Piwritaniaeth hen a newydd

Piwritaniaeth hen a newydd

Eleni yw 400 mlwyddiant hwylio’r Mayflower i America, yn cludo piwritaniaid Prydeinig oedd yn awyddus i addoli a byw yn eu ffordd eu hunain yn y Byd Newydd. Fe drefnwyd pob math o ddathliadau ar gyfer yr achlysur, ond wrth gwrs – yn groes i bob disgwyl – fe brofodd yn anos dathlu yn 2020 nag y bu i hwylio yn 1620.

Un peth fu’n bosibl bryd hynny a heddiw yw cyhoeddi llyfrau, ac es i ati i ddarllen cyfrol arbennig Stephen Tomkins, The Journey of the Mayflower: God’s Outlaws and the Invention of Freedom (Hodder & Stoughton, 2020). Digwydd bod, yn ystod yr wythnos yr oeddwn yn ei darllen fe gyhoeddwyd y trefniadau ar gyfer ail ‘gyfnod clo’ Cymru er atal y coronafeirws rhag ymledu, ac fe fu llawer yn gweld yn natganiadau Llywodraeth Cymru na ddylid bod yn prynu na gwneud dim nad oedd yn “angenrheidiol” ryw biwritaniaeth newydd – ffordd amgen (ac anfwriadol, mae’n sicr) o ddathlu’r 400 mlwyddiant!

Mae piwritaniaeth wedi cael enw drwg ar hyd y canrifoedd. Pobl oedd am rwystro pobl eraill rhag mwynhau, pobl surbwch a dihiwmor, pobl wedi’u gwisgo o’u corun i’w sawdl mewn du – dyna ddelwedd boblogaidd o’r piwritan. Rhan o rinwedd llyfr ardderchog Tomkins yw ein hatgoffa nad felly yr oeddynt, mewn gwirionedd.

Nod piwritaniaeth, yn y bôn, oedd puro Eglwys Loegr. Ei phuro rhag holl olion Catholigiaeth, a hefyd ei phuro rhag anfoesoldeb oddi mewn iddi, a oedd yn llygru ei phregethu a’i sacramentau. Mi oedd y piwritaniaid yn gosod safon uchel iawn o ran ysbrydoledd, purdeb buchedd a ffyddlondeb Beiblaidd i’r sawl a fynnai fod yn rhan o’r eglwys, a hyd yn oed yn fwy felly i’r sawl a ddymunai fod yn weinidog neu’n bregethwr.

Mae Tomkins yn darlunio sut y bu raid i’r bobl ymroddedig hyn ymgodymu â pharadocs canolog eu cenhadaeth. Roeddynt am gael Eglwys Wladol a oedd yn gwbl bur. Golygai hynny, wrth gwrs, ddiarddel y sawl oedd yn amhur. Ond fyddai’r Eglwys Wladol ddim wedyn yn eglwys hollgwmpasog, gan y byddai’n rhaid i rai fod y tu allan iddi. Yn raddol fach, dros ganrif, bron, fe ddaeth y piwritaniaid i sylweddoli fod yn rhaid i hynny olygu mai gwirfoddol yw aelodaeth yn yr eglwys. Ni ellir gorfodi aelodaeth eglwysig ar bobl, oherwydd fe fydd rhai pobl amhur wedyn yn yr eglwys, gan lygru’r holl sefydliad. (Wrth gwrs, mae yna broblemau eraill ynghylch piwritaniaeth hefyd, yn enwedig tuedd gwahanol bobl i ddiffinio ‘purdeb’ mewn gwahanol ffyrdd. Mae Tomkins yn dangos pa mor frwnt ar adegau fu’r cecru cydrhwng y piwritaniaid eu hunain – trasiedi Protestaniaeth byth oddi ar hynny, a’r rheswm dros fodolaeth Cytûn a’r mudiad ecwmenaidd. Ond testun ysgrif arall yw hynny.)

