Cloddio: Pryderi Llwyd Jones yn holi Guto Dafydd

Cyfres newydd o drafodaethau estynedig.  Yn y gyntaf, Pryderi Llwyd Jones sy’n holi  Guto Dafydd.

CLODDIO

guto 3

Guto Dafydd (Llun: Y Cyngor Llyfrau)

Roedd Guto Dafydd eisoes yn fardd coronog, wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth (Ni bia’r awyr), nofel o’r enw Stad, a chyfrol i blant 11–15 oed, pan enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd yn Eisteddfod Genedlaethol 2016.

Mae’r nofel yn sôn am Gymro o Lŷn yn cael triniaeth radiotherapi am gyfnod o chwe wythnos (deg sesiwn ar hugain o ymbelydredd am 10 munud yn ddyddiol o ddydd Llun tan ddydd Gwener) ar diwmor yn ei gesail. Gan fod y driniaeth ym Manceinion mae’n aros yno (ar wahân i ddychwelyd at ei wraig a’u merch fach yn achlysurol). Mae’n cadw dyddiadur o’r driniaeth a’r un pryd yn crwydro’r ddinas, a dod i adnabod ei phobl a’i bywyd.

pryderi_llwyd_jones_bach

Pryderi Llwyd Jones (Llun: Y Lolfa)

Bu Pryderi Llwyd Jones yn sgwrsio â Guto, nid yn gymaint i’w holi, ond i drafod rhai agweddau o’r gyfrol nodedig hon.

Pryderi:   Llongyfarchiadau, nid yn gymaint ar ennill, ond am nofel gyfoethog iawn. Mae’n hawdd ei darllen, mae’n stori ddiddorol ac mor gyfoes â’r ffrwydriad ddiweddaraf mewn byd o derfysgwyr, yn ogystal â byd o ansicrwydd personol, teuluol a chenedlaethol. Mae’n llawn cymeriadau lliwgar, yn hunangofiannol ac yn ddeifiol ei sylwadaeth.

Gan obeithio y bydd y rhai nad ydynt wedi’i darllen yn gwneud hynny’n fuan, fe hoffwn ddilyn ambell drywydd, heb ddatgelu gormod am y nofel. Oherwydd y clod a’r sylw i’r nofel fe fyddai’n hawdd anghofio gofyn a fu’r driniaeth yn llwyddiannus a sut wyt ti’n teimlo erbyn hyn, ddwy flynedd yn ddiweddarach? O edrych yn ôl (ar wahân i ysgrifennu’r nofel), a gafodd y profiad ddylanwad parhaol arnat fel person? Roedd yn gyfnod anodd iawn i ti a’r teulu.

Guto: Diolch yn fawr am y geiriau caredig, ac am y gwahoddiad i sgwrsio â chi.

‘Nac arwain ni i brofedigaeth,’ meddai Gweddi’r Arglwydd, ond ydi hynny’n ddeisyfiad doeth? Onid drwy gael ein profi yr ydym yn cryfhau, ac yn dod i’n hadnabod ein hunain? 

Ni fyddwn byth yn dewis gorfod mynd drwy gyfnod o radiotherapi ymhell o adref eto, yn bennaf oherwydd y pwysau annheg ar fy ngwraig, a oedd yn gorfod ysgwyddo’r baich o ofalu am ein merch fach heb fy nghefnogaeth i. 

Ond ar y llaw arall, pe na bawn wedi cael fy nadwreiddio a’m gorfodi i dreulio amser ym Manceinion, ni fyddwn wedi cael y cyfle na’r ysgogiad i ysgrifennu Ymbelydredd

ymbelydreddNid yw’n bosib i mi edrych yn ôl ar y profiad ar wahân i ysgrifennu’r nofel. Roedd y ffaith fy mod wrthi’n ei chreu tra oeddwn ym Manceinion yn golygu fy mod yn profi’r ddinas mewn modd gwahanol: roeddwn yn dadansoddi fy nheimladau ar y pryd er mwyn eu cofnodi, ac yn fy ngorfodi fy hun i chwilio am brofiadau y gallwn eu trosglwyddo i’r cymeriad yn y nofel. Wrth gael y profiadau hynny wedyn – boed yn ymweliad ag oriel gelf neu’n blatiad o sglodion – roedd yn rhaid i mi fod yn fwy sylwgar a dadansoddol, a meddwl sut i gyfleu’r profiad i ddarllenydd o fewn cyd-destun y nofel. 

