Beth yw Dynoliaeth?
Mae cant o bobl ifanc, plant, o Syria sydd wedi gorfod aros yng ‘ngwersyll’ Calais wedi cael caniatâd i ymuno â’u teuluoedd ym Mhrydain. I ddeall yn well y pethau yr oedden nhw’n ffoi rhagddynt, edrychwch ar y ffilm White Helmets (ar gael ar Netflix). Cyn ac ar ôl edrych ar y ffilm, ystyriwch eiriau’r ysgolhaig Walter Wink am beth yw bod yn ddynol.
Mae Duw yn ddynol … Camsyniad mawr y ddynoliaeth yw credu ei bod hi eisoes yn ddynol.
Dim ond rhannol ddynol ydyn ni – dynol weithiau, dynol ar chwâl. Cawn ambell gip ar ein dynoliaeth, ond dim ond breuddwydio fedrwn ni sut beth fyddai bywyd a threfn wleidyddol fwy dynol – ond nid ydym eto wedi cyrraedd gwir ddynoliaeth.
Dim ond Duw sy’n ddynol, ac fe’n gwnaed ni ar ddelw Duw – hynny yw, rydyn ni’n abl i dyfu i fod yn ddynol.
Walter Wink yn Just Jesus: my struggle to become human