Crefydd, Moeseg a Chyfraith – perygl ceidwadaeth grefyddol

Magwyd Steve Preston yn y Beddau, ger Pontypridd, ac yno mae ei gartref o hyd. Wedi gyrfa fel cerddor proffesiynol ar lwyfannau Cristnogaeth Bentecostaidd, gan gynnwys gweithio gyda Mission England, fe aeth Steve i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers hynny, mae wedi cael gyrfa fel athro ysgol a pherfformiwr, a pherchennog ysgol gerdd a stiwdios cerdd. Mae’n aml yn cyfuno’i ddiddordebau fel cerddor a diwinydd, a thrwy briodas mae ganddo ddiddordeb byw iawn yn yr hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae e wedi dysgu Cymraeg. Y dylanwadau pennaf arno ar hyn o bryd yw Richard Rohr, Marcus Borg, Noam Chomsky a Jack Spong.

Crefydd, Moeseg a Chyfraith: perygl ceidwadaeth grefyddol, gan Stephen J Preston

Mae’r meddylfryd crefyddol ceidwadol yr un mor niweidiol i hawliau dynol, cynaliadwyedd amgylcheddol a heddwch byd-eang ag y bu unrhyw systemau atheistaidd radical erioed. Un o gredoau allweddol y fath geidwadaeth yw mai’r Beibl ar gyfer Cristnogion, neu Qur’an ar gyfer Mwslimiaid neu Torah ac ati, yw ‘Gair Duw’ ac felly mae’n cynrychioli meddyliau, safonau moesol a chyfarwyddiadau gwirioneddol y Crëwr. Yn hanesyddol, mae hyn wedi arwain at ormes enfawr ledled y byd, gydag ymdrechion mawr yn cael eu gwneud i orfodi cyfraith sifil sy’n adlewyrchu’r dehongliad cul o ysgrythur lleiafrif ceidwadol penodol. Gellid dadlau bod y meddylfryd hwn yn ffactor pwysig a gyfrannodd bron at gwymp democratiaeth Americanaidd yn ddiweddar, ac mae’n ymddangos i mi mai cyfrifoldeb pawb sy’n meddwl amdanynt eu hunain fel pobl ffydd yw sefyll yn erbyn unrhyw ymgais yn eu crefydd benodol i ddefnyddio pŵer gwleidyddol i orfodi ymddygiadau moesol neu foesegol eu dewis crefyddol personol ar weddill y boblogaeth.

Yn union fel Jean Calvin, bydd Cristnogion Americanaidd yn dweud wrthych eu bod yn llwyr o blaid gwahanu’r eglwys a’r wladwriaeth. Yma yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig mae pobl yn fodlon, ar y cyfan, eu gweld eu hunain fel rhai sydd â threftadaeth foesol Gristnogol. Ond yn ein democratiaeth fodern, i’r rhan fwyaf o bobl, hen sefydliad sy’n gwneud priodasau ac angladdau a gwaith elusennol gwych yw’r Eglwys, ond sydd fel arall yn ddiniwed. Yr agwedd yn aml yw: ‘yn y gwledydd Mwslimaidd hynny mae problemau oherwydd eu bod yn credu yn y Gyfraith Sharia honno! Pwy fyddai am fyw mewn gwlad lle mae’n rhaid i chi ddilyn cyfreithiau crefyddol?’

Fodd bynnag, ystyriwch ychydig yn ddyfnach, ac yn union fel yng Ngenefa Calvin, mae pethau’n wahanol iawn mewn gwirionedd. Yr ydym newydd weld diwedd gweinyddiaeth Trump, a gafodd gefnogaeth enfawr gan efengylwyr ceidwadol a’i gwelodd fel ‘dyn Duw’. Ffotograffwyd Trump yn destun gweddi yn y Swyddfa Oval gan gasgliad o delefangelyddion enwog ac arweinwyr ffwndamentalaidd, ac roedd ei gynghorydd ysbrydol ei hun wedi’i gwreiddio’n gadarn yn y gwersyll hwnnw. Mabwysiadodd Trump safiad ceidwadol ar erthyliad, a defnyddiodd ei arlywyddiaeth i benodi barnwyr ceidwadol ledled America yn ogystal â’r Goruchaf Lys. Rhoddwyd lle canolog i agenda’r efengylwyr Cristnogol, ac roedd arweinwyr Cristnogol ceidwadol ledled America yn llawenhau bod dibenion Duw i’r genedl yn cael eu cyflawni drwy’r dyn hwn. Y peth rhyfedd yw nad ydynt yn gweld unrhyw broblem mewn cael cyfreithiau sy’n cael eu mabwysiadu sy’n gorfodi gweddill y boblogaeth i gydymffurfio â gwerthoedd Cristnogol ceidwadol, i bob pwrpas.