O ran y tiwmor sydd gen i, mae o yma i aros, a’r cwbl y gall y meddygon ei wneud yw ei reoli a cheisio’i atal rhag amharu gormod ar fy mywyd. Rwyf mewn cryn dipyn yn llai o boen ers cael y driniaeth, ac mae’r tiwmor wedi lleihau ychydig o ran maint, ac felly roedd y radiotherapi’n werth chweil yn yr ystyr honno. 

Pryderi:    Mae’n amlwg yn hunangofiannol ac i’r rhai sy’n dy adnabod fe welwn Trefor a Phwllheli (hyd yn oed tafarnau Penlan Fawr a Whitehall – fe ddown yn ôl at hynny) yn y nofel a’i chyfeiriadaeth, e.e. arddull gwmpasog Shakespeare ‘fel mynd o Lanaelhaiarn i Glynnog drwy Dudweiliog’ neu fod pawb yn y clinig yn edrych yn debyg i’w gilydd ‘fel petaent wedi dod ar drip Seren Arian’. Mae Pen Llŷn mor fyw â Manceinion. Nid oes gan y prif gymeriad enw (na’i deulu enwau chwaith). Ond a fyddai rhywun heddiw mewn clinig dros gyfnod o chwe wythnos yn cael ei alw wrth ei rif? Weithiau roeddwn yn blino ar ddarllen am rif ac yn dyheu am enw – unrhyw enw. Tybed a wnest ti deimlo felly?

Guto:  Dyna’n union fy mwriad wrth roi rhif yn lle enw ar fy mhrif gymeriad – creu teimlad o ddiflastod dibersonoliaeth, anghyfarwydd. Er bod y nyrsys yn defnyddio fy enw iawn, wrth gwrs (ni allent ei ynganu, ond ceisient eu gorau), roedd y profiad yn gyffredinol yn un a ddygai fy hunaniaeth. Ar y gwely ar gyfer y driniaeth, wrth i’r staff fy symud a’m tylino, teimlwn fel corff yn hytrach nag fel person. Doedd neb yn fy adnabod ar y stryd. Wrth aros mewn ystafelloedd diflas mewn gwestai mewn gwahanol rannau o’r ddinas, heb gysuron cartref, teimlwn mor ddigymeriad â’r cynfasau gwyn. Wrth fod i ffwrdd o ardal Gymraeg, mewn dinas lle roedd diwylliant Saesneg yn fy amgylchynu i raddau hyd yn oed yn fwy nag arfer, teimlwn fod fy hunaniaeth yn diflannu. 

Efallai nad oes enw ar y cymeriad yn y llyfr, ond mae sawl peth yn y llyfr yno i adfer ei gymeriad a’i hunaniaeth: y sôn am eisteddfod leol, mynd am dro ar y mynydd gyda beirdd, ymdrybaeddu yn y Pethe ym Mhenllyn, amser gyda’i ferch a’i deulu. Credaf fod y gynhysgaeth honno cyn bwysiced ag enw i hunaniaeth rhywun. 

Pryderi: Yn ei sylwadau ar y nofel mae Enid Morgan, golygydd Agora, yn cyfeirio at y nofel fel math o ‘daith y pererin ôl-fodern tuag at yn ôl yn llawn dicter’. A yw’n ddisgrifiad teg? Mae’r nofel yn sôn fod 24609 ‘am i’r ddinas adael ei hôl ar ei enaid’. Mae hi yn gadael ei ôl arno, oherwydd mae’n gwneud pethau na fyddai, efallai, yn ei wneud yn ei gynefin. Yn wahanol i’r dyfyniad gan Simon Brooks ar y dechrau (sy’n sôn mai ‘dieithriwch yw tynged y Cymry’), mae’n teimlo dieithriwch yn y ddinas.

