Cennad a Thyst

Cenn@d a Thyst

Gŵyl Ddewi eleni lansiwyd dau gylchgrawn wythnosol Cymraeg. Un oedd Cenn@d, cylchgrawn newydd y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid, yn cyfuno’u papurau enwadol, sef Seren Cymru (1856) a’r Goleuad (1869).

Yr un wythnos yr oedd yr Annibynwyr yn ail-lansio Y Tyst, eu papur wythnosol, gyda sôn am ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y papur a’u gwefan. Nid oeddynt am ymuno â’r Bedyddwyr a’r Presbyteriaid i gyhoeddi un papur wythnosol ar lein.

Fel arfer, testun llawenydd fyddai cylchgrawn Cymraeg newydd, heb sôn am ddau (er mai ail-lansio oedd un) ond, i’r rhai a ŵyr y cenfndir, cymysgedd o ddiolch heb ddathlu, tristwch a siom yw’r digwyddiad i mi ac i eraill. Dewis yr Annibynwyr oedd peidio â bod yn rhan o’r fenter. Gobaith heb ei gyflawni yw Cenn@d felly, ac roedd yr ysgogiad i barhau heb yr Annibynwyr yn siŵr o gynnwys elfennau eraill bellach, fel ystyriaethau ariannol ac ymarferol. Nid yw ‘nod’ y Cenn@d chwaith mor glir ag ydoedd i’r tri enwad. Dewis ail orau yw bod heb yr Annibynwyr. Mae rhai wedi sibrwd gobaith y byddant yn ymuno yn y dyfodol. Ond mentrwyd lansio Cenn@d mewn gobaith a ffydd. Nid yw’r Ysbryd yn aros yn ei unfan, meddai pregeth fawr Steffan yn yr Actau.

Gwell egluro. Mae’r cydweithio a’r rhannu rhwng y tri enwad yn arbennig iawn: ffydd a chred, gweinidogaeth a gofalaethau, gweinyddu sacramentau, rhannu adeiladau a chydaddoli cyson ac yn ddiweddar y Panel Diogelu. Ers ugain mlynedd y mae’r tri enwad wedi bod yn rhannu hanner (pedair tudalen) eu papur enwadol gyda’i gilydd. Maent yn gytûn ar yr hyn sy’n gwneud eglwys ac yn cael ei wireddu yn yr eglwys leol, sef ‘cymdeithas o bobl sy’n addoli Duw, yn cyffesu Iesu yn Arglwydd, ac wedi eu galw i fod yn dystion iddo’. Mae gan bob enwad ei strwythur i gynnig cefnogaeth a chymorth i’r eglwysi lleol, ond yr eglwys leol sy’n galw gweinidogion ac yn dewis arweinyddion. Fe ddywedir, a hynny’n hollol gywir, fod amrywiaeth o fewn eglwys Crist yn naturiol a phwysig, ond does dim amrywiaeth o werth yn ein plith. Y gwir yw ein bod yn rhy debyg!

Nid ecwmeniaeth

Nid sôn am ‘uno enwadau’ y mae ‘ecwmeniaeth’ ond am y cydweithio sydd yn arwain yr eglwys fyd-eang i berthynas ddyfnach â’i gilydd ac â Duw. Mae nifer fawr o aelodau’r capeli yn credu fod y cydweithio rhyngom wedi ein harwain, yn araf, i ddyfnach ‘undod’, ond nid yw ystyr yr ‘undod’ hwnnw yn glir. Mae’n hawdd deall yr awydd a’r cyfrifoldeb ym mhob enwad i warchod eu hetifeddiaeth ond perygl hynny yw credu mai ein henwad yw’r etifeddiaeth (‘I draddodiad fod yn fyw, rhaid iddo newid’, Bruce MacLaren). Mae penderfyniad yr Annibynwyr yn ymddangos yn bendant a therfynol ac roedd y bleidlais yn yr Undeb, mae’n debyg , yn unfrydol. Ymddengys mai ‘parhau’n enwadol’ fydd hi i’r dyfodol ac na fydd sôn am ‘undod’ ar unrhyw agenda. A phetai sôn am uno yn y dyfodol pell, fe fyddai’r broses honno yn feichus o araf a diflas.

