Meithrin bywyd ysbrydol plant

Chwarae Gyda Duw

Meithrin bywyd ysbrydol plant

gan
Rhiannon Johnson 

Mae dau fachgen wyth mlwydd oed yn chwarae ar y llawr. Maen nhw wedi dechrau casglu ynghyd y teganau a ddefnyddir i adrodd dwy stori hollol wahanol – stori Arch Noa, a dameg y Bugail Da. Mae ffigwr y Bugail Da wrthi’n arwain yr holl greaduriaid i mewn i’r arch. Gwylio ydw i. Mae’r bechgyn yn dod o hyd i’r blaidd yng ngwaelod y blwch damhegion. Dydw i ddim wedi cyflwyno’r blaidd iddyn nhw eto, ond maen nhw’n llawn cywreinrwydd. Rwy’n eu gwylio wrth iddyn nhw ddatblygu’r gwahanol bosibiliadau. Mae’r Bugail Da yn sefyll rhwng y creaduriaid a’r blaidd. Yna maen nhw’n dyfeisio ffordd arall: tybed a yw’r blaidd yn gi defaid i’r Bugail Da ac yn hel yr anifeiliaid i mewn i’r arch a’i diogelwch? Yna maen nhw’n dyfalu a oes lle yn yr arch hyd yn oed i’r blaidd? A beth fyddai’n rhaid i’r blaidd ei wneud i gael mynd i mewn i’r arch? Maen nhw wrthi’n trafod holl broblem drygioni mewn byd sy’n eiddo i Dduw daionus.

rhiannonjohnsoncu

Rhiannon Johnson

Dyna un o’m profiadau cyntaf wrth arwain sesiwn ‘Chwarae Gyda Duw’. Ffordd o ddatblygu bywyd ysbrydol plant yw ‘Chwarae Gyda Duw’ (Godly Play) ac mae’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol gydag oedolion hefyd. Fe’i dyfeisiwyd gan Americanwr o’r enw Jerome Berryman, a ddatblygodd ei waith ar seiliau a osodwyd gan Maria Montessori a Sofia Calvetti yn eu llyfr, Catechesis of the Good Shepherd. Bellach, mae’n fudiad rhyngwladol ac ar hyd a lled Cymru mae yna arweinwyr wedi’u hyfforddi’n dda sy’n dyheu am rannu dealltwriaeth o’r gyfundrefn â’r rhai sy’n barod i wrando a rhyfeddu.

Dyma sut mae sesiwn nodweddiadol yn mynd. Cesglir y rhai sydd wedi dod yn gylch, gan amlaf yn eistedd ar y llawr, gan baratoi i wrando stori. Mae’r arweinydd yn cyflwyno stori, dameg neu litwrgi gan ddefnyddio gwrthrychau a symudiadau. Mae’r ddrama’n digwydd yng nghanol y cylch, ond o’i gwmpas mae gwrthrychau a ddefnyddir mewn straeon eraill, a defnyddir offer celf a chrefft wedi’u gosod mewn trefn gerllaw fel bod y stori’n rhoi cliwiau sy’n dangos sut mae’n perthyn i straeon eraill.

godly-play-space-behind-the-altar-in-st-marys-churchMae’r ffocws ar y gwrthrychau, nid ar yr un sy’n dweud y stori. Ar y diwedd mae’r storïwr yn eistedd yn ôl ac yn gwahodd gweddill y cylch i ystyried yr hyn maen nhw newydd ei weld gyda chwestiynau fel, ‘Tybed beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am y stori hon? Beth, tybed, oedd y peth pwysicaf ynddi?’ Yn raddol mae’r atebion yn dod, a gyda’i gilydd mae’r cylch yn creu ystyr o’r hyn maen nhw newydd gael profiad ohono. Does yna ddim atebion ‘cywir’, a’r unig ffordd i fod yn ‘anghywir’ fyddai dweud celwydd am yr hyn sydd yn eich meddwl. Yn aml mae’r atebion yn peri syndod. Bob tro mae’r cylch ar ei ennill o wrando ar ei gilydd yn trafod.