Guto:   Credaf i Enid Morgan alw 24609 yn ‘Snechgi beirniadol o wrth-arwr’ hefyd, ac roedd ei sylwadau’n ychydig o sioc i mi – ond yn sioc bleserus a buddiol. Mae pobl sy’n fy adnabod yn ymateb yn wahanol i 24609: gwelant sinigiaeth ac eironi ceg fawr, lle bydd pobl nad ydynt yn fy adnabod yn fwy tueddol o weld ‘beirniadu’ a ‘dicter’. Rhaid i mi ddysgu meddwl am 24609 fel cymeriad ffuglennol mewn nofel yn hytrach nag fel fi fy hun ar bapur! 

Mae’r disgrifiad hwnnw o ‘daith y pererin ôl-fodern tuag yn ôl’ yn dal yn berffaith yr hyn y ceisiwn ei gyfleu; mewn nofelau arferol, mae’r daith yn puro’r cymeriad, ond nid felly y tro hwn. 

Cynhwysais y dyfyniad gan Simon Brooks (‘Pobl wedi eu dad-diriogaethu yw’r Cymry, a dieithrwch yw eu tynged i gyd’) ar ddechrau’r nofel oherwydd roedd gen i ddiddordeb mewn gofyn a oedd fy mhrofiad i yn y ddinas yn nodweddiadol o brofiad y Cymry’n gyffredinol. Cafodd cael fy symud o’m cynefin a’m hamgylchynu gan ddiwylliant arall effaith arnaf ym Manceinion, ond onid yw hynny’n digwydd i ni’n barhaus, hyd yn oed yng nghadarnleoedd y Gymraeg? 

Manchester-MM-WIDE

Manceinion

Fel antidôt i’r agwedd honno, serch hynny, cynhwysais hefyd ddyfyniad gan Jan Morris, sy’n disgrifio’i chyflwr bendigedig hi – yn llawn o gryfder ffrwythlon ieuenctid – pan oedd yn Fenis yn ysgrifennu ei chyfrol wych am y lle. Er mai’n eironig y’i cynhwysais, a minnau’n mynd i Fanceinion mewn gwaeledd, roedd hefyd yn ffordd o’m hatgoffa fy hun i geisio bod fel Jan Morris: ceisio amsugno cymeriad y ddinas a phopeth diddorol amdani, a chreu o hynny lenyddiaeth safadwy sy’n dweud rhywbeth am gymeriad yr awdur. 

Pryderi: Ond er bod 24609 yn cael ei hun (rydw i’n cymryd yn ganiataol mai dychymyg sydd ar waith yma ac mae’n argyhoeddi yn llwyr) yn isfyd y digartref chwyldroadol sydd am newid y byd a dymchwel y gyfundrefn gyfalafol, er ei fod yn cydymdeimlo â’r egwyddorion, onid yw’r Cymro Cymraeg dosbarth canol, diwylliedig hwn yn fwy o ‘fo ei hun’ yn ei sylwadau goleuedig ar Hamlet a Lowry a llu o rai eraill y daw ar eu traws yn niwylliant dosbarth canol diwylliedig Manceinion? Does dim dieithriwch yma o gwbwl.

GutoWrth ysgrifennu nofel, wyddoch chi byth pa elfennau ar eich cymeriad eich hun a ddaw i’r amlwg heb ichi fwriadu hynny. Yn achos Ymbelydredd, fe’m synnwyd sut y daeth cymaint o’m magwraeth yn Nhrefor i’r wyneb. 

Trefor_-_geograph.org.uk_-_59971

Trefor (Llun: Karen Foxall)

Byddaf bob amser yn ddiolchgar am fy mhlentyndod yn y pentref hwnnw; rwy’n caru’r lle, ac roedd tyfu yno’n un o’r dylanwadau ffurfiannol cryfaf arnaf. Serch hynny, ni allaf honni i mi erioed ‘ffitio i mewn’ yno. Bachgen meddal, sensitif, gwan a swil ydw i, ac oherwydd hynny doedd fy nghymeriad ddim yn gweddu i’r pentref: doedd gen i mo’r cryfder a’r caledwch mewnol angenrheidiol. A minnau wedi methu dygymod â gofynion cymuned ôl-chwarelyddol, ddosbarth gweithiol, efallai nad yw’n syndod fod 24609 yn ymddangos yn fwy cyfforddus ymysg y dosbarth canol diwylliedig. Er hynny, gobeithiaf fy mod wedi rhoi cyfri teg o’m magwraeth yn y pentref chwarel arbennig hwnnw rhwng môr a mynydd.