Yn groes i’r stereoteip, nid oedd y piwritaniaid cynnar yn wrthwynebus i bleser na chwerthin. Roeddent yn cymryd eu crefydd o ddifrif, mae hynny’n sicr, ond roedd ganddynt hiwmor hefyd. Roedd y pamffledi dychanol a gyhoeddwyd yn enw Martin Marprelate (y bu gan y Cymro John Penri law sylweddol yn eu cyfansoddi, gydag eraill) yn ddeifiol ryfeddol eu cynnwys. Yn wir, maent yn gwneud i hiwmor Spitting Image ymddangos yn hynod o ddof mewn cymhariaeth! Roedd hiwmor a diddanu cynulleidfa yn arf bwysig wrth geisio puro’r eglwys – eu gwrthwynebwyr oedd yn eu darlunio fel pobl ddibleser, er mwyn iddynt golli cefnogaeth gyhoeddus.

Felly, mae ystyr fodern “piwritaniaeth” mewn gwirionedd yn gwneud anghyfiawnder â’r piwritaniaid gwreiddiol. Fodd bynnag, mae yna rywbeth yn gyffredin rhwng y ddwy ystyr, sef paradocs gorfodi purdeb.

Fe fu raid i’r piwritaniaid yng ngwledydd Prydain ac wedyn yn America roi’r gorau i geisio gorfodi purdeb ar y gymdeithas gyfan, a throi yn lle hynny at gynnig arweiniad trwy esiampl. Mae Tomkins yn dangos sut y bu i fwy nag un o wrthwynebwyr y piwritaniaid cynnar fynd ati i ddarllen eu gwaith er mwyn eu dilorni – a chael tröedigaeth o weld cryfder eu dadl, dyfnder eu hargyhoeddiadau a thrylwyredd eu dealltwriaeth o’r Beibl. A chofiwch, wrth ymuno â’r Piwritaniaid yn oes Elisabeth, byddai dynion a merched (a diddorol gweld cymaint o ferched oedd yn ganolog i’r mudiad) ar unwaith yn wynebu cael eu harestio, eu poenydio ac – mewn ambell achos, megis Penri – eu dienyddio.

Ym myd 2020, nid iachawdwriaeth rhag uffern y mae pobl yn ei grefu, ar y cyfan, ond iechydwriaeth rhag y coronafeirws. Am y tro cyntaf ers canrifoedd, fe aeth Llywodraethau’r Deyrnas Unedig ati i reoleiddio crefydd, gan hyd yn oed wahardd i gynulleidfaoedd gyfarfod. Byddai’r hen biwritaniaid yn adnabod y cyfreithiau newydd sy’n gwahardd ymgynnull – er y byddent yn synnu pa mor ysgafn yw’r gosb sydd ynghlwm â’u torri.

Er tegwch i Lywodraeth Cymru, fe fu hi ar hyd y daith yn ymwybodol o oblygiadau bod mewn gwlad (yn wahanol i Loegr a’r Alban) sydd heb grefydd sefydledig, ac yn ymgynghori’n gyson â chynrychiolwyr yr holl brif grefyddau. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ofalus iawn i beidio â cheisio rheoleiddio crefydd, ond yn hytrach reoleiddio ymgynnull – at unrhyw bwrpas. Mae’n llinell denau ryfeddol, ond ar wahân i un llithriad pan fuont mor ffôl ag argymell y gallai oedolyn fedyddio’i hun er mwyn i bawb arall gadw pellter, mae Llywodraeth Cymru wedi cadw ar ochr gywir y llinell honno – ac felly’n ymddwyn yn dra gwahanol i lywodraeth Elisabeth I.

Fe gododd y ddadl biwritanaidd ei phen eleni nid ynghylch rheoleiddio crefydd yn yr ystyr draddodiadol, ond ynghylch rheoleiddio crefydd fawr ein cymdeithas fodern – siopa. Byddai piwritaniaid oes Elisabeth I wedi synnu a rhyfeddu at y nwyddau a’r moethusrwydd y gallwn eu prynu (os oes arian gennym) yn ein hoes ni. Ond fe ddaw pob mantais â’i phroblemau. Fe fu’r piwritaniaid cynnar yn ymgynnull mewn bythynnod ac ystafelloedd bychain mewn tafarndai, yn methu’n lân â chadw pellter rhyngddynt. Heddiw, coridorau cyfyng rhwng silffoedd yr archfarchnadoedd yw’r mannau lle mae cadw pellter yn anodd.

