodraeth yn ddigon i danseilio’i hygrededd; dyna ddiwedd llywodraeth Harold Wilson ym 1970 ar ôl i’r diffyg masnachol gynyddu’n sylweddol, er iddo fod yn boblogaidd iawn hyd hynny, a bu dydd Mercher du yn ddigon i ladd hygrededd llywodraeth John Major o fewn ychydig fisoedd iddo gael ei ethol ym 1992.

Ond fe ddaeth tro ar fyd. Fe fu rhai etholwr ar hyd yr amser yn pleidleisio nid yn ôl yr economi ond yn ôl eu hunaniaeth – hunaniaeth dosbarth (Llafur neu Geidwadol), hunaniaeth genedlaethol (Plaid Cymru neu’r SNP) neu hunaniaeth grefyddol (DUP neu Sinn Féin). Ers chwalfa economaidd 2008 fe ymddengys i’r rhan fwyaf o’r cyhoedd gasglu na ellir ymddiried mewn unrhyw blaid wleidyddol i reoli’r economi – nac i ddweud y gwir amdano. Felly, cystal pleidleisio ar sail hunaniaeth.

Yng ngwledydd Prydain fe ddechreuodd y symudiad hwn gyda thwf yr SNP yn 2007 ac wedyn. Gwelwyd rhywbeth tebyg gyda Jeremy Corbyn a’i apêl ar sail hunaniaeth dosbarth ar ôl 2015. Ar raddfa lai, fe fu’r dyblu yn aelodaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn refferendwm Ewrop yn ganlyniad apelio at etholwyr a chanddynt hunaniaeth Ewropeaidd – tra bod canlyniad y refferendwm ei hun, yn nannedd yr holl dystiolaeth economaidd, yn arwydd pendant mai hunaniaeth yn hytrach na’r economi yw prif gymhelliad y pleidleiswyr erbyn hyn. Roedd llawer o’r ardaloedd a bleidleisiodd o blaid Ewrop (megis yr Alban, Gwynedd a Cheredigion) yn arddel hunaniaeth genedlaethol ac Ewropeaidd yn hytrach nag un Brydeinig – neu, yn achos y prifddinasoedd Caerdydd a Llundain, hunaniaeth gosmopolitaidd – tra bod Prydain a hyd yn oed yr ymerodraeth Brydeinig yn apelgar i lawer o’r ardaloedd a bleidleisiodd o blaid ymadael.

Mae sylwebwyr gwleidyddol at ei gilydd wedi eu drysu gan hyn. Nid ydynt yn deall y patrwm hwn, wedi dwy neu dair cenhedlaeth o nodi dirywiad mewn pleidleisio o’r fath. Ond un gwleidydd sydd wedi deall yw Theresa May, ac mae’n werth holi o ble ddaw ei greddf. Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Hydref 2016, meddai Mrs May, ‘If you are a citizen of the world, you are a citizen of nowhere.’ Wfft, felly, i’r weledigaeth gosmopolitaidd yn y prifddinasoedd.

Theresa May

Pam y dirmyg hwn ar ei rhan? Tybiaf fod angen mynd ’nôl i’w magwraeth yn ferch i ficer Eglwys Loegr yn Wheatley, pentref tu allan i Rydychen. Rwy’n digwydd adnabod y pentref, ac yn y 1970au a’r 1980au pan oedd hi yno, roedd yn blwyf Anglicanaidd traddodiadol. Roedd y boblogaeth yn weddol sefydlog, ond gyda chymudwyr i’r brifysgol a busnesau wedi symud atynt. Poblogaeth groenwyn, gyfforddus. Roedd gan y ficer ofal un eglwys ac roedd yn adnabod pawb yn y pentref.

Wheatley (Llun: Joho345)

Dyma lle ffurfiwyd ei hunaniaeth hi, ac mae hi’n deall yn reddfol yr awydd am ddychwelyd i gymdeithas sydd (gyda sbectol canol oed) yn ymddangos yn sefydlog, yn hapus ac yn ddymunol.

