Golygyddol

GOLYGYDDOL

Enid Morgan

dail

Mis Tachwedd a Sul y Cofio ar y ffordd. Dyma ni hefyd hanner ffordd drwy’r cyfnod o gofio can mlynedd ers y Rhyfel Byd cyntaf. Bu cryn nerfusrwydd ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuwyd ar bedair blynedd o goffáu. Ofnid y byddai’r cwbl yn cael ei oruwchlywodraethu gan y gyfundrefn filwrol. Nid felly y bu. Bu’n gyfle i bobl gofio – mor fanwl ag y gallent, i chwilio am hen ddyddiaduron a lluniau a thraddodiadau teuluol, i edrych ar ganeuon poblogaidd y cyfnod, i ddysgu am gydymdeimlad tribiwnlysoedd â ffermwyr oedd eisiau cadw’u meibion gartref; cawsom gyhoeddi lluniau a manteisio ar ddisgyblaethau’r haneswyr a’u hystadegau. Mae nodi’r ganrif wedi newid ansawdd y cofio – ac nid yw cofio am y lladdedigion yn gyfystyr â chlodfori rhyfel. Bu mwy nag arfer o ymatal rhag barnu pobl wrth safonau cyfnod mwy diweddar, ychydig llai o hunangyfiawnder. Mae llawer ohonom wedi cael y cyfle i ailddehongli atgofion cam plentyndod; cofio ac arswydo, cofio ac ochneidio. Cofio a phwyllo a chael cyfle i gofio fel Cymry.

aberfan-disaster-1472807809Mae’n ddiddorol sylwi ar y gwahaniaeth rhwng can mlynedd o gofio’r Rhyfel Byd cyntaf a’r hanner can mlynedd ers cyflafan Aberfan. Mae llawer o bobl yn cofio lle roedden nhw pan glywson nhw am y digwyddiad erchyll hwnnw ac mae’r rhaglenni a gynhyrchwyd wedi bod yn wych iawn. A beth yw amcan y cofio? Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae natur y stori’n newid, a chyda phob ailadrodd mae’r dehongliad yn cael ei gymhwyso a’r mesur o ddicter, galar, eiddigedd, dolur, colled, hunangyfiawnder a beio yn newid wrth i’r un sy’n cofio newid a symud ymlaen ac i ambell gam gael ei gywiro, er yn hwyr y dydd.

Mae’n hynod sut y mae naws y cofio wedi newid wrth i rengoedd y genhedlaeth sy’n cofio’r tridegau a’r pedwardegau deneuo. Nid cof personol sy gan y rhai sy’n fodlon sefyll wrth gofeb fach neu fawr bellach, ond cofio sôn am rai y mae eu henwau wedi eu cerfio. Yng Nghymru dan dylanwad heddychiaeth ymneilltuol yr oedd amheuaeth o fartsio’r Lleng Brydeinig a chwifio baneri, a gwisgoedd y mudiadau Prydeinig a’r cadets.

ymbelydreddCyfleir y cwbl yn fachog gan y snechgi beirniadol o wrtharwr yn nofel Guto Dafydd, Ymbelydredd. Wrth fynychu seremoni goffa ym Manceinion dywed yn wawdlyd:

defnyddio cofeb ryfel i anrhydeddu pobl a fu farw mewn protest wleidyddol wallgo, a’r ffaith y bydd clerigwyr Eglwys Loegr yno – yn eu dull arferol, fel cigfrain barus – yn hawlio’r holl alar iddynt eu hunain gyda’u geiriau diogel, siwdo ddiwinyddol.

Siawns nad ydi hynny’n cyfateb i agweddau llawer iawn o Gymry, ac o ddarllenwyr Cristnogaeth21, tuag at Sul y Cofio – a thuag at Eglwys Loegr o ran hynny. Ond y mae hefyd yn enghraifft, o blith llawer, o hunangyfiawnder rhagfarnllyd ac unllygeidiog y Cymro ifanc at lu o brofiadau sy’n ei oddiweddyd wrth fynd trwy driniaeth enbyd ymbelydredd. (Dychwelwn at y nofel drawiadol hon yn y man.) Erbyn hyn mae rhan ohonof yn cydnabod bod y ffurfioldeb cefnsyth yn ffordd o wneud synnwyr a rhoi urddas i brofiadau annynol.

A derbyn bod gwasanaethau gor-filwrol yn bethau anghysurus, sut mae cofio syml, gwylaidd, anymhongar i ddigwydd? Mewn llawer o eglwysi bach gwledig aeth yn arfer i nodi dwy funud o ddistawrwydd ac i ddarllen enwau ac enwau cartrefi’r bechgyn a laddwyd a chenhedlaeth a ysigwyd.