Ffantasi lwyr oedd gwleidyddiaeth chwyldroadol y Gwrthsafiad digartref – ond roedd iddi ei phwrpas hefyd. Mae nifer y digartref ym Manceinion wedi ffrwydro yn y blynyddoedd diwethaf, a’m tuedd i yn y ddinas yw cerdded heibio heb edrych arnynt unwaith. Teimlaf yn euog am hynny, oherwydd maent i gyd yn bobl, a chanddynt eu stori a’u gwerth eu hunain. Drwy ysgrifennu stori wallgo ar gyfer criw go iawn o bobl ddigartref, gobeithiwn wneud iawn am y ffaith na allwn fagu’r plwc i sgwrsio â hwy.

Felly, a chrynhoi, rydych yn llygad eich lle mai yng nghwmni’r dosbarth canol diwylliedig rydw i fwyaf cyfforddus, ond gobeithiaf nad wyf wedi mynd yn greadur rhy ynysig chwaith.

Pryderi: Mae’r ymwrthod â’i gefndir Cristnogol ac â dylanwad efengylaidd ei laslencyndod yn ymddangos yn llwyr a digyfaddawd. Mae’n deall beth mae’r Gristnogaeth hon yn ei gynnig i gynulleidfa fawr yn y Truth Hope Church, ond mae’n gwybod mai twyll a chelwydd yw’r cyfan, er bod y rhai a ddylanwadodd arno ef yn gwbwl ddiffuant. Oherwydd bod ei ffydd ar seiliau simsan, fe syrthiodd y cyfan. Mae’n mynd o wasanaeth yn y THC yn diolch ei fod yn ymwrthod â’r cyfan gyda’r geiriau ysgytwol, ’Teimla’n lân, fel petae ei enaid wedi ei olchi’. Mae’n ymwrthod â Christnogaeth geidwadol, unigolyddol, ffwndamentalaidd, sydd, gyda llaw, ymhell iawn o’r weledigaeth Iddewig–Gristnogol Feiblaidd o ffydd a chred sy’n cyfannu bywyd cymuned, byd ac unigolion. A yw ein bywydau heddiw – yn bersonol, fel cymunedau, fel Cymry ac fel byd – angen agwedd lawer mwy agored tuag at ysbrydolrwydd a Christnogaeth – na’r ymwrthod simplistig ‘Does dim Duw a dyna fo’ sydd mor gyffredin ymysg yr ‘anffyddwyr newydd’ ? Onid oes yna lawer o anwybodaeth mewn anffyddiaeth hefyd?

Guto:   Ni allaf dderbyn, i ddechrau, fod fy ffydd ar seiliau simsan. Roeddwn wedi ymwrthod â nifer o’r pethau allanol sy’n sgil-effeithiau cred – homoffobia, rhagfarn, gwrthod credu mewn gwyddoniaeth, ac ati – ond nid dyna hanfodion y ffydd Gristnogol, siawns, ond y berthynas rhwng unigolyn a Duw. Dyfyniad Guto dafydd

Yr hyn a ddaeth â’m ffydd i ben oedd y sylweddoliad syml nad oes Duw. Yn fyr, nid wyf o’r farn fod unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r haeriad fod Duw’n bodoli. Siawns y gellir cytuno na ellir profi bodolaeth Duw â dadleuon gwyddonol na rhesymegol. Profiad yr unigolyn o Dduw yw’r prawf cryfaf y gellir ei gynnig, felly. Ond, a minnau wedi bod yn Gristion ac wedi cael y profiadau ysbrydol hynny fy hunan, gwn yn iawn mai cynnyrch fy ymennydd fy hun oeddent. O’r herwydd, ni allaf dderbyn ei bod yn rhesymol credu yn Nuw. 