Ond mae tristwch dyfnach nag uno papurau ac enwadau – a rhywbeth sy’n mynd i galon ein hargyfwng fel eglwysi a’n cymunedau Cymraeg. Pan mae tri chapel, ar gyfartaledd, wedi bod yn cau yn wythnosol yng Nghymru ers degawdau, fe wyddom beth yw dyfnder ein hargyfwng.

Tristwch a methiant

Nid oes yr un enghraifft o’r enwadau Anghydffurfiol yn cyflwyno, gyda’i gilydd, raglen genhadol hirdymor i Gymru. Er yr holl gydweithio, pob enwad â’i rhaglen fu ac ydyw’r drefn o hyd. Dyma un enghraifft ddiweddar.

Mae’r Annibynwyr yn dechrau ar gynllun, ‘Arloesi a buddsoddi’, sy’n cynnig arian sylweddol i eglwys / eglwysi i ddatblygu rhaglen genhadol a allai arwain at brosiectau, gweithgarwch a gweithwyr newydd. Nid cyfle i fedru trwsio’r to fydd ‘Arloesi a buddsoddi’. Cynllun manwl i genhadaeth leol ydyw.

Ers rhai blynyddoedd, mae’r Presbyteriaid yn gweithredu cynllun tebyg ar gyfer eglwys / eglwysi trwy fuddsoddi arian o werthiant capeli er mwyn datblygu prosiectau cenhadol / cymunedol, gwaith plant, ieuenctid a.y.b. Rhan o ffrwyth y cynllun yw nifer o ‘weithwyr cenhadol’ a nifer ohonynt o enwadau eraill. Cynllun cenhadol lleol ydyw, fel ‘Arloesi a buddsoddi’.

Rhaglen Genhadol 2021–2071 i Gymru

Rhaid wrth raglen hirdymor i wynebu argyfwng ein heglwysi a’n cymunedau. Nid cenhadaeth yma ac acw lle mae gan yr enwadau gapel, ond rhaglen gynhwysfawr Teyrnas Dduw i Gymru. Nid yr un fyddai’r amgylchiadau ym mhob ardal, wrth gwrs, ond fe fyddai’n rhan o’r un rhaglen.*

(* Mae Dafydd Iwan wedi cyfeirio at hyn yn ddiweddar, yn arbennig o safbwynt cyfrifoldeb cymunedol ac adeiladau’r enwadau. Mae rhai enwadau mewn gwledydd eraill hefyd wedi datblygu un rhaglen genhadol.)

Ai meddyliau gweinidog wedi ymddeol, naïf, yw’r meddyliau hyn? Neu ai perthyn i’r gorffennol y mae ysbryd Cristnogol, mentrus a radicalaidd Cymru? A aeth ein gweledigaeth o’r Deyrnas yn rhy gyfyng a’n Duw yn rhy fach?

Mae’n sefyllfa sy’n gofyn am gwestiynau caled ac anodd. Yr ydym, gobeithio, yn ddigon aeddfed i’w gofyn mewn cariad a goddefgarwch, mewn galar gwirioneddol, mewn gweddi ac yng ngobaith pobl y Pasg , gan werthfawrogi ein hetifeddiaeth gyfoethog a diolch am aberth y ‘cwmwl tystion’.

Wrth gwrs, mae dweud dim yn bosibl a bod yn grefyddol gwrtais rhag tarfu ar neb na dim. Mae lle i gredu fod hynny yn dod yn gyffredin iawn yn ein plith.

Cwestiynau

Ai Duw sydd wedi ein harwain i gydweithio drwy argyfwng ein heglwysi? Ac os felly, a oes awgrym ein bod, yn groes i’n gobeithion, wedi mynd mor bell ag y gallwn yn ein perthynas â’n gilydd?