A bod yn bersonol, pan euthum i ofal plwyf mewn tre yn y de, fe newidiodd pethau. Cymerwyd yn ganiataol y byddwn yn rhinwedd fy swydd yn llywyddu ar seremonïau’r Lleng Brydeinig a RAFA. Yn wir, ymysg un o’r seremonïau dinesig cyntaf y bu’n rhaid i mi eu cymryd yr oedd ‘Battle of Britain Sunday’, rhywbeth nad oeddwn i wedi dod ar ei draws erioed o’r blaen. Chefais i ddim llawer o amser i synfyfyrio am y peth cyn cwrdd â hen fachgen hynod o annwyl a fu’n gwasanaethu mewn awyren fomio a ollyngodd fomiau dros Dresden. Roedd wedi bod yn aelod o gôr yr eglwys er 1946 pan ddaeth i Faesteg, syrthio mewn cariad â nyrs o Gymraes o’r ardal a setlo i lawr i fod yn gigydd yn y dre. Gŵr o Sunderland ydoedd, â’i acen bron cyn gryfed ag erioed (nes i chi glywed ei frawd a methu deall hwnnw o gwbl!). Wrth drafod (neu’n hytrach fy nghyfarwyddo ynghylch beth fyddai’n digwydd), daeth yn amlwg fod ei brofiad yn y rhyfel wedi bod yn graith ddifesur ar ei enaid. Wnaeth e ddim ceisio cyfiawnhau, nac ymfalchïo mewn dim.

maesteg_war_memorial

Cofeb Maesteg gan Sedgie http://www.flickr.com/photos/sedgie1979/4095732741/, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=13025657

Soniodd am y gweddwon y bu’n ymweld â hwy dros gyfnod o hanner canrif ac meddai’n ddwys gan ysgwyd ei ben, ‘Vicar, we was only boys!’ I mi, anrhydeddu Gordon Ford a derbyn dilysrwydd ei brofiad yr oeddem. Mynnais, heb i neb ddeall yn iawn pam, fod y ddwy anthem ‘genedlaethol’ i’w canu ar ôl i’r gwasanaeth ddarfod. Ac roedd hances wrth law, a chogio chwythu fy nhrwyn wrth i bobl ganu’r anthemau, gwaedlyd hyn. Nid emynau mohonynt.

Dyma fanylyn arswydus: ym Maesteg doedd dim digon o le ar y gofeb i gynnwys holl enwau’r gwŷr a’r gwragedd a laddwyd. Dros y blynyddoedd dysgais sut yr oedd y gwaith cynhyrchu arfau ym Mhen-y-bont ger gwaelod y cwm wedi trawsnewid bywydau’r teuluoedd wrth i ferched ifanc ddechrau ennill eu harian eu hunain.

wreath1Dyw traddodiad Sul y Cofio ddim yn rhan o dreftadaeth ymneilltuaeth y Gymru Gymraeg ond erbyn hyn mae yna ryw gofio amodol wrth ddefnyddio pabi gwyn. Byddai ymrafael ynghylch beth yw’r ffordd orau o gofio yn ddim mwy na thystiolaeth o hunangyfiawnder.

Mae harddwch a goddefgarwch cyfoes mewn dwy dorch, un wen ac un goch, ochr yn ochr â’i gilydd.


 

guto-dafydd

Guto Dafydd Llun: Cyngor Llyfrau Cymru

A dychwelyd at nofel Guto Dafydd. Dyma i chi ysgrifennu cignoeth a gonest sy’n llawer iawn mwy na chofnod technegol, manwl gywir o driniaeth ymbeldrol. Mae hi’n driniaeth ymbelydrol o gyflwr cymdeithas – a dyna, mae’n debyg, ystyr y pwynt a’r llygad annifyr ar y clawr. Cawn ddisgrifiad byw o brofiad Cymro ifanc sy’n cael triniaeth ar diwmor yn ei gesail ym Manceinion. Nid beirniadaeth gytbwys a gewch yn Ymbelydredd ond chwydfa o ddicter huawdl ar lu o nodweddion ein bywyd cyfoes. Mae’r gwrtharwr o Gymro yn mynd trwy gyfres o brofiadau ac yn gweld pobl mewn gwahanol amgylchiadau ac yn aml fel pe bai’n gweiddi, ‘Gwagedd’. Mae ei brofiadau gyda chriw digartref o brotestwyr gwrthgyfalafol, o grefyddwyr efengylaidd, o arddangosfa am ryfel, o arddangosfa o gelfyddyd fodern, cwis mewn tafarn, massage mewn ystafell gefn – cyfres o ddigwyddiadau – yn gyfle i fynegi dicter a surni. Mae pawb yn ei chael hi gan yr arwr ifanc – bendith ar ei ben – fel petai’r driniaeth yn gwenwyno’i hunaniaeth fregus a’i foesau ansicr. Ar un olwg mae’r stori’n fath o Daith y Pererin ôl-fodern tuag yn ôl, yn llawn dicter.

Dywed yr awdur mai hunan-ffuglen ydyw ac os nad ydych eisoes wedi ei darllen, wel, ewch ati. Mae’n nofel am wacter yn ogsytal â gwae, ac yn destun sblash o drafodaeth am ei bod yn disgrifio’n onest brofiadau credadwy. Mae crebwyll cryno bardd yn yr ysgrifennu, sy’n troi digwyddiad bach fel prynu bananas yn ddatguddiad llwyr!

(Am drafodaeth fanwl ar natur ac amcan cofio, darllener cyfrol hynod Miroslav Wolf, The End of Memory: Remembering Rightly in a Violent World. Eerdmans, ISBN: 978-0-802802989-4.)

(Ymbelydredd gan Guto Dafydd ISBN: 9781784613297 (1784613290 ) Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont Fformat: Clawr Meddal, 195×129 mm, 288 tudalen Iaith: Cymraeg Pris: £8.99)