Codi ‘nghalon

Gofynnodd y Golygydd i bobl amlinellu beth fyddai’n codi eu calonnau yn ystod 2017. Dyma sylwadau Allan Pickard, Trysorydd Cristnogaeth 21..

Codi ‘nghalon

Un peth fyddai’n codi fy nghalon yn 2017 fyddai gweld pawb yn dod i gredu popeth dwi’n ei gredu. Pe bai hynny’n digwydd, fyddai dim cecru ac anghydweld, ac mae llawer gormod o hynny ymhlith y rhai sy’n dweud mai dilynwyr Iesu ydyn nhw. Roedd hi’n braf cael yr ysgrif wythnosol gan C21 yn 2016, ond doedd popeth ddarllenais i ddim wrth fy nant i. Ac weithiau byddai rhai’n ymateb, gan amla i anghytuno ag awdur yr ysgrif a chynnig safbwynt arall. Tasa pawb yn credu ’run fath, byddai popeth yn hyncidori – dim ond i’r credu ’run fath ddod o’r Efengyl yn ôl Fi.

Peth rhyfedd yw siarad â chi’ch hunan, ond dwi’n ei wneud yn reit aml. Bydd fy ngwraig yn gweld fy ngwefusau’n symud, a bydd hi’n dweud, “Ti’n siarad â thi dy hun eto.” Wel, ia. Ond mae’n braf iawn. Pan dwi’n siarad â fi fy hun, does neb i ddweud mod i’n rong, neu ddim yn deall, neu wedi colli’r plot, neu weithiau – fel sydd wedi digwydd – ddweud nad Cristion mohonof am nad wyf yn gallu ticio bocsys eu Credo nhw. Roedd hynny’n arfer fy ngwylltio, ond bellach dwi ddim yn poeni. Fe stopiais boeni am bethe fel ’na, a llawer peth arall o ran hynny, ymhell cyn imi gyrraedd oed yr addewid.

Allan Pickard copy

Allan Pickard

Peth rhyfedd yw cyrraedd oed yr addewid. Un peth rhyfedd yw bod lot o bethe pwysig wedi stopio bod yn bwysig, yn enwedig lle mae crefydd yn y cwestiwn. Pan oeddwn yn blentyn roedd crefydd, hynny yw, mynd i’r capel, i’r Ysgol Sul a’r Band of Hope, yn hwyl,  yn bleserus. Pan euthum yn ddyn, chwedl yr adnod, fe drodd popeth yn seriws iawn – a lot llai o hwyl a lot llai o bleser. Pan euthum yn ddyn, gwelais lot o gasineb ymhlith fy nghyd-gredinwyr, ac anoddefgarwch mawr. Pan euthum yn ddyn, dechreuais ofyn y cwestiwn, “Lle mae Iesu wedi mynd?”

Sy’n dod â fi ’nôl at yr Efengyl yn ôl Fi. Falle fod angen i mi sefydlu enwad newydd neu eglwys newydd er mwyn i ni i gyd ailddarganfod y pethe pwysig, y pethe hanfodol. Er, wedi dweud hynna, onid dyna fel mae hi wedi bod o’r dechrau’n deg. Onid dyna pam mae gynnon ni’r holl enwadau ac eglwysi a sectau gwahanol, a’r holl arferion a defodau gwahanol, a’r holl ddehongli ac esbonio gwahanol. Hanes yw hanes, a does dim modd ei newid, ac mae mawrion y gorffennol wedi dweud eu dweud a gadael eu hôl a’u hathrawiaethau, a’n cloi ni mewn bocsys, ac wedi cuddio’r allweddi. Byddai dod o hyd i’r allweddi yn rhywbeth arall fyddai’n codi fy nghalon yn 2017, ond fel dwedodd cyfaill pan soniais am hyn wrtho, “Don’t hold your breath.”

Ac eto, rhaid byw mewn gobaith – y gobaith nad oes raid i bethe aros fel maen nhw. Dyna fy man cychwyn ar ddechrau pob blwyddyn. Er, mae dal gafael mewn gobaith yn mynd yn fwy heriol, ac yn enwedig wrth ofni i ble fydd rhai o arweinwyr y gwledydd a’r eithafwyr – llawer ohonyn nhw’n honni eu bod yn gweithredu yn enw crefydd a gyda sêl bendith pobl grefyddol – o bosib yn mynd â ni.

Byddai’n dda gwybod beth fyddai ganddo Fe (Iesu) i’w ddweud wrthym. Wedi’r cwbl, Fe yw’r peth pwysica sydd gynnon ni. Pob parch i Eglwys, Enwad, Traddodiad, Credo, Beibl, Iesu yw calon pawb sy’n ei arddel. Falle dylwn bwyso mwy ar ambell beth mae fy hen ffrind Tomos (y Didymus yna) yn ei gofnodi am Iesu yn ei Efengyl ef. Nid amau wnaeth Tomos, er mai dyna’r label a roddwyd arno. Nid amau, ond cwestiynu – ac  mae gynnon ni i gyd ein cwestiynau. Yn ôl Tomos, dwedodd Iesu rywbeth tebyg i hyn: “Mae’n bosib y dewch o hyd i rywbeth fydd yn ypsetio’ch rhagfarnau, ond fe fyddwch yn darganfod llawer fydd yn gwneud i chi ryfeddu a mynd i’r afael â beth yw pwrpas bywyd.” 

Blwyddyn Newydd Dda i chi oddi wrth yr Agnostic Cristnogol Gobeithiol.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.