Cam Un yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

       Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

 Y CAM CYNTAF

Rydym yn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol, a bod ein bywydau allan o reolaeth.’

Mae ’na ochr ddu, ‘cysgod’ i’n heneidiau. Dyna mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Ond mae gormod o lawer ohonom yn cuddio’r ochr ddu honno oddi wrthym ein hunain ac oddi wrth y byd. Byddwn yn perfformio i ddangos yr hyn a dybiwn y mae’r person arall eisiau ei weld ynom, y peth a dybiwn y mae’r person arall eisiau ei glywed gennym. I bob pwrpas, rydym yn byw bywyd anonest, yn ceisio bod yn rhywbeth nad ydyn ni.

Dyma un o wersi mawr bywyd, ac mae cymaint ohonom yn dal heb ei dysgu. Trwydepression beidio â chofleidio a derbyn ochr ddu ein heneidiau – hynny yw, barnu bod rhai agweddau o’n hunain yn ddrwg ac yn bechadurus, yn hytrach na derbyn eu bod yn rhan o’r natur ddynol a’u cymodi â ni ein hunain – arfogwn hwynt â grym negyddol sydd yn cryfhau eu pŵer drosom. Y duedd ynom i guddio ochr ddu’r enaid rhag ein hunain a rhag y byd sydd wrth wraidd llawer iawn o’n problemau yn y Gorllewin heddiw. Mae’n creu’r ymdeimlad o arwahanrwydd – nid yn unig oddi wrth y Creawdwr a’n cyd-ddyn, ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth gynyddol honno o’r gagendor sy’n bodoli rhwng yr hyn ydym a’r hyn y dylem fod.

Yn y Stafell Fyw ein gwaith yw annog pobl i dderbyn a chofleidio ochr ddu eu heneidiau: eu dysgu i fod yn ddynol, mewn geiriau eraill. Anogwn hwynt i ‘garu’r cancr tu fewn’. Nawr, mae caru rhywbeth sy’n ein lladd yn wrthun gennym. Ond yn y frwydr ysbrydol hon dyna’r unig ateb; rhaid dysgu caru ein gelynion fel y dysgodd Crist i ni wneud; dysgu caru rhai agweddau annymunol ac anghyfforddus o’n hunain – y gwachul gyda’r gwych.

Y broses

Mae pawb yn y byd, dybiwn i, yn gwybod na all alcoholig gael adferiad nes iddo dderbyn ei fod yn alcoholig. (Mae hynny’n wir am bob cyflwr dynol arall hefyd.) Ond yr hyn mae’r alcoholig yn ei wneud mewn gwirionedd yw cofleidio ochr ddu ei enaid, derbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus ac annymunol amdano’i hun, a derbyn y rheini i waelodion ei enaid.

Dyma yw hanfod Cam 1 yn rhaglen adferol 12 Cam Alcoholigion Anhysbys (AA): ‘Rydym yn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol a bod ein bywydau allan o reolaeth.

alcoholic-3Y rhwystr pennaf rhag i hyn ddigwydd yw’r ffaith fod dibyniaeth (addiction) yn un o’r cyflyrau hynny sy’n mynnu dweud wrthym nad oes dim byd yn bod arnon ni. Mae pawb arall yn gallu gweld fod gennym broblem – pawb ond ni’n hunain. Math ar wallgofrwydd yw hyn: yr anallu i lawn amgyffred ein gwir gyflwr. (Sgitsoffrenia yw’r cyflwr arall sy’n celu’r gwir amdano’i hun oddi wrth y dioddefwr.) Yn Cam 1 felly, ein gwaith yw datgelu i’r dioddefwr, yn raddol, y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, ac yna ei adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiad niweidiol arall) wedi achosi iddo ef neu iddi hi ac i’r rhai maent yn proffesu eu caru.

Cynigiwn iddynt gipolwg ar y boen a’r dioddefaint y mae’r ddibyniaeth wedi’u hachosi iddynt yn gorfforol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn emosiynol, a gadawn i’r dioddefaint hwnnw – o bosib y grym mwyaf creadigol ym myd natur – eu perswadio i newid eu ffyrdd.

