Grym a Gwleidyddiaeth

Grym a Gwleidyddiaeth: Duw ar y Ffin
Enid R Morgan

Maen nhw’n dweud nad oes unrhyw werth ‘hanesyddol’ yn y casgliad o straeon a elwir yn ‘Bucheddau’r Saint’. Dydyn nhw ddim o werth i neb, yn ddim ond propaganda eglwysig yn y frwydr o hawlio tir, awdurdod neu ddysgu gwersi moesol. Ond, am y tro, gadewch i ni’n syml fwynhau stori o’n gorffennol pell. Awn yn ôl i’r cyfnod cythryblus hwnnw a ddilynodd ymadawiad y Rhufeiniaid pan oedd trefn cyfraith wedi darfod a mân lwythi a gangiau treisgar yn ymladd ei gilydd fel gangiau rhyfel yn Afghanistan neu ddinasoedd Ewropeaidd.

Dywedir bod Gwynllyw Farfog yn ‘dywysog’. Yr oedd yn arweinydd gosgordd o wylliaid, yn archryfelwr, yn gadlywydd, yn derfysgwr ac yn sicr yn lleidr gwartheg. Rheolai’r ardal sydd heddiw’n cynnwys dwyrain Morgannwg a gorllewin Mynwy, ardal a gofid wrth ei enw: Gwynllwg. Dywedid amdano na pharchai nac arfer na deddf. Os oedd yn chwennych rhywbeth, fe’i cymerai. Fel arweinwyr tebyg o’i gwmpas, defnydddiai ei allu treisiol i ymladd ac i reoli ffiniau ei diriogaeth, a’i gyfrwystra i gael beth oedd y tu hwnt i’w dir ar dir rhywun arall.

Yr oedd arno eisiau gwraig, a gwyddai fod Gwladys, merch hynaf un o’i gymdogion mwyaf parchus, yn ferch arbennig o hardd. Aeth ati i ofyn i’w thad, Brychan Brycheiniog, am gael ei phriodi. Ond mae’n debygol nad oedd Brychan yn rhy hoff o’r syniad o gael mab yng nghyfraith oedd yn ffansïo’i dir yn ogystal â’i ferch. Ar ben hynny, dyn gwyllt a threisgar oedd Gwynllyw – pagan, anaddas i briodi â’i ferch, oedd fel ei thad yn Gristion. Felly, dyma Gwynllyw’n casglu ciwed o’i wŷr meirch ynghyd er mwyn ymosod ar Frycheiniog a dwyn Gwladys ymaith. Gwylltiodd Brychan gymaint nes arwain rhyfelgyrch i gael Gwladys yn ei hôl. Buasai’r cwbl wedi arwain at dywallt gwaed difrifol oni bai, yn ôl y stori, i’r Brenin Arthur ymyrryd a chymedroli. Does dim sôn bod neb wedi holi barn Gwladys ei hun. Ac mi briodwyd y ddau.

