Gobaith ar ôl Brexit?

Gobaith ar ôl Brexit?

Gethin Rhys – Swyddog Polisi Cytûn

gethin_web

Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn

O farnu yn ôl tudalen Facebook Cristnogaeth 21, sioc a siom fu canlyniad refferendwm mis Mehefin i lawer o ddilynwyr Cristnogaeth 21. Gellir deall y siom, ond mae’r sioc yn sioc! Oni fuom yn sylwi ar benawdau’r papurau newydd am Ewrop ers blynyddoedd? Oni fuom yn gwrando ar ein cymdogion ar riniog y drws neu yn y dafarn?

 

Un o wirioneddau’r refferendwm yw ein bod yn gymdeithas ranedig dros ben. Tueddwn yn y byd go-iawn a’r byd rhithiol ar-lein i gylchdroi gyda’n math ein hunain ac osgoi pobl sy’n anghytuno’n sylfaenol â ni. Nid methiant dilynwyr Cristnogaeth 21 yn unig mo hyn, wrth gwrs. Mae’n amlwg fod gwleidyddion, eglwysi, mudiadau cymdeithasol a bron pawb wedi eu syfrdanu gan y canlyniad – hyd yn oed y sawl oedd o blaid ymadael.

Drannoeth y canlyniad dau yn unig oedd fel petaent â rhyw syniad beth i’w wneud nesaf – Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr, a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban. Cam cyntaf David Cameron oedd ymddiswyddo – cam call o gofio iddo wahardd cynllunio ymlaen ar gyfer y fath ganlyniad. Cafwyd felly haf o ddryswch llwyr. A doedd y sefyllfa yng Nghymru fawr gwell, gydag odid unrhyw ran o’r Llywodraeth nag unrhyw fudiad arall yn gwybod beth i’w wneud na’iddweud.brexit-1478084_960_720

Bellach mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn oed wedi mabwysiadu’r gair ‘Brexit’ i ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd. Penderfynodd Gweithgor yr Eglwysi, a sefydlwyd ar gais yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid, osgoi’r gair hyll hwn. Ond fe’n hatgoffwyd yn ein cyfarfod cyntaf fod yn rhaid i ni ddeall fod llawer o aelodau’r eglwysi – a hyd yn oed rhai o aelodau Cristnogaeth 21! – wedi pleidleisio i adael ac yn falch o’r canlyniad. Nid yw’r gwirionedd, yn nhyb rhai o leiaf, mor hyll â’r gair.

Fe fu ymateb llawer o bleidleiswyr siomedig yn debyg i ryw fath o alar. Gwelwyd sioc, dicter ac anghredinedd. Gwelwyd llawer o feio’r ymgyrch Adael am rai o’i thactegau, a beio arweinwyr y pleidiau am ddiffyg crebwyll (Cameron) neu ddiffyg ymrwymiad i’r achos (Corbyn). Gwelwyd tipyn o feio’r pleidleiswyr hefyd – am fod yn rhy barod i lyncu celwyddau, yn hiliol neu’n gul, neu’n dwp.ad212261986the-new-european Fe lansiwyd papur newydd wythnosol The New European, sy’n llawn o ddarogan gwae a gofid bob wythnos – er ei fod hefyd yn ffynhonnell ddiddorol iawn o newyddion am Ewrop nad oes modd eu cael yn Saesneg mewn unrhyw bapur arall.

 

Lansiwyd achosion cyfreithiol i geisio atal gweithredu’r canlyniad, a galwodd Owen Smith ac eraill am ail bleidlais.

Ond, yn dawel fach, dechreuwyd hefyd glywed ambell lais yn tynnu sylw at weddau gobeithiol i’r sefyllfa newydd. fishingMewn trafodaeth hynod ddiddorol ym Mhwyllgor Ewrop a Materion Allanol Senedd yr Alban ddiwedd Gorffennaf fe dynnodd llefarydd diwydiant pysgota’r Alban sylw at y ffaith fod ei aelodau ef yn edrych ymlaen yn fawr at weld rheoli meysydd pysgota’r Alban er lles y diwydiant pysgota cynhenid, a ddioddefodd yn ofnadwy yn sgil hawl gwledydd eraill Ewrop i or-bysgota’r dyfroedd. Roedd yn eistedd yng nghwmni cynrychiolwyr diwydiannau eraill oedd o hyd yn bryderus iawn am y dyfodol, a bu’r llefarydd yn reit betrus wrth gyflwyno’i safbwynt. Nid yw’r sawl sy’n dweud mewn angladd “Efallai fod hyn yn beth da” yn dueddol o fod yn boblogaidd!

