Gair o’r Unol Daleithiau

Gair o’r Unol Daleithiau 

Heb os nac oni bai, dyma’r cyfnod anoddaf yn fy mywyd i: Covid, gorllewin yr Unol Daleithiau’n llosgi a’r aer yn afiach i’w anadlu ac yn amhosibl gweld drwyddo mewn mannau, celwyddgi yn arlywydd, a chelwydd yn cael ei hybu ym mhob man, gwyddoniaeth yn cael ei hanwybyddu, cwestiynau mawr am yr etholiad a dyfodol democratiaeth ym mhob man. Heb sôn am hiliaeth, yr heddlu’n cam-drin pobl liw, plant yn dal i gael eu cadw mewn caets, diweithdra, addysg …

Yn wyneb hyn i gyd, mae’r capel rydw i’n aelod ohono yn dal ei dir: tydi maint y gynulleidfa ddim wedi lleihau, na maint y casgliad chwaith, er ein bod wedi bod yn cyfarfod drwy Zoom ers canol mis Mawrth. 

Mae rhyw ddwsin ohonom yn cyfarfod ar fore Sul am astudiaeth Feiblaidd ar ôl y gwasanaeth; ia, dwy awr a hanner o Zoom ar fore Sul! Rydan ni wrthi’n ymgodymu â’r proffwyd Jeremeia ar hyn o bryd. Ddoe fe drodd y sgwrsio at beth ydi’r eglwys, addoli a pham rydan ni wedi dod yn gymuned glòs yn y cyfnod yma. Dyma grynodeb o rai o’r sylwadau:

  • Mae’r gwasanaethau wedi cadw at y patrwm arferol gan mwyaf, gan gynnwys rhannu ‘tangnefedd Duw fo gyda chi’ am ychydig funudau swnllyd.
  • Mae’r “sgwrs” ar Zoom yn lle i rannu pynciau gweddi – personol a byd-eang.
  • Cawn brofi pob math o gerddoriaeth wahanol – trwy wylio YouTube efo’n gilydd!
  • Rydym yn gweld wynebau ein gilydd.
  • Mae’r ystafell Zoom ar agor hanner awr cyn i’r gwasanaeth ddechrau er mwyn sgwrsio.
  • Nid perffeithrwydd technolegol yw’r peth pwysicaf!
  • Mae’r pregethau wedi eu seilio’n gadarn ar y Beibl a diwinyddiaeth ac yn ymateb i anghenion ymarferol heddiw, ac yn rhoi sialens i ni.
  • Man cychwyn ydi’r gwasanaeth a’r astudiaeth er mwyn i ni allu cario ymlaen drwy’r wythnos i ymateb yn ymarferol i ofynion bywyd mewn amser mor anodd. Nid cyfarfod i addoli er mwyn addoli ydi’r pwrpas; cyfarfod i addoli er mwyn i ni allu byw neges cariad a chyfiawnder ydan ni. 

Aethom ymlaen i siarad am beth ydan ni’n ei wneud yn ychwanegol fel cymuned ffydd yn y cyfnod yma. Dyma rai enghreifftiau. Fel capel, rydym yn cysylltu â’r aelodau i gyd yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn iawn; rydym wedi ysgrifennu dros 8,000 o gardiau post ac wedi ffonio cannoedd mewn taleithiau eraill i’w hannog i gofrestru a phleidleisio. Rydym wedi bod y tu allan hefyd yn cofrestru pobl i bleidleisio. Bu nifer yn ffonio aelodau’r Gyngres Genedlaethol a’r cyngor lleol yn rheolaidd i’w hatgoffa fod pob pleidlais yn fater moesol, gan eu hatgoffa fod caru cymydog yn golygu caru pob cymydog yn ddiwahân. 

Un gynulleidfa fach, sy’n rhan o gorff llawer mwy. Ac mae cannoedd, os nad miloedd, o sefydliadau ffydd yn yr Unol Daleithiau yn gweithio’n galed y dyddiau yma i ddwyn gobaith, cariad a chyfiawnder yn wyneb yr hyn sy’n digwydd. Mae’r cyfnod yma’n rhoi’r cyfle i ni weld yn gliriach beth ydi poen ein byd: roedd y boen yno cyn 2020, ond rŵan rydan ni’n ei gweld yn gliriach, ac wedi sylweddoli o’r newydd mai ni ydi’r gweithwyr.

Ann Griffith