Ymaflyd yn y Testunau

Ymaflyd yn y Testunau

gydag Enid Morgan

Mae dehongli llythrennol, hanesyddol o’r Ysgrythur yn fagl amlwg wrth baratoi ar gyfer y Pasg. Yn Efengyl Marc daw’n amlwg fod dirgelwch ‘beth bynnag ddigwyddodd’ yn peri ofn ac arswyd yn hytrach na llawenydd.  Ond mae mwy na hynny hefyd ... 

Y Llanc Ifanc a’r Lliain Gwyn –

Efengyl Marc, 14:51 & 15:46

Mewn llun o’r Swper Olaf gan artist o Guatemala, nid achlysur crefyddol a ddatguddir ond sefyllfa wleidyddol enbyd. Mewn ystafell lawn mwg mae cymeriadau’n chwyrlïo o gwmpas Iesu. Gyda’r disgyblion mae cadfridogion a phuteiniaid, landlordiaid, gwrthryfelwyr, gwerinwyr, offeiriaid, protestwyr, a hyd yn oed ambell gorff dan y bwrdd. Nid defod grefyddol a ddarlunnir, ond Iesu wedi ei amgylchynu gan obsesiynau bydol, cynllwynio bygythiol a dioddefaint.

Ched Meyers

Byd felly a ddarlunnir yn Efengyl Marc, yn ôl yr esboniwr Ched Meyers. Ac os tynnwch chi’r sbectol dduwiol fe welwch ddrama Iesu’n cael ei fradychu a’i drosglwyddo i awdurdodau crefyddol, milwrol a gwleidyddol.

 

Dyma, medd Meyers, stori sy’n cael ei hailadrodd hyd heddiw. Dyma Iesu, sydd yng nghyflwyniad Marc wedi herio grym yr awdurdodau ac wedi ei ystyried fel un oedd yn fygythiad i ragdybiaethau, disgwyliadau a gwerthoedd yr ymerodraeth Rufeinig. Bu’n fygythiad i gynffonwyr crefyddol trwy ailddifffinio  geiriau fel barn, pechod, a sancteiddrwydd. Mae stori Iesu yn Efengyl Marc yn ddeifiol, a diflewyn-ar-dafod.

Rydyn ni mor gyfarwydd â chroes fel arwydd crefyddol nes anghofio’i fod nid yn unig yn offeryn artaith a dienyddio, ond yn rhybudd erchyll, yn symbol o rym yr ymerodraeth. Dyma oedd yn digwydd i unrhyw un a feiddiai herio sofraniaeth, penarglwyddiaeth yr awdurdodau a’u cynffonwyr. Er ein bod yn meddwl am y Swper Olaf fel ffynhonnell ein defod fwyaf dwys yn y Cymun, eto, yn ei hanfod, yma yr oedd cymuned fach yn llawn ofn a gwrthdaro a dadlau, ei hunaniaeth dan fygythiad, ei gobeithion ar chwâl, yn cael pryd o fwyd am y tro olaf. Ac Iesu yn y broses yn trawsnewid un o ddefodau sancteiddiaf y deml. (Mae Iesu hefyd yn gwyrdroi defod arall wrth ganiatáu i wraig ei eneinio, nid ar gyfer bod yn Frenin Israel, ond ar gyfer ei groeshoelio.)

 Ac mae Marc yn dweud y stori nid fel tristwch a methiant ond fel rhywbeth sy’n digwydd i ‘gyflawni’ yr ysgrythur, a thrwy hynny’n datguddio rhywbeth o ffordd Duw o ymdrin â ni. (Nid yr un peth o gwbl â digwyddiad sydd wedi cael ei rag-weld!) Fel y mae awdurdodau’r deml a’r wladwriaeth wedi ymosod ar Iesu, mae ei ddilynwyr yn troi eu cefnau arno hefyd, pob un ohonyn nhw.

