Cristnogaeth ac Ecoleg

Cynog Dafis yn adrodd hanes trafodaeth yng nghylch C21 Aberstwyth am y cysylltiad rhwng crefydd ac ecoleg.

Cristnogaeth ac Ecoleg: thema i’r 21ain ganrif

Llun: Criw Apollo 17

Nodwyd ar y dechrau mor arwyddocaol yw hi fod y Beibl yn dechrau gyda disgrifiad o greu’r Bydysawd, un o’r caniadau godidocaf a gyfansoddwyd erioed. Mae’r pwyslais yma ar fawredd a rhyfeddod y bydysawd, ar gyfoeth ac amrywiaeth byd natur, ac yn arbennig fod y cyfan i gyd yn ei hanfod yn dda: ‘A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd.’ Mae’r teimlad bod yr ‘oll yn gysegredig’ yn hydreiddio’r cyfan.

Ymlaen yn syth wedyn i’r hanes am Ddyn, wedi’i greu ar lun a delw Duw, yn difwyno byd natur. Mae gwrthryfel pechadurus Dyn nid yn unig yn niweidio’i fywyd ei hun, ond fel pe’n ysgwyd y cosmos i’w sail.

Nid realiti ffeithiol sydd yma, wrth gwrs, ond myth, ymdrech y dychymyg i fynegi gwirionedd am gyflwr Dyn a’i berthynas â byd natur. A defnyddio terminoleg Karen Armstrong, perthyn i fyd mythos y mae dwy bennod gyntaf Llyfr Genesis.

Gwahanol iawn yw disgrifiad gwyddoniaeth, agwedd ar fyd logos, sy’n ceisio disgrifio byd natur mewn termau ffeithiol-wrthrychol. Gwahanol, a chyferbyniol yn wir. Yma, does dim i awgrymu bod byd natur a’r bydysawd yn hanfodol dda. Yng ngwneuthuriad y bydysawd mae creu a dinistr yn un, yn ddidostur, yn foesegol ddiduedd. Mae dinistr ein planed ni ryw ddydd, er enghraifft, yn anochel, wrth i’r Haul ymchwyddo’n ‘Gawr Coch’ a llyncu’r Ddaear. Bydd y Ddaear yn anghyfannedd a dynoliaeth wedi’i dileu ymhell cyn hynny.     

Yn Genesis mae cyfrifoldeb dyn fel stiward ar fyd natur yn ganolog.

Perygl gweld y byd yn unig yn nhermau logos yw nihiliaeth, y ddysgeidiaeth nad oes i fywyd unrhyw bwrpas nac ystyr ac nad oes y fath beth â drwg a da. Mae mythos felly – yn ein hachos ni, y mythos Iddewig-Gristnogol – yn hanfodol er mwyn creu ystyr a phwrpas i’n bywydau.

Yn Genesis mae cyfrifoldeb dyn fel stiward ar fyd natur yn ganolog. Ond ar hyn o bryd mae dyn yn methu yn y cyfrifoldeb cysegredig hwn. Mae ei weithgareddau yn dadsefydlogi’r hinsawdd, yn difa rhywogaethau, yn traflyncu adnoddau’r Ddaear, yn llygru’r dyfroedd a’r moroedd ac yn diffeithio’r pridd.

Mae yna leisiau proffwydol, megis George Monbiot, sy’n ein rhybuddio ynghylch drwgeffeithiau ein hymddygiad, fel y proffwydodd Jeremeia ac Eseciel wae i blant Israel, ac yn ein herio i newid ein ffyrdd. Ac mae gau broffwydi, Donald Trump a Nigel Farage – ac enwi dim ond dau, yn ein cysuro ac yn ein hannog i barhau ar ein llwybr presennol. Bwytewch, yfwch a byddwch lawen …

Sylwodd cylch C21 Aber ar Salm 19, a’r cysylltiad clir y mae’n ei wneud rhwng rhyfeddodau’r cread ar y naill law a’r ddeddf foesol ar y llaw arall: ‘Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Dduw a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylaw Ef’; ac yna, ‘Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid’.

A dyma rai o gasgliadau’r cylch:

  • y dylai’r thema hon fod yn gwbl ganolog, nid yn ymylol, i dystiolaeth Cristnogaeth, yn ein cyfnod ni yn enwedig
  • y dylai ymddygiad dyddiol y Cristion ddangos ymroddiad i fyw mewn cytgord â byd natur, nid mewn goruchafiaeth arni
  • mewn gair, y dylai ôl-troed ecolegol y Cristion, a’r eglwys hithau, fod yn nodedig o ysgafn
  • y dylai ein gwasanaethau crefyddol beri i’n cynulleidfaoedd ddod yn fwyfwy hyddysg ynghylch ‘cynaliadwyedd amgylcheddol’, sef sut yn ymarferol y mae cynnal, adfer a chyfoethogi byd natur
  • y dylid cysylltu’r cwestiwn yma â chyfiawnder cymdeithasol a lleihau’r agendor rhwng y tlawd a’r cyfoethog, rhwng y breintiedig a’r anfreintiedig
  • y dylai ein hadeiladau gael eu haddasu i fod yn esiamplau cyhoeddus o bensaernïaeth werdd ac arferion da
  • y dylai ein colegau diwinyddol osod cynnal yr amgylchedd yng nghraidd eu cwricwlwm
  • y dylai ein heglwysi dynnu ar wybodaeth a gwerthoedd mudiadau sy’n ymgyrchu dros les yr amgylchedd naturiol a sefydlu perthynas gydweithol â nhw.

Tybed a allai darllenwyr Agora ychwanegu at y rhestr?

Sylwadau:

Un diwinydd sydd wedi rhoi lle sylfaenol bwysig i ecoleg yn ei weithiau yw Lloyd Geering o Seland Newydd (neu, i roi ei deitl llawn iddo, Y Parchg. Athro Syr Lloyd Geering). Gweler yn arbennig ei lyfrau ‘The World to Come’, ‘Coming Back to Earth’ a ‘From the Big Bang to God’, ond mae ecoleg yn codi mewn nifer o’i weithiau eraill hefyd.

Ar 26 Chwefror eleni fe ddathlodd ei benblwydd yn 99 oed trwy bregethu yn Eglwys St Andrew on the Terrace yn Wellington.

Enw ei dad oedd George Geering, a chan fod y mab wedi’i eni yn 1918 fe gafodd ei enwi yn Lloyd George Geering ar ôl ei dad a’r dewin Cymreig.

(-Delwyn Tibbott)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.