(Wrth basio, noder nad fy newis i yw peidio â chredu yn Nuw os yw’n bod. Os yw Duw’n bodoli, ef ei hun sy’n ethol pobl ac yn eu galluogi i gredu ynddo. Ceir dau bosibilrwydd: (a) nid yw Duw’n bodoli; (b) mae Duw’n bodoli, ond nid yw’n bosib i mi gredu ynddo oherwydd nid yw Duw wedi fy ethol. Er nad wyf yn grediniwr bellach, rwy’n dal yn Galfinydd rhonc pan ddaw’n fater o ddehongli’r Beibl: Calfiniaeth yw’r unig ddehongliad o’r Beibl a lwyddodd i’m perswadio erioed, ac nid yw’r ffaith nad wyf yn credu yn Nuw bellach yn newid hynny!) 

Ond ni allaf dderbyn mai ‘Does dim Duw a dyna fo’ yw fy agwedd fel anffyddiwr. Fy agwedd yw: ‘Does dim Duw ond, yn ei absenoldeb, beth allaf i ei wneud i wneud fy mywyd yn fwy ystyrlon, ac i wneud y byd yn lle caredicach a chyfoethocach i bobl eraill?’ 

Pryderi: Nid fy mwriad gyda’r ‘Dim Duw a dyna fo’ oedd awgrymu am funud nad yw anffyddwyr am wneud y byd yn lle caredicach a chyfoethocach i fyw i bobl eraill. Nid oes gan unrhyw grefydd fonopoli ar ddaioni a gwerthoedd, wrth gwrs. Mae gan grefyddau, fel ideolegau seciwlar a gwleidyddol, ddigon i gywilyddio amdano yn y gorffennol. Mae’n ddiddorol iawn, o ymwrthod â Christognaeth Galfinaidd, dy fod yn dweud e.e. nad dy ddewis di yw peidio â chredu yn Nuw – Duw ei hun sy’n dewis pwy sy’n credu ynddo drwy eu galluogi i gredu ynddo. (Etholedigaeth ’ta detholedigaeth yw hynny, tybed? Sorri, sylw ar hen ddadl, nid cwestiwn!)  Yr wyt hefyd yn dweud mai Calfiniaeth yw’r unig ddehongliad o’r Beibl a lwyddodd i’th berswadio erioed. Fel nifer o Gristnogion erbyn hyn, fe gefaist dy argyhoeddi, neu fe ddaethost ‘i ffydd’, i gredu mai dyma’r unig ddehongliad posibl o’r Beibl. Onid ffwndamentaliaeth yw gair arall am hynny, un o’r bygythiadau mwyaf i Gristnogaeth, fel i grefyddau eraill?

Ond i symud ymlaen. Mae cariad llwyr a diamod ei nain tuag at ei wyres fach ychydig fisoedd oed a’r hyn a wêl 24609 yn ei wraig (nad yw wedi meddwl llawer amdani yn ystod ei driniaeth, ‘dim ond dibynnu yn llwyr arni’) ‘yn darparu’r cariad diamod, cadarn sy’n ei argyhoeddi bod ystyr ar ôl’. Mae John Gwilym Jones yn taro’r un nodyn ar ddiwedd ei ddrama am Forgan Llwyd. Ai dyna’r unig beth sydd ar ôl a’r unig beth sy’n dod â chysur ac ystyr? Mae’n wahanol iawn i’r criw sydd ar gyrion y gymdeithas ym Manceinion ac am newid y byd. A yw gweledigaeth (ond nid dulliau treisgar) isfyd Manceinion yn amgenach? A oes perygl i ni, Gymry Cymraeg, gael ein dieithrio oddi wrth y byd fel ag y mae yn 2017?