A dyna biwritaniaeth Llywodraeth Cymru yn sydyn yn dod i’r golwg. Penderfynwyd cyfyngu siopa i nwyddau “angenrheidiol” yn unig, a gorfodi siopau i werthu dim ond yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei ystyried yn angenrheidiol. Pan heriwyd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford am hynny mewn cynhadledd i’r wasg y diwrnod cyn dechrau’r ail glo, roedd ganddo ddadl driphlyg o blaid y rheoleiddio digynsail hwn:

  • Byddai’n gwastatáu cystadleuaeth rhwng siopau bychain ac archfarchnadoedd.
  • Byddai’n golygu y byddai pobl yn treulio llai o amser yn hamddena mewn siopau, yn edrych ar y silffoedd.
  • Byddai pobl yn “ddyfeisgar” ac yn helpu ei gilydd i drwsio pethau sydd wedi torri a benthyg pethau sydd eu hangen, yn hytrach na rhuthro i brynu rhywbeth newydd.

Mae hon yn ddadl anarferol gan lywodraeth gwlad seciwlar, fodern. Ond nid yw’n gwbl annisgwyl: yn ystod yr haf cefais drafferth defnyddio tocyn mantais mewn archfarchnad gan i mi brynu gwin, ac mae’r gyfraith newydd sy’n gosod isafbris am alcohol yng Nghymru yn gwahardd defnyddio cynigion arbennig i’w brynu. Mae llawer ohonom – gan fy nghynnwys i – wedi pregethu yn erbyn alcohol a materoliaeth yn gyffredinol, yn enwedig yn y cyfnod hyd at y Nadolig. Go brin i ni gael llawer o effaith, mewn gwirionedd. Mae’r mudiad amgylcheddol hefyd yn tynnu ein sylw at y difrod a wnawn trwy or-brynu yn lle adnewyddu, ceisio’r newydd yn lle trwsio’r hen. Ond dyma lywodraeth yn gorfodi purdeb yn ein ffordd o fyw.

Rhaid cyfaddef fy mod mewn dau feddwl am hyn. Rwy’n croesawu derbyn sail cymaint o ’mhregethau diweddar gan Lywodraeth Cymru! Ond rwy hefyd yn anesmwyth gyda’r gorfodi. Rwy’n wynebu’r un paradocs â’r un a wynebwyd gan biwritaniaid 400 mlynedd yn ôl – rwy am i bobl newid trwy iddynt gael eu hargyhoeddi ac nid trwy i’r wladwriaeth eu gorfodi, a hynny gan fy mod, fel Annibynnwr, yn ddisgynnydd ysbrydol i John Penri a’i gyfeillion a sylweddolodd na allent orfodi eu purdeb ar genedl gyfan.

Nid dadl fyrhoedlog fydd hon. Os ydym am achub y ddynoliaeth rhag argyfwng yr hinsawdd ac argyfwng colli’r byd naturiol, yna bydd raid i ni ymwrthod â nwyddau dianghenraid, nid am bythefnos ond am byth. Ar y llaw arall, os ceisir gorfodi hynny ar y boblogaeth, tebyg y byddant yn gwrthryfela yn union fel y gwnaethant pan geisiodd Oliver Cromwell atal rhialtwch y Nadolig, yn ystod y cyfnod byr pan fu’r piwritaniaid mewn grym.

Gwaddol bwysig gan biwritaniaeth i ni yw rhyddid – rhyddid crefyddol, ond rhyddid rhag rheoleiddio ar ein bywydau mewn ffyrdd eraill hefyd. Fe aeth y rhyddid hwnnw yn benrhyddid i lawer, ac mae ein byd naturiol yn dioddef yn arw oherwydd ein hunanoldeb. Mae angen rheoli’r dinistr rywfodd. Ond a ellir gorfodi purdeb yn yr 21ain ganrif, pan fethwyd mor llwyr â gwneud hynny yn yr 16eg a’r 17eg ganrif? Ac os na ellir, sut mae sicrhau cydbwyso rhodd y piwritaniaid o ryddid â’u gweledigaeth am burdeb yr eglwys a’r gymdeithas?

Efallai y dylem oll fynd i bori yn hanes oes gythryblus y Mayflower, nid yn unig i wneud yn iawn am y diffyg dathlu cyhoeddus eleni, ond hefyd i ddeall yn well ein problemau cyfoes ein hunain.

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru), ond barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 24 Hydref 2020.