Mae’n ddiddorol hefyd gweld faint o ofn sydd i’r syniad y bydd Prydain fel gwlad yn gallu cymryd rheolaeth ar ei pholisïau ei hun, a’u trafod gyda gwledydd eraill. Mae rhai yng Nghymru yn ofni mai Lloegr fydd â’r llaw uchaf dan y fath amgylchiadau. Mae rhai yn Lloegr yn ofni mai Llundain fydd yn tra-arglwyddiaethu. Mae rhai ar y chwith yn ofni mai’r asgell dde fydd wrth y llyw. Ac yn y blaen. Mewn sefyllfa newydd, yr hyn a welwn yn aml iawn yw ein rhaniadau.

Felly dyma gynnig, gobeithio, ambell lygedyn o obaith i ni yng Nghymru, yn ogystal ag i bysgotwyr yr Alban.

  • Mae’r Polisi Amaeth Cyffredin wedi newid ar hyd y blynyddoedd, weithiau gyda phwyslais ar gynhyrchu cymaint o bwyd ag sy’n bosibl, waeth beth fo’r gost i’r amgylchfyd, ac weithiau’n galw am roi ychydig o orffwys i’r tir ac i fyd natur er mwyn lleihau’r draul ar y blaned. Mae wedi bod yn eithriadol o anodd i amaethwyr gynllunio’u ffermydd gan fod y manylion yn newid mor aml, tra bod ffermio yn fusnes tymor hir. Er 1973 fe ddiflannodd llawer o’n blodau gwyllt a chynefinoedd o gwmpas ein ffermydd. Nid ar Ewrop mae’r bai am hyn i gyd, wrth gwrs. Ond mae gennym gyfle bellach i lunio polisi amaeth Cymreig newydd – gan fod amaethyddiaeth yn faes sydd wedi’i ddatganoli yn lled gyflawn i Senedd Cymru. Gallwn ystyried sut i ddiogelu’r fferm deuluol – sy’n gymaint cynhaliaeth i’r Gymraeg ac i gapeli cefn gwlad. Gallwn feddwl o’r newydd sut i gymathu anghenion ein bywyd gwyllt ac anghenion byd amaeth. Bydd modd ystyried sut i gefnogi diwydiannau eraill cefn gwlad, megis twristiaeth. Ni fydd y penderfyniadau hyn yn hawdd. Ond fe fydd modd i ni eu cymryd yma yng Nghymru – ac fe fydd modd i’r eglwysi fod yn rhan o’r trafod. Yn wir, mae fideo a phapurau briffio etholiadol Cytûn eisoes wedi agor y maes fis Mai, ac fe roddodd Gweithgor yr Eglwysi ar Gymru ac Ewrop flaenoriaeth i’r pynciau hyn yn ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf ym mis Medi.
  • Wrth drafod sut orau i gynorthwyo’r diwydiant dur yng Nghymru cyn yr etholiad, fe gyfeiriodd y cyn-Weinidog Edwina Hart at y trafferthion a achosir gan reolau Cymorth Gwladol yr Undeb Ewropeaidd, rheolau sy’n hynod gymhleth ac a ddehonglir yn wahanol gan bob llywodraeth. Os bydd y DU yn ymadael nid yn unig â’r Undeb Ewropeaidd ond hefyd â Pharth Economaidd Ewrop (yr EEA), yna ni fydd raid glynu at y rheolau caeth hyn. Nid ateb syml i drafferthion y diwydiant yw hynny, ond fe fydd yn tynnu un cymhlethdod o’r ffordd, ac yn agor y ffordd (er enghraifft) at ostwng trethi neu hyd yn oed wladoli neu ran-wladoli’r diwydiant, pe dymunem.