Guto:   Mae’n bwysig fod y diwylliant Cymraeg yn ymwybodol o gerrynt byd-eang, ac yn ymateb iddynt. Dyna un peth cadarnhaol am orfod bod ym Manceinion: cael fy rhyddhau o’m hamgylchiadau arferol, a chael fy ngorfodi i ystyried y byd mawr y tu allan. O’r herwydd, heb yn wybod i mi, roedd ambell linyn yn y nofel a ddeuai’n eithriadol o berthnasol i ddigwyddiadau mawr 2016. 

Ysgrifennais y nofel ddiwedd 2015, pan oedd Brexit a Trump yn ddau bosibilrwydd ychydig yn ecsentrig na chredai fawr neb, o ddifri, y deuent yn realiti. Credem fod strwythurau a chonfensiynau cymdeithasol digon cryf mewn lle i atal cynhyrfwyr casineb rhag perswadio digon o bobl i sefyll dan eu baner. 

Ond o ddarllen Ymbelydredd yn ofalus, gwelir bod rhesymau i amau hynny’n cuddio yno. Mae 24609 yn ymwybodol efallai mai masg yw wyneb amlddiwylliannol ffyniannus y ddinas, a bod dicter a hiliaeth yn llechu yn swbwrbia; mae’r trampiaid terfysgol yn awyddus i chwalu’r gyfundrefn sydd ohoni, a 24609 yn rhy wan i’w rhwystro; mae ymwelwyr â’r Amgueddfa Ryfel fel petaent yn hiraethu am ryfel. Ni wyddwn ar y pryd y byddent yn pleidleisio – wrth gefnogi Brexit a Trump – dros amgylchiadau sy’n gwneud rhyfel yn fwy tebygol. 

Dyfyniad 2O ran rhan gyntaf eich cwestiwn, wrth feddwl am yr heriau mawr sy’n wynebu’r byd heddiw, ai ffansïol yw credu y gall cariad, fel y cariad hwnnw rhwng Casi a Nain, fod yn unrhyw help o gwbl? Ddim yn fy marn i. O garu ein plant, ein teuluoedd, ein cyfeillion a’n cymunedau a’n cenedl, rydym yn magu’r dyhead i adael y cenedlaethau nesaf mewn gwell byd na’r un y’n ganed ni iddo. Cwestiwn mawr 2017 yw a yw’r reddf honno’n gryfach na’r reddf i gasáu, dinistrio ac ymelwa. 

Pryderi:   Mae diwedd annisgwyl iawn i’r nofel. Er iddo, dros dro ac yng nghanol profiadau dwys ac anodd radiotherapi a chanser, gael ei dynnu i fyd gwahanol iawn ac er bod ganddo farn, rhagfarn a theimladau cryf a goleuedig am Gymru a’r byd, nid yw’n medru dianc rhag yr hyn ydyw. Mae wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau trist a bygythiol ym Manceinion ac ni all osgoi hynny. Er ei fod yn ôl yn ei gynefin ar drothwy gŵyl hapusaf y flwyddyn, a oes rhywbeth o’i le? Mae wedi sôn am rai pethau (llai pwysig) a wnaeth yn ei gynefin sy’n gwneud iddo deimlo’n euog. Ond a yw’n teimlo’n euog am rywbeth dyfnach, tybed?

Guto:   Pwy a ŵyr? Fel y dengys ambell beth yn y nofel, rydw i’n greadur sy’n poeni’n ddybryd am y pechodau lleiaf. Ni hoffwn feddwl sut y byddwn i’n dygymod pe bawn wedi gwneud pethau gwaeth. Ond fel y nodais gynnau, nid fi yw 24609! Ac felly rwy’n falch eich bod yn meddwl efallai fod gan 24609 gyfrinachau ysgeler yn ei orffennol. 

Roedd gen i fwriad penodol i’r car heddlu wrth ysgrifennu’r llyfr, ond ni ddywedaf fwy, oherwydd bydd gan bawb ei ddatrysiad ei hun i’r dirgelwch hwn. 