Paradocs

A dyma lle canfyddwn y paradocs cyntaf yn y 12 Cam – sef y gallu i ddal dau begwn ynghyd mewn un llaw a gwneud synnwyr perffaith o’r ddau. Sut y gallwn ni gyfaddef a derbyn ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth, a thrwy hynny ganfod y llwybr i adferiad o’r rhywbeth hwnnw? Mewn geiriau eraill, sut gallwn ni ildio mewn brwydr ac ennill y frwydr honno ar yr un pryd?

Mae’r 12 Cam wedi eu seilio ar y rhagdybiaeth na all un pŵer meidrol ein harbed o’n halcoholiaeth. Felly, os na fedraf fi arbed fy hunan na chi arbed eich hunain, pwy fedr? A dyna holl bwrpas y 12 Cam – ein harwain at y Pŵer (yn Cam 12) a all wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ein hunain.

alcoholic-2Mae grym anghyffredin mewn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth. Cyfaddefwn na fedrwn roi’r gorau i yfed ein hunain a’n bod yn fodlon derbyn help o ba gyfeiriad bynnag y daw. Dyna pryd mae gras Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef yn cael gofod i ddechrau gweithredu’n drawsnewidiol arnom. Pan ydym ar ein gwannaf, felly, ac yn fodlon derbyn yr annerbyniol – yn baradocsaidd – rydym ar ein cryfaf.

‘Cerdded drwy Uffern’

Mae maddeuant, cariad dan reolaeth agape, a ‘cherdded drwy Uffern’ yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd. (Fe soniwn fwy am y ddau gyntaf yng nghamau 4, 8 a 9.) Mae Cam 1 yn ymwneud â ‘cherdded drwy Uffern’ – a gorau po fwyaf Uffernol yw’r cerdded hwnnw. Dyna sy’n rhoi i ni’r parodrwydd a’r gwyleidd-dra i newid ein ffyrdd. Gorfoda ni hefyd i fabwysiadu meddwl agored a dechrau coleddu gonestrwydd yn ein byw bob dydd: gonestrwydd sy’n ein galluogi i dderbyn yr hyn rydym yn ei deimlo, i dderbyn yr hyn rydym yn ei feddwl, a derbyn yr hyn ydym – y da a’r drwg.

Y tro nesaf

Yn Cam 2, fis nesaf, edrychwn ar sut ‘y daethom i gredu fod Pŵer mwy na ni ein hunain yn gallu ein hadfer i’n iawn bwyll’.  

Ac mae’r broses yn golygu ein bod yn ateb y ddau gwestiwn y mae’n rhaid i bob un ohonom eu hateb ar ryw adeg yn ein bywydau: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’

Logo Stafell FywDewch gyda mi felly ar y daith fwyaf anturus, ddadlennol a chynhyrfus sy’n bod – y daith tuag at hunanadnabyddiaeth lawn, tuag at gyflawnder, a thuag at undod gwynfydedig â Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef. Taith sy’n dechrau drwy dderbyn fod ‘crac’ ynom i gyd – ein bod ni i gyd, yn ddiwahân, yn berffaith amherffaith, a bod Duw yn ein caru ni er gwaethaf ond oherwydd hynny.

A chofiwch hyn, gallwch gyfnewid y gair ‘alcohol’ am unrhyw gyffur, ymddygiad niweidiol, neu stad meddwl negyddol arall rydych yn dioddef ohonynt, neu unrhyw anhawster y mae bywyd yn ei daflu atoch – gallwch ddefnyddio’r 12 Cam ym mhob agwedd o’ch bywyd.

Dyna pam rwy’n grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam – sydd wedi’u disgrifio fel ‘rhodd Duw i’r 21 ganrif’ – i bob plentyn ym mhob ysgol drwy’r wlad – am mai rhaglen ydyw sy’n ein dysgu sut i fyw, sut i fod yn ‘true to nature’ fel y dywedodd Wil Bryan ‘stalwm, a sut i ganfod a chynnal cysylltiad ymwybodol â Duw – cysylltiad sy’n ein galluogi i fyw bywydau y tu hwnt i’n holl freuddwydion.