Mae’r stori yn cael ei rhoi heibio’n ofalus a’i rhoi mewn man lle mae pawb yn gwybod ble i ddod o hyd iddi.

tegannauYna, mae pob aelod o’r cylch yn cael ei holi beth hoffai ei wneud i ymateb i’r stori ac yn cael ei helpu i ddod o hyd i’r adnoddau y bydd eu hangen i’w gyflawni. Does yna ddim ymateb parod wedi’i gynllunio. Bydd rhai yn tynnu llun, yn peintio neu’n ysgrifenu; eraill fel y bechgyn yn y stori uchod yn cyfuno stori y maen nhw newydd ei chlywed â stori arall, ac eraill am eistedd a meddwl. Ar ôl amser i ymateb, mae’r cylch yn ymgasglu eto ac yn dweud gweddïau a rhannu ‘gwledd’ o fyrbrydau a diod. Rhoddir llawer iawn o sylw i sut i gynnig patrwm i’w ddynwared wrth fwyta gan roi ystyriaeth i’w gilydd. Ar ôl clirio’r ‘wledd’, daw pob un person at y storïwr, sy’n dweud rhywbeth da amdano neu amdani gan edrych i’w wyneb a dal ei ddwylo a dweud, ‘Dos mewn tangnefedd’.

godly-play-logoMae plentyn bod yn sâl am gyfnod hir. Mae ei mam wedi mynd â hi at feddygon di-ben-draw, a’r rheini wedi pwyntio a phrocio’i chorff bach, yn aml gan beri dolur. Ar ddiwedd un sesiwn aeth y plentyn chwe blwydd oed yn ddifrifol at y meddyg, gafael yn ei ddwylo, edrych yn ei wyneb a dweud, ‘Ry’ch chi’n gwneud eich gorau i beidio â gwneud dolur i mi. Ry’ch chi’n ddoctor da iawn. Duw fo gyda chi. Ewch mewn tangnefedd.’

Am ddeng mlynedd fe fûm i’n trefnu dosbarth ‘Chwarae Gyda Duw’ mewn pentre bach yng ngorllewin Cymru a gwelais yr effaith gafodd e ar y plant, yr eglwys a’r gymuned ehangach. Gall fod yn rym er daioni. Mae’n denu plant sy’n aml ddim yn ffynnu mewn ysgol gonfensiynol. Nid dim ond dysgu straeon y ffydd y maen nhw, ond sut i greu ystyr allan ohonyn nhw. Mae’n meithrin y gymuned, yn dysgu i blant ac oedolion wrando ar ei gilydd a dysgu gan ei gilydd. Mae llawer iawn llai o orweithio a diffygio ymysg yr arweinwyr. Mae’n gweithio’n dda gyda grwpiau o allu ac oed cymysg iawn: y model yw’r eglwys, nid yr ysgol.

Os carech chi wybod mwy, edrychwch ar wefan www.godlyplay.org.uk.

godly-playUn tro roedd plentyn naw blwydd oed yn sâl ond yn gorfod bod mewn sesiwn oherwydd bod ei mam yn arwain sesiwn ‘Chwarae Gyda Duw’ gydag oedolion. Wrth i’r stori gael ei hadrodd, fe wrandawodd hi gyda’r oedolion. Pan ddaeth yn amser myfyrio ac ystyried, fe ymunodd fel y byddai wedi arfer gwneud, ond roedd yr oedolion wedi eu syfrdanu ac wedi eu herio. Doedden nhw erioed wedi ymwneud â ffydd plentyn mewn unrhyw ffordd, nac ar delerau cyfartal, ac fe sylweddolon nhw eu byd yn syrthio’n brin. I rai fel hyn y mae Teyrnas Dduw yn perthyn (Marc 10.14–15)