Pryderi: Diolch yn fawr, Guto, am ymateb i’m sylwadau gwasgarog – fe ellid trafod llawer mwy. Fe fyddwn yn edrych ymlaen yn fawr at y gwaith nesaf. Mae digon o ddoniolwch yn y nofel ac mae meddwl amdanat yn prynu carafán ar gyfer Eisteddfod Meifod a’i galw yn Garafann Griffiths yn ddiddorol iawn.

centre

Pwllheli

Ond i ddod yn ôl at Penlan Fawr a Whitehall a threfniadau ei gynhebrwng ei hun gan 24609. Mae’n ddoniol iawn, ond nid yw’n gwbwl amhosibl dychmygu cynhebrwng fel hyn yn digwydd yn y Gymru ‘ôl-fodern, ôl-wirionedd’. (Mae’r ‘gwasanaeth’ braidd yn faith, gyda llaw – fe fydd angen cwtogi, ac fe fyddai darlith ‘fer’ ar waith 24609 yn siŵr o fod o leiaf yn hanner awr!)  Ond pam mynd i’r capel a chanu ‘O fryniau Caersalem’ yn ogystal â ‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw’? Ydi hyn yn awgrymu dy fod yn gweld parhad y dystiolaeth Gristnogol fel rhan bwysig o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol? Ai dyna yw safbwynt llawer o’r Cymry Cymraeg sydd wedi’u magu yn y ffydd, ond wedi hen gilio o’r eglwysi? Fe fyddwn yn croesawu dy sylwadau ar hynny.

Guto:   Mae emynau a chanu cynulleidfaol Cymraeg wedi fy ngwefreiddio erioed, a hynny oherwydd cyfuniad o sawl peth. Mae naratif emynau’n un gafaelgar: crëwr y byd yn anfon ei fab i farw’n erchyll er mwyn rhoi gwaredigaeth rhag uffern i bobl bechadurus. Mae eu barddoniaeth yn ysgytwol, yn gynhesol, yn ddyrchafol. Ac mae’r gynghanedd gerddorol, a’r teimlad o ganu gyda thorf o bobl eraill, yn syfrdanol. 

caneuon_ffydd_solffa_1024x1024Ond wrth gwrs, nid wyf yn credu yn neges yr emynau hynny. A wyf yn rhagrithiwr, felly, am eu mwynhau? A wyf yn dibrisio cred ddidwyll Pantycelyn ac Ann Griffiths drwy drin eu gwaith fel adloniant? 

Mae Cristnogaeth yn rhan bwysig o’n treftadaeth a’n hanes. Mae gofyn pam y datblygodd ymneilltuaeth fel y gwnaeth yn ffordd fuddiol o ystyried cymeriad a chymdeithaseg y Cymry. Mae pensaernïaeth y capeli’n destament i lafur ac ysbryd y cenedlaethau a fu o’n blaen – pobl a roddai werth ar gred. Ond a allwn i fyth ddweud y carwn weld y dystiolaeth Gristnogol yn parhau yng Nghymru, fel rhywbeth byw? Rwy’n eithaf siŵr fod credu mewn endid goruwchnaturiol dychmygol, a defnyddio rheolau a bodolaeth yr endid hwnnw er mwyn ennill mantais a rheolaeth dros bobl eraill, yn rhywbeth peryglus, ni waeth pa mor anrhydeddus yw cymhellion credinwyr.

Pryderi:   Mae’r syniad o ‘endid goruwchnaturiol’ i ‘ennill mantais a rheolaeth dros bobl eraill’ yn syniad erchyll o Dduw ac mae’n hen bryd ei gladdu, Guto. Mae’n gwbwl wahanol i’r Duw y rhoddodd Iesu y cyfan er mwyn i ni Ei adnabod. Gyda syniadau o’r fath, onid oes angen gwahaniaethu rhwng ‘Duw’ a syniadau pobl grefyddol amdano?

Guto:   Ond gadewch i mi edrych ar y mater mewn ffordd wahanol. Mae Duw yn bodoli – nid fel peth real, ond fel creadigaeth dychymyg dyn. Yng ngoleuni hynny, mae’n werthfawr gofyn at ba ddiben y creodd dyn Dduw: pa dyllau oedd angen eu llenwi? Yr angen i addoli rhywbeth. Yr angen i gredu bod bywyd tragwyddol ar ôl pydru yn y pridd. Yr angen am awdurdod o’r goruchaf i gefnogi rheolau moesol. Yr angen i gredu bod cariad a chyfiawnder yn teyrnasu, waeth beth fo’n hamgylchiadau daearol. Yr angen am esboniad syml o ddirgelion y bydysawd cymhleth, rhyfeddol. 