Hyd y gwelaf, mae’r mater i Gristnogion ceidwadol (yn ogystal â Mwslimiaid ceidwadol, Iddewon ac eraill yn eu ffordd eu hunain) yn ddeublyg: y cyntaf yw eu cred bod y Beibl (neu’r Qur’an ac ati) yn adlewyrchu meddylfryd y Bod Mawr, a’r ail, bod dyletswydd arnynt i wneud beth bynnag sy’n angenrheidiol i weld dymuniadau’r Bod Mawr hwnnw yn cael eu cyflawni mewn cymdeithas. Felly, er enghraifft, oherwydd bod yna adnodau Beiblaidd sydd ar yr wyneb fel pe baent yn dangos fod bod yn hoyw yn bechod, mae Cristnogion ceidwadol wedi mynd ati’n hanesyddol i roi pwysau gwleidyddol i danseilio neu ddileu hawliau pobl hoyw yn y gyfraith. Mae drama ddiweddar Channel 4 It’s a Sin yn dangos yn arbennig y math o ddioddefaint a achosodd y meddylfryd hwn i’r gymuned hoyw, ac mae’n sicr, pe bai efengylwyr ceidwadol yn bodoli mewn niferoedd uwch yma ac yn yr Unol Daleithiau, y byddai bod yn hoyw yn dal i fod yn anghyfreithlon.

Yn yr un modd, mae hawliau atgenhedlol menywod, rhyddid crefyddau eraill i addoli (a bodoli) a statws priodas yn hytrach na phartneriaethau sifil neu gyd-fyw i gyd yn feysydd lle mae Cristnogion ceidwadol wedi ceisio, yn aml yn llwyddiannus, rhoi pwysau gwleidyddol i basio cyfreithiau sy’n adlewyrchu eu safbwynt diwinyddol eu hunain. Ar y cyfryngau cymdeithasol mae’n gyffredin gweld galwadau am adfer gweddi (Gristnogol) mewn ysgolion yn America, ac ychydig o ffwdan sydd wedi’i gwneud erioed am y ffaith fod gweithred ddyddiol o addoli ar y cyd mewn ysgolion gan y gyfraith yn rhan o gyfraith addysg yma ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n wir y gall rhieni dynnu eu plant allan o wasanaethau ysgol, ond, serch hynny, derbynnir yn oddefol yn gyffredinol nad oes unrhyw beth hyd yn oed yn rhyfedd am orfodi addoli ar y cyd mewn gwlad ddemocrataidd, seciwlar yn yr 21ain ganrif.

Mae’r ideoleg hon yn osgoi’r angen i bobl o ffydd geidwadol gyfiawnhau eu safiad moesol ar sail athronyddol neu foesegol. Yn eu meddyliau hwythau, mae Cyfreithiau Duw i’w ufuddhau heb eu trafod. Yng nghyfraith Prydain, bwriedir i unrhyw ddeddfwriaeth gynnal trefn gymdeithasol, cynnal cyfiawnder ac atal niwed i unigolion ac eiddo. Felly, yn ddamcaniaethol o leiaf, rhaid i ddadleuon dros wneud i rai pethau fod yn anghyfreithlon ddangos niwed i unigolion neu i gymdeithas yn gyffredinol. I Gristnogion ceidwadol a’r rhai mewn crefyddau eraill, mae’r egwyddorion amlwg hynny’n amherthnasol mewn gwirionedd, gan mai eu man cychwyn nhw yw eu darlleniad o’r ysgrythur: mae Duw yn dweud ei fod yn anghywir, felly mae hynny’n ddigon. Nid oes angen cyfiawnhau ymhellach pam y mae rhywbeth yn bechadurus ac y dylai fod yn anghyfreithlon neu o leiaf gael ei reoleiddio gan y gyfraith.