Mae’r darlun hwn yn treiddio trwy bob araith a sylw o’i heiddo am y math o gymdeithas mae hi am ei gweld. Mae hi’n ddigon agored i dderbyn pobl newydd ac arferion newydd – sylwer ar ei chefnogaeth gadarn i ferched sy’n gwisgo gwisg Islamaidd – ond mae hefyd am weld y bobl a’r arferion hynny’n cael eu cymathu i’r pentref Prydeinig. Yn wir, caf yr argraff ei bod yn croesawu gwerthoedd teuluol traddodiadol crefyddau megis Islam yn fwy na rhyddfrydiaeth rywiol cyn-Gristnogion ei phlwyf. Mae’n ffieiddio casineb hiliol a chrefyddol, ond ar yr un pryd yn deall pobl sy’n amheus o werth newid cyflym yn y gymdeithas. Yn yr ystyr yna, mae hi’n geidwadwraig heb ei hail.

Ymateb cyntaf rhai ohonom yng Nghymru yw gweld y gwerthoedd hyn yn rhai ‘Seisnig’ iawn. Maent yn drewi o blwyfoldeb, meddwn. Ond arhoswch eiliad. Os ydych am ddod â dagrau i lygaid Cymro neu Gymraes gosmopolitaidd, does ond angen sôn am ‘filltir sgwâr’ D. J. Williams – neu ganu ‘Ry’n ni yma o hyd’ – ac onid ein fersiwn ni o’r un gredo yw hyn? Mae geiriau megis ‘cynefin’ a ‘phentref’ yn ddwfn yn ein henaid. Tra bod Cymry yn ymfalchïo yng ngwerthoedd eangfrydig Caerdydd neu Lundain, rydym yn hiraethu am agosatrwydd Trefin neu Dreorci. Yn wir, mae llawer o Gymry sydd – fel finnau – wedi symud o’r cymoedd i Gaerdydd yn llawn rhamant am natur agos-atoch tai teras y pentrefi glofaol lle mae pawb yn adnabod ei gilydd. Ond yn y gwynt nesaf dyma ni’n eu melltithio am eu ‘culni’ yn pleidleisio ar sail yr hunaniaeth honno i wrthwynebu’r newid i’r gymdeithas yn sgil mewnfudo o ddwyrain Ewrop. Ar ochr arall y geiniog, tra ydym yn croesawu eangfrydedd pleidleiswyr Llundain a’u brwdfrydedd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a byw mewn dinas lle siaradeir cannoedd o ieithoedd, rydym yn gresynu at y ffordd mae teithwyr yr Underground yn anwybyddu ei gilydd, a bod neb yn cynnal sgwrs ar y stryd nac yn adnabod eu cymdogion. Onid ofni cymdeithas felly yr oedd rhai o leiaf o bleidleiswyr Brexit Cymru?

Caradoc Evans

Mae’r awydd am gymdeithas Gymraeg a Chymreig, gwlad o bentrefi cydlynus a hapus, yn ddwfn yn y rhan fwyaf ohonom. Ofnaf fod yr hiraeth hwn yr un mor gul â hiraeth Mrs May. Ganrif yn ôl fe ddarluniodd Caradoc Evans yn ei straeon deifiol, My People, gymdeithas a oedd yn gydlynus a hapus ar yr wyneb, dim ond am fod unrhyw un oedd yn wahanol – yn amau arferion y capel, yn sâl yn feddyliol, yn anabl – yn cael eu cadw o’r golwg dan orthrwm trefn haearnaidd a chaethiwus. Roedd ef yn Llundain erbyn cyhoeddi’r gyfrol. Bu’r ymateb yng Nghymru yn ffyrnig, ac mae’n dal i ennyn teimladau cryf gan ei fod yn herio ein hunaniaeth hiraethus. Meddylier am y ferch ar gyfres deledu BBC Wales in the 60s yn adrodd sut y bu i’w mam – selog yn y capel – ei churo i lawr y grisiau am iddi feiddio dawnsio i gerddoriaeth bop Saesneg yng ngolwg ffenestr ei stafell wely. I Lundain yr aeth hi hefyd ar ei chyfle cyntaf ac, fel Caradoc Evans, prin y bu iddi ddychwelyd.