Yr her i ni o ddydd i ddydd yw ceisio llenwi’r bylchau hyn – ond gan nad yw’n bodoli, ofnaf fod yn rhaid i ni wneud hynny heb help Duw.

Pryderi:   Ar y llaw arall, Guto, onid yw’r hyn a elwi di yn ‘angen’ a ‘thyllau’ yng ngwead ein natur ddynol, feidrol ni? Oni all ‘yr angen i addoli’ fod yn ‘awydd neu reddf i addoli’? (Mae’r ddawn i ryfeddu yn ganolog i addoli, wrth gwrs.) Ac onid yw ‘ysbrydolrwydd’ a’r ‘tragwyddol’ a’r ‘dimensiwn ysbrydol’ wedi bod yn rhan o greadigrwydd a diwylliant dyn erioed? Nid yw credu mewn Duw sy’n Greawdwr yn esboniad ‘syml’ o fydysawd cymhleth chwaith, e.e. cwestiwn mawr Cristnogaeth o’r dechrau ydi sut y medrwn gredu mewn Creawdwr mewn byd lle mae cymaint o ddioddefaint? Mae Llyfr Job a’r Salmau yn llawer mwy na barddoniaeth, oherwydd bod y pwnc yn oesol feidrol yn y dyhead am atebion. Fel y gwyddost, mae ’na athronydd o Lŷn a bardd o Lŷn wedi sôn llawer am y Duw absennol. Mae’n ymddangos yn absennol ac y mae’n amlwg yn absennol (dyna dy air di yn gynharach yn ein sgwrs) – ond nid yw hynny’n gwrthbrofi ei fodolaeth gan na ellir ei fesur na’i brofi.

Guto Dafydd ennill

(Llun: BBC Cymru Fyw)

Guto:   Egwyddor bwysig yw bod y baich o brofi haeriad ar y sawl sy’n gwneud yr haeriad hwnnw. Yn achos bodolaeth Duw, ni wn i am unrhyw dystiolaeth na dadleuon sy’n dod yn agos at brofi’r haeriad.

Rwy’n sicr yn cytuno bod yr anghenion hynny a ddisgrifiais yn rhan o natur dyn. Ac wrth gwrs, mae pobl wedi bod yn ceisio llenwi’r tyllau hynny mewn amrywiol ddulliau, gan gynnwys drwy gred mewn Duw. Nid yw hynny, chwaith, yn dod yn agos at brofi bod Duw’n bodoli.

Nid wyf yn credu bod y cwestiwn hwnnw ynghylch Duw a dioddefaint yn un pwysig. Mae’r Beibl yn eitha clir, dwi’n credu, fod Duw wedi creu byd optimal, braf, ond bod dyn wedi llygru’r byd hwnnw â’i bechod; gellir olrhain y dioddefaint sydd yn y byd heddiw at drachwant dyn, a’i stiwardiaeth wael o’r ddaear.

Ni welaf beth yw sail pobl dros gredu mai lle Duw yw gwneud bywydau pobl yn neis – hynny yw, dileu unrhyw rwystr i hapusrwydd perffaith; creu Iwtopia. Ond hyd yn oed pe bai modd i Dduw wneud hynny, a fyddai’n beth doeth i ddymuno amdano? ‘Colled i lenyddiaeth yw colli pechod,’ meddai Saunders Lewis, ac rwy’n reit siŵr y byddai pobl berffaith yn lot mwy diflas. Mater arall yw a fyddai hynny’n bris teg i’w dalu am ddileu dioddefaint.

Pryderi:   Diolch yn fawr iawn, Guto, am roi dy amser i ymateb yn agored a gonest, a diolch unwaith eto am Ymbelydredd. Fe fydd sawl Grŵp Darllen yn cael blas mawr o’i darllen a’i thrafod.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.