Ond mae’r Beibl yn dweud …

Mae Eglwys Loegr, eto fyth, dan yr ordd am ei ‘rhagrith’ yn penodi gŵr hoyw yn Esgob Grantham. Dywedodd Archesob Caergaint yn gadarn ddigon nad oedd a wnelo’i rywioldeb ddim oll â’i weinidogaeth. Ond cynhyrfwyd eraill mwy ceidwadol i alw’r penodiad  yn ‘beryglus’.

Yn yr erthygl hon ystyrir geiriau Sant Paul yn nechrau’r Epistol at y Rhufeiniaid, testun allweddol i bawb sy’n condemnio cyfunrywioldeb ac yn credu bod Paul yn ddiamwys gondemnio cyfunrywioldeb i wŷr a gwragedd.

Ond mae’r Beibl yn dweud …

Arfer cyfleus a sefydlwyd yn yr Oesoedd Canol oedd rhannu’r Beibl yn benodau ac adnodau, ond weithiau mae’n gallu ystumio ystyr trwy wahanu adnodau sy’n perthyn yn dynn wrth ei gilydd. Does dim modd gwneud synnwyr call o Rhufeiniaid 1 heb glymu wrtho 2.1. Felly, at ddiben cyfyngedig yr erthygl hon, rydyn ni’n sôn am Rhufeiniaid 1–2.1.

Mae’r dehongliadau clasurol yn gytûn fod Paul yn yr Epistol yn annerch dau grŵp o Gristnogion yn Rhufain: grŵp Iddewig a grŵp o blith ‘y cenhedloedd’, y naill grŵp a’r llall yn ystyried eu hunain yn ‘well’ na’r grŵp arall lle bo’r gyfraith yn y gwestiwn. Dyna’r broblem. (DS Os yw lledneisrwydd yn eich gwneud yn swil wrth drafod manylion corfforol, peidiwch, da chi, â darllen dim pellach!)

Yn adnod 1.26 dywedir:

Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol. (BCN–D)

Mae dehongli wrth gyfieithu yn dod i’r golwg yn fersiwn beibl.net:

Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas naturiol gyda dyn. (beibl.net)

Does dim sôn am wrywod yn y gwreiddiol ac am ganrifoedd deellid bod arferion annaturiol yn cyfeirio at ymdreiddiad drwy’r anus ( h.y. twll tin) ac nid drwy’r wain, a hynny er mwyn osgoi cenhedlu plentyn. Gwelir hyn yn glir mewn darn o sylwebaeth heb flewyn ar dafod gan Clement o Alexandria:

Nid yw natur yn caniatáu hyd yn oed i’r anifeiliaid mwyaf blysig i gam-drin yn rhywiol y twll a fwriadwyd ar gyfer baw.

bartolomeo_montagna_-_saint_paul_-_google_art_project

Yr Aposrol Paul gan Bartolomeo Montagna

Felly y dehonglwyd y darn gan Awstin Sant (tipyn o awdurdod, wedi’r cyfan) a doedd e ddim yn ‘amlwg’ o gwbl iddo ef mai sôn am serch lesbiaidd yr oedd Paul yn y fan hon.  Ond ai trafod manylion ymddygiad rhywiol yw amcan Paul? Roedd arferion rhywiol, yn enwedig mewn defodau a gynhelid yn nhemlau’r gwahanol grefyddau dwyreiniol yn dra lliwgar. Y rheini yw’r cefndir ac mae Paul yn gwybod cymaint o dramgwydd oedden nhw i’r Iddewon. Ond mae e am ddangos ei fod yn gwerthfawrogi safbwyntiau’r Iddewon a’r Cenhedloedd: 

Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion – yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll. A dyma’r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu’r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain. Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid. Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw a hynny trwy ffydd o’r dechrau i’r diwedd fel y mae’n ysgrifenedig, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw”.

Wedyn, mae’n mynd ati i osod allan rai o’r pethau oedd yn ffieidd-dra i Iddewon. Mae’n dyfynnu, ac yn disgwyl i Iddewon wybod am beth mae’n sôn, sef darn yn Noethineb Solomon. Mae darn o hwn yn cynnwys ymosodiad chwyrn a huawdl  iawn ar ddrygioni addoli paganaidd: Doethineb Solomon 12:23–13:10 a 14:9–31.

(Gyda llaw, onid yw’n drueni bod y diwygwyr wedi cau allan a chasglu ynghyd ar wahân yr hyn a alwn ni yn Apocryffa? apocryffaRoedd yn amlwg iddyn nhw nad oedd darnau o’r llyfrau hyn yn ‘Air Duw’ ac felly fe’u neilltuwyd gan gau allan ddarnau eraill sy’n allweddol i fedru deall Paul.  Cryfhaodd hyn y duedd i feddwl am weddill yr Ysgrythur fel rhywbeth ‘anffaeledig’.  Mynnwch gopi o’r Beibl cyfan!)