Efallai fod angen dweud gair am Brychan. Dywed y traddodiad mai Cristion o Iwerddon ydoedd yn wreiddiol a bu’n briod dair gwaith. Mae nifer ei blant yn amrywio o lawysgrif i lawysgrif, ond y rhif mwyaf cyson (sydd braidd yn rhy dwt i fod yn gywir) yw dau ddwsin o feibion a dau ddwsin o ferched, a phob un ohonyn nhw, meddir, wedi eu cydnabod yn ‘saint’. Am y tro, wnawn ni ddim poeni’n ormodol am fân ffeithiau a rhifau, ond nodi mai dyma gyfnod ymwreiddio’r ffydd Gristnogol yng Nghymru, ymwreiddio wnaeth effeithio ar y gymdeithas ac ar y ffordd o reoli cymdeithas. Roedd angen, siŵr o fod, i Gwladys fod yn sant i ddygymod â Gwynllyw. Pan aned eu mab cyntaf yr oedd Gwynllwg wedi ei gynhyrfu cymaint nes carlamu gyda’i haid o wylliaid ar gyrch i ddathlu’r achlysur trwy ddwyn gwartheg yng Ngwent. Dychwelodd adref gyda gyr o wartheg amrywiol, rhai ohonynt yn perthyn i gymuned fach Gristnogol a arweinid gan un Tathyw o Gaer-went. (Yr oedd ef, fel Brychan, yn Gristion o Wyddel.) Daeth Tathyw, y creadur dewr, i bencadlys Gwynllyw gan ofyn iddo ddychwelyd ei eiddo. Doedd ganddo ddim gwŷr arfog na llys brenhinol yn gefn iddo, ond mae’n ymddangos fod Gwladys wedi ei berswadio i dderbyn dwy fuwch yn ôl, yn arwydd o ewyllys da. Fe gytunodd Tathwy hefyd i fedyddio’r baban newydd, gan ei enwi’n Cadog. Felly y cyflwynwyd y plentyn i ffydd ei fam a’i dad-cu; ymhen blynyddoedd fe’i cydnabyddid, fel ei fam, yn sant. Yn wir, yr oedd holl blant Gwladys, yn ôl pob sôn, yn saint, fel eu hewythrod a’u modrybedd i gyd! Gan i’w henwau gael eu rhoi i fannau cysegredig, ymddengys fod y gair ‘sant’ yn y cyd-destun Cymreig yn disgrifio gwŷr a gwragedd a luniodd o’u cwmpas gymunedau bach Cristnogol oedd yn byw yn ôl safonau gwahanol i’r bobl o’u cwmpas, ffordd o fyw oedd yn ddiau yn denu, ond hefyd yn her.

A Gwynllyw? Parhaodd yn bagan am gyfnod cyn iddo, yn ddiweddarach yn ei oes, gael breuddwyd. Yn y freuddwyd ymddangosodd Duw, y Duw Cristnogol, iddo gan addo y byddai, ar fryncyn uwchlaw aber afon Wysg, yn dod o hyd i fustach gwyn, braf a chanddo smotyn du ar ei dalcen. Dyna freuddwyd hynod ddeniadol i leidr gwartheg fel Gwynllyw. Drannoeth, darganfu Gwynllyw’r bustach, ac fe’i lloriwyd cymaint gan y cyd-ddigwyddiad nes iddo fodloni troi’n Gristion. Nid yw Gwladys yn rhannu dim o’r clod am hyn, er y bu ei dyfalbarhad a’i hamynedd hi’n help i baratoi’r ffordd i’w dröedigaeth at Grist, mae’n siŵr. Pwy a ŵyr! Efallai fod cydnabod dylanwad ei wraig yn ormod i ryfelwr, ond y mae arweinwyr gangiau, rhyfelwyr a brenhinoedd hyd yn oed weithiau yn barod i gydnabod dylanwad eu gwragedd.

Dyna, yn ôl y stori, sut y daeth y lleidr gwartheg, yr arweinydd llwyth a’r rhyfelwr gwaedlyd yn Gristion. Dengys ei yrfa wedi hyn nad peth hawdd oedd hynny. Sut mae bod yn frenin mewn byd o drais a bod yn driw i werthoedd newydd, heddychol a gwrth-awdurdodol y ffydd newydd? Dim mwy o ladd na mynnu ei ffordd; dim dwyn gwragedd na dwyn eiddo pobl eraill. Ceisiodd Gwynllyw deyrnasu mewn ffordd newydd gan ddilyn yr egwyddorion newydd. Gwnaeth hyn gryn argraff ar ei ddeiliaid a’u disgynyddion. Sonient amdano fel ‘y Brenin a roes y gorau i ladrata’. Dyna i chi ryfeddod, os nad gwyrth.

Yn y pen draw, aeth y tyndra rhwng ffydd a bod yn arweinydd rhyfelgyrchoedd yn drech nag ef, ac aeth Gwynllyw a Gwladys i fyw bywyd mynachaidd. Pan fu farw Gwynllyw, aeth Gwladys yn ei gweddwdod yn ancr a byw bywyd o weddi ar ei phen ei hun. Mae’r stori’n mynnu bod y ddau’n ymolchi yn nŵr oer afon Wysg drwy’r flwyddyn a’u bod yn byw’n gwbl ddiwair. Mae’n adlais o’r Gristnogaeth fynachaidd gynnar a gredai fod ymdrochi mewn dŵr oer yn fodd i reoli chwantau’r corff.