Os cymerwn efengyliaeth geidwadol Americanaidd yn benodol: o gefnogi triniaeth llywodraeth Israel o’r boblogaeth Balestinaidd, neu o ddadreoleiddio economïau, gwadu newid yn yr hinsawdd, cefnogi materoliaeth a chyfalafiaeth, erlid crefyddau lleiafrifol, ymosodiadau ar glinigau erthylu ac yn y blaen, mae’r holl bethau hyn yn ymwneud â’r gred mai’r Beibl yw ‘gair Duw’ a’u syniadau ategol fel diwinyddiaeth Diwedd y Byd (End Times theology), sy’n deillio o ddiwinyddiaeth lythrennol. Yma yn y Deyrnas Unedig, mae gan efengylwyr ceidwadol lai o lais gan nad oes gennym sianeli teledu efengylaidd mawr, a mega-eglwysi’r Unol Daleithiau. Fodd bynnag, yr ydym wedi cael ein cyflyru i dderbyn yn oddefol esgobion Anglicanaidd yn Nhŷ’r Arglwyddi, y syniad fod Prydain yn ‘wlad Gristnogol’, ac felly mae rôl yr Eglwys Anglicanaidd mewn deddfu bron heb ei herio. Dangoswyd ein cefnogaeth i dra-arglwyddiaeth Cristnogaeth yma yn syml o ran pa mor gyflym y diystyrwyd mater y Prif Weinidog, a gyfeiriodd at ferched yn gwisgo’r burka fel rhai sy’n edrych fel blychau llythyrau. Mae’n amlwg – pe bai Mwslimiaid ddim ond yn dilyn y grefydd gywir, fyddai dim problem. Ocê?

Yr her i Gristnogion mwy blaengar, Mwslimiaid ac eraill, hyd y gwelaf, yw’r angen i ddangos perygl defnyddio’u hysgrythurau mewn ffordd mor llythrennol. Mae’n gyntefig, yn gamarweiniol ac yn beryglus i gymdeithas fodern, sifil. Mater i Gristnogion blaengar, neu i rai sy’n meddwl, yw cymryd rhan mewn dadl foesegol a gwleidyddol nad yw’n dibynnu ar y Beibl fel sail i’r hyn sy’n iawn neu’n anghywir. Rhaid i Gristnogion sy’n meddwl drafod pethau ar yr un sail â phawb arall: mynd i’r afael ar sail athronyddol a rhesymegol â’r hyn sy’n achosi niwed yn ein cymdeithas, a pha amddiffyniadau y dylai cymdeithas fodern eu darparu i’w phobl. Yn hanfodol, gwaith pobl flaengar o ffydd yw gwrthsefyll ymdrechion gan geidwadwyr ffwndamentalaidd i ymgorffori yn y gyfraith eu barn a’u rhagfarnau sy’n deillio o’u hagweddau camarweiniol o’r ysgrythurau. 

Os na fydd hyn yn digwydd, nid wyf yn credu y bydd yn hir cyn y bydd despot arall yn amlygu ei hunan yn yr Unol Daleithiau, neu hyd yn oed yma, a fydd yn harneisio angerdd ceidwadwyr crefyddol i ennill grym a sefydlu cyfreithiau sy’n difreinio lleiafrifoedd, yn dinistrio’r amgylchedd ac yn cefnogi erledigaeth pobl o grefyddau eraill. Ni fu erioed adeg mewn hanes pan fu gan Gristnogion (a chrefyddau eraill mewn gwahanol wledydd) bŵer gwleidyddol, nad ydynt wedi gwneud hynny yn union, ac nid oes tystiolaeth i awgrymu, pe baent yn cael mwy o bŵer yn y dyfodol, na fyddent yn gwneud yr un peth eto.  

Stephen J Preston