Mae Paul  yn ymroi i fath o riff moesol, a bant ag e i fanylu am amrywiol bechodau’r cenhedloedd paganaidd, gan gynnwys arferion rhywiol gwrywod gyda’i gilydd. Roedd yn gwbl hysbys fod ymddygiad rhywiol amrywiol ac eithafol yn rhan o ddefodau cwltiau fel Mithras, Cybele ac eraill (rhywbeth dipyn mwy eithafol na baddondai San Francisco yn chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiwethaf). Dyma Paul felly yn crynhoi gofid yr Iddewon am fryntni’r Groegiaid. Mae e fel petai’n eu hannog i ddweud ‘Ych-a-fi’! ac yna’n dod i ben gydag ebychiad Iddewig iawn, ‘Bendigedig yw ef am byth! Amen!’ Mae’r cwbl mor wahanol i fywyd teuluol glanwedd ni’r Iddewon!

 Ond yn adnodau 28–29a dywed, fel petai’n mynd i barhau i gystwyo pechodau rhywiol:

Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig i wneud y pethau na ddylid eu gwneud, a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith.

Ydi Paul yn dechrau sôn am bechodau eraill, rhai mwy difrifol efallai?

Cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais. Clepgwn ydynt (adnodau 29–30).

son-y-mae-paulOnd dyma bechodau y mae’r Iddewon yn eitha cyfarwydd â nhw! Dyma bechodau y gall Iddewon gonest eu hadnabod yn eu cylchoedd. Dyma nhw felly dan farn Duw! Yn adnod 32 mae’n eglur fod pawb dan gondemniad. Gyda’r Iddewon a’r Groegiaid, y naill ochr a’r llall, erbyn hyn yn gwrido, dywed Paul yn Rhufeiniaid 2:1:

Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy’n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd wrth farnu rhywun arall yr wyt yn dy gollfarnu dy hun gan dy fod ti, sy’n barnu, yn cyflawni’r un troseddau.

Un pwynt arall pwysig ynglŷn â dehongli neu ddeall y Beibl yn iawn yw na ddylid cymryd darn o ysgrythur am sefyllfa gyfoed â’r awduron a chredu ei fod yn uniongyrchol berthnasol i ryw ffenomenon gyfoes ganrifoedd yn ddiweddarach. Sôn y mae Paul am arferion cwltiau paganaidd. Nid sôn y mae am ddau wryw neu dwy ddynes dyner a chariadus sydd wedi byw gyda’i gilydd am 40 mlynedd mewn cytgord a chydymdeimlad sy’n edrych yn ddigon tebyg i briodas.

Trafod y mae Paul fater mwy sensitif fyth, sef hunangyfiawnder grwpiau diwylliannol a phroblem barnu moesol a bwrw allan yr hyn a dybir sy’n anfoesol. (‘Pwy ydw i i farnu?’ meddai’r Pab Ffrancis!) ‘Na fernwch fel na’ch barner’, meddai Iesu, ac mae Paul wrthi’n trafod pobl sy wedi bod yn barnu ei gilydd.

Dau bwynt felly:

  • Nid yw Paul yn gwneud gosodiad cyffredinol am gyfunrywioldeb.
  • Hyd yn oed petai e’n trafod y pwnc, mae ei ymateb yn dweud na ddylai Cristnogion gondemnio’i gilydd yn hyn nac mewn materion eraill.

Felly, bendith ar ben y rhai sy wedi cael eu dychryn gan y darn hwn gan dybio’i fod yn eu condemnio. Dyw ystyr y Beibl ddim i gyd ar yr wyneb ac mae mynnu: “Ond mae’r Beibl yn dweud” yn dra rhyfygus. Mae beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn aml yn llawer mwy radical, yn llawer mwy cyffrous, ac yn her aruthrol i bawb ohonom sy’n barnu (gan gynnwys ni sy’n barnu’r llythrenolwyr! Ha!)

Wedi’r cyfan, fe sylwodd rhyw foi anghyffredin o onest nad oedd e’n poeni am y darnau nad oedd yn eu deall, ond ei fod yn cael trafferth anghyffredin i ufuddhau i’r darnau lle roedd yr ystyr yn berffaith eglur …

 

James Alison

James Alison

(Seiliedig ar ‘but the bible says’ yn Undergoing God gan James Alison, Continuum 2006, t. 123)

 

 

 

Os ydych am fanylu ar hyn, ewch at waith Jeramy Townsley yn ‘Paul, the Goddess Religions and Homosexuality’ www.jeramyt.org