Adeiladodd Gwynllyw eglwys wedi ei chysegru i Fair ar y bryn ger afon Wysg lle y cafodd hyd i’r bustach gwyn a smotyn du ar ei dalcen. Dyma’r fangre ar riw Stowe yng Nghasnewydd sy’n safle cadeirlan Gwynllwg heddiw. Llurguniad hyll o’r enw Cymraeg yw’r Saesneg St Woolloos. Yno (yn bendant a diamheuol, wrth gwrs!) y claddwyd Gwynllyw ar 29 Mawrth yn 523OC. Fe’i perchid fel sant. O leidr gwartheg i nawddsant.

Mae’r stori ddeniadol ond annhebygol hon am fywyd Gwynllwg Sant wedi ei llunio ganrifoedd yn ddiweddarach ar batrwm safonol bucheddau’r saint. Seiliwyd y rhain ar fuchedd St Martin o Tours. Rhoddodd Martin y gorau i’w yrfa lwyddiannus fel swyddog ym myddin Rhufain er mwyn bod yn fynach. Wrth weld tlotyn diymgeledd yn rhynnu yn yr eira, rhwygodd ei glogyn cynnes, milwrol, yn ddau, a rhoi un hanner i’r tlotyn. Roedd y tlodi a fabwysiadodd Martin yn her ryfeddol i eglwys ei gyfnod ac i urddasolion eglwysig. Mae straeon n seintiau’n her i safonau bydol, ond gallant gael eu llurgunio i gyfiawnhau brwydrau eglwysig dros dir a dylanwad. Digon hawdd felly yw i hanesydd drwgdybus ddilorni’r storïau am y saint fel pethau wedi’u dyfeisio ar gyfer gwleidyddiaeth eglwysig. Mae lle i fod yn amheus gan fod amryw o’r bucheddau wedi eu hysgrifennu i roi hwb i statws ac enw da i gyrchfan pererinion a’u creirfeydd. Serch hynny, mae stori Gwynllyw yn ein hatgoffa am anawsterau cyson a brofodd arweinyddion Cristnogol wrth geisio byw yn ôl y ffydd, ond wedi eu clymu gan amgylchiadau hanes grym a gwleidyddiaeth. Mae’r traddodiad paganaidd arwrol yn mynnu bod ymladd gelynion yn hanfodol i arweinydd da. Trigai’r arweinwyr hyn mewn cymunedau a oedd wedi etifeddu’r un rheolau am anrhydedd, gwerthoedd arwrol a rhyfelgar. Yr oeddent yn byw ar y ffin rhwng cyfrifoldebau bydol a ffydd oedd yn eu galw i fyw gan ofalu am y tlawd a’r gwael. Nid oedd byw yn syml a thlawd yn gweddu i arweinydd oedd yn deyrngar i rym, statws, cyfoeth, a thir.

Yn gynharach fyth yn hanes yr Eglwys, cyn amser Gwynllyw, yr oedd pobl yn amheus o’r gredo newydd, ffyniannus hon. Erlidid Cristnogion am beidio â phlygu glin i hawliau gwladwriaeth ac ymerawdwr ar eu teyrngarwch. Heddiw, mae gwleidyddion yn swil o siarad am eu ffydd rhag cael eu cyhuddo o dybio bod Duw yn gwarantu barn gywir ym mhob peth iddynt. Yr oedd meddwl am George Bush a Tony Blair yn gweddïo gyda’i gilydd yn denu gwawd digon gwenwynllyd ar weddi, heb sôn am yr unigolion dan sylw. Mae anghredinwyr yn deimladwy iawn i unrhyw awgrym y gall teyrngarwch i rywbeth trosgynnol fod yn drech na hawliau hunan-les. Mae hawlio bod yn grediniwr yn wahoddiad i’r byd fwrw golwg fanwl iawn i chwilio am unrhyw fethiant moesol neu ragrith.

