Cam Dau yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

       Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

 CAM DAU

Y mis hwn mae Wynford yn edrych ar Gam 2: ‘Fe ddaethom i gredu fod pŵer mwy na ni ein hunain yn gallu ein hadfer i’n hiawn bwyll.’

Y Pŵer Mwy

Mae Cam 2 yn perthyn i ran gyntaf y rhaglen adferiad, sef Camau 1–3. Y camau hyn yw craidd adferiad ac mae’n hanfodol eu bod yn cael eu selio’n gadarn ar ein heneidiau. Byddwn yn rhuthro yma a thraw yn gwneud iawn i hwn a’r llall, yn dadansoddi’n bywydau ac yn delio â materion eraill. Mae’r rhaglen adferiad wedi’i gosod allan mewn ffordd syml ond clyfar iawn. Canolbwyntir ar y pethau pwysig yn gyntaf – a’r peth pwysicaf yw hyn: os na ddown o hyd i bŵer mwy na ni ein hunain a dod i gredu yn y pŵer hwnnw, go brin fod gennym siawns o dorri’n rhydd o’n dibyniaeth/ymddygiad niweidiol ac adfer trefn ar ein bywydau afreolus. Mewn geiriau eraill: heb Dduw, heb ddim.

Logo Stafell FywFe gofiwch mai ein gwaith yng Ngham 1, a drafodwyd y mis diwethaf, yn y Stafell Fyw yw datgelu’n raddol i’r dioddefwr y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, a’i adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiad niweidiol arall) wedi ei achosi iddo ef neu iddi hi ac i’r rhai maent yn proffesu eu caru.

Cynigiwn iddynt gipolwg ar y boen a’r dioddefaint y mae’r ddibyniaeth wedi’u hachosi iddynt yn gorfforol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn emosiynol, a gadawn i’r dioddefaint hwnnw – y grym mwyaf creadigol ym myd natur o bosib – eu perswadio i newid eu ffyrdd. Drwy hyn, gobeithiwn agor eu llygaid i ddifrifoldeb eu cyflwr, ac yn fwy na dim i’r ffaith na all un pŵer meidrol eu harbed rhag canlyniadau’r cyflyrau hynny. Felly, os na fedraf fi ac os na fedran nhw eu harbed eu hunain, pwy all?

A dyna bwrpas Cam 2: dod i gredu y gall pŵer mwy na ni wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ein hunain.  

Ac yma canfyddwn broblem sy’n gyffredin iawn i staff y Stafell Fyw: ystyfnigrwydd y meddwl caeedig. Mae meddwl caeedig yn rhwystr i bob deall ac addysg, a dyna pam mae meddu ar feddwl agored yn hanfodol os ydym i ganfod pŵer trawsnewidiol all achub ein bywydau.

alcoholic-shutter26260609-alcoholic-helpMae’r gwrthwynebiad i’r cam hwn, sut bynnag, yn naturiol iawn os yw’r pŵer yng Ngham 2 yn cael ei gysylltu â’r Duw a fradychodd yr adict pan oedd yn blentyn. ‘Pwy yw’r Duw hwn sy’n cadw’r bobl ddrwg ond yn cymryd y bobl dda?’ neu ‘Pa fath o Dduw fyddai’n cymryd fy nhaid/nhad-cu oddi arnaf?’ Yn fy achos i, roeddwn yn arfer meddwl mai marwolaeth fy nhad oedd yn fy chwerwi – ond rwy’n deall nawr mai colled fwy o lawer oedd y colli ffydd yn fy nghalon.

gabor-mate

Dr Gabor Maté, yr awdur o Ganada

Yn ôl Gabor Maté, yr awdur a’r cyn-golofnydd meddygol, nid yw plant yn deall metafforau. Pan glywant y geiriau ‘Duw’r Tad’ nid ydynt yn deall eu bod yn cynrychioli cariad, yr undod a’r pŵer creadigol cynhenid sydd yn y bydysawd. Dychmygant hen ddyn rywle uwchben yn y cymylau. I rai, gall hyd yn oed ymdebygu i’r taid/tad-cu wnaeth eu treisio. I bobl ifanc, os nad yw’r Duwdod yn ei amlygu’i hun yng ngweithredoedd y bobl hynny sy’n llenwi eu byd, mae’r gair Duw yn troi’n rhagrith.

adictWrth roi ei ffydd mewn pethau/sylweddau/pobl/ymddygiad niweidiol y tu allan iddo ef neu iddi ei hun, mae’n datblygu dibyniaeth (addiction): defnyddio pethau y tu allan i ni’n hunain i wneud i ni deimlo’n well, a hynny er gwaethaf canlyniadau negyddol i ni ein hunain ac i eraill. Mae’r adict yn colli nabod ar y person dilys y tu mewn ac yn ei weld ei hun fel rhyw ego pitw sy’n gorfod crafu a begera am bob owns o fodlonrwydd yn y byd a’i bethau. Nid dioddefaint corfforol, nid poen meddwl nac emosiynol sy’n dod â phobl i’r Stafell Fyw yn chwilio am help, ond y tlodi ysbrydol enbyd hwnnw sy’n dilyn ymddygiad o’r fath. Nid oes ganddynt syniad pwy neu beth ydynt, a dioddefant faich annioddefol o unigrwydd a’r syniad affwysol o arwahanrwydd oddi wrthynt eu hunain, eu cyd-ddyn ac oddi wrth y Creawdwr. Dim ond yr adict sy’n gwybod gwir ystyr unigrwydd.