Arestio Iesu (Caravaggio)

Mae’r disgrifiad o Iesu’n cael ei arestio yn taro nodyn hynod o gyfarwydd; mae’r heddlu cudd wastad yn taro yn oriau mân y bore. Mae rhywun neu rywrai wastad wrth law i ddweud wrthyn nhw ble i fynd, ac mae Jiwdas wrth law i dynnu sylw mewn gweithred symbolaidd erchyll o’r gusan sy’n frad.

 

Golygfa sy’n adleisio’r stori am arestio Jeremeia ydyw. Dyma ‘gyflawni’r ysgrythur’ eto yn amser Iesu.

I rai sy’n gwrthsefyll grym llywodraeth, rhaid wrth fygwth. Mae’n amlwg bod yr awdurdodau’n disgwyl gwrthdaro treisiol, ac mae Iesu fel petai’n defnyddio’r gair ‘lleidr’ yn wawdlyd hollol am un y gellid fod wedi ei arestio yn y deml wrth iddo bregethu.

Dylid nodi hefyd, er bod y disgyblion ‘swyddogol’, y gwrywod, yn troi cefn, mae’r gwragedd sydd wedi dal ati i wasanaethu yn dal gerllaw yn y croeshoelio, ac mae tair yn cael eu henwi. Ydyn nhw’n cyfateb i’r tri fu ar fynydd y gweddnewidiad? Lefel arall i sylwi arni.

Ac yma ym Marc mae ’na ddigwyddiad bach nas ceir yn yr Efengylau eraill:

Ac yr oedd rhyw ddyn ifanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef, ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi’n noeth.

Weithiau awgrymir bod Marc yn cyfeirio ato ef ei hun, neu efallai at dystiolaeth llygad dyst. Awgrymiadau reit arwynebol ydi’r rhain gan fod i Efengyl Marc integriti llenyddol dwfn nad yw’n dibynnu ar gywirdeb ‘digwyddiadol’ i gyfleu ystyr. Beth yw amcan y cameo bach yma? Rhaid edrych yn fanylach ar y geiriau.

Pwy yw’r ‘dyn ifanc’ (neaniskos) a beth yw’r ‘lliain’ (sindon) (14:51)? Mewn lliain y mae Joseph o Arimathea yn amdoi corff yr Iesu (15:46), ac mae’r dyn ifanc yn ymddangos eto yn y bedd (16:5). O weld y cysylltiad hwn, mae’r gŵr ifanc fel petai’n cynrychioli’r gymuned o ddisgyblion sydd wedi ffoi. Yn y Beibl Cymraeg Newydd ceir is-bennawd rhwng adnodau 50 a 51 sy’n awgrymu nad ydi’r llanc yn un o’r deuddeg. Ond tybed nad ydi’r llanc yn ei noethni yn cynrychioli’r ‘pob un’ o’r disgyblion sydd newydd ffoi? Yn sicr, mae rhwygo’r lliain oddi amdano a’i adael yn noethlymun (gumnos) yn awgrymu cywilydd. Rhowch y ddwy adnod at ei gilydd:

A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi. Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef, ond dihangodd gan adael y lliain a ffoi’n noeth.

Llun gan Antonio da Correggio (1522)

Pe bai rhyw aelod ffyddlon eisiau dal gafael mewn gwirionedd am lanc hanesyddol, llythrennol, does dim llawer o ots. Oherwydd mae’r ystyr symbolaidd yn dal i oleuo’r darlun, nid yn unig fel gweithred unigolyn, ond fel darlun symbolaidd o’r disgyblion ac o bawb ohonom sydd rywdro wedi gwadu a throi i ffwrdd oddi wrth Iesu.