Yn yr ail ganrif gwnaeth nifer o Gristnogion gryn ymdrech i egluro beth oedd hanfod eu ffydd. Mewn llythyr at un Diognetus, pagan ymchwilgar oedd eisiau gwybod pam yr oedd Cristnogion yn gwneud merthyron mor ddewr, pam nad oedden nhw’n barod i gydnabod duwiau paganaidd na chadw defodau Iddewig, pam oedden nhw mor ofalus o’i gilydd, a phaham yr oedd Duw wedi ei gadael mor hwyr cyn datguddio’r gwirionedd, os gwirionedd ydoedd, mae’r awdur anadnabyddus yn nodi na allwch chi adnabod Cristnogion wrth eu gweld mewn cymunedau. Dydyn nhw ddim yn edrych yn wahanol nac yn gwisgo’n gwahanol i ddinasyddion eraill o’u cwmpas ond mae eu syniadau am ddinasyddion yn rhyfedd.

Maen nhw’n byw yn eu mamwlad, ond yn byw fel pererinion. Maen nhw’n rhannu popeth fel dinasyddion, yn dioddef popeth fel dieithriaid. Gwlad bellennig yw eu priod famwlad Maen nhw’n byw ar y ddaear ond mae eu dinasyddiaeth yn y nefoedd. Ufuddhânt i’r deddfau ond yn eu bucheddau y maen nhw’n mynd ymhellach na’r deddfau. Maen nhw’n caru pawb ond yn cael eu herlid gan bawb … Mewn gair, yr hyn yw’r enaid i’r corff – dyna beth yw Cristnogion i’r byd … Mae’r enaid yn trigo mewn corff, ond eto nid o’r corff: felly y mae Cristnogion yn trigo yn y byd ac eto nid o’r byd. Eto hwy sydd yn dal y byd ynghyd.

Dywedodd Iesu’n symlach a mwy bachog bod y rhai sy’n credu ynddo ef yn halen y ddaear, yn oleuni mewn llusern, yn furum yn y toes. Sut, heddiw, mae modd meithrin dinasyddiaeth o’r fath yn wyneb coegni’r cyfryngau, a chasineb y cyhoedd at grefydd yn gyffredinol? Y mae llawer o’r cyhuddiadau sy’n cael eu lluchio at Gristngoion yn enbyd o gywir. Ond sut mae Cristnogion i ddechrau byw fel ‘rhai bychain’ yn ôl gwerthoedd y Gwynfydau?

Ymddengys bod llawer o’r seintiau ‘Celtaidd’, amryw ohonyn nhw o dras fonheddig  neu frenhinol, wedi ymwadu â grym bydol. Yr oedd hyn yn arbennig o wir am blant Brychan. Mae amryw o’r bucheddau’n awgrymu bod llawer o frodyr a chwiorydd Gwladys wedi ystyried bod eu ffydd yn mynnu eu bod yn troi eu cefnau ar lysoedd ac yn gollwng gafael ar deyrnwialen. Efallai mai dylanwad Cristnogaeth diffeithwch yr Aifft oedd hyn, pan ddechreuodd pobl ffoi i’r anialwch gan chwilio am burdeb uwch nag oedd yn bosibl mewn grwpiau bydol. Gallai fod yn ffordd o ffoi rhag y tyndra. Sut mae byw yn ôl safonau teyrnas Crist os ydych chi mewn lleiafrif bychan? Sut orau y mae tystio i wirionedd yr efengyl?

Mewn cyfrol swmpus a hynod ddarllenadwy – Dominion – y mae Tom Holland yn gweld y tyndra hwn rhwng cyfoeth, grym, a chasineb ar y naill law, a gwyleidd-dra, symlder buchedd a maddeuant ar y llaw arall yn thema sydd wedi baglu Cristnogion dros y canrifoedd i gyd. Y mae Buchedd Gwynllyw yn un ymdrech i ddweud stori fechan ond arwrol am fyw ar y ffin rhwng teyrnas fydol a theyrnas nefoedd.