Myfyrdod y Pasg

Myfyrdod y Pasg
gan Geraint Rees

(Myfyrdod wedi ei ysbrydoli gan “Easter is Breaking” gan Kathleen Rolenz.)

MAE’R PASG YN GWAWRIO

Ym mhobman ar draws y byd, mae hi’n gyfnod y pasg. 

Nid y pasg y meddyliwn amdano lle bydd pobl yn gweiddi ‘atgyfododd!’ ar hyd y strydoedd, ond rhywbeth distaw, pasg llai dramatig. 

Yn rhywle yn y byd, efallai nid heddi, ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi, mae dyn a dynes yn codi o’u gwely ac yn ysgwyd y cwsg o’u llygaid.  Maen nhw’n darganfod fod eu plant eisoes wedi dihuno ac yn paratoi am eu gweddïau boreol. Dros nos, ni fu sŵn drylliau na bomiau. Dros nos, ni fu saethu rhwng y dynion cyffuriau. Dim sgrechian na gweiddi. Dim ond tawelwch y nos, a heddwch tangnefeddus o’u cwmpas.

A rhywle yn y byd, efallai nid heddi, ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi, mae milwr yn pacio ei fag yn ofalus. Mae e wedi cael gwared ar ei fwledi ac yn newid o’i lifrau i ddillad dyn cyffredin. Mae e’n dod adre am fod heddwch ar droed a does dim galw am wasanaeth milwr  mwyach.  

A rhywle yn y byd, efallai nid heddi ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi, bydd y pasg yn gwawrio. Nid yn unig ar y dydd hwnnw, ond bob dydd, a phan ddigwydd hynny bydd curiad calon pob dyn yn pwmpio … heddwch, heddwch, heddwch.   Tangnefedd.   

 Ym myd y pasg hwnnw, bydd gan bob un ohonom rôl i’w chwarae. Ond i wneud hynny, rhaid i ni gyd gydnabod gwerth pob person arall.  Na, mwy na hynny, rhaid i ni gydnabod cydraddoldeb pob unigolyn arall. 

Pobl y dwyrain canol sydd yn grac, ac wedi blino ar fod yn grac,
erfyniwn am heddwch Duw i chi. 

Pobl Affrica, sydd wedi eich hecsploetio, ac wedi blino ar gael eich hecsploetio,
erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl De America sydd wedi cael eu tawelu, ac wedi blino ar fod yn dawel,
erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl Korea sydd wedi eich rhannu, ac wedi blino ar gael eich rhannu,
erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl Irac, wedi eich torri ac wedi blino ar gael eich torri,
erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl Affganistan, wedi eich rhacso, ac wedi blino ar gael eich rhacso,
erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl y gorllewin, breintiedig ac wedi blino ar fod mor freintiedig,
erfyniwn am heddwch Duw i ni. Amen.  

 

Teithiwn y bore ‘ma gyda’n gilydd o’r gofod hwn i ddirnad yr ysbrydoliaeth i fyw ein bywydau’n llawn dros yr wythnos nesaf.

Awn o’r lle hwn i fyw bywydau sy’n gwerthfawrogi’r cwestiynau tra’n ceisio  byw yr atebion.   Mae stori’r pasg yn aml yn ein gadael gyda mwy o gwestiynau nag y mae yn eu hateb.  Dathlwn y cwestiynau hynny yn y sicrwydd ein bod yn gallu byw yn iawn gydag ansicrwydd.  Dathlwn yr hyn y gallwn fod yn sicr ohono hefyd.  Gwyddom fbod ‘na ffordd sy’n well i fyw, a’r ffordd honno’n gymhelliad di-baid i ni garu gelynion, maddau i’n dyledwyr a charu cymydog. Pob cymydog.   Amen.  

 

 
               Gweddi ar gyfer y Grawys

Mae Iesu yn ein gwahodd i fyw mewn llawenydd, yn ein gwahodd i gwrdd a gwledda gyda’r gorthrymedig a’r tlawd.

Cyd-gerddwn ei ffordd mewn llawenydd.

Mae Iesu yn ein gwahodd i fyw bywyd cyffrous, gan ollwng ein hawydd am ddiogelwch. Mae yn ein herio i wrando ar leisiau’r rhai sydd â dim i’w golli.

Cyd-gerddwn ei ffordd mewn llawenydd.

Mae Iesu yn ein cyfeirio at ffordd hunanaberth, ffordd sy’n tanseilio byd sy’n dwlu ar statws a grym. Mae e’n ein galw i ddilyn ffordd y groes, lle mae pris i’w dalu am fyw daioni a chariad di-amod.

Cyd-gerddwn ei ffordd  mewn llawenydd.

Wrth ofalu, gadewch i ni fod yn ddi-flino.  Wrth amddiffyn y gwan, byddwn yn gadarn. Wrth warchod ein gilydd a gofalu’n ddi-ildio, byddwn yn dyner.

Canys fel y carodd Duw y byd, carwn ninnau hefyd.