A allwn ddweud mai mater i’r Annibynwyr ydyw ac nad oes gennym hawl i fusnesu ag enwad arall? Fe fyddai llawer yn cytuno â hynny, wrth gwrs. Ond eto … yr holl gydweithio a’r addoli? Ein cytundeb ar beth yw eglwys, ein bod yn rhannu yr un diwylliant cyfoethog a’r un iaith, ein bod yn gymdogion? Yr un maes cenhadol? Yr un Arglwydd?

Ond tybed, os yw un drws yn cau, fod yr Ysbryd yn agor drysau eraill? A dyma, efallai, un drws posibl.

1) Ildio mewn tristwch i’r rhai sy’n gweld ‘ecwmeniaeth’ yn fygythiad (a gwybod y byddai ‘uno’r enwadau’ yn broses faith a llafurus) a chredu bod ein cenhadaeth yn ein clymu yn un, yn ôl y Testament Newydd.

2) Nid enw papur wythnosol sy’n bwysig ond ei gynnwys. Yn hanes Cenn@d a’r Tyst fe allai’r ddau gynnwys yr un deunydd a’r deunydd hwnnw yn bennaf fyddai datblygu a hyrwyddo’r rhaglen genhadol. (Nid cynnwys ar gyfer y Pedair Tudalen fyddai hyn.)  

3) Gan fod argraffu mewn print ac/neu ar y we yn rhan o’n trafodaeth a’n cyfathrebu bellach, fe ellid rhoi materion enwadol ar wefannau’r enwadau – heb ddibrisio’r materion hynny gan y bydd trefnu a chynllunio yn hollbwysig mewn cenhadaeth dymor hir – a rhoi materion a deunydd a rhaglen ein cenhadaeth yn gyffredin i’r tri enwad. Fe allai hwn fod mewn print neu ar y we yn unig.

4) Fe fyddai rhaglen genhadol o’r fath yn golygu cyfnodau rheolaidd o gydaddoli lleol a rhanbarthol. Nid mewn pwyllgorau y byddai’r cenhadu yn datblygu, ond mewn addoli, arweiniad y Beibl a thrafod yn adeiladol gyda synnwyr cyffredin a doethineb yr Ysbryd. Fe fyddai’n gyfle hefyd, drwy’r we, i wneud ein heglwysi o bob enwad yn fwy democrataidd ac agored i’r holl aelodau.

Yn hyn, fe fyddem yn dod i sylweddol bod Duw wedi rhoi mwy o adnoddau i ni ar gyfer ein tasg nag yr ydym yn ei sylweddoli, digon i sefydlu eglwysi agored, newydd a llydan, gyda gweithgarwch cymunedol a phersonol a thwf mewn ysbrydolrwydd ac amgyffred cyfoeth y Beibl i’r cyfnod hwn. I faes cenhadol fel Cymru, mae ein hadnoddau yn fawr ond adnoddau Duw yn fwy. Gwybod hynny fydd dechrau ein hadferiad.*

(* Nid oes yma fwriad i drafod yr undod diwinyddol efengylaidd sy’n croesi ffiniau enwadol. Mae’r undod hwnnw i’w weld mewn ‘eglwysi efengylaidd’ neu’r gymuned glòs, efengylaidd . Fe fyddai ‘cenhadaeth yr enwadau anghydffurfiol’ yn esgor, gobeithio, drwy’r Ysbryd ar weithgarwch / eglwysi llydan, cynhwysol a chymunedol. Mae holl weithgarwch Duw yn y Beibl ac mewn hanes yn tystio bod cenhadaeth yn ei chyfoeth yn fwy nag efengylu, wrth gwrs.)

Y Tyst a’r Cenn@d

Mae’r erthygl hon yn cael ei hysgrifennu ar ôl gweld y rhifyn cyntaf o’r ddau gyhoeddiad, ac y mae’r ddau yn ddeniadol a hawdd eu darllen o ran diwyg a chynnwys. Gan Cenn@d yr oedd y dasg anoddaf, ond mae’r cyfuno yn naturiol ond (yn fwriadol?) heb gynnwys newyddion enwadol. Mae erthygl o groeso i’r Cenn@d gan Mererid Hopwood (tudalen flaen) ac un arall gan Lywydd y Pwyllgor Llywio, Yr Athro Densil Morgan. Mae Ysgrifenyddion y ddau enwad yn dymuno’n dda hefyd. Mae mwy o bwyslais ar y croeso nac ar ddathlu. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn y rhifyn cyntaf at y siom nad yw’r Tyst yn rhan o’r datblygiad! Rhifyn cyntaf gwylaidd a gobeithiol ydyw. Mae lle amlwg i ddeunydd defosiwn ac arweiniad ar gyfer y Grawys, a gobeithio y bydd hynny yn elfen gyson yn Cenn@d.