‘Gwared ni rhag culni o bob rhyw’ 

‘Gwared ni rhag culni o bob rhyw’ canodd Elfed. A bu raid iddo yntau fynd i weinidogaethu yn Llundain i ddarganfod y gymdeithas rydd o gulni yr oedd ef yn dyheu amdani. Ond dychwelai’n fynych iawn i bregethu yn yr hen bentrefi a dod yn fwyfwy hiraethus am y gymdeithas wledig a adawodd ar ei ôl. Ar begwn arall yn ddiwinyddol, ond yn rhannu stori debyg, yr oedd Dr Martyn Lloyd-Jones. Yn Y Llwybrau Gynt fe ddywedodd ef nad oedd un Cristion yn Llangeitho ei febyd, dim ond capelwyr. Er bod ei ddiffiniad o Gristion yn wahanol i’r eiddo Caradoc Evans neu Elfed, yr un oedd ei gasgliad – ac i Lundain yr aeth yntau i weinidogaethu, er ei fod – fel Elfed – yn bregethwr cyson ym mhulpudau Cymru.

Felly mae’r tyndra hwn rhwng dymuno cymdeithas blwyfol y filltir sgwâr, a ffoi oddi wrthi, yr un mor ddwfn ynom ni’r Cymry ag yw yn y Saeson. Yn wir, mae golwg ar y map o’r ardaloedd hynny a bleidleisiodd dros Brexit yn darlunio’r gynghrair ryfeddol hon rhwng Sir Benfro a Sir Gâr, Blaenau Gwent a Thorfaen, Swydd Henffordd a Chaerwrangon, Sunderland a Chernyw. Nid dosbarth, iaith na ffawd economaidd sy’n clymu’r holl lefydd hyn – mae rhai’n ffyniannus ryfeddol ac eraill yn dlawd ddychrynllyd. Yr hyn sy’n eu clymu yw dyheu am fyw mewn milltir sgwâr lle bydd pobl yn adnabod ei gilydd, lle bydd yna werthoedd cyffredin yn dal pawb ynghyd (a ‘throseddwyr’ yn erbyn y gwerthoedd hynny yn cael eu hesgymuno’n dawel) a lle bydd y ficer neu’r gweinidog yn galw heibio am baned bob hyn a hyn. Doedd David Cameron, o’i gefndir yng nghymdeithas amlddiwylliannol Eton, ddim yn deall y dyhead hwn ac fe wnaeth gamgymeriad aruthrol yn credu mai rhywbeth ymylol oedd hyn. Mae Theresa May, merch y ficer, yn deall yn iawn.

Nicola Sturgeon

Felly hefyd Nicola Sturgeon, gyda’i hapêl i hunaniaeth Albanaidd gref (ac fe ddaeth yn amlwg wrth ysgrifennu’r erthygl hon mai ymylol yw’r weledigaeth Ewropeaidd i’r SNP: y tebygrwydd yw mai ymuno â chlwb economaidd EFTA ac nid â hunaniaeth ddyfnach yr Undeb Ewropeaidd a wnâi Alban unedig).

Mae gwleidyddion yr asgell dde eithafol yn barod iawn i elwa ar y teimladau hyn – gweler Donald Trump a Marine Le Pen. Mae gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn ei chael hi’n anodd iawn dianc o rigolau hen hunaniaeth – ac ar raglen etholiadol i bobl ifainc ar BBC Northern Ireland yn ystod etholiad mis Mawrth fe gododd tri chwarter y bobl ifainc yn y gynulleidfa eu dwylo i ddweud eu bod yn gweld eu dyfodol y tu allan i’r dalaith.

Y cwestiwn i ni yng Nghymru yw a allwn feithrin gwleidyddion â gwell moesau ond sydd hwythau’n deall y dyheadau dwfn ynom ni’r Cymry ac yn gallu uno’r Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg, y trefol a’r gwledig i leisio hunaniaeth Gymreig fydd yn gwneud cyfiawnder â’r hiraeth am y filltir sgwâr ac â’r gwirionedd bod bron pob person ifanc am ddianc rhag culni’r plwyf. Ceisiwn ddeall – a gweddïwn.

Gethin Rhys yw Swyddog Polisi Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 18 Mawrth 2017.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.