Newyddion Agora
Paratoi ar gyfer 2017
Mae’r paratoadau i gofio dechrau’r Diwygiad Protestannaidd yn 2017 wedi dechrau yn barod. Bydd yn ddigwyddiad mawr a hanesyddol ac y mae Cerbyd Teithiol y Diwygiad yn dechrau ei daith o Genefa, Dinas y Diwygiad, ar Dachwedd 3ydd, ac fe fydd yn ymweld â 67 o ddinasoedd mewn 19 o wledydd Ewropeaidd cyn dechrau’r dathliadau ddiwedd Hydref 2017. Mae mudiadau fel CPEC (Cymdeithas eglwysi Protestannaidd yn Ewrop) SEK (Cyngrair Eglwysi Protestannaidd y Swistir), EKD (Eglwysi Efengylaidd yr Almaen) yn ogystal â’r Eglwys Lutheraidd (gyda’i 80 miliwn o aelodau) yn rhan o’r cynllunio. Wrth lansio’r dathliadau dywedodd Olav Tveit, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd, na all cofio’r rhwyg a arweiniodd at y Diwygiad fod yn ddim ond ‘gweithred o rannu’r cyfrifoldeb’ a arweiniodd i Martin Luther hoelio ei 95 o ddatganiadau ar ddrws yr Eglwys yn Wittenburg. Yn yr un ysbryd mae Thomas Bruch, un o arweinwyr yr Eglwys Lutheraidd ym Mhrydain, yn pwysleisio mai rhywbeth i’r holl eglwys drwy’r holl fyd – eciwmenaidd – i’w gofio ar y cyd ydyw. Iddo ef, cofio, dysgu, myfyrdod ac addoli fydd 2017, nid dathliadau. Bellach, meddai, o ‘wrthdaro i gofio’ yw’r pwyslais. Am fwy o wybodaeth am y cofio yn 2017 ewch i www.reformation500.uk
CWM yn dathlu
Mae CWM (Council for World Mission) yn paratoi i ddathlu’r 40ain yn 2017 oherwydd yn 1977 aeth yr hen London Missionary Society LMS (1795) a’r CMS (1836) yn CWM, gyda’i bencadlys bellach yn Singapore. Mae’r gymdeithas yn deulu o 32 o eglwysi sy’n cynnwys eglwysi’r URC ym Mhrydain, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ynghyd â rhai eglwysi cynulleidfaol na ddaeth yn rhan o’r URC. Yng nghyfarfod y Bwrdd yn Singapore ym mis Hydref cyhoeddwyd rhaglen blwyddyn gyfan i’r dathlu ar y thema Iachau: gobaith ar waith. ‘Mae’r eglwys’ yn ôl CWM, ‘ar daith o obaith’. Mae’r pwyslais cyson ar rannu adnoddau trwy bartneriaeth rhwng eglwysi, ac erbyn hyn mae mwy o bartneriaid o wledydd deheuol a dwyreiniol y byd yn dod i Ewrop na phartneriaid o eglwysi Ewrop sydd mewn eglwysi eraill o fewn CWM.
(Dyma lun o Fwrdd CWM yn Singapore bythefnos yn ôl. A fedrwch adnabod rhai o Gymru yn y llun?)
Jerwsalem: dinas ranedig
Mae UNESCO wedi codi nyth cacwn ac oherwydd hynny wedi tynnu sylw at y tristwch a’r dagrau a berthyn i ddinas Jerwsalem. Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan UNESCO (cangen o’r Cenhedloedd Unedig, wrth gwrs) ar safle’r Haram al-Sharif, sef safle Mosg al-Aqsa a Safle’r Hen Deml, yn rhestru cwynion y Palestiniaid yn erbyn yr Israeliaid ac yn codi cwestiynau ynglyn â pherthynas yr Iddewon â’r safle. Mae’r Adroddiad wedi ei dderbyn, o fwyafrif o ddau, gan UNESCO. Mae llawer o’r anghytuno yn codi oherwydd y gor-ddefnydd (yn ôl Israel) o’r iaith Arabaidd. Mae hynny ynddo’i hun, meddai’r Israeliaid, yn tanseilio perthynas unigryw yr Iddewon â safle hynafol y deml yn Jerwsalem (a ddinistriwyd yn y flwyddyn 70).
Clychau Aleppo.
Gyda’r mwyafrif o bobl yn teimlo yn gwbwl ddiymadferth wrth weld y lladd a’r dinistrio yn Aleppo (40 o blant a 400 o oedolion mewn un penwythnos yn Hydref) yr oedd canu clychau eglwysi yn ddyddiol rhwng Hydref 12-24 (Dydd y Cenhedloedd Unedig ) o leiaf yn weithred o ‘godi llais’ yn erbyn y troseddau yn erbyn y ddynoliaeth sydd yn digwydd yn y ddinas. Dechreuodd yr ymgyrch gydag Eglwys Efengylaidd Lutheraidd yn Helsinki gan ledaenu drwy’r Ffindir ac ymestyn i nifer o eglwysi yn Awstralia, Canada a gweledydd eraill yn Ewrop. Aeth Zeid Ra’ad al Hussein, Comisiynydd y CU ar Iawnderau Dynol, mor bell â galw Aleppo yn ‘ladd-dŷ – canol erchyll i boen ac ofnau’. Yr oedd y clychau yn alwad i Gristnogion ac i’r holl genhedloedd, yn ogystal ag yn gri ar ran pobl Aleppo.