Mae rhifyn ail-lansio Y Tyst yn hyderus a chyffrous, ac yn cyflwyno rhagflas o’r hyn sydd i ddod. Mae lle i faterion enwadol, wrth gwrs, gan gynnwys rhan gyntaf coffâd John Gwilym Jones i’r diweddar Vivian Jones ac erthygl gyntaf i ieuenctid gan ieuenctid. Mae gair o ddymuno’n dda i’r Cenn@d hefyd gan y golygydd.

Dau ddyfyniad

Mae’r golygydd yn nodi bod Undeb yr Annibynwyr ‘angen parhau gyda’r Tyst ar hyn o bryd’. Cymal hwylus iawn yw ‘ar hyn o bryd’. Rhaid gofyn felly: a oes gobaith y daw y pryd hwnnw, a pha bryd? Fe all heddiw, wrth gwrs, fod yn amser Duw oherwydd bod y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid angen yr Annibynwyr. Yr ydym angen ein gilydd – er mwyn yr Efengyl ac er mwyn ein Cymru Gymraeg.

Mae’r Dr Geraint Tudur yn cyflwyno’i gyfres fisol newydd am bwysigrwydd y Cyngor Cenhadol Byd-eang (CWM) i’r Annibynwyr. Mae’r Presbyteriaid hefyd yn perthyn i’r teulu hwn o 32 o eglwysi. Mae CWM yn gwbwl ecwmenaidd, neges a ddysgwyd pan wrthododd llawer o eglwysi’r enwadaeth Ewropeaidd oedd yn amherthnasol i’w tystiolaeth – fel y mae’n ymddangos yng Nghymru, wrth gwrs. Dyna sydd wedi digwydd ym Madagasgar, Jamaica a De India. Mae’r egwyddor o rannu doniau ac adnoddau yn rhyngwladol yn ogystal ag o fewn ffiniau un gwlad fechan fel Cymru yn sylfaenol i CWM.

Ond yr un mor bwysig yw fod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhan o Undeb Eglwysi Annibynnol y Byd. ‘Yr ydym,’ meddai Geraint, ‘yn cael ein galw fel Annibynwyr o’n mannau cyfforddus a’n corneli diogel … ni thâl i ni fod â meddyliau caeedig.’ Maent yn eiriau grymus a gwir. Fe wyddom fod ehangu gorwelion yr eglwys leol tu hwnt i adeilad ac enwadaeth yn dasg i bob enwad. Ond fe ddywed Geraint hefyd: ‘Ein braint ni fel Annibynwyr Cymru yw cael gweld a chymryd ein lle yn hyderus yng nghanol yr holl weithgarwch cynhyrfus hwn yn ein byd.’

Er mor bwysig hynny, fe fyddai’r Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Prebyteriaid yn cydnabod nad oes dim pwysicach na’r fraint a’r alwad y mae Duw wedi’i rhoi i ni i fod yn dystion yng Nghymru, y winllan fechan a roddwyd i ni. Yn ôl Iesu, heddiw yw Dydd yr Arglwydd. Fe’n galwodd yng Nghrist i ymateb i’w lais ar y dydd hwn o brysur bwyso.

‘Kairos’ yw gair y Testament Newydd – gair Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth – yn datgan nad gair ddoe ydyw, na gair yfory chwaith, ond gair HEDDIW. Ac onid yw Iesu hefyd yn galw ar ei bobl i ollwng gafael ar bopeth arall, er mwyn y Deyrnas?

 

Pryderi Llwyd Jones

(8 Mawrth 2021)