Dyma’r tlodi y cyfeiria Iesu ato: ‘Pan fyddwch yn nabod eich hunain, byddwch yn cael eich adnabod, a byddwch yn deall mai chi ydy plant y Tad byw. Ond os nad ydych yn nabod eich hunain, yna rydych mewn cyflwr o dlodi, a chi ydy’r tlodi hwnnw.’ (Efengyl Thomas)

Sylweddoli’r tlodi hwn yn aml iawn yw dechrau’r broses o ddatblygu perthynas lawn â’r Creawdwr; ac mae’n dechrau’n aml gyda’r cyfaddefiad yma: ‘Dydw i ddim yn credu mewn Duw, ond o leiaf drwy Gam 2 rydw i wedi derbyn nad fi ydy O neu Hi!’

Rhaid i ni ofyn un cwestiwn byr i ni ein hunain yn unig: ‘Ydw i’n credu neu ydw i hyd yn oed yn fodlon credu bod yna bŵer mwy na mi fy hun?’

Proses yw Cam 2 felly:

Fe ddaethom i’r stafell fyw (neu ganolfan debyg am help);

Fe ddaethom i sylweddoli (anallu’n ego i’n cadw’n ddiogel neu’n dawel neu’n hapus);

Fe ddaethom i gredu (mai pŵer mwy na ni ein hunain yn unig allai wneud hynny).

Sylwch hefyd ar y cymal: ‘ein hadfer i’n hiawn bwyll’.

Gwallgofrwydd, yn ôl Albert Einstein yw ‘gwneud yr un peth drosodd a throsodd gan ddisgwyl canlyniadau gwahanol’.

wynford-ellis-owen-at-the-living-room-cardiff-w-712x400

Wynford wrth ei waith

Fy niffiniad i o wallgofrwydd yw’r anallu i amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Cael ein hadfer i’n hiawn bwyll felly yw medru amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Pan ystyriwch mai dibyniaeth yw un o’r ychydig gyflyrau sy’n mynnu dweud wrthych nad oes dim byd yn bod arnoch (sgitsoffrenia yw un arall), gellwch ddeall pam mae fy niffiniad i’n gweddu i’r dim i’r cyflwr. Cael ein hadfer i’n hiawn bwyll yw medru gweld ein hunain, fel y dywedodd Cromwell ‘warts and all’ – heb wadu dim, y da a’r gwachul.

ar-ryw-adeg-ym-mywydau-pob-un-ohonomDylid pwysleisio yma mai rhaglen ysbrydol yw’r 12 Cam ac nid rhaglen grefyddol. Mae crefydd yn hysbysu ond mae cariad yn ffurfio a thrawsnewid. Rydym yn edrych am berthynas gyda phŵer mwy na ni ein hunain, nid am drefniant.

Ar ryw adeg ym mywydau pob un ohonom yn ddiwahân mae’n rhaid i ni ateb dau gwestiwn: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’ Ac mae’n rhaid i ni ddarganfod yr atebion i’r ddau gwestiwn yna drosom ein hunain. Fel rheol, rhyw argyfwng neu ddioddefaint sy’n rhagflaenu’r cwestiynu – er mai agosrwydd marwolaeth sy’n eu gorfodi arnom yn aml iawn. Gwelwch felly pam mae dioddefaint yn arf mor bwerus yn y Stafell Fyw ac yn yr holl broses o adferiad.

jesustasselwomansmOherwydd, wedi derbyn deffroad ysbrydol o ganlyniad i’r 12 Cam – astudiaeth sydd wedi’i hysgogi gan y dioddefaint hwnnw, gyda llaw, ac nid trwy fynd i’r capel neu’r eglwys, sylwch (er bod tystiolaeth yn awgrymu bod ffydd grefyddol yn hwyluso’r broses), mae’n anorfod y bydd yr adict, os yw o ddifri, yn gallu ateb y ddau gwestiwn. Nid yn unig hynny ond, fel y wraig honno yn y Beibl sy’n dioddef o’r gwaedlif ac sy’n cyffwrdd mantell Iesu yn y sicrwydd pendant y bydd yn derbyn adferiad llawn, mae’r adict yntau, maes o law, yn dod i wybod bod Duw yn bod, yn hytrach na’r mwyafrif ohonom sydd ddim ond yn credu bod Duw yn bod. A’r rheswm dros hynny yw bod Duw yn gwneud rhywbeth drosto – ei alluogi i roi’r gorau i’w gyffur neu i’r ymddygiad caethiwus – na all ei wneud drosto’i hun.

Ond mae ffordd bell eto i fynd ar y daith i sobrwydd llawn a chyflawnder. Mae diffygion cymeriad lu yn ein rhwystro rhag cael cysylltiad ymwybodol â’r Creawdwr. Mae’r tiwb at Dduw wedi’i flocio.

Y mis nesaf byddwn yn edrych ar Gam 3: ‘Gwnaethom benderfyniad i droi ein hewyllys a’n bywydau i ofal Duw fel yr ydym yn ei ddeall ef.’ A hwn yw’r cam sy’n gwahanu’r dynion oddi wrth y bechgyn a’r menywod oddi wrth y genethod! A’r cam hwn yw’r allwedd i ddechrau dadflocio’r tiwb at Dduw.