Cerdd – ailddarganfod Crist

Ymddangosodd y gerdd yn wreiddiol yr e-fwlwtin C21, 4 Mawrth 2018

Ailddarganfod Crist

Duw un-awr-ar-ddydd-Sul
yw’n Duw ni bellach

mae Duw dan glo
mewn hen gapel dadfeiliedig
fel llongddrylliad ar draeth
ymhell o ryferthwy a llif bywyd

unwaith yr wythnos
daw dyrnaid o rai gwynion eu gwallt
difrif a dwys eu gwedd
yn dal eu llyfrau emynau’n dynn
a mynd mewn i gadw cwmni am awr fach
i’r Duw sydd dan glo

y gweinidog druan
yn unigedd ei bulpud
yn rhygnu drwy’r hen ddefodau
darlleniad a gweddi
emyn a phregeth

yma mwy nid oes
ond arlwy oer anghynnes
diwinyddiaeth ddiystyr ddoe
Awstin a Chalfin
crefydd euogrwydd niwrotig
yr hen Bant
ac arallfydolrwydd annaturiol
yr hen Ann

y rhygnu ymlaen am achubiaeth bersonol
sy’n cau drysau’r nef yn glep
ar bawb ond y dethol rai

mae geiriau gwag
ein crefydd ddigysur
yn eco’n ofer
rhwng muriau llaith

ychydig flynyddoedd eto
wedi dydd
y ffyddlon rai
yr henoed bregus hyn
adfail gwag fydd yr hen gapel
a Duw wedi carchar yr hir flynyddoedd
yn rhydd  
i grwydro’r byd yn ei ddillad bob dydd

ddaw plant yr hen ffyddloniaid
na phlant eu plant
ddim ar gyfyl yr hen le

ddôn nhw ddim
er gwisgo’r neges

ym moelni diawen efengyl dotcom
am mai amddifad o bob perthnasedd
yw’n credoau cul  
i chwerw newyddfyd blin

ddôn nhw ddim
tan i ni ailddarganfod Crist y sant o Assisi
a’r Fam Teresa

ddôn nhw ddim
tan fydd paned o de wedi’r oedfa 
i leddfu unigrwydd yr wythnos
a’n clymu’n gymdeithas eto

ddôn nhw ddim
tan fydd noddfa yma i’r ifanc
rhag stryd a chyffuriau

ddôn nhw ddim
tan fydd yma fugail da
i gynnal syrjeri wythnosol
i wrando ar y rhai heb neb i eiriol drostynt
y dioddefwyr mud
y ddafad grwydredig a’r blin ei feddwl

ddôn nhw ddim
tan i ni listio’r ifanc mewn crwsâd
nid yn erbyn yr inffidel a’r pechadurus
ond i estyn llaw i drueiniaid daear

ddôn nhw ddim
tan fydd yma le i’r digartref
i gysgu bob nos ar y seddau caled
a bwyd i’w rannu i’r tlodion

mi ddôn nhw pan wnawn ni ailddarganfod Crist
Crist cyfaill pechaduriaid a phublicanod
Crist gwarchodwr yr amddifad a’r weddw
y Crist sy’n arddel pob Rohingya

ond ni raid i ni dristáu
nid y capel moel diaddurn
na’r eglwys ysblennydd
yw tŷ Duw

tŷ yr ysbryd
yw unig dŷ Duw

nid oes iddo feini ond gweithredoedd o gariad
nid oes iddo drawstiau ond dwylo agored yn estyn llaw

nid oes iddo ffresgoau hardd ar furiau 
dim ond harddwch
y rhai sy’n byw eu Crist
sancteiddrwydd syml
y galon agored dosturiol
y rhai sy’n gwneud y pethau bychain
y rhai sy’n herio Herod
yn enw y da a’r cyfiawn

yma
nid tric consurio yw’r cymun
ond gwyrth gwir ymgnawdoli Crist  
mewn bara i’r tlodion
a gwin
er coffa amdano
i atal ei ailgroeshoelio
nawr
yma heddiw
ym mhob tlawd a newynog
y dioddefus a’r isel rai

tŷ agored yw hwn
tŷ yn olau o lawenydd
y calonnau tryloyw
y llifa gwynder y dwyfol drwyddynt
yn falm i’n byd

yma yng ngolau’r ysbryd crisial
mae’r seintiau syml yn eu plyg
nid mewn gweddi
ond mewn gwasanaeth i gyd-ddyn

yn aredig fel Dewi
grastir ein byd
fel y blodeua drachefn
a’i ffrwyth heb wywo mwy

yn dyfal durio
i ddiwreiddio efrau
y bwled a’r gwn
yr adar angau a’r bom

ac ailgnawdoli ein Crist
a dyneiddio ein Duw