seneddElfen arall o’r gofid sy’n llethu rhai yw’r gred y bydd y broses o ddatgysylltu cyfraith Cymru a Phrydain oddi wrth gyfraith Ewrop yn rhy gymhleth. Yn rhyfedd iawn, fe ddefnyddiwyd yr un ddadl gan rai o wrthwynebwyr y Gymuned Ewropeaidd (fel yr oedd hi) cyn i ni ymuno. Roedd y Blaid Lafur ar y pryd yn wrthwynebus i ymuno â’r sefydliadau Ewropeaidd, ac fe ddywedodd Michael Foot wrth Gynhadledd y Blaid ym 1972 y byddai cymhlethdod cymathu cyfraith Prydain â chyfraith Ewrop mor fawr fel y byddai modd iddynt herio a gohirio’r broses am flynyddoedd maith. Yn y diwedd, lluniodd Llywodraeth Edward Heath Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972  a chyflawni’r cyfan mewn dwsin o gymalau a phedwar atodiad!

Nid oes unrhyw reswm dros gredu na ellir cael ymateb cyfreithiol yr un mor dwt i ymadael â’r Undeb – deddf fydd yn gwarantu cynnwys yr holl reoliadau Ewropeaidd hyd ddiwrnod yr ymadael yng nghyfraith Prydain (neu Gymru, fel y bo’n briodol), ac yn rhoi i ni gyfle i’w hadolygu, eu cadw, eu newid neu eu diddymu, yn ôl ein dymuniad, dros y blynyddoedd i ddod. Mae’n wir y cymer flynyddoedd i wneud hynny. Ond fe fydd cyfle felly i drafod pynciau na fuom yn eu trafod ryw lawer ers blynyddoedd. Nid maint a siâp bananas yw sylwedd y deddfau Ewropeaidd hyn, ond hawliau defnyddwyr, gofalu am yr amgylchedd, dyletswyddau cyflogwyr a gweithwyr, ac ati. Nid oes angen ofni trafodaeth am bynciau o’r fath – ond ein bod yn barod i gymryd rhan ynddi.

20160713172905theresa_may_uk_home_office_cropped

Theresa May

Trafodaeth gyhoeddus yw’r gobaith, felly, a thynnu ein pobl i lunio’u dyfodol. Gwaetha’r modd, cymysg yw’r argoelion ar gyfer hynny. Mae Theresa May wedi dweud yn eglur na fydd yn rhannu’n gyhoeddus fanylion y trafodaethau gyda’r Undeb – er bod rhai o’i gweinidogion (yn enwedig David Davies, a fu’n lladmerydd mawr dros hawliau dynol a chyfranogiad y cyhoedd ar hyd ei yrfa) yn ymddangos yn fwy parod i agor cil y drws ar feddylfryd y Llywodraeth. Yma yng Nghymru fe sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cynghori ar Ewrop, ond ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon nid oedd enwau’r aelodau eto’n hysbys, ac felly anodd cyfrannu i’r drafodaeth honno hefyd.

Dyma her a chyfle, felly, i’r eglwysi. Beth bynnag ein gwendidau, mae gennym droedle ym mhob cymuned yng Nghymru ac rydym yn gweithredu trwy gyfrwng y ddwy iaith (ac ieithoedd cymunedau lleiafrifol eraill megis Corëeg). Mae yna gyfle i ni nid yn unig gynnal gweithgorau a thrafodaethau gyda’r Llywodraeth, ond hefyd i ysgogi trafodaeth yn ein cymunedau lleol. Mae eglwysi Llandudno eisoes yn trefnu cyfarfod o’r fath – mynnwch y manylion gan yr eglwysi yno. Bydd gwefan Cytûn (www.cytun.org.uk) yn cyhoeddi pob dim, a byddwn yn croesawu pobl eraill i gymryd rhan. Croeso i chi ddechrau sgwrs ar dudalen Facebook Cristnogaeth 21 – fe fyddwn yn gwylio ac yn gwrando yn astud!
gethin@cytun.cymru (Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar 17 Medi 2016.)