Ar ddiwedd yr hanes ym mhennod 16 mae llanc ifanc, un gwahanol neu’r un un (?), yn eistedd ar y llaw dde, wedi ei wisgo mewn gwisg glaerwen (9:3) yr un lliw â gwisg Iesu yn y gweddnewidiad. Gwisg glaerwen yw nodwedd y merthyron sydd wedi goresgyn y byd drwy angau. Mae cyfnewid y gwisgoedd claerwyn hyn (oll yn eu gynau gwynion?) yn fath o addewid a her. Gellir adnewyddu’r gymuned o ddisgyblion hyd yn oed ar ôl y fath frad. Mae’r dyn ifanc cyntaf yn symbol o ‘golli bywyd a’i ennill’, a’r ail yn arwydd o ‘golli bywyd i’w arbed’. Ond yng Ngethsemane mae’r llanc yn dipyn o ddirgelwch. Gwelwn yn unig fod popeth wedi suro. Mae’r disgyblion wedi eu dymchwel dan bwysau’r awdurdodau – fel sydd wedi digwydd ar hyd y canrifoedd; mae eu breuddwydion wedi diflannu yn wyneb grym y wladwriaeth. Iesu fydd yn wynebu’r grym hwnnw ar ei ben ei hun yn y ddau lys: llys yr Iddewon a llys y Rhufeiniaid.    

Myfi yw, ‘ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu…

Ond pan ddaw’r gwragedd at y bedd i wneud y gwrthwyneb i weithredoedd Joseff, mae’r symbolau’n amlhau a’r gŵr ifanc yn rhoi rhyw eglurhad, a gorchmynion ar gyfer y dyfodol. Mae’r dyn ifanc yn eistedd ar y llaw dde – y safle y bu’r disgyblion yn cystadlu am ei feddiannu – ond mae wedi mynd trwy ferthyrdod. Dywedai’r salmydd mai ar y llaw dde yr oedd safle’r Meseia, ac felly y soniodd Iesu ei hun (14:62) am Fab y Dyn. Roedd y dyn ifanc yng Ngethsemane wedi ei lapio mewn lliain, lliain oedd yn amdo i Iesu yn y bedd (yr Iesu nad yw mwyach yn y bedd). Ond mae’r dyn ifanc bellach wedi ei wisgo mewn gwisg o’r un lliw â gwisg Iesu yn y gweddnewidiad.

Mae myfyrio ar y lliaws cyfeiriadau hyn yn dyfnhau ein hamgyffrediad o gyfoeth stori Marc sy’n cyfleu nid ‘llawenydd’ ond arswyd, dychryn ac o bosibl gobaith y Pasg.

Seiliwyd ar lyfr Ched Meyers, Binding the Strong Man: A Political Reading of Mark’s Story of Jesus (Orbis Books; ISBN 0 -88344-621-9)

Yr oeddem ninnau yno, ond rydym, 
rhywfodd wedi hen anghofio.
                                           (Gwilym R. Jones)

Mae cofio ac anghofio, deall a chamddeall, cael cip ar ddatguddiad neu fodloni ar ystrydeb wedi cael eu plethu trwy ein defodau (neu ddiffyg defodau) yn yr Wythnos Fawr a’r Pasg.

Mae gweld ‘pobl fel ni’ mewn dillad fel ein dillad ni, a steil gwallt o’n canrif ni yn tanlinellu’r  llinellau deifiol hyn mewn darluniau a osodwyd yn ddiweddar yng Nghadeirlan Bangor. Mae darlunio digwyddiadau ysgrythurol mewn cyd-destun cyfoes yn draddodiad ac yn aml yn gyfrwng beirniadaeth ddeifiol ar drefn wleidyddol gwahanol gyfnodau.

Llun: Jan Brueghel yr Hynaf (1597)

Mae gan Brueghel yn yr ail ganrif ar bymtheg lun o dref lan y môr a’i holl fusnes gwerthu pysgod – y pysgotwyr a’r marchnadwyr a’r perchnogion llongau yn eu dillad crand, y pysgod ar wasgar a rhywle ymhell yn y cefndir mae llongau eraill. Mae’n rhaid edrych yn fanwl i sylwi bod llong sydd ymhell i ffwrdd yn cynnwys ffigwr bychan, disylw mewn dillad disglair wynion – Iesu’n pregethu i’r tyrfaoedd. Ond mae byd busnes yn cario ymlaen yn gwbl ddisylw ynghanol y darlun. Dameg ynddi ei hun.

Mae darluniau o’r dioddefaint a’r llu gwahanol ddigwyddiadau y cyfeirir atynt yn yr Efengylau yn llanw orielau ar hyd